Neidio i'r cynnwys

Dringo'r Andes/Tuag Adre

Oddi ar Wicidestun
Noson yn y Goedwig Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Adios

PENNOD XIII

TUAG ADRE.

 EDI dadflino a sobri o helyntion y daith ddiweddaf, bu raid dechreu pacio o ddifrif, canys yr oeddym yn gorfod troi'n ol ymhen ychydig ddyddiau, er ein mawr ofid. Y syniad cyffredin am bacio yw, llawer iawn o focsus yn llawn o ddilladau o bob lliw a llun, y rhan fwyaf yn hollol ddifudd ac anaddes, a chymaint o helynts wrth eu trefnu a'u hail-drefnu a phe byddai bywyd dyn yn dibynnu ar ei ddillad. Mae aml i hen wladfawr wedi cael oriau o ddifyrrwch diniwed wrth wylio newyddddyfodwr, neu gringo, ys dywed yr Hispaenwr, yn cychwyn ar ei daith gyntaf i'r Andes. Mor gryno a thwt yw pob peth, a phob bocs fel pe newydd ddod o'r masnachdy, yn edrych yn boenus o loew, ac yntau'r teithiwr mor ddestlus a glân ei drwsiad, a'r cyfrwy Prydeinig newydd. spon, prif destyn sport a dirmyg llanciau'r paith, a golwg mor anhywaith arno nes gwneud i bob asgwrn a chymal frifo wrth edrych arno heb son am ei farchogaeth am ryw bedwar can milltir. Doniol yw gweled ambell i hen geffyl brodorol, callach na'r cyffredin, yn troi ei ben i edrych yn syn ar y weledigaeth ryfedd; anodd peidio credu, gan mor ddeallus yr edrych, nad yw'n ffurfio barn ddistaw am allu teithiol y perchennog. Nid oes ond profiad chwerw a ddarbwylla'r gringo o'i fiolnieb a'i ystyfnigrwydd. Bydd yn ddigon gwylaidd cyn cyrraedd pen y daith, ac ychydig bach yn debycach i'w gylchynion, er na ddaw efe byth yn rhan o'r darlun fel yr hen frodor- ion; mae'r brodor a'i geffyl a'i gêr a'i ddillad yn un, mewn perffaith gydgordiad, ac yn un o'r golygfeydd mwyaf hudolus a swynol ar yr holl wastadeddau. Onid ydych wedi sylwi gymaint mwy dyddorol yw gwisg y Colonials Prydeinig? Maent wedi addasu eu gwisgoedd i'w cylchynion, ac felly yn edrych yn berffaith naturiol a dilyfethair. Dilyn natur yn lle celf-dilyn y gwladfawyr ieuainc yn lle Paris, a fyddai eithaf adnod yng nghredo Prydain heddyw.

Ond, i ba le yr aethom, wys! Nid gringos oeddym ni, ond hen deithwyr profiadol, wedi bod drwy bob helyntion allasai'r paith mawr ei ddarpar ar ein cyfer; ac yr oeddym yn pacio ein wagen yn yr adgof am y pethau hyn, ac yn ceisio rhagddarparu ar gyfer pob anap. Tra'r dynion yn brysur yn trwsio a chryfhau'r gêr, a gofalu am ddigon o olew ar gymalau'r wagen, gan gofio am y gwres a'r llwch oedd o'n blaenau, cedwid ni'r merched fel gwenyn. nid yn casglu mêl ychwaith, ond mefus, a'u berwi mewn crochannau enfawr, a dihysbyddu'r tai o bob tun gwag drwy'r holl fro, i gario y melusion gwerthfawr i wlad nad. oedd yn llifeirio o laeth a mefus.

