Dringo'r Andes/Noson yn y Goedwig
← Dydd Nadolig | Dringo'r Andes gan Eluned Morgan |
Tuag Adre → |
PENNOD XII.
NOSON YN Y GOEDWIG
R oeddwn i gael un daith fythgofiadwy arall cyn canu'n iach à Bro Hydref, ond 'rwy'n digalonni wrth feddwl am geisio dweyd yr hanes. Mynd i weled cewri'r goedwig oedd yn tyfu ar lethrau Gorsedd y Cwmwl: coed pin, coed bedw, etc., anferthol o faint, fel pe'n ceisio efelychu'r cawr gwyn oedd fry yn y cymylau uwch eu pennau. Dywedai Daler bethau anhygoel am danynt, a minnau yn orlawn o gywreinrwydd, ac er ei bod yn amser prysur yn y Fro, a ninnau, y cwmni gwladfaol yn prysur bacio, bu raid gadael pob peth a chychwyn.
Nid oedd y ffordd ymhell, meddai'r arweinydd; dim ond i ni gychwyn ganol dydd, a mynd å byrbryd gyda ni i'w fwynhau yng nghysgod y cewri, a dod yn ol fin yr hwyr wrth ein hamdden. Onid yw'r rhaglen yn darllen yn rhwydd a syml? Eithr na thwyller chwi, ddarllenwyr tirion; trwy orthrymderau fil y cawsom ni ail olwg ar fythynnod coed y Fro. Cychwynnem yn gwmni llawen, a'n hwynebau tua'r goedwig a'r mynydd; yn fuan daeth yn gryn gamp inni weithio ein ffordd ymlaen rhwrig aml ganghennau'r coed, a'r creepers afrifed fel gwê'r copyn yn taenu eu rhwydau blodeuog rhwng pob cangen werdd. Fel llwybrau'r Indiaid ar y peithdir, felly mae llwybrau yr anifeiliaid yng nghoedwigoedd yr Andes; dyna eu llochesau pan fo'r eira yn gordoi'r dolydd. Deuthum i deimlo yn fuan mai fy nghynllun goreu oedd gadael yr arweinyddiaeth yng ngofal yr hen geffyl ffyddlon, deallus, a threio gwylio'r canghennau rhag fy nghrogi. Gwaeddem ar ein gilydd er cael rhyw amcan i ba gyfeiriad yr oeddym yn mynd, canys gwlad y gwyll a'r cysgodion yw coedwigoedd yr Andes, gydag ambell i fflach o belydrau'r haul drwy y ffurfafen ddeiliog.
Yr oedd yno ffrydiau mân, grisialog, yn dyfal gario bywyd a nerth i ddirif lu'r Orsedd, ac yn murmur a dawnsio ar eu gwelyau mwswgl. Er nad oeddym yn gweled dim ond y coed., etc, teimlem mai graddol godi yr oeddym, a Dalar yn dal i arwain a ninnau yn dal i ddilyn mewn llawn hyder ffydd. Sylwem fod y coed yn dechreu praffu, a'r mân goed yn lleihau, fel pe byddai'r cewri am eu mygu o fodolacth. Yr oedd amaf eisieu sefyll i ddechreu mesur y coed, ond "Mae gwell ymlaen" oedd y gri o hyd: a minnau yn synnu ac yn rhyfeddu, a neb yn dweyd dim, pawb yn mynd yn ei ddau ddwbl, ac yn gwylio pob cangen fel barcud, ac yn troi ac yn trosi fel seirff. Yn fy myw ni allwn beidio meddwl am fintai o yspiwyr yn mynd drwy wlad y gelyn-ofn clywed yr un brigyn yn torri dan garnau'r meirch; ceisio treiddio- i'r gwyll am lygad estron, os torrai cangen yn sydyn, gwingem fel pe rhag saeth elynol.
