Neidio i'r cynnwys

Dringo'r Andes/Y Ffrwd Gyntaf

Oddi ar Wicidestun
Lle'r Beddau Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Brodorion Patagonia

PENNOD VI.

Y FFRWD GYNTAF

 ID dyddorol fyddai dilyn y teithiau o ddydd i ddydd; felly, ni a wibdeithiwn nes cyrraedd o honom i'r mynyddoedd. Ar y Saboth yn unig y caffai dyn ac anifail gyfle i orffwys; canys ni theithiem ar y diwrnod hwnnw oni bae fod rhyw angen mawr. Ond nid gorffwys i gyd fyddai rhan y merched, canys dyma ein diwrnod pobi! Eithr na. chyhoeddwch hyn yn Gath. "A sut mae pobi ar y paith?" meddech. A oes rhai o foneddigesau Cymru. hoffent wybod, tybed? Rhag ofn fod, gwell rhoi rhyw led amcan, ond rhaid dod i Batagonia i ddysgu yn iawn. Gwneir twll hirgul yn y ddaear, heb fod yn ddyfn iawn, a llenwir â thanwydd,-bydded hysbys fod eisieu bod yn hael gyda'r tanwydd, yna, wedi llosgi o'r coed yn farwor, tynner ychydig o'r naill du, a doder y sospan, yn yr hon y mae'r dorth, ar y ddaear boeth, ac wedi gofalu fod y clawr yn ddiogel, rhodder y marwor arno, ac ymhen yr awr bydd gennych gystal torth ag a graswyd yn Llundain erioed.

Wedi gorffen pobi bydd y prynhawn gennym i gynnal Ysgol Sul, a chanu rhai o'n hoff emynnau, a bydd hwyl iawn ar rai o'r cyfarfodydd hyn.

Mae gennyf gof byw am y ffrwd gyntaf welsom ar y daith. Nid oedd fy nghyfeilles ieuanc erioed wedi gweled ffrwd. Un o blant y Wladfa oedd hi, a hon oedd ei thaith gyntaf oddiar aelwyd yr hen gartref, ac nid oes yn Nyffryn y Gamwy ffrydiau na tharddiadau. Teithiem ni ymlaenaf o bawb y diwrnod hwn, a mawr oedd ein disgwyl am y ffrwd addewsid i ni y bore wrth gychwyn o'r gwersyll. Wrth ddringo i fyny tuag ati y caem yr olwg olaf ar afon y Gamwy, hyd oni ddychwelem. Gormod o demtasiwn oedd peidio troi pennau'r meirch er mwyn cael un olwg arall arni,—ymdroellai ac ymddolennai yn. wir deilwng o'i henw. Dywedid wrthym hefyd mai dyma fuasai ein golwg olaf ar yr helyg wylofus, hen gyfeillion ein mebyd; coffa da fel y byddai gweled un o honynt mewn rhyw ddyffryn tawel yng Nghymru yn codi hiraeth lond fy nghalon nes y byddai raid i minnau weithiau blygu pen mor wylaidd a'r helygen. Ond dyna, yr oedd yn dda gennym ein bod ein hunain y diwrnod hwnnw, ac nad oedd raidi ni siarad llawer.

