Dros y Gamfa/Tylwyth y Coed
← Y Chwibanogl | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Y Tylwyth Chwim → |
V. Tylwyth y Coed
Pan ddaethant at Hywel, parhâi i gysgu, ac yn bur ddiseremoni y maent yn ei gario i'r llecyn lle'r cyfarfyddodd â Charadog, ac wedi ei osod i orwedd yn y gwellt, prysurant ymaith. Ni pharhaodd cwsg Hywel yn hir, ond fel y gellid disgwyl, pan ddeffrôdd yr oedd yn methu'n lân ac amgyffred pa le'r ydoedd, ac meddai, gan edrych yn syn o'i gwmpas,—"Sut yn y byd y deuais i i'r fan hyn? Y goedwig yma ydyw y lle rhyfedda welais i erioed. 'Rydw i 'n mynd i gysgu mewn un lle ac yn deffro mewn lle arall. Dyma y fan y cyfarfyddais â Charadog, a dyma'r gangen a'r goeden lle'r oedd yn siglo ei hunan, a dyma'r llecyn lle safai Tylwyth y Coed i siarad hefo mi. Lle mae o tybed erbyn hyn? 'Roedd o 'n deyd mai rhyw Dylwyth Chwim a'm cariodd at y coed helyg, a oes a wnelo rheini rywbeth ysgwn i a fy nwyn yn ôl i'r fan hyn? Os mai hwy sydd yn fy nghario fel hyn o un lle i'r llall, mae'n rhaid eu bod yn gryfach, neu os nad yn gryfach, yn fwy cyfrwys na Thylwyth y Coed a'r Tylwyth Teg gyda'i gilydd. Beth bynnag am hynny, y mae'n rhaid i mi symud o'r fan hyn a chwilio fy hunan am y llwybr sy'n arwain at y gamfa. A chan na chaf weld y Tylwyth Teg, gobeithiaf y caf lonydd gan y ddau dylwyth arall."
Ond nid oedd Hywel i gael ei ddymuniad. Yn wir, nid oedd wedi cerdded lawn ddwsin o lathenni nac y daeth yn sydyn heibio trofa yn y llwybr i gyfarfod nifer fawr o Dylwyth y Coed, a phob un ohonynt â gwialen hir yn ei law a thusw o ddail ar ei phen, a phan welsant Hywel y maent i gyd yn sefyll ac yn edrych, neu yn fwy cywir, yn rhythu arno, ac yna, yn hollol ddirybudd, yn rhuthro ato ac yn dechreu ei guro â'r tusw dail ar draws ei goesau a'i freichiau, a Hywel yn llefain,—"O peidiwch, peidiwch. Beth wyf wedi wneud i haeddu cael fy nghuro gennych?" A hwythau yn dal i guro ac i siarad ar draws ei gilydd,—
"Mae wedi yspeilio un o'n tylwyth."
"Mae'n gwisgo ein cadwen."
"Rhaid ei fod am ladrata ein coed."
"Tyn y gadwen a dyro hi i ni."
Heb oedi, tynnodd Hywel y gadwen, a lluchiodd hi i'w canol, ac ar unwaith y maent yn peidio a'i guro, ac ebai yntau, gan deimlo bron wedi colli ei anadl wrth geisio osgoi y gwiail,—"Pam na fuasech chi 'n deyd mai eisiau y gadwen oedd arnoch? Ei chael yn anrheg gan un o'ch tylwyth wnes i. Y mae i chwi groeso ohoni; bu'n fwy o rwystr nac o help i mi."
Yr oedd Hywel yn siarad ar uchaf ei lais, ond nid oedd Tylwyth y Coed yn gwrando ar yr un gair a ddwedai. Yr oeddynt i gyd yn ymwasgu o gwmpas yr un oedd a'r gadwen yn ei ddwylaw, yn ei hedrych yn fanwl, ac yn sibrwd yn gyflym a'i gilydd, ac wedi cael boddlonrwydd ynglŷn â'r gadwen, y maent yn troi at Hywel, ac ebai un ohonynt,—"Tyrd gyda ni i'n llys."
"Na ddeuaf," ebai Hywel, gan afael yn dyn â'i freichiau mewn coeden oedd yn ymyl.