Yr oedd y coed mor enfawr erbyn hyn nes y collem ein gilydd yn eu cysgod; ac fel y distaw nesai'r nos, ymddyrchafent fel hen filwyr dan lawn arfau. Dal i ddringo yr oeddym, a gallasem ddringo am oriau meith- ion heb fod fawr nes i Orsedd y Cwmwl. Ond wedi dod. at hen frenhines dalgref a estynnai ei breichiau cawraidd fel pe am lapio'r brenin gwyn acw yn ei chôl, cawsom ganiatad i ddisgyn a gorffwys, a syllu ac edmygu wrth fodd ein calon.
Gresyn na ellid crynhoi holl eiddilod hunanol y byd, a'u halltudio i un o goedwigoedd yr Andes am flwyddyn: fe syrthiai eu hunanoldeb fel mantell oddi am danynt, a deuent eilwaith yn blant bychain gyda chalonnau gwylaidd llawn o barchedig ofn. Nid oes modd dweyd mewn geiriau am fawredd aruthrol y coed yma; ac o'r lle y saíem caem gip ar y pigynnau gwynion draw yn yr uchelderau; ac O! gwelwch, mae'r haul yn machlud! Ni allem ni weld yr haul wrth reswm, ond dacw'r bysedd dwyfol yn tynnu llun yr haul ar yr ia oesol, a ninnau yn cael edrych arno! Gwyn fyd na chaffai pawb syllu ar olygfa debyg unwaith mewn oes: byddai fel ffrwd fywiol yn y galon, ac yn ystorfa ddihysbydd o felusder a nerth yn oriau tywyll, chwerw bywyd. I mit y mae'r darlun yn felusach heddyw nag y bu erioed, pan ymhell o dir fy ngwlad, a haul a hindda wedi ffoi; ond mae'r haul ar yr Orsedd o hyd.
Buom yn hir iawn cyn gallu sylweddoli dim ar ein cylchynion methid tynnu'r llygaid oddiar yr Orsedd, er ei bod hi erbyn hyn wedi mynd yn Orsedd y Cwmwl yn llythrennol, ond yr oedd y darlun mewn du a gwyn lawn mor swynhudol, er nad mor ogoneddus. Ond bu raid i'r arweinydd ein deffro; gwyddai efe yn well nâ ni anawsderau'r dychwelyd drwy nos gaddug y goedwig. Cawsom fwynhau ein byrbryd ar fin nant, un o genhadon yr Orsedd, a sisialai gyfrinion y llys gwyn fry; ond ysywaeth nid oeddym ni yn ddigon pur ein calon i'w deall, er fod yr ymdeimlad o anheilyngdod yn wers fawr i'w chofio. Tipyn o beth oedd cael torri newyn mewn cwmni mor urddasol, a moesymgrymai breninesau'r dalaeth fawr hon mewn croesaw pêr i'r teithwyr pell.
Erbyn hyn yr oedd y nos yn gordoi'r wlad, ac nid ces gwyllnos yn Neheudir America, a bu raid i ninnau feddwl am droi pennau'r meirch tuag adref, neu anelu oreu gallem tua'r cyfeiriad hwnnw. Ond buan y daethom i'r penderfyniad fod gennym orchwyl difrifol o'n blaenau; yr oedd dilyn y llwybrau cul liw dydd yn gryn gamp, ond yr oedd yn wrhydri liw nos. Ymlaen yr aem yn ddistaw bryderus, mewn perygl bywyd bob munud. Wedi teithio am oriau fel hyn, cau yn dynnach am danom yr oedd y goedwig, a phob llwybr wedi ei hen golli. Meddwi am ben draw y drysni yr oeddym, ond a'n helpo! gallasem deithio cannoedd o filltiroedd heb wel'd y ffurfafen. Yr oeddwn wedi bod ar fin cael codwm amryw weithiau, drwy fod fy ngheffyl yn gallu mynd o dan y canghennau a minnau yn methu eu gweled i ostwng danynt; ond o'r diwedd, yr hyn a ofnais a ddaeth i'm rhan, ac i lawr â mi ar wastad fy nghefn, a'm pen rhwng dau droed ol y ceffyl. Buasai ambell geffyl wedi rhoi terfyn ar fy cinioes mewn ychydig eiliadau, ond yr oeddym ni ein dau yn gyfeillion mawr, ac adwaenai fy llais o bell. Yr oeddym wedi cael aml scwrs yn ystod ein teithiau, ac ni fyddwn byth yn disgyn oddiar ei gefn heb ddiolch iddo yn dyner mewn iaith ag y mae pob anifail mud yn ei deall yn drwyadl. Gwyddai efe wrth fy ngwaedd ddy chrynedig fod rhywbeth allan o le, a safodd mewn amrantiad, gan edrych drach ei gefn mewn cydymdeimlad a chywreinrwydd a phan godais o'm gwely mwswgl yr oedd ei lawenydd yn fawr, a rhwbiai ei ben yn fy ngwisg fel pe i wneud yn sicr fod fy esgyrn oll yn gyfain; bu'r un anifail dewr yn gyfaill imi drwy'r diluw wedi hyn, ac achubodd fy mywyd amryw droion.