Dyddiau hapus oedd y rheiny, tymor dedwydd plentyndod wedi dod yn ol am ennyd,—allan gyda'r wawrddydd, pawb a'i fasged ar ei fraich yn canu a dawnsio o wir lawenydd calon. Ond weithiau deuai cysgod y 'madael ar heulwen fy nedwyddwch, a chiliwn at lan Llwchwr i geisio lleddfu fy hiraeth, a gwrando yn astud a dwys ar neges a chenadwri y mynyddoedd mawr a syllent arnaf o'r uchelderau pell. Un o blant y gwastadeddau oeddwn i, ond yn hannu o'r Eryri, a dyna mae'n debyg sydd i gyfrif mai ar y mynyddoedd y mae fy nghalon bob amser. Mewn tristyd mud yr edrychwn ar y gadwyn wen a gylchynnai'r dyffryn tawel, a'm henaid yn dyheu am gael llechu yng nghysgod eu glendid, ymhell o swn y byd a'i stormydd. Yr oedd y tawelwch a'r unigedd, a natur yn ei harddwch cyntefig, wedi suddo i eigion fy modolaeth, ac wedi defiro pob peth oedd oreu ynof; llawer delfryd a meddylddrych tlws a ddaeth yn eiddo imi tra'n byw fel glöyn ar felus fwyd natur. Ac yn ofnus a chrynedig y wynebwn y gwastadeddau a'r bywyd gwladfaol helbulus, a'r mân ofidiau beunyddiol; ofnwn golli'r delweddau newydd, a syrthio'n ol i'r hen rigolau. Hoffaswn gael mwy o amser i fagu nerth meddyliol wrth draed fy Ngamaliel, a naddu sylfaen o graig yr Andes. Weithiau meddyliwn fy mod yn cael fy ngolwg olaf ar gewri y byd newydd, a dyblai hynny fy mhruddglwyf, ond yng nghilfachau cysegredicaf fy nghalon, blagura gobaith am ail olwg, ac er imi deithio ddeg mil o filltiroedd oddiwrthynt, mae'r gobaith yn dal i dyfu yn gryf ac iach. Ond ysywaeth, y mae'r pyst a'r gwifrau yn dringo'r llethrau erbyn heddyw, a thrydan yn cydio'r hen a'r newydd wrth ei gilydd. Ond cymer ganrif dda i wareiddiad ddifwyno'r Andes; felly ni raid brysio.

Ofnaf na chynorthwyais lawer i gasglu mefus na phacio'r wagen, ac fel y nesai diwrnod y cychwyn collid. Eluned o'r cwmni yn aml, ond diau mai buddiol imi oedd y prysurdeb a'r darpar, canys yr oedd fy hiraeth yn llethol, a neb yn deall na neb yn cydymdeimlo ond yr hen fynyddoedd.

Fe ddaeth y noson olaf, a natur wedi bod yn gwgu drwy'r dydd cymylau duon brochus yn ymwibio draws y ffurfafen las, ac yn tywyllu pelydrau llachar yr haul; ond er cymylu o'r haul, yr oedd y gwres yn llethol, a hawdd oedd teimlo'r ystorm yn dod o bell. Gwyddai'r adar hefyd fod y ddrycin ar eu gwarthaf: distawodd eu cân, safodd eu gwaith, ac ni welid hwy yn picio of frigyn i frigyn gan drydar ar ei gilydd a dyfal gasglu ymborth i'r rhai bychain a ddisgwylient wrthynt. Na, safent yn swrth a'u pennau yn eu plu ar y canghennan mwyaf cysgodol, fel pe'n ymbaratoi i wneud eu goreu o'r gwaethaf. Gellid gweled y ceffylau yn carlamu'n orwyllt tua'r coedwigoedd, tra'r taranau yn clecian o graig i graig; dolefai'r praidd yn ofnus gan dyrru at ei gilydd fel pe'n teimlo fod diogelwch mewn rhif. Anelu am y corlannau a wnae'r daoedd yn lluoedd tristfawr, canys yr oedd yn fachlud haul ac yn amser godro; udai'r cŵn yn aflafar, ac ni cheid taw arnynt nes eu gollwng i'r ty. Eithr yr hyn a dynnai fy sylw fwyaf oedd cwhwfan yr ysguthanod a lechent yn y llwyn bedw gylch y ty; yr oedd eu cŵ-cw fel rhyw gyfeiliant lleddf-dyner wedi pob taran. ac fel pe'n ceisio cysuro ei gilydd. Ond dal i dduo yr oedd y wybren, a'r mellt fforchog, fflamgoch, yn gwibio ac yn gwau fel seirff tanllyd, a'r taranau yn rhuo fel magnelau, gan siglo'r creigiau cylchynnol. Ond yn y bwthyn coed yr oedd cân a thelyn, ac aclwyd lawen: plantos bach yn canu, â'u lleisiau fel y wawrddydd, hen ac icuainc a'u pennill yn eu tro, a thinc y tannau tynion yn llanw'r bwlch yn hapus pan fyddai'r awen yn gorffwys ar ei rhwyfau. Eithr a ni'n ceisio boddi'r storm a'r hiraeth mewn noson lawen, daeth taran a fuasai'n casglu nerth ar yr uchelderau, debygaf, i daro ar y bwthyn bychan nes yr oedd yn siglo fel corsen ysig, a thannau'r delyn yn torri o un i un dan fysedd celfydd y telynor; a bu dychryn a braw yn y cwmni diddan. Ond unwaith y cawsom ni fynd allan i'r ystorm, a bod yn dystion o'i mawredd a'i gogoniant, trodd yr ofn yn edmygedd, a'r dychryn yn fwyniant bythgofiadwy. Yr oedd yn gaddugawl dywyll ond pan fflachiai ambell i fellten eirias drwy'r tywyllwch dudew, gan roi i ni gipolwg ar fyd newydd spon. Nid yr un oedd y Fro dan wenau haul a than wg yr elfennau, a rhyw deimlad rhyfedd oedd bod mewn nos a dydd bob yn ail eiliad o hyd, canys gwibiai'r mellt gyda chyflymdra dychrynllyd, gan roi rhyw gylchdro o amgylch y cwm. Weithiau dringai lethrau'r Mynydd Llwyd o lam i lam, fel hydd yn ffoi rhag yr heliwr, ac wedi cyrraedd y copa gwyn, gwasgarai'n fil o wreichion gan droi'r ia oesol yn dân ysol. Cymerai un arall ei thaith drwy'r coed, gan ddawnsio ar y brigau uchaf neu gyniwair drwy'r drysni a throi'r glesni a'r blodau fel gwawl y nef. Daeth un i ymyl y cartref lle y safai hen fedwen dalgref a welsai lawer storm cyn hyn. Plethodd ei breichiau tanllyd o amgylch ogylch y pren gan ei gofleidio i farwolaeth; mewn fflach y bu'r mall, ac mewn amrantiad y collodd ei nerth a'i degwch; syrthiodd yn ol ar fynwes yr hen fam a'i meithrinasai mor dyner.

