Neidio i'r cynnwys

Dros y Gamfa/Colli'r Rhaffau

Oddi ar Wicidestun
Llys y Tylwyth Chwim Dros y Gamfa

gan Fanny Winifred Edwards

Tylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a'r Tylwyth Teg

X. Colli'r Rhaffau

Ond nid oedd llawenydd Hywel yn llawenydd digymysg wedi i'r braw cyntaf wisgo ymaith, dechreua y Tylwyth Chwim atgofio a holi ei gilydd pa bryd y cawsant yr olwg olaf ar y rhaffau, ac yn unfryd yn sicrhau mai wrth y goeden lle y cylymwyd Hywel, a Hywel ar ôl iddynt apelio ato yn gorfod cadarnhau mai yno y gadawyd hwynt.

"Paham na faset ti yn galw ein sylw atynt, y gwalch dichellddrwg?" gofynnai un ohonynt.

Ac ebai yntau,—"Anghofiais bopeth amdanynt wrth eich dilyn chwi ar y fath ffrwst i'r winllan pan ganodd yr utgorn."

Mae dy esgus yn eithaf parod; caiff wneud y tro hyd nes y deuwn o hyd i'r rhaffau.

Tra yn siarad fel hyn yr oeddynt yn cyflymu ymlaen o'r naill goeden i'r llall, ond yr oedd cymaint o goed o'u cwmpas ymhobman, a llu ohonynt mor debig i'w gilydd, fel mai nid ychydig o gamp oedd dod o hyd i'r un y gadawyd y rhaffau wrthi, ac fel yr oeddynt yn parhau i chwilio, dyfnhâi y pryder ar eu hwynebau, ac oddiwrth yr hyn ddywedent y naill wrth y llall deallodd Hywel paham yr oedd colli y rhaffau yn peri cymaint o ddychryn iddynt. I ddechreu, nid oedd ym meddiant y tylwyth i gyd ond y rhaffau oedd ar goll, ac os na ddeuid o hyd i'r rhain byddai yn rhaid i'r rhan fwyaf ohonynt droi allan i chwilio am eu defnydd oedd yn hynod o brin ac anodd ei gael, ac fe gymerai lawer iawn o amser, ond nid oedd yr amser gymerid i chwilio ond byr o'i gymharu â'r amser gymerid i blethu rhaffau newydd. Mwy na hyn, ymddiriedwyd y rhaffau i'r cwmni gan y llys fel arwydd o anrhydedd, am eu bod drwy eu gweithredoedd yn y gorffennol wedi profi eu hunain y cwmni mwyaf beiddgar a chyfrwys feddai y Tylwyth. Ond os byddai iddynt ddychwelyd i'r llys hebddynt, rhaid fyddai i bob un ohonynt dderbyn cosb drom, rhan o ba un oedd eu hamddifadu o'u rhyddid, ac ni fuasai cyflwyno Hywel i'r tylwyth yn lliniaru ronyn ar y ddedfryd. Deallodd Hywel hefyd nad hyn oedd unig gynnwys y gosb, ond fod yn bosibl i rywbeth llawer mwy ddigwydd os na ddeuid o hyd i'r rhaffau. Ond er clustfeinio, methodd yn lân a chael allan pa beth oedd hynny.

Tra yr oedd y Tylwyth Chwim yn cwyno ac yn griddfan, ac yn chwalu y gwellt a'r mwsog a phopeth oedd ar eu ffordd â'u traed ac â'u dwylo, chwiliai minteioedd o Dylwyth y Coed yma ac acw yn y goedwig am Hywel, a'r fintai fwyaf nid yn unig mewn rhif, ond hefyd mewn sêl yn cael ei harwain gan Dylwyth y ddwy gadwen. Nid oedd ball ar ei ymdrechion i ddod o hyd i Hywel, na therfyn ar ei ddyfalbarhâd, ac yr oedd drwy hyn wedi ennill edmygedd a chydymdeimlad y minteioedd eraill i gyd. Ac os byddai i rai ohonynt glywed neu weled rhywbeth dybient o bwys gyda'r gwaith, yn ddiymdroi ânt i'w hysbysu, gan ei ystyried yn brif arweinydd y minteioedd. Ac oddeutu yr adeg y dechreuai y Tylwyth Chwim chwilio am y rhaffau, yr oedd rhai o Dylwyth y Coed yn hysbysu Tylwyth y ddwy gadwen fel y llwyddasant i droi yn ôl y tylwyth gyda'r olew glynu, gan ychwanegu,—"Ond nid oedd Hywel gyda hwy, ac ofnwn ei fod wedi ei lusgo erbyn hyn i'w llys."

