Neidio i'r cynnwys

Dros y Gamfa/Ffoi! Ffoi!! I Ba Le?

Oddi ar Wicidestun
Tylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a'r Tylwyth Teg Dros y Gamfa

gan Fanny Winifred Edwards

Cartef Santa Clôs

XII. Ffoi! Ffoi!! I ba le?

Pan yr oedd llawenydd yn cynhyddu a gobaith yn cryfhau ymhlith Tylwyth y Coed, yr oedd anobaith a braw bron llethu y Tylwyth Chwim yn eu hymchwil am y rhaffau, ac fel y parhaent i fethu dod o hyd iddynt, sylwodd Hywel fod eu hwynebau yn mynd yn hagr, a'u geiriau yn frathog, ac edrychent, nid yn unig fel pe buasent yn ei gasau ef, ond yn casau ei gilydd hefyd lawn cymaint, ac elent o gwmpas y coed a'r gwrychoedd gan gwynfan a bygwth, ac edliw y naill i'r llall rhyw weithredoedd na chlywsai Hywel erioed sôn amdanynt, nes codi ofn ac arswyd arno, a pheri i'w ddymuniad am gael ei waredu oddiwrthynt fynd yn fwy, fwy angerddol. Os byddai iddynt ddod ar draws mwsog prydferthach na'i gilydd, wedi sathru arno byddent yn ei gicio yma ac acw. Rhwygent ddail y coed, gan falu y brigau ddisgynnai o fewn eu cyrraedd. Yr oeddynt mewn cynddaredd, ac ofnai hyd at welwi iddynt ymosod arno a thynnu y dillad oddi amdano a darganfod y rhaffau. Credai y buasai'r canlyniad yn rhywbeth rhy arswydus iddo geisio ei ddirnad. I ychwanegu at eu trueni, tybiodd un ohonynt ei fod wedi clywed sŵn tusw dail Tylwyth y Coed yn yr awyr, a thystiai ei fod yn sicr fod mintai fawr ohonynt gyda'i gilydd. Ac ebai'r arweinydd,—"Nid wyf fi yn malio gronyn yn Nhylwyth y Coed," ond ychwanegodd, ga'n ostwng ei lais, "os daw cymaint ag un ohonynt o hyd i'r rhaffau, bydd ar ben arnom."

"O, Dylwyth y Coed," ebai Hywel wrtho ei hunan, "brysiwch, brysiwch ataf."

Ymhen ychydig ar ôl hyn, ebai un o'r lleill,—"Nid yw Hywel fel pe'n chwilio â'i holl egni."

"Nac ydyw," ebai un arall, "mae cael cyfle i ffoi oddiwrthym o fwy o bwys ganddo na dod o hyd i'r rhaffau."

"Cyfle i ffoi, yn wir," ebai'r arweinydd, "pan welwch ddail poethion eto dangoswch hwynt i mi, caiff orwedd yn eu canol, bydd yn dda ganddo gael chwilio o ddifrif pan y caiff godi ohonynt."

"Bydd," ebai un o'r lleill, "ond bydd yn rhaid iddo dynnu ein dillad ni oddi amdano cyn y gorwedda yn y dail poethion."

"Gofalaf fi am bopeth felly," ebai'r arweinydd, "chwilia di am y dail poethion."

"Ho, chwilio am ddail poethion yn awr, beth am y rhaffau?"

"Iâ, beth am y rhaffau?" gofynnai un o'r lleill mewn tôn sarhaus.

"Chwiliwch am y rhaffau a'r dail poethion, y fi ydyw'r arweinydd."

"Arweinydd, yn wir," ebai y mwyaf beiddgar ohonynt, "rydym wedi blino arnat. Y mae y rhaffau yn ein meddiant ni cyn i ti groesi trothwy y llys am dy anturiaeth gyntaf, ac y mae pob un ohonom yn fwy atebol i fod yn arweinydd na thi."