Tra'r mellt ar eu hymgyrch fel hyn, ni phallai udgorn câd y taraneu, ac ni fu udgymn yn adsain yn ogoneddusach erioed,—atebent ei gilydd o gopa pob mynydd ac o grombil pob ceunant, nes diasbedain drwy'r wlad am filltiroedd. A ninnau'r cwmni mud yn cael edrych ar filwyr y nef yn gwneud eu gwaith. Gymaint o amser, a dyfais, a chyfoeth sy'n mynd i ddysgu rhyfela, onide? a brenhinoedd a theyrnasoedd yn cyfrif eu milwyr wrth y miloedd, a dim ond i Frenin y brenhinoedd anfon un o'i filwyr i'r gâd, gall chwalu byddinoedd y byd megys tywod o flaen corwynt.

Ond a ni'n edrych ar yr ystorm ac yn ei theimlo i eigion ein calonnau, graddol beidiai'r mellt, a chlywid rhu y daran yn dod o bell, fel pe'n chwyrnu'n anfoddog mewn llynclyn ar lethr Gorsedd y Cwmwl; teyrnasai tywyllwch —bron na ellid ei deimlo gan mor llethol ydoedd, a'r distawrwydd ofnadwy wedi'r fath gynnwrf yn gwneud i'r galon guro'n boenus, dan bwys teimladau dilafar. Ond wele'r ffurfafen ddu yn agor ei hystordai yn llu, gan dywallt ei mil ddefnynnau mân i ddisychedu'r hen ddaear grasboeth, ac i ireiddio gwellt y meusydd. Du yw pob storm i'r llygad di—ffydd, ond rhyfedd fel y blodeua ambell gymeriad dan groesau a gorthrymderau bywyd, onide? Mae'n gweled drwy'r düwch i gyd, ac wrth ddal i syllu fry yn derbyn yn helaeth o'r defnynnau bywiol sy'n disgyn o ganol yr ystorm. Bron nad oeddym yn gweled natur yn agor ei breichiau led y pen pan ddechreuodd y gwlaw maethlon ddisgyn ar ei mynwes. Teimlem yn llawen a diolchgar fod y fendith wedi dod wedi cymaint paratoi a disgwyl, canys yr oedd pob deilen a glaswelltyn yn eiriol yn daer er's wythnosau am ymgeledd.

Faint o honom sydd wedi sylwi tybed mor anhraethol swynol y mae natur yn diolch am ei bendithion? Tra cenhadon yr awyr yn cyhoeddi y newyddion da mewn dull dipyn yn rhwysgfawr a thristfawr i galonnau bychain y llawr, llechai pob cyfaill asgellog yn fud a syn, ffoi i'r gwenyn gwyllt oedd gynau'n suo ganu wrth ddiwyd sugno'r mêl, i'w llochesau celfydd yng nghalon hen foncyff draw; swatiai'r blodau yng nghesail ei gilydd, a gwnae'r deilios gwyrdd eu goreu i'w noddi a'u calonogi; mae ffynhonnau eu perarogl wedi eu cau yn dŷn, rhag gwastraffu adnoddau mor werthfawr mewn cylchoedd mor anghydnaws. Ond pan ddychwelo'r cenhadon i'w cartref fry, ac y teymaso tangnefedd a distawrwydd, ac y disgynno y tyner wlaw fel olew ar ddyfroedd aflonydd, mor dlws a phêr y croesaw: mae pob deilen yn ymloewi, a phob deryn drwy'r wig yn prysur ymbincio ac yn lledu ei esgyll mewn gwynfyd wedi'r hir gaethiwed, ac yn torri allan i ganu fel yr eos yn y nos. Ni all y coed a'r blodau ganu, ond llanwant yr holl wlad â'u perarogl; dyna eu dull hwy o ddiolch i'r Crewr tirion am ei ryfedd ddaioni: a pha falm mewn byd pereiddiach nag arogl y blod'yn gwiw? Mae natur yn ei holl gysylltiadau yn rhoi ei goreu a'i phuraf ar allor ei diolch. Gwyn fyd na chaem ni lygaid i'w gweled, a'i deall, a'i hefelychu yn well, onide?