"O'r goreu, ni wnawn dy orfodi." A chyda dweyd hyn y maent yn prysuro ymaith.
Ac ebai Hywel,—"Rhyw greaduriaid rhyfedd ydyw Tylwyth y Coed. 'Rydw i bron a dechreu meddwl mai hwy ydyw y tylwyth i'w hosgoi ac nid y Tylwyth Chwim."
Oherwydd i'r syniad yna ddod i'w feddwl, collodd gyfleustra pe wedi manteisio arno, fuasai yn ei ddwyn i ganol cyfeillion, ac yn fuan wedi hynny, dros y gamfa. Ar eu ffordd i lecyn neilltuol yn y goedwig i fwynhau eu hunain yr oedd Tylwyth y Coed pan y cyfarfyddasant â Hywel. Ond parodd gweled y gadwen am ei wddf, a'i chymryd oddi arno, gymaint o gynnwrf yn eu plith fel y penderfynasant ddychwelyd i'w llys i hysbysu y gweddill o'r Tylwyth yr hyn oedd wedi digwydd, ac i gyflwyno y gadwen yn ôl i'w pherchennog. Darn o dir crwn oedd eu llys wedi ei amgylchynnu â gwrychoedd uchel, yn llawn o ddail gwyrdd, y gwyrdd tlws hwnnw welir yn niwedd y Gwanwyn, ac un bwlch yn y gwrych wedi ei dorri ar ffurf porth yn arwain iddo. Yr oedd y llawr fel melfed esmwyth, ac yma ac acw drwy y gwrych yr oedd blodau mawr melyn yn gwthio eu pennau ac yn llenwi y lle â pherarogl hyfryd. Ac fel yr oedd y rhain fu yn curo Hywel yn neshau, sefai Tylwyth y ddwy gadwen o flaen un o'r blodau, fel pe'n myfyrio wrtho ei hunan, ond torrwyd ar ei fyfyrdodau gan sŵn Tylwyth y tusw dail yn neshau at y porth, a chyda nifer o rai eraill aeth i'w cyfarfod, a phan yn cyrraedd hyd atynt, gwelai un ohonynt a'r gadwen hirgrwn yn hongian wrth ei dusw, a chlywai ef yn traethu'n hyawdl fel yr oeddynt wedi cyfarfod Hywel, a'r hyn ddigwyddodd ar ôl hynny, ac yn diweddu gyda gofyn,—"Eiddo pwy ydyw?"
"Y fi bia'r gadwen," ebai llais yn llawn prudd-der. A phan welwyd pwy oedd ei pherchennog estynwyd y gadwen iddo ar unwaith.
"Ond," meddai un ohonynt, "pam yr wyt ti mor brudd?"
"O," ebai yntau, "y mae fy nhylwyth wedi gwneud camgymeriad mawr heddiw. Dyma'r ail newydd drwg i mi. Y bore clywais fod un oeddwn wedi addo ei helpu wedi ei gipio i rywle gan y Tylwyth Chwim, cyn i'r help oeddwn yn anfon iddo ei gyrraedd. Ac yn awr, dyma chwithau wedi ei gyfarfod, ac wedi ymddwyn tuag ato fel gelyn, pan nad ydyw ond bachgen diniwed wedi colli ei ffordd yn y goedwig. Y fi roddodd y gadwen iddo, a dyma'r hanes."
Nid oedd ball ar gydymdeimlad Tylwyth y Coed pan glywsant hanes Hywel, ac i ddangos mor ddwfn eu gofid oherwydd yr anffawd, y mae y rhai fu yn ei boeni yn malu y gwiail a'r tusw dail yn ddarnau mân, ac yn cyflwyno yr hawl i gario gwiail i eraill o'r tylwyth, hyd nes y deuid o hyd i Hywel.
Ac meddai Tylwyth y ddwy gadwen,—"Bydd i mi dreulio bob dydd o'r bore hyd yr hwyr i chwilio am Hywel, ni orffwysaf nes cael ei gyfarfod eto."
Ac ebai un arall,—"Daw un rhan ohonom i'th ganlyn, ac fe aiff rhan arall i chwilio o'r hwyr hyd y bore."