Neidio i'r cynnwys

Dringo'r Andes/Dydd Nadolig

Oddi ar Wicidestun
Dilyn yr Afon Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Noson yn y Goedwig

PENNOD XI.

DYDD NADOLIG

 MHEN deuddydd wedi hyn yr oedd yr. ddydd Nadolig, a mawr y paratoi erbyn y tê a'r cwrdd adloniadol oedd i fod creative yn ddathliad yng nghapel y Llwyn: córebration Dalar yn cwrdd yn aml, côr yr aelwyd yn prysur baratoi, minnau'n helpu gwneud danteithion, ac yn mynd am ambell wib i'r coed i roi tro ar ambell unawd, a chór y wig yn cyfeilio, er fod Dalar yn wed bygwth gwartheg gwylltion arnaf, ac y ceid hyd i mi ryw fore fel epa ym mrig y coed. Cafwyd diwrnod hyfryd a ha faidd, er fod y mynyddoedd yn dal yn wyn; cyrchodd pawb i dy'r wledd yn eu gwisgoedd glan a destlus, a golwg ddedwydd, iachus ar bawb. Yma y cefais weled fy holl hen gyfeillion am y tro cyntaf. Yr oeddwn wedi bod yn rhy brysur yn ceisio torri'm gwddf, ys dywedai Dalar, i fynd fawr o gwmpas tai.

Wedi cael eu gwala o'r danteithion, cyrchai pawb tua chysgod y bedwlwyn i eistedd a mwynhau ymgom. Yma hefyd yr oedd y ceffylau ffyddlon sydd yn rhan mor bwysig o'n bywyd Patagonaidd.

Dechreuid y cwrdd yn gynnar er mwyn i bawb gael cyrraedd adref cyn y nos oherwydd pellter y cartrefi. Cwrdd chwaethus, nwyfus, yn llawn o'r hen dân Cymreig, fel pe buasid mewn cwrdd llenyddol yn rhannau gwledig Sir Gaerfyrddin neu Sir Feirionnydd: ac eto, nid oes yn ein cylchynion na'n dyledswyddau beunyddiol ddim cyfatebol i'r bywyd Cymreig yng Ngwalia Wen. Rhyfedd fel y glŷn cariad y Celt yn ei lên a'i gân ymhob rhan o'r ddaear,-pethau anwyl, pethau cysegredig y Cymro: maent yr un mor anwyl iddo wrth odreu'r Andes â phe wrth odreu'r Wyddfa. Bu Lloegr â phob gallu a dyfais yn ceisio newid serch a thueddion y Cymro, ond yn ofer ac am ddim y llafuriodd. Mae Archentina, hithau, yn ceisio mynd drwy'r un oruchwyliaeth â'r fagad fechan Gymreig a sefydlodd o fewn ei thiriogaeth; ord mae traddodiadau'r tadau yn fur rhy drwchus i unrhyw allu Lladinaidd dreiddio drwyddo.

Yr oedd y cwrdd Nadolig wrth droed yr Andes wedi fy nghodi i'r fath hwyliau fel na allwn fod yn llonydd ar ol cyrraedd adref wedi'r cwrdd. Yr oedd yno liaws of gyfeillion wedi d'od yn ol gyda ni; yr oedd yn noson lawn lloer. Ar lethr Gorsedd y Cwmwl, yrghanol y goedwig, yr oedd un o'r rhaeadrau hyfrytaf yn y Fro. Yr oeddwn wedi bod yn ei weled a'i fwynhau yng ngoleu llachar yr haul, a meddyliwn mor swynol fuasai cael un gip arall arno ar nos Nadolig yng ngoleu gŵyl y lloer.