Aeth rhyw ochenaid o ddiolch drwy'r cwmni distaw pan ddechreuodd y gwlaw dywallt, a theimlem fel pe wedi dadebru o ganol rhyw freuddwyd cymysglyd. Yr oedd sirioldeb yr aelwyd yn dderbyniol iawn wedi'r fath gynhyrfiadau. Y mwyaf didaro ynghanol yr elfennau oedd yr hen gi hela orweddai ar ei hyd cyhyd o flaen y tân, yn chwyrnu'n braf, wedi cael y gwres a'r noddfa glyd i gyd. iddo ei hun am ysbaid awr, ac yr oedd arno flys dangos ei ddannedd pan drespaswyd ar ei etifeddiaeth; ond hawdd fu ei ddenu â chunog o laeth.

Er ei bod yn hwyr o'r nos, a phawb yn flinedig, nid oedd gorffwys i fod heb dalu diolch a gofyn nodded. Yr oedd naws a pherarogledd y blodau ar y ddyledswydd deuluaidd y noson honno: yr oeddym wedi bod ar drothwy yr anweledig, a miwsig y Llys wedi ein gwefreiddio a'n hysbrydoli.

Mae gan bawb o honom ryw nôd mewn oes, a rhyw gysegrfan i fynd iddo mewn adgof pan gaffer egwyl ynghanol corwynt bywyd. Ni allai neb o honom ddweyd dim am y ddyledswydd y noson honno,-dim ond teimlo, a chofio, a thrysori.

Agorem y ffenestri a'r drysau led y pen i oeri ac ireiddio wedi cymaint gwres: a buan y daeth cwsg i daenu ei fantell yn dirion dros y rhan fwyaf o honom. 'Doedd ryfedd fod gwrid y rhos ar ruddiau'r plant tra'n cael anadlu awyr iachus y mynydd drwy'r nos, canys nid oes eisieu clo na chlicied ar ddrysau a ffenestri bythynnod yr Andes. Ca'r sêr ddod i hofran a gwylio wrth ben pob cwrlid, ac â'r lloer ar daith ymchwiliadol drwy'r ystafelloedd er cael gorffwys ar wyneb ei hanwylyn, a chwery'r awel falmaidd drwy bob congl, gan buro a pher- ciddio erbyn toriad gwawr y dydd newydd. Clywir y daeodd yn cnoi cil yn hapus ar felusion y dydd. Mae'r gwenith addfed sydd o flaen y ty yn codi ei ben yn dalog wrth deimlo'r lleithder bywiol yn ymgeleddu ei wreiddiau, ac mae'r gwynt yn chwareu ar y tannau euraidd nes llanw'r awyrgylch â'i hwiangerdd.

Ond dacw'r ddyllhuan wedi dod allan i chwilio am swper, ac mae ei gwdi-hw yn merwino'r glust, ac yn achos i aml un gael hunllef; ond 'rwyf fi yn dipyn o ffrynd i'r gwdi-hw hefyd: mae golwg hynod freuddwydiol arni, a phe buasai'n gallu barddoni 'rwy'n siwr y gwnae bryddest benigamp ar ryfeddodau'r nos.

Rhyw noson rhwng cwsg ac effro fu'r noson olaf yn yr Andes: anodd oedd ymdawelu wedi'r fath olygfeydd; ac y mae yna ddistawrwydd rhy lethol i gysgu ynddo, a rhyw dawelwch felly ddaethai dros y Fro wedi peidio o'r gwlaw-natur i gyd yn gorffwys gan ddisgwyl cm y wawr. Minnau hefyd a orffwysais, ond nid heb gofio mai dyma fy noson olaf yng rgwlad y mynyddoedd, ac nid heb ddiolch am y gwynfyd a gawswn.



Nodiadau[golygu]