Gwelodd pawb erbyn hyn fod yn rhaid disgyn, nad gwiw rhyfygu ychwaneg, ac arwain ein hanifeiliaid yn ofalus rhwng y coed. Addefai ein harweinydd na wyddai efe ar glawr daear pa le yr oeddym, ond y byddem yn sicr o ddod allan i'r gwastadedd ond i ni ddal i deithio i'r un cyfeiriad. Yr oeddym yn flinedig a newynnog erbyn hyn, canys yr oedd ymhell ar y nos, a ninnau wedi bod yn teithio yn ddiorffwys er canol dydd. Dringem ambell i lechwedd dyrus, mwsoglyd, gan arwain yr anifeiliaid blinedig, yna aem bendramwr.wgl i lawr ceunant serth, a chyn y gallem sefyll yr oeddym ynghanol ffrwd, yn canu'n iach yn ei gwely graean, ac yn synnu at ymwelwyr mor ddi-barch o lendid ei dyfroedd. Mwynhâi yr hen geffylau y ddiod iachus, a buasem ninnau'n mwyn- hau'r ddiod yn burion, ond nid oedd bath rhewllyd ganol nos mor dderbyniol.
Wedi teithio fel hyn drwy ddrysni a dŵr, dros bant a bryn, am oriau meithion, blinion, daethpwyd i'r penderfyniad unfrydol mai gwell oedd llechu man yr oeddym hyd doriad gwawr. Yr oedd y newydd bron cystal â phe wedi cyrraedd pen y daith. Dadgeriodd pawb ei geffyl, gan ei gylymu'n ddiogel man y cae efe flewyn melus i dorri ei newyn. Yna crynhowyd tanwydd a gwnaed coelcerth, canys yr oeddem yn oer a gwlyb, heblaw yn flinedig. Tân ardderchog oedd hwnnw, canys nid oedd eisieu cynhilo y defnyddiau; taflem foncyff ar ol boncyff i ganol y flamau nes goleuo a sirioli'r holl gylchynion, a phe buasai gennym grystyn i gnoi cil arno er torri newyn buasai ein mwyniant yn berffaith. Teimlem braidd yn ciddigeddus wrth yr hen geffylau yn pori'r glaswellt iraidd wrth fodd eu calon, ac yn gweryru o wir fwyniant gan ddweyd hanes y wledd y naill wrth y llall, tra ninnau yn gorwedd gylch y tân a'r naill ochr yn rhewi tra'r llall yn rhostio, ac yn meddwl mewn hiraeth am y caban coed adawsem y bore, a'r ford lawn danteithion. Ond fel y tymherai'r tân yr awyrgylch, ac y sychai ein dillad, ac y dadflinai ein cymalau, graddol lithrodd swyn a dieithrwch yr olygía i'n calonnau, gan wneud i ni anghofio pob anghysur.