Gyda'r cyfrwysder oedd yn nodweddiadol ohono, ni wnaeth yr arweinydd un sylw ar hyn, ond galwodd yn uchel,—"Dacw ddail poethion. Rhuthrwch ar Hywel a diosgwch y wisg oddi amdano." A dyna Hywel, er nas gallai ganfod dail poethion yn unman yn cael ei amgylchynnu ganddynt, a'u dwylo teneuon fel dannedd cŵn yn gafael ynddo, a'i obaith am gael dianc fel pe ar ddiffoddi. Ond y foment nesaf dyna rhyw berarogl hyfryd yn llenwi'r awyr, a dacw bob llaw yn disgyn fel pe wedi diffrwytho, a'r Tylwyth Chwim gyda'i gilydd yn ysgrechian,—"Blodau'r Tylwyth Teg! Blodau'r Tylwyth Teg!" A chyda hynny tybiodd Hywel fod dail y coed yn rhedeg amdano, nis gallai, gan mor ddirybudd y cyfnewidiad o'i gwmpas, amgyffred fod tyrfa o Dylwyth y Coed mewn gwirionedd wedi cyrraedd gyda'u ffyn a'u tusw dail. Ac er na chymerodd hyn ond dau eiliad neu dri, gwelodd Hywel y tro yma ei gyfle i ddianc, a dringodd fel wiwer i fyny y goeden nesaf ato. Pe bai wedi oedi cymaint ac i gymryd un anadl, buasai yn rhy ddiweddar. Yr oedd dwylo y Tylwyth Chwim wedi eu hestyn amdano, i'w cipio gyda hwy, ond yr oeddynt elliad yn rhy hwyr. Rhaid oedd iddynt redeg heb gael cymaint ag un golwg ar Hywel ym mhen y goeden. A rhedeg wnaethant fel arfer gyda chyflymder teilwng o'u teitl a Thylwyth y Coed yn eu hymlid. A Hywel o ben y goeden yn eu gwylio ac yn ceisio dyfalu beth oedd y blodyn mawr, er yn gaeêdig, oedd fel llusern oleu yng nghanol tusw dail un ohonynt. Gan fod ei holl feddwl ar eu gwylio, nid oedd wedi sylwi fod rhai ohonynt wrth fôn y goeden hyd nes y clywodd un yn dweyd fel hyn,—"Mae un yn ymguddio yn y goeden yma." Ac ebai un arall gydag awdurdod yn ei lais,—"Tyrd i lawr neu bydd dy gosb yn llawer trymach." Ac ebai Hywel gan brysuro atynt,—"Deuaf gyda phleser, rwyf yn hiraethu am eich gweled." Ond er eistedd yn dawel ar bentwr o ddail fel yr oeddynt yn gorchymyn iddo a gwenu'n siriol arnynt, deallodd yn fuan nad oeddynt yn gweled ynddo ond un o'u gelynion. Ac ebai un ohonynt,—"Gelli edrych yn garedig a dymunol, ond nid ydym heb adnabod dy dwyll a dy gyfrwyster."

"Nid yw yn syn gennyf," ebai Hywel, "eich bod yn fy ameu, ond os caf weld Tylwyth y ddwy gadwen, bydd popeth yn iawn." Ar hyn maent yn mynd o'r neilltu ac yn sisial gyda'i gilydd, ac yna yn dod yn ôl ac yn dweyd,—"Daw Tylwyth y ddwy gadwen yma gyda hyn, ac yna fel 'rwyt yn dweyd bydd popeth yn iawn. Gofala ef na chaiff yr un ohonoch ddyrysu rhagor ar ei gynlluniau."

"Mae'n amlwg," ebai Hywel wrtho ei hunan, "nad ydynt yn fy nghredu, ond waeth i mi dewi. 'Rwyf yn llawer mwy hapus yn awr nac y bum ers pan wyf yn y goedwig."

Ar ôl ychydig yn rhagor o sibrwd gwelai ddau ohonynt yn mynd i'r un cyfeiriad ac y rhedodd y lleill, a chlywai un o'r rhai oedd yn aros yn dweyd,—"Goreu po gyntaf i Dylwyth y ddwy gadwen gael gwybod amdano."