Yr oedd Dalar bron credu, os byddwn yn y Fro yn hir, yr awn yn wyllt, ac mai yn y coed y byddwn byw; ond yn rhadlonrwydd ei galon daeth gyda ni, y cwmni llawen yn dathlu gwyl Nadolig. Teithiem yn heinyf dan ganu carolau a'n haddurno ein hunain â blodau banadl a melus-y-pia; yr oedd y lloer yn gwenu'n siriol amom fel pe'n cydfwynhau. Wedi rhyw hanner awr o gerdded, daethom at y llwybr cul oedd yn arwain i lawr y ceunant at fin y dwfr. Gyferbyn â'r rhaeadr ymgodai hen graig anferth fel llu arfog i warchae'r darlun tlws. Wedi cryn lafur, dringwyd i ben y graig, a safem ar y palmant cadarn yn wynebu'r dyfroedd gwyn, llachar. Cwympent ar ddwywaith, gan wasgar lluwchion eu hewyn ar y coed a'r blodau a ymhyfrydent yn y gwlith perliog hwn. Nid oedd y lloer eto yn taflu ei goleuni yn llawn ar y rhaeadr. Er disgwyl am yr olygfa honno, gwnaethom goelcerth ar ben y graig, a thra yr oeddym ni yn prysur fwydo'r tân, daeth y lloer yn ddistaw, ddistaw, gan belydru megys drwy'r dyfroedd. Erbyn hyn yr oedd y goelcerth yn ei gogoniant, fel pe mewn ysbryd cystadlu â'r lloer a belydrai yn y modd mwyaf effeithiol ar yr ewyn gwyn. Ond cynorthwyo'u gilydd yr oeddent i wneud un darlun gogoneddus, a'r amrywiaeth lliwiau yn dallu'r llygaid wrth edrych arnynt. Yr oedd yr olygfa o ben y rhaeadr yn sicr o fod yn darawiadol hefyd yr oedd canghennau'r coed yn taflu cysgodion cywrain yng ngoleu'r fflamau, a ninnau yn ein coronati o flodau yn gwibio o gwmpas y fflamau. Hawdd iawn fuasai ein camgymeryd am y Tylwyth Teg wedi d'od allan i ddawnsio ar noson lawn lloer. Nid oedd neb wedi edifarhau dyfod erbyn hyn; yr oedd rhyw swyngyfaredd wedi ein meddiannu. Ni ddywedai neb fawr o ddim, dim ond yfed yn helaeth o ardderchowgrwydd gwaith ei ddwylaw Ef. Ond methodd y calonnau Cymreig â dal y distawrwydd yn hirtorrodd yr edmygedd a'r mwyniant allan yn un anthem o fawl—

"Dduw Mawr y rhyfeddodau maith,
Rhyfeddol yw pob rhan o'th waith."

Yr oedd y cwmni oll yn hoff o ganu, a chredaf na fu y fath ganu ar yr hen emyn erioed; bron nad oeddym yn gweled drws y nef, ac na chlywem yr anthem fel corws yr engyl gwyn—dyblem a threblem y llinellau nes yr oedd y goedwig gylchynnol fel pe wedi uno â'r mawl. Un o oriau euraidd bywyd oedd honno: dringem y llwybr bychan mewn distawrwydd perffaith yr oedd yna gysegredigrwydd yn y fangre i bob o honom byth mwy.

Yr oeddwn i yn olaf yn cyrraedd o'r ceunant, ac yr oedd y cwmni wedi mynd ychydig ymlaen. Cofiwn y byddai raid i mi ymhen ychydig ddyddiau deithio'n ol dros y diffeithdir sych i wlad ddi-goed, ddi-flodau. O yr oedd fy hiraeth yn fawr iawn. Yr oedd fy mywyd yn ystod y mis diweddaf wedi bod mor llawn o ddedwyddwch pur, fel yr oedd rhyw ofn yn llanw fy nghalon wrth feddwl am y dyfodol. Fel yr hiraethwn am gael byw bywyd pur, dilychwin! Mor hawdd fuasai gwneud hynny ynghanol cylchynion fel hyn. Rhedais i lawr y ceunant yn fy ol. Sefais yn ymyl y cwymp, nes derbyn yn helaeth o fedydd y gwynias ddwfr. Yr oeddwn yn gwneud cyfamod yn fy medydd; llithraf a chwympaf aml waith ar ddyrus lwybrau bywyd, ond ni fyddaf byth yn unig mwy. Cwmni dedwydd iawn oedd yn cyrraedd Troed yr Orsedd nos Nadolig, a minnau y dedwyddaf o bawb, ac un o freuddwydion fy mebyd wedi ei sylweddoli yn ei holl felusder. A chwithau, ddarllenwyr mwyn, gobeithiaf fod i bob un o honoch ryw freuddwyd melus, ac y daw i chwithau sylweddoliad a mwyniant anhraethol.



Nodiadau[golygu]