Ymlaen i ddotio at y ffrwd, ac i leddfu'n hiraeth ym miwsig ei dyfroedd. Un fechan fach oedd, ond mor loew a'r grisial. Rhaid oedd i'm cyfeilles gael disgyn ar unwaith i brofi y fath ddyfroedd peraidd yr olwg arnynt. Yr oeddym yn awyddus i weled tarddiad y ffrwd; felly, wedi gwneud ein ceffylau yn ddiogel, a rhoddi iddynt hwythau wledd o felus-win natur, cychwynasom ar i fyny. Gwelem draw dwmpath o hesg hyfryd yr olwg arno. Gan mor wyn ei ddail ac mor glaerwyn ei flodau, meddyliwn mai fan hono y gwelem ei tharddiad. Ac felly y bu. Ie, ond o ba le mae hi'n dod i'r fan hyn? meddai Mair. Ie, wir, o ba le! canys tarddai yn siriol o grombil y graig, un o'i ystordai mawr Ef. Eisteddem ar fin y dwr i ddisgwyl ein cyfeillion, gan lechu ynghysgod y twmpath gwyrddlas, a gwrando ar natur yn dweyd ei stori yn ei hiaith ei hun. Onid yw pob goslef o'i llais yn beroriaeth? Nid oes neb yn trigo o fewn cannoedd o filltiroedd i'r ffrydlif fechan hon; ord i'r teithwyr blin y mae fel pelydr o baradwys, a'i miwsig fel su edyn angylion. Yr oeddym wedi crwydro i fyd mor ddedwydd fel yr oedd yn ddrwg gennym weled y wagenni yn dod i dorri ar ddistawrwydd mor swynhudol.

Ac eithrio'r ffrydiau wrth y rhai y gwersyllem, nid oedd fawr wahaniaeth rhwng y teithiau-peithdir drein- iog anyddorol, ond mewn ambell fan byddai'r drain yn llawn blodau. Llawer feddyliais wrth edrych ar y drain bytholwyrdd hyn gyda'u dail iraidd a'u blodau pêr ynghanol y crasdir, mor ddoeth a chywrain yw trefn natur yn darparu llysiau addas i bob math o hinsoddau, a thrwy hynny yn gwasgar prydferthwch ar hyd wyneb yr holl ddaear.

Gwnaed aml ymgais yn y Wladfa i dyfu drain y paith fel perthi gylch y ffermdai, i'w gwneud yn debycach i hen gartrefi Cymru. Ond na, ni fyn y ddraenen wenu yn y dyffryn, na gwasgar ei pherarogl ar lan afonydd dyfroedd: nid gwasgar tlysni ar y dyffryn yw ei gwaith; plannwyd hi gan law Ddwyfol yr Hwn sy'n gofalu nad oes. hyd yn oed aderyn y to yn ddigysgod. Mae ar y gwastadeddau hyn filoedd o anifeiliaid, ymlusgiaid, ac ednod, yn cael noddfa glyd rhag stormydd gaeaf a chysgod rhag heulwen haf. Mae glaswellt hir yn tyfu yn lleithder gwreiddiau'r ddraenen sy'n flasus-fwyd a gâr yr anifail gwyllt: mae ei hadau fel grawn addfed i'r cyfeillion. asgellog sy'n nythu mor hapus a diofn yn y canghennau. A phan ddel y teithiwr blin am dro drwy ardd Eden y paith, mae'n estyn iddo yntau yn haelionus o'i holl drysorau heb ddisgwyl dim yn ol.

Gwyn fyd na allai miloedd o bobl ieuainc Cymru dreulio ambell wythnos mewn blwyddyn ynghanol yr eangderau hyn; caech lawer breuddwyd tlws am bethau. goreu bywyd, a byddai eich byd yn wynnach byth o'r herwydd.

Er ei bod yn fis Rhagfyr ac yn ganol haf, oer iawn fu'r hin ar hyd y ffordd. Teimlem ias yr ia oesol ar yr awel, ond awel y mynyddoedd ydoedd, yn llawn nwyf ac iechyd. Ymhyfrydem ynddi, a theimlem ein calon yn dweyd yn aml mai da oedd cael byw. Pan oeddym o fewn rhyw daith diwrnod i'r olwg gyntaf ar yr Andes, cawsom storm o wynt mor gethin ac mor oer fel mai prin y gallem gadw ar ein ceffylau, a'r eira ar yr awel mor finiog nes gwneud difrod alaethus ar y tipyn croen oedd yn weddill ar ein hwynebau a'n dwylaw.

Os deil eich amynedd i'm dilyn hyd y diwedd, cawn gyd-wynfydu ar fawredd a thlysni yr Andes pell, a

threulio dydd Nadolig ar ei gopa gwyn, yn gweled yr

haul yn codi nes gwneud un enfys ogoneddus o'r gadwen fynyddoedd.