"Iê'n wir," meddyliai Hywel, gan graffu i'r pellter a disgwyl yn ddyfal am weld y tusw dail yn dychwelyd. Ac yn wir, heb lawer o oedi, dacw y blodyn melyn i'r golwg, erbyn hyn wedi agor yn llawn, ac fel yr oeddynt yn dod yn nes, ac yn ddigon agos iddo adnabod yr un oedd yn ei gario, yn ei lawenydd neidiodd i fyny a rhedodd i'w gyfarfod gan waeddi,—"A ydych yn fy nghofio, 'rwyf wedi hiraethu llawer amdanoch."

Ac ebai yntau yr un mor llawen,—"O, Hywel, dyma ni wedi cyfarfod unwaith eto." Yr oedd y gweddill o'r tylwyth wedi sefyll ac yn edrych arnynt yn syn, ac ebai Tylwyth y ddwy gadwen,—"Tra y bydd Hywel a minnau yn siarad wrth y goeden acw, caiff y fintai oedd dan fy ngofal i adrodd i'r gweddill ohonoch hanes Hywel, ac egluro paham y mae gwisg y gelyn amdano."

A chychwynnodd â Hywel yn ei ddilyn i eistedd dan y goeden, lle y bu Hywel yn ymguddio. Ac yn y fan honno y mae'n cael yr hanes fel yr oedd Tylwyth y Coed wedi bod yn chwilio amdano, ac mor ofidus oeddynt eu bod wedi ymosod arno â'u tusw dail. "Ond," meddai, "nid oes gan neb hawl i wisgo y gadwen ond y ni, ac nid oedd gen innau hawl i'w rhoi i chwi heb ganiatâd y llys. Ond dyna'r unig ffordd oedd gen i i'ch helpu ar y pryd, ac ni feddyliais y buasech yn cyfarfod y tylwyth cyn i mi gael amser i'w hysbysu amdanoch. 'Roeddynt yn meddwl mai wedi eu lladrata yr oeddych er mwyn plesio y Tylwyth Chwim. Nid oes derfyn ar eu hystrywiau."

"Nac oes," ebai Hywel, "ac nid yw yn syn gennyf erbyn hyn eu bod wedi ymosod arnaf os oeddynt yn meddwl fy mod yn perthyn iddynt hwy." Yna dechreuodd adrodd ei hanes tra yn eu cwmni, ac fel yr oeddynt wedi ei drin, ac mor ffodus oedd iddynt anghofio y rhaffau a gorfod troi yn ôl i'r goedwig i chwilio amdanynt, ac fel yr oedd yntau wedi dod o hyd iddynt a'u cuddio yn ei fynwes. Pan ddechreuodd sôn am y rhaffau sylwodd fod ei gydymaith fel pe'n gweu drwyddo gan gyffro, ac nid oedd ond prin wedi crybwyll ei fod wedi eu cuddio, nad oedd ar ei draed ac yn gofyn,—"A ydynt yn eich mynwes yn awr?"

"Ydynt," ebai Hywel, gan roddi ei law arnynt, "dyma hwy."

"Dylwyth y Coed," ebai yntau ar uchaf ei lais, "deuwch yma."

A dyna hwy yn dod ar redeg o bob congl a chilfach, ac yn sefyll yn llu o'u cwmpas. Ac meddai.—"Beth ddyliech chwi? Mae rhaffau y Tylwyth Chwim ym meddiant Hywel."

Sôn am deimlo yn llawen, ni welodd Hywel erioed y fath arwyddion o lawenydd. Yr oeddynt yn dawnsio, yn chwerthin, yn cofleidio ei gilydd, yn chwifio eu tusw dail, ac fel pe wedi colli pob rheolaeth arnynt eu hunain gan yr hyfrydwch barodd clywed fod y rhaffau ganddo. Ac yr oedd yntau wrth ei fodd yn gwrando arnynt, yr oedd eu lleisiau fel miwsig i'w glustiau. Ond y foment y galwodd Tylwyth y ddwy gadwen am osteg, sâ pob un yn ei le fel delw, dechreua yntau siarad mewn distawrwydd perffaith,—"Mae Hywel wedi gwneud y gymwynas fwyaf â ni drwy gadw y rhaffau, ac os cyflwyna hwy i mi, gallwn atal y Tylwyth Chwim rhag dod byth i'r goedwig yma eto."