Dyma ni mewn coedwig gannoedd o filltiroedd o hyd, a chyn dyfodiad y Cymry i'r Fro yn 1886 nid oedd yr un dyn gwyn wedi ei gweld erioed, na nemawr neb o'r hen frodorion wedi treiddio i ganol ei drysni, canys drwg- dybient wyll y coedwigoedd, gan gredu mai dyma gartref a chyrchfan holl ysbrydion drwg y byd, ac hyd heddyw mae'r ofergoeledd yma'n gryf ymhob calon frodorol. Ond i mi yr oedd fel cip ar ardd Eden yr henfyd: hoffaswn dreulio blynyddoedd i astudio pob pren deiliog, a gweled bys y Lluniwr yn nodi'r boncyff ar ddechren pob blwyddyn newydd, ac i geisio deall rhai o'r miloedd ymlusgiaid sy'n llechu mor ddiddos dan ddail a daear, pob un yn ol ei reddf, a phob un yn gwneud ei waith yn ol archiad dwyfol. Dyma le i ddysgu iaith yr adar; faint yw rhif y côr tybed, a phryd y cynhaliant eu cymanía ganu? Mae'n sicr mai dyma'r deyrnas brysuraf yn ein byd; mae'r deiliaid fel dirif dywod y môr, a phob un, o'r gwybedyn a'r genwair distadlaf hyd at y condor a'r carw gwyllt ar y pigynnau gwynion, yn gampwaith y Lluniwr, ac yn anesboniadwy i wyddonwyr mwyaf y byd; maent yn gallu esbonio popeth ond bywyd, ac ysgatfydd bywyd yw'r goedwig i gyd; ord bu raid i mi deithio i'r Andes i sylweddoli aruthredd y gwirionedd hwn.
Yr oeddwn wedi arfer rhoi'm clust ar y ddaear i wrando am swn ceffyl yn dod o bell, ond ni thybiais ei bod yn bosibl clywed y gweithwyr diwyd sydd yng nghrombil yr hen ddaear; ond bum yn gwrando ar gannoedd o honynt wrth ddisgwyl am y wawr yng nghoedwig yr Andes, dyma gyfaredd! mi gredaf yn y Tylwyth Teg tra byddaf byw bellach; yr oedd yma filoedd o'm cwmpas drwy'r nos, yn cyniwair ac yn gwau, ac yn tyrchu ac yn chwareu, ac yn siarad wrth fodd eu calon, a minnau yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn gwneud darganfyddiadau newydd bob munud; ac fel pe na fuasai'r ddrama danddaearol yma yn ddigon i swynhudo dyn, dechreuodd un arall yn y mwswgl a'r dail sy'n gorchuddio y wlad ryfedd
ac ofnadwy hon. Ar y cyntaf brawychwyd fi'n ddifrifol;Gwersyll yn yr Andes
meddyliais yn sicr fod holl ddeiliach a mwswgl y goedwig yn dechreu symud, a chodais ar fy eistedd gan rwbio'm llygaid er bod yn siwr nad breuddwydio yr oeddwn, ond na, gwelwch! mae yna lu afrifed o honynt yn dod tua'r tân! Yr oedd ofn gwirioneddol arnaf erbyn hyn; nid. oedd yn ddigon goleu i mi weled yn eglur, ac yr oedd fy nghyd—deithwyr yn cysgu'n braf. Ond o'r diwedd daeth. rhai o'r ymwelwyr dieithr yn ddigon agos i'r tân i mi eu gweled yn well,—dyma ddeilen grin debygwn, ond rhyfedd y son, mae wedi magu coesau anferth, ac yn brasgamue ddeheuig i gyfeiriad y gwersyll gan gymeryd stoc o'r olygfa ryfedd; yr oedd ganddi ddau lygad hefyd yn perlio ac yn gwibio rhwng gwyll a gwawr, a