Dringo'r Andes/Dilyn yr Afon
← Troed yr Orsedd | Dringo'r Andes gan Eluned Morgan |
Dydd Nadolig → |
PENNOD X.
DILYN YR AFON.
REDAF fod trigolion Troed yr Orsedd braidd yn synnu fy ngweled yn cyrraedd adref a'm hesgyrn yn gyfain, a bu y ffaith i mi gyrraedd yn fyw yn help i mi ffurfio cwmni arall i wneud taith i lawr yr afor Caranlewfw (afon las). Hon yw'r afon fwyaf yn y cylchynion, ac yr oeddwn wedi clywed llawer am ramantedd a mawredd ei golygfeydd gan yr unig un fuasai yn troedio ei llwybrau dyrus-Percy Wharton, un o sefydlwyr cyntaf y Fro, a'r mwyaf egniol a gweithgar, yn Gymro pur er gwaethaf ei enw, ac yn delynor gwych,-rhyfedd oedd gweled yr hen delyn swynol yn y caban coed wrth odreu'r Andes.
Ar y daith hon yr oeddym yn chwech mewn nifer, pedair o wyryfon, yr arweinydd Percy, a Brychan. Cychwynnem gyda thoriad gwawr, gan gymeryd gyda ni ddigon o luniaeth am un byrbryd. Ni allasom fyned food ymhell ar ein ceffylau o herwydd y coedwigoedd anferth a'n cylchynnai ymhob cyfeiriad, ac yr oedd arnom ninnau eisieu dilyn yr afon er mwyn gweled y rapids. Mewn rhyw gwmwd bychan porfaog gwnaethom ein ceffylau yn iddiogel, a chychwynasom ar y daith oedd i fod yn fythgofiadwy inni mwy. Gwaith anawdd ac araf iawn oedd teithio o herwydd y drysni; gallesid meddwl yn aml mai rhai o bedwar carnolior y ddaear oeddym, gan fel y teithiem ar draed a dwylaw dros lawer llecyn dyrus. I chwanegu at ein llafur, yr oedd yn ddiwrnod hafaidd iawn: yr oedd y coed yn cysgodi'r haul mae'n wir, ond yr oeddynt yn cysgodi'r gwynt hefyd, fel na chaem yr un awel i'n hadfywio.
Wedi teithio am rai oriau fel hyn, clywem lais Percy ymlaen yn traethu newyddion da," Mae'r rapids gerllaw." Ust, gadewch i ni wrando: rhyw swn rhyfedd yw hwn, fel storm o wynt cryf yn dyfod drwy'r goedwig, a tharanau'r nef yn chwyddo'r twrf; ond dyma'r afon, a fry gwelwch,—ie, beth welwn, wir? Mae arnaf eisieu taflu'm harfau i lawr fan hyn a—ffoi? Nage, byddwn foddlon cerdded mil o filltiroedd i gwrdd y fath allu â hwn. Ond pa fodd y mae dweyd yr hanes, ddarllenydd mwyn? Pe buasai gennyf ysgrifbin a chyfoeth geiriau y naturiaethwr hyglod o Lanarmon yn Ial, buasai gobaith i chwi gael desgrifiad cywir o'r olygfa ogoneddus y safem yn fud o'i blaen. Pe buasai gennym eiriau i'w dweyd, amhoisbl fuasai clywed dim. Yr oedd natur ym mawredd ei brenhiniaeth yn teyrnasu, ac nid oedd i ni, bethau bychain, eiddil, ond plygu pen yn wylaidd mewn arswyd. ac edmygedd mud.
Yr oedd yno balmant o graig anferth bron wrth ben y rapids, a phenderfynwyd dringo i'r fan honno i orffwys a mwynhau. Disgynnai'r dwfr o uchder aruthrol. Yr oedd yr haul yn tywynnu arno hefyd, a pha arlunydd yn y byd allasai ddweyd beth oedd lliw'r dwfr hwnnw? Yr oeddwn i yn meddwl am enfys wedi troi'n ddwfr, ac yn disgyn ar cin daear yn ei liwiau o wawl y nef. Ond nid oedd natur yn foddlon ar y dwr yn unig yn ei darlun, plannodd ddwy goeden fuschia un bob ochr i'r rapids. Gwnaeth iddynt dyfu fel coed derw Gwyllt Walia. Yr oedd greddf y pren yn ei dynnu tua'r dyfroedd, yn plygu, plygu, nes cusanu'r ewyn gwyn llachar. Daeth y blodau ar lun clychau'r nef, neu ynte a fu yma lu o seraffiaid yn hofran uwch ben, â'u calon mor llawn wrth weled tlysni ei greadigaeth Ef nes disgyn o'u dagrau fel perlau rhwng gwyrdd-ddail y pren. Ond rhaid tewi. 'Rwy'n gweled natur yn gwgu mewn dirmyg wrth ben fy ngeiriau gwael. Maddeu, frenhines dirion, a thywys fi yn ol dy droed.
Er mor anawdd oedd ymysgwyd o'r pêrlewyg yma, rhaid oedd cychwyn eto os am weled ychwaneg o ryfeddodau'r afon fawr hon. Yr oedd y golygfeydd o'n cwmpas yn cynyddu yn eu rhamantedd, mynyddoedd gwynion yn ymgodi ris ar ol gris nes ymgolli o honynt yn y cymylau.