"Mae i chwi groesaw ohonynt," ebai Hywel, "gan eu hestyn iddo. Ond sut y gallwch eu hatal â'u rhaffau hwy eu hunain?"

"Drwy eu plethu ar draws y fynedfa i'w porth, ac ni ddaw yr un ohonynt drwodd ar ôl hynny. A ddowch chwi gyda ni i wneud y gwaith yn awr heb golli amser?"

Pan ddeallodd fod yn bosibl i'r rhaffau gyflawni y fath orchestwaith, atebodd yn ddioed,—"Deuaf gyda phleser." Ond cyn cychwyn, teimlai fod yn rhaid iddo gael un dymuniad, a gofynnodd, "A wnewch chwi fod mor garedig a thynnu y wisg boenus yma oddi amdanaf a'i rhwygo yn gareiau?" Nid oedd eisiau ail ofyn, yr oedd hyn yn waith wrth eu bodd, yn gynt nag y gellir dweyd nid oedd y wisg ond pentwr o edau goch ar y llawr. Yna ffwrdd â hwy am y fynedfa i lys y Tylwyth Chwim, gan alw ar y ffordd am Dylwyth y Goeden Onnen. Ac wedi cyrraedd yno y maent yn dechreu plethu y rhaffau, heb yngan gair wrth ei gilydd, a Hywel yn sefyll i edrych arnynt, ac i ryfeddu at eu dull cyflym a chywrain o weithio. Wedi iddynt orffen y mae Tylwyth y ddwy gadwen yn mynd i ben carreg wen fawr, oedd yn ymyl, ac meddai,—"'Rwyf wedi egluro i Hywel paham y curodd rhai ohonoch ef, ac y mae wedi deall ac yn barod i gydnabod nad oedd ond hynny i'w ddisgwyl. Ond yn awr, dyma ni drwy ei gynhorthwy wedi ennill ein rhyddid am y tro cyntaf erioed. Pa fodd yr ydym yn mynd i'w wobrwyo?" Ac ebai y Tylwyth gyda'i gilydd,—"Ei arwain i'n llys a'i groesawu yno." Ac ebai Hywel gyda brys cyn iddynt ychwanegu gair ymhellach,—"Diolch i chwi am eich caredigrwydd yn fy ngwahodd i'ch llys, ond y wobr oreu ellwch roddi i mi fydd trwsio fy nillad, a fy hebrwng drwy y goedwig a thros y gamfa."

Ac ebai Tylwyth y ddwy gadwen,—"Gan mai dyna dy ddymuniad, yr ydym yn sior o dy arwain dros y gamfa, ond nis gallwn drwsio dy ddillad. Y Tylwyth Teg all wneud hynny, ac fe wnant gyda phleser wedi clywed yr hyn wyt wedi wneud i ni. Af atynt heb ymdroi i ofyn iddynt, caiff un ran o'r fintai yma ddod gyda mi, a chaiff y rhan arall fynd gyda thithau. Ewch, ac aroswch amdanom ynghanol y goedwig." Yn y fan honno y mae Tylwyth y Coed yn gwahanu, a Hywel a'r rhai oedd gyd ag ef cyn hir yn cyrraedd canol y goedwig. Ac wedi eistedd yn y llecyn hwnnw, ebai un ohonynt,—"Mae'n dda gen i feddwl y caiff Tylwyth y ddwy gadwen ei groesawu'n ôl i ffafr y Tylwyth Teg."

"Mae'n dda gen innau," ebai un arall, "gan fod rhai ohonynt yn hiraethu amdano. A chawn ninnau i gyd heno ein gwahodd i'w llys i lawenhau gyda'n gilydd fod y goedwig yn rhydd." Ar hyn y mae un ohonynt oedd wedi dringo i ben un o'r coed yn galw,—"Hywel, dring i fyny yma. Gwelaf dy gyfaill Caradog yn y pellter yn troi tuag adref, a baich o wiail helyg ar ei gefn."