dyna lle y buom am rai eiliadau yn dyfal wylio y naill y llall, ac mi gredaf y cofiwn ein gilydd y rhawg. Ond erbyn hyn yr oedd yna amryw ymwelwyr ereill, pob un wedi dod i weled y dieithriaid,—darnau o risgl wedi magu pennau a choesau a llygaid, etc., llawer o fangoed, ambell i ddarn o fwswgl tlws odiaeth, blodau wedi gwywo, ambell i ddeilen werdd newydd gwympo; ac yn eu mysg gwelwn amryw hen gyfeillion, megys y chwilen ddu a'r chwilen werdd, symudliw, y pryf copyn, a'r genengoeg, ac wrth weled y rhai'n gwawriodd arnaf beth oedd y lleill. Yr oeddwn wedi darllen am bryfaid ac yinlusgiaid yn cymeryd lliw a ffurf eu cylchynion fel diogelwch, ond ni sylweddolais am foment wir ystyr yr hyn ddarllenaswn, ond byth er y noson honno mae pob llyfr naturiaethwr (os bydd yn caru natur) fel stori y Tylwyth Teg i blentyn, yn orlawn o ddyddordeb i mi. Gweld gyntaf, a darllen wedyn, yw'r ysgol oreu debygaf fi: onid oes gormod o ddarllen llyfrau a rhy fach o ddarllen natur? Buasai'n well gennyf golli pob llyfr ar fy elw na cholli'r adgof am fy noson yng nghoedwig yr Andes.
Ond er mor gywrain a dyddorol yr olygfa, yr oedd blinder a newyn yn dechreu cael y llaw drechaf arnaf, a gorweddwn eilwaith er ceisio anghofio'm gofidiau mewn cwsg, ond er cau'm llygaid yn dyn, a phenderfynu peidio eu hagor, chwarddai'r lloer a'r ser am fy mhen, gan wybod mai hwy oedd y meistri hyd doriad gwawr; amhosibl ydoedd cau amrant a'r fath ddarlun i syllu arno. Nid gweld y ffurfafen yn un darn mawr serennog yr oeddwn, ond cannoedd o fân bictiyrau mor berffaith a phur ag y gallasai llaw'r Arlunydd Mawr eu gwneud, a phob un wedi ei fframio â mân-ddail ariannaidd. Ond wrth syllu fel hyn rhwng cwsg ac effro ar oriel gelf y nef, yn ddistaw-gyfrin, bron yn ddiarwybod, diflannodd y naill ddarlun ar ol y llall, disgynnodd y tywyllwch a'r distaw- rwydd llethol hwnnw sy'n dod dros ein byd cyn torri o'r wawr yn y Dwyrain pell, pan fo natur i gyd fel pe'n gorffwys a huno ennyd. Ond O! mor ogoneddus y deffro, onide? Ni allaf beidio meddwl mai fel hyn y dylem ninnau ddeffro bob bore pe wedi byw yn deilwng.
Nid wyf yn mynd i geisio dweyd wrth neb sut y torrodd y wawr drwy'r ddeiliog wê wrth fy mhen, ac y trowyd y goedwig yn un enfys fendigedig, nes yr oedd pob llygad yn dallu, a phob pen yn gostwng mewn addoliad mud, a phob calon yn teimlo mai da oedd cael bod yno, ac yn gwneud cyfamod newydd yng nghysegredigrwydd y foment. Ond nid oedd y cyfeillion asgellog yn plygu pen: plant y wawr ydynt hwy; ni wasanaethasant ond un Brenin erioed, a hwnnw'n ddidwyll a glân, o'u mebyd. Rhoiswn y byd pe yn ddigon pur fy nghalon i ddeall yr holl gyfrinion a sisialent wrth eu gilydd wrth ymgyfarch ar ddechreu diwrnod newydd.