Wrth deithio drwy'r dyrus lwybr, daethom at enau ogof helaeth. Gan fod y gwres mor arteithiol, meddyliem mai melus fyddai lloches yr ogof am ennyd. Erbyn cyrraedd i'r gwaelod, yr oeddym yn dechreu crynnu gan yr oerfel. Yr oedd llawr yr ogof yn orchuddiedig â rhedyn hyfryd, mân, mân ei ddail: muriau'r ogof fel pe wedi eu gorchuddio à gemau gan fel y disgleiriai clychau'r ia (icicles) ymhob cyfeiriad; ond bu raid ffoi am einioes: hanner awr mewn awyrgylch mor eithafol oer fuasai'n ddigon i dawelu calonnau ieuainc, nwyfus, fel yr eiddom ni.
Ymlaen eto. Yr oedd rhai o'r cwmni yn dechreu teimlo yn lluddedig iawn, ac yn barod i droi'n ol, ond yr oedd addewid y caem olwg ar ddau lyn yn ymagor o'r afon, a bod ardderchowgrwydd yr olygfa yn werth aberthu llawer er ei fwyn. Yn araf iawn y teithiem yn awr o herwydd y gwres a'r blinder. Ymrannodd y cwmni yn ddau unwaith, y naill ran am fynd at lan y llyn, a'r llall am aros i ddisgwyl ei dyfodiad yn ol. Ond pan gyrhaeddodd y cwmni cyntaf at y llyn, gwelem y llall yn dyfod yn araf, araf. Nid oeddynt am eu trechu ychwaith, a chwareu teg iddynt hefyd; bu gennyf fwy o feddwl o honynt byth wed'yn.
Yr oedd y gwres yn llethol, ond yr oedd bywyd a nerth yn nwfr y llyn godidog. Yr oeddym yn methu peidio yfed. Ymolchem a chwareuem yn y llyn hyfryd, fel pe'n benderfynol o dderbyn iachusrwydd a phurdeb ei ddyfroedd. Nid oedd enw arno ar fap y byd, canys ni wyddai neb am ei fodolaeth, oddieithr y rhai eisteddent ar ei lan, a'r mynyddoedd mawr fel pe'n edrych yn syn ar y weledigaeth ryfedd. Deuai'r adar o'n cwmpas mewn cywreinrwydd, gan ddweyd cyfrinachau lawer wrthym. Y fath resyn na fuasem ddigon pur ein calon i'w deall, onide? "Llyn y Gwyryfon"—dyna oedd ei enw bedydd. Ni wn a gedwir yr enw pan ddel mawredd yr Andes yn enwog ymysg gwledydd y ddaear. Ond ni fydd yn ddienw byth mwy.
Troi'n ol i wynebu y drysni a'r rhwystrau i gyd eto,— dyna oedd yn tynnu'r melusder a'r swyn o'r daith. Ond yr oedd yn rhaid mynd drwyddynt, ac yr oedd ein harweinydd yn dechreu pryderu pa un a allem gyrraedd ein ceffylau cyn y nos. A chywir oedd ei ofn. Mor flinedig oeddym fel y penderfynwyd lawer gwaith orwedd i lawr man yr oeddym hyd y bore. Ond yr oeddym yn rhy newynnog i gysgu, gan ein bod wedi gwneud camgymeriad difrifol yn hyd y daith wrth ddarpar y lluniaeth. Yr oeddym wedi cychwyn er toriad dydd, yr oedd yn awr yn hwyr o'r nos, a ninnau yn dal i deithio yng ngoleu'r ser drwy anawsderau fil. A theithio y buom hyd doriad gwawr drannoeth. Yr oedd fy nghyfeillesau 'ieuainc yn anghynefin â cherdded,—plant y Wladfa oeddynt, heb arfer dringo a theithio hen gymoedd a mynyddoedd Gwyllt Walia. O'm rhan fy hunan, buaswn yn hoffi rhoi pwys fy mhen ar ryw hen foncyff orffwysai yn ei wely mwswgl, a disgwyl am heulwen y bore. Cefais dreulio noson felly wedi hyn pan gollasom y ffordd ar y mynydd, ac y bu raid i mi, ar ol crwydro oriau, wneud tanllwyth o dân, a gorffwys ym mreichiau natur. Ni fu mam mor dyner erioed i suo ei phlant i gysgu—mae y ddaear mor werdd ac mor esmwyth, mae perarogl y cwrlid y fath nad oes apothecari yn y byd all ei efelychu, na thywysogion ei bwrcasu er maint eu cyfoeth.
Tra'm henaid yn gwibio fel hyn, yr oedd y babell frau
yn poenus deithio tua Throed yr Orsedd. Weithiau'n
cerdded, weithiau'n cropian, weithiau'n dringo fel geifr
gwylltion, ond cyn prin ddadebru o'r wawr, drannoeth
y cychwyniad, wele ben y daith—gorffwys a lluniaeth. Yr oedd y caban coed yn dawel a thywyll, ond buan y
caed goleuni, ac yna, torrodd allan y fath fonllef of
chwerthiniad iachus nes deffro pawb drwy'r tŷ. Y tywyll-
wch a guddiasai lu o arwyddion y daith, ond dyma ni yn
cael cip ar ein gilydd yn awr,-cwmni o Christy Minstrels
wedi bod ar y spri wyllt, wynebau a dwylaw yn rhychau
duon addurniadol, a dillad yn gyrbibion mân, pob un ynts
ddrych byw o fwgan brain,-anghofiaf fi byth mo'r bar
olygfa na'r hwyl. Diflannodd pob blinder yn y fonllef hout
gyntaf, ac erbyn i ni ddechreu sobri a dofi, yr oedd
Morgan yn canu grwndi'n siriol, a thinc y llestri yn
llawenhau'r galon.