Fel wiwer yr oedd Hywel i fyny yu edrych ar Caradog â'i faich gwiail yn mynd heibio y gwrychoedd a'r coed. A sylwodd nad rhyw wiail cyffredin oeddynt, ond gwiail oedd yn disgleirio fel arian, ac yr oedd cannoedd ohonynt yn ei faich, ac eto nid oedd y baich yn llethu Caradog, elai ymlaen yn heini ac ysgafn ei droed. "O wiail prydferth," ebai, "buasai un o'r rhai acw yn werthfawr. Ym mha le y cafodd hwynt, tybed?" Ac ebai ei gydymaith,—"Clywais y Tylwyth Teg yn dweyd eu bod yn disgwyl cyfle i'w helpu, a gwelaf fod eu dymuniad wedi ei roddi iddynt. Ni fuasai Caradog yn gallu dod o hyd iddynt ei hunan onibai fod y Tylwyth Teg, drwy rhyw ffordd gyfrin, wedi ei arwain atynt. Bydd ei dad yn llawer mwy cyfoethog nag y bu erioed o'r blaen, ar ôl gwerthu y basgedi wna â'r gwiail yna."

"'Roedd o'n edrych yn hynod o hapus," meddai Hywel, gan ddisgyn oddiar y goeden, wedi dal i'w wylio nes yr aeth o'r golwg.

"Mi fyddaf finnau yn hapus pan gaf fynd dros y gamfa. A fydd y Tylwyth Teg yn hir eto cyn dod yma?"

"Na fyddant; mae'n ddiameu eu bod yn barod wedi gadael eu llys ac ar eu taith atom."

"A yw yn bosibl i mi gael eu gwylio tra byddant yn trwsio fy nillad?"

"Nac ydyw. Rhaid i chwi fynd i gysgu gynted ag y clywn eu sŵn yn neshau. Ond wedi i chwi ddeffro, bydd eich dillad mor gyfan a phan oeddych yn cychwyn oddi cartref yn y bore, a Thylwyth y Coed yma i'ch arwain tros y gamfa. Ust! dyna sŵn eu miwsig yn y pellter. Gorweddwch a chauwch eich llygaid."

Ufuddhaodd Hywel yn ddiymdroi, a dyna lle 'roedd yn clustfeinio am y miwsig, ond er gwrando a gwrando, nis gallai glywed yr un nodyn ohono. A dyna sŵn troed yn rhywle, a'r sŵn yn dod yn nes, nes, yn ddigon agos iddo glywed y brigau mân yn clecian oddi tano. Ac ebai Hywel wrtho ei hunan,—"Pwy fuasai'n meddwl fod troed y Tylwyth Teg mor drwm. Ond hwyrach fod yna dyrfa ohonynt." Ar hynny dyna rhyw law yn gafael yn ei ysgwydd ac yn ei ysgwyd. Ac ebai Hywel drachefn,—"A phwy fuasai'n meddwl fod ganddynt law mor galed?" Ust! dyna rhyw lais yn galw arno,—"Hywel! Hywel!"

"Wel," meddai, "dyna lais yr un fath yn union a llais tada, mae'n rhaid i mi gael agor fy llygaid." Agorodd hwy, a gwelodd ei dad yn sefyll yn ei ymyl. Wedi rhyw eiliad o syllu'n syn arno, neidiodd i fyny a chydiodd yn dyn yn ei law, ac meddai ei dad,—"Beth wnaeth i ti ddod y ffordd hyn?"

"Meddwl y buaswn i 'n medru dod adref yn gynt i gael dod i'ch cyfarfod, tada."

"Ac yn lle hynny mi êst i gysgu yn y fan hyn. Wel, tyrd i ni gael mynd gynta medrwn i ni gael cyrraedd y tŷ o flaen dy nain. Wedi mi fynd yno i chwilio amdanat, daeth yn ôl gyda mi ond daliodd hi i fynd ar hyd y ffordd. Fedra hi ddim meddwl am fynd i'w gwely heno heb gael gwybod fydda ti wedi cyrraedd." Ac wrth wrando ar ei dad yn siarad, ac edrych yn ei lygaid caredig, anghofiodd Hywel bopeth am y Tylwyth Chwim, Tylwyth y Coed, a'r Tylwyth Teg. Yn wir, ni chofiodd ddim amdanynt, hyd yn oed pan yn cael ei gario gan ei dad dros y gamfa.

Nodiadau

[golygu]