"Na," ebai yntau, "y mae fy mrawd yn aros o fewn y goeden onnen yng ngolwg porth eu llys, ac â'i lygaid treiddgar yn ddiarwybod iddynt hwy yn gallu gweld pob un aiff i mewn ac allan drwy y porth. Pan welais Hywel gyntaf, ar fy ffordd at fy mrawd yr oeddwn, a dyna'r gyfrinach oedd ganddo i ddweyd wrthyf, fod haid y rhaffau newydd adael y llys."

Ac ebe un o'r lleill,—"Mae ein dyled yn fawr iddo, buasent wedi dod ar ein gwarthaf a'n niweidio lawer gwaith, onibai ei fod ef yn gwylio mor ddygn a medrus."

Ar hynny y mae dau arall o'r tylwyth yn cyrraedd hyd atynt, ac meddent,—"Mae Tylwyth y goeden onen wedi ein hanfon atoch i ddweyd fod haid y rhaffau wedi bod o fewn ychydig i borth eu llys, ac yna wedi troi yn ôl yn sydyn, a bod yn eu mysg un mawr mewn gwisg fel eu gwisg hwy, ond yn llawer trymach ei droed, a mwy araf ei ysgogiadau."

Pan glywsant hyn aeth yn siarad brwd rhyngddynt ar unwaith. Pob un yn gofyn cwestiwn haws ei ofyn na'i ateb, megis,—"Ai tybed mai Hywel ydyw?" "A ydyw yn bosibl iddynt gael gwisg ddigon mawr iddo?" "A fu Hywel yn y llys?" "A oedd Hywel wedi uno â hwy a chymeryd eu gwisg o'i fodd?" a llawer o gwestiynau cyffelyb. Ac ebe Tylwyth y ddwy gadwen wedi gwrando am ysbaid arnynt,—"Gan nad ydym yn alluog i ateb yr un o'r cwestiynau ydym yn ofyn, oni fyddai yn well i chwi fynd i chwilio am y Tylwyth Teg? Maent hwy yn gwybod llawer o hanes y Tylwyth Chwim, ac yn barod i wneud eu goreu i'n helpu ninnau bob amser. A oes un ohonoch wedi eu gweld yn ddiweddar? Fel y gwyddoch, er yr amser y newidiodd y Tylwyth Chwim y ddwy gadwen, yr wyf fi dan orfod i gadw oddiwrthynt, hyd nes y byddaf wedi llwyddo i goshi y Tylwyth Chwim, ac er mor bwysig yw hynny i mi, gwell gen i dreulio fy amser yn gyntaf i geisio dod o hyd i Hywel."

Ac ebe un o'r lleill,—"Mi glywais i y Tylwyth Teg yn canu neithiwr y tu ôl i ogof y grisial."

"Beth oeddynt yn ganu?"

"Y gân oeddit ti yn ganu y noswaith cynt." Ymdaenodd prudd-der dros wyneb Tylwyth y ddwy gadwen, ac meddai, "Cân o hiraeth ydyw. Dyna y Tylwyth Teg gariodd Hywel a Charadog, a chyda hwy cyn hynny y byddwn i yn treulio yn ddedwydd y rhan fwyaf o fy amser, ond wedi i mi eu camarwain, cyn y caf eu cwmni eto rhaid i mi ennill ffafr eu brenhines yn ôl. O na ddeuai y cyfle yn fuan. Ond i ba ddiben y collir amser i siarad ac i ofidio yn y fan hon? Yfory, cyn toriad y wawr, pan y bydd Tylwyth Teg yn dychwelyd o'r dawnsfeydd i'w llys, caiff dau ohonoch fynd yno i ofyn am bob hysbysrwydd allant roi ynghylch gwisg y Tylwyth Chwim."

Pan glywsant hyn dyna hwy gyda'i gilydd yn erfyn am gael eu hanfon ar y neges,—"Ni fum i yno ers amser maith," ebe un; "Na finna," ebe un arall, "ac yr wyf yn hiraethu am gael mynd"; "Mae gen i gyfeillion yno," ebe un o'r lleill. "'Rwyf finnau yn gwybod y ffordd," oedd rheswm un arall dros wneud y cais. Ac ebe Tylwyth y ddwy gadwen, "Cei di sydd a chyfeillion yn y llys, a thithau sydd yn gwybod y ffordd, fynd gyda'ch gilydd. Bydd cyfeillion yn y llys, a gwybod y ffordd, yn hwylustod i chwi gael eich neges yn ddiymdroi. Arhoswn ninnau amdanoch o gwmpas y llecyn yma."

Nodiadau

[golygu]