Yr olwg gyntaf ar gopa Mynydd Edwyn,-y gwynt yn chwythu gyda holl ffyrnigrwydd ei allu aruthrol, y cymylau duon bygythiol fel pe'n ymlid yr haul i'w orffwysfa. Ond dacw'r haul yn cyrraedd y copa gwyn ac yn disgyn fel mantell o aur ; ac er ein bod yn teithio dros ucheldir ysgythrog, a gwynt yr ia oesol bron parlysu faed dyn ac anifail, eto mor ofnadwy ac mor ogoneddus oedd yr olygfa nes yr oedd pob teimlad corfforol yn diflannu, a'r enaid yn gwibio mewn rhyw ddyhead dwys at droed y mynydd mewn addoliad mud. Mor naturiol i'r hen. írodorion syml addoli'r haul onide, a hwythau yn arfer ei weled o'u mebyd fel y gwelais i ef am y tro cyntaf. Gelwir yr hen Indiaid yn baganiaid, ac eto pan ddel llewyrch y wawr ar y mynyddoedd gwyn, bydd y pen- aethiaid yn cyrchu at y ffrwd agosaf atynt ac yn codi y dwfr grisialaidd yn eu dwylaw gan ei wasgar yng nghyf- eiriad codiad haul, a gofyn i'r Ysbryd Da lwyddo eu dydd. Gwyn fyd na fyddai mwy o honom yn baganiaid yn yr ystyr yna, onide? A fyddwn ni yn gofyn am fendith ar doriad gwawr pob dydd newydd?

Yr un dydd ag y gwelais y mynyddoedd, daethom at wersyllfa o Indiaid, a'u pennaeth yn hen wr triugain oed, ond ei wallt yn ddu a'i gorff yn dalgryf a syth fel dyn yn anterth ei nerth. Pan gyraeddasom y gwersyll cyfarchwyd ni yn drystfawr gan ugeiniau o blant bach yng ngwisg natur, a chwn dirifedi o bob lliw a llun. Arweiniwyd ni i mewn gan fab y pennaeth a fuasai yn aros yn fy nghartref ychydig fisoedd cynt. Eisteddai'r hen frodor yn ei babell ar groen ceffyl, yn sipian mate. O'i gylch yr oedd amryw o'r "chinas" (y merched) yn prysur wnio crwyn a nyddu gwlan y guanaco. Cawsom ninnau le i swatio yn ymyl yr hen bernaeth, a phan ddywedais wrtho pwy oeddwn, fy mod yn ferch i Don Luis, cododd ar ei draed i ysgwyd llaw â mi gan ddweyd—Os wyt ti yn ferch i Don Luis, yna ein chwaer ni wyt ti, canys y mae efe yn frawd i ni oll." Balchach oeddwn o deyrnged yr hen frodor syml i'm tad na phe rhoisid iddo ffafrau tywysogion mwyaf y byd. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear." Cymerodd Archentina y cledd a'r milwr i wareiddio Indiaid Patagonia; daeth dyrnaid o Gymry o gilfachau mynyddoedd Gwalia i ddysgu dull arall o wareiddio. Yr oedd yng ngeiriau'r hen Indiad "paganaidd" wers fawr ag y mae'r byd Cristionogol heb ei dysgu eto. Wrth ymgomio yn y babell, daeth y gair "Cristianos" i mewn, a gofynnais iddo pwy feddyliai wrth y "Cristianos" hyn.

"Yr Hispaeniaid," meddai.

"Eithr onid ydym ninnau hefyd yn Cristianos?" meddwn.

"O, na, amigos de los Indios (cyfeillion yr Indiaid) ydych chwi."

Rhyw deimlad rhyfedd ddaeth trosom wrth glywed ateb yr hen frodor. Mor chwith meddwl fod y gair fu gynt mor gysegredig a santaidd wedi ei gyplu yng nghalon y pagan â phob creulonderau a barbareiddiwch.

Nodiadau[golygu]