'Welsoch chwi'r adar yn ymolch erioed? Dyna'r wers rymusaf mewn glendid a deimlais erioed; ac mor ddedwydd y maent yn ymbincio ac yn ymdrwsio, gan focsymgrymu'n gogaidd, a gwneud pob ymdumiau dichonadwy. Ac wedi iddynt yn siwr nad oes lychyn ar flaen aden, ac fod pob pluen yn ei lle yn bert a syber, cymer pob un ei le yn y côr, a phrin y caiff yr arweinydd amser i gyrraedd llwyfan gwyn acw, ac eistedd ar yr orsedd o dân ysol, na fydd y gân yn dechreu, ac yn esgyn yn un anthem. orfoleddus, yn aberth hedd a llawenydd; ac yna mewn amrantiad â pawb at ei orchwyl. Ymlanhau, diolch, a gweithio-dyna raglen yr adar. Gresyn meddwl mor wahanol yr eiddom ni yn aml, onide? Ymlygru mewn drygioni, grwgnach yn anfoddog, a diogi ac ymblesera, y byddwn ni yn fynych.
Ym Mexico, hyd yn ddiweddar iawn, ffynnai her arferiad. tlws a defosiynol ddaethai gyda'r Hispaeniaid yn amser y goncwest: cyferchid yr haul ar ei ddyfodiad bob bore âg anthem o fawl a diolch. Cenid cloch ychydig funudau cyn ymddanghosiad yr haul, ac agorai pawb ei ffenestr a arweiniai i'r veranda gylchynna bob ty Hispeinig, a safai'r holl deulu, o'r hynaf i'r ieuengaf, y meistr fel y caethwas, i gyfarch brenin y dydd. Mor debyg i'r adar, onide? Sicr yw y byddai miloedd o'r ednod cerddgar yn uno yn y foreuol gân ynghanol perllannau a gerddi dihafal Mexico gyfoethog.
Aflonyddodd adar yr Andes ar y cysgadwyr o'm cwm— pas, a rhwbient lygaid o un i un, gan wincio'n gysglyd ym mhelydrau'r haul oedd eisoes yn dechreu treiddio drwy'r deilios. Yr oedd y tân yn farwor llonydd erbyn hyn, a min awel y bore yn dechreu gwneud inni sgrwtian, a da oedd cael symud i ystwytho'r cymalau a chyflymu'r gwaed. Yn reddfol cyrchai pawb at ei geffyl gan ddechreu breuddwydio am ben y daith a thamaid i dorri newyn. Ond—dyma fonllef orfoleddus oddiwrth un o'r pererinion; pawb yn mynd ar râs wyllt i glywed y newydd, a dyna lle'r oedd un o'r cwmni ar ei bedwar yng nghanol gwely o fefus addfed! a ninnau wedi bod yn newynnu drwy'r nos! 'Doedd ryfedd fod yr hen geffylau yn gweryru, ond chwareu teg iddynt, gwnaethant eu goreu i'n hysbysu o'r newyddion da. Ni allaf byth feddwl am y boreufwyd hwnnw heb gael ffit o chwerthin iachus: 'rwy'n siwr y rhoisai Punch lawer am ddarlun o'r olygfa,—pawb yn gorwedd ar ei hyd cyhyd, bron o'r golwg yn y dail, ac wrthi à holl egni ei fysedd yn tynnu mefus, ac yn en bwyta lawn mor egniol, a phawb cyn ddistawed â llygod mewn cae gwenith. Brecwast ardderchog oedd honno; mae'n siwr gen i mai rhywbeth tebyg a fyddai Efa yn gael yng Ngardd Eden er's llawer dydd.
Dalar oedd y cyntaf i wacddi "Digon!" a chychwyn am ei geffyl, a bu raid i ninnau ddilyn heb ond prin dorri awch ein newyn. Ond yr oedd yr amgylchiad difyrrus, hapus, wedi codi ein hysbrydoedd i'r uchelfannau, a geriem ein ceffylau dan ganu a dyfalu lle'r oeddym, ac
"Wele ni bawb ar gefn ei geffyl,
A dyma ni'n mynd dow dow, dow dow,
Ar garlam, a thuth, a phranc, Hwre!
Heb ofal nac ofn am rent na threth !
Ond meddwl am dy, a thân; a thê."
Buom yn hir yn cael cip ar gyrrau'r wlad, ac erbyn inni ddod allan o'r drysni, cawsom ein bod filltiroedd lawer yn is i lawr na'r cychwynfan, ac fod gennym daith hirfaith cyn cyrraedd cartref. Ond wedi i'r meirch gael eu carnau ar y gwastatir, a dod i ardaloedd cynefin, yr oeddynt yn mynd fel ewigod, a ninnau yn mwynhau'n ride i berffeithrwydd. Awel y bore fel dyfroedd bywiol yn disgyn oddiar y copâu gwynion, a phêr awel y pinwydd a'r myrdd blodau mân yn llanw'r awyrgylch â'u perarogl. O! yr oedd yr hen ddaear yn dlos y bore hwnnw, a bywyd yn felus iawn; gwyn fyd na chaffai pawb oriau euraidd fel hyn unwaith mewn oes: byddai stormydd bywyd yn haws eu goddef wedyn, ac ni chaffai'r temtiwr loches mewn calon a deimlodd agosed ddrws paradwys.
Fel y nesâem at y Fro, deuai aml i fwthyn coed i'r golwg, yn nythu mor dangnefeddus yng nghysgod y gwylwyr gwynion, a mwg eu simddeiau yn dyrchu tua'r nen yn aberth peraidd o'u tân coed glanwaith: brefiadau'r praidd ar y llethrau porfaog, y gwartheg yn cyrchu yn yrroedd mawrion tua'r corlannau erbyn amser godro, a'r cŵn yn dyfal gyfarth er ceisio didol yr hesb oddiwrth y laethes, a'r llanciau ar eu ceffylau bywiog yn gwibio yma a thraw, pawb ynghylch ei orchwyl; a ninnau—adar y nos—yn anelu am ddiddosrwydd, ond yn teimlo braidd yn yswil, fel plant drwg wedi bod ar eu spri. Ond cawsai perthynasau a chyfeillion noson mor bryderus yn ein cylch, fel yr oedd y croeso yn gynnes a siriol, a phawb yn falch o'n gweld, ac yn holi a dyfalu am y cyntaf.
Hyd nes inni ein cael ein hunain rhwng muriau'r bwthyn clyd, nid oeddym ymwybyddol mor flinedig oeddym; yr oedd yr awelon iachus, a symudiadau chwim y ceffylau, wedi ein cadw yn effro, ond gynted y dacthpwyd i awyrgylch gynnes yr aelwyd, a chael y tê y canem am dano, cysgu a gorffwys oedd ein dyhead mwyaf, a chwsg i'w gofio oedd hwnnw: dywedir inni gysgu gylch y cloc yn grwn, tra'r plantos bach yn chwareu a chanu, ymwelwyr yn mynd a dod, ceffylau a gwartheg yn tristfawr gyniwair gylch y ty, a'r haul yn machlud a'r lleuad yn codi, a ninnau'n cysgu'n ogoneddus, a thelynau'r Tylwyth Teg yn suo-ganu. Ond wedi inni ddeffro, yr oeddym fel adar yn trydar, ac yn barod i adrodd ein holl anturiaethau. Eithr ni fynegir byth mo'r filfed ran o gyfrinion y goedwig ddistaw, lân; nid pethau i'w mynegi ydynt, ond pethau i'w teimlo i eigion calon, ac i'w trysori yn nyfnderoedd enaid.
Ryw ddydd, mae'n debyg, clywir swn bwyelli yn y coedwigoedd tawel, a chroch nadau'r agerbeiriant yn adsain drwy'r cymoedd llonydd, gan ddygyfor ei fwg du ar y dyfroedd grisialog, a throi'r perliog wlith sy'n nythu ar fron pob blod'yn gwiw yn ddefnynnau marwol i ysu a difa'r tlysni. Diolch ynte am gael troedio'r ardd cyn cyrraedd o'r sarff.