Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896)/Cymry

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Drych y Prif Oesoedd (Detholiad 1896)

gan Theophilus Evans


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Rhufeiniaid

DRYCH Y PRIF OESOEDD.




RHAN 1.

PENNOD I.

Cyff-genedl y Cymry, a'u hymdaith i'r ynys hon.

GWAITH mawr, ond gwaith salw a chwith, yw adrodd helynt y Cymry,—eu haflwydd a'u trafferthion byd ymhob oes a gwlad y buont yn preswylio ynddi er pan gymysgwyd yr iaith yn Nhŵr Babel. Canys onid peth galarus a blin yw adrodd mor aniolchgar oeddent i Dduw, mor chwannog i wrthryfela yn ei erbyn, ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y enawd, a'r cythraul, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddiannus? Ac oherwydd i'n hen deidiau ninnau yfed anwiredd fel dwfr, bu gwir y ddiareb,—"Dinistr fydd i weithwyr anwiredd." Ac felly nyni, fel amryw genedloedd ereill, o'r diwedd, wedi i ein pechodau addfedu, a "adawyd yn ychydig bobl, lle yr oeddem fel ser y nefoedd o luosowgrwydd, o herwydd ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw." Nid oes yn wir un genedl dan haul wedi cadw ei gwlad a'i hiaith o'r hen amser gynt yn gyfan a dilwgr; nac oes un wedi cadw ei braint yn ddigoll ac yn ddigymysg. Y mae'r Iddewon ers talm yn achwyn,— Wele ni heddyw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi." Canys y mae y Tyrciaid wedi goresgyn gwlad Judea, ac nid oes gan yr Iddewon gymaint a lled troed o feddiant ynddi. Y mae'r Groegiaid hwythau, y rhai a fuont yn yr hen amseroedd yn ben ar y byd, wedi gwasgaru, megis yr Iddewon hwythau, hyd wyneb y gwledydd, a'u tiroedd a'u teyrnasoedd eang ym meddiant y Twrc. Y mae y Rhufeiniaid hefyd, y rhai, o gylch amser ein Harglwydd Iesu, oeddent feistriaid ar y rhan fwyaf o'r byd ag oedd adnabyddus y pryd hwnnw, y maent yn awr, meddaf, ers llawer cant o flynyddoedd maith, wedi darfod am danynt, hwynt—hwy a'u hiaith hefyd, ond a geffir mewn llyfrau,— a'u haw. durdod fawr gynt, wedi ei llarpio, megis burgyn gan adar ysglyfaeth. Ond yr ym ni eto, gweddillion yr hen Frutaniaid, yn trigo mewn cwr o'r ynys fawr hon, y buom gynt yn feistriaid o'r naill gwr i'r llall ohoni, ac yn cadw ein hiaith gyntaf, os nid yn berffaith gwbl, eto yn burach nag un genedl arall yn y byd. "Eu hiaith a gadwant, eu tir a gollant," ebai Taliesin. Yr oedd yr hen hobl yn yr oesoedd gynt mor anhysbys am ddechreuad trigolion cyntaf y wlad hon, fel nad oedd ganddynt na medr nac amcan tuag at hynny. Yr wyf yn cofio am un awdwr Seisnig (a eilw'r Cymry, "Gwilym Bach "), yr hwn a ddywed "gael mewn ogof yn Lloegr, yn amser y brenin Stephan, fachgen ac herlodes o liw gwyrdd dieithr anferthol, anhebyg i un dyn arall a welwyd erioed yn y byd hwn; ac mai yr opiniwn cyffredin oedd, iddynt dreiddio i fyny drwy dwll o eigion neu berfedd y ddaear," fel y mae yr awdwr yn bur ddoeth yn adrodd yn helaeth.

Er ynfyted yw y fath hen chwedlau gwallgof a'r rhai hyn, eto nid oedd rhai, ac yn cymeryd arnynt yn wyr dysgedig hefyd, ymysg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid un tipyn callach yn eu traws-amcan aniben ynghylch trigolion cyntaf yr ynys hon; canys barn rhai ohonynt yw iddynt dyfu allan o'r ddaear, megis bwyd llyffaint.

Y mae e'n wir yn orchwyl dyrus ddigon i chwilio allan ddechreuad ein cenedl ni yn gywir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i haberoedd i lygad y ffynnon. Ond mi a amcanaf i symud ymaith y niwl oddiar y ffordd, fel y bo ein taith at y gwirionedd yn eglur.

Wedi i Adda droseddu gorchymyn Duw, a myned a'i epil yn ddarostyngedig i bechod, amlhaodd drygioni dynolryw gymaint ag y bu "edifar gan yr Arglwydd wneuthur ohono ddyn." Ac yn y flwyddyn er pan greodd Duw y byd 1655, y danfonodd yr Hollalluog ddiluw cyffredinol i foddi dyn ac anifail. Ond Noa gyfiawn, ac er ei fwyn ef a'i deulu, a gafodd ffafr yn ei olwg, ac a achubwyd rhag gormes y dwfr diluw mewn llong, a alwn ni yn arch. Wedi achub Noa fel hyn, a dyfod ag ef i genedlaethu to megis mewn byd arall, cydfwriadodd ei epil, ymhen talm o amser, sef ynghylch can mlynedd ar ol y diluw, i adeiladu "twr a'i nen hyd y nefoedd." Mae rhai yn tybied mai yr achos a'u cymhellodd i ymosod at y fath waith aruthrol a hwn ydoedd, rhag i ddiluw eu goddiwes eilwaith, a'u llwyr ddinistrio oddiar wyneb y ddaear; a rhag ofn hynny, iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas i'w cadw yn ddiogel rhag llifeiriant y dyfroedd. "Gwnawn i ni enw," ebai hwy, "rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear." Er mai barn ereill yw hyn, eu bod hwy yn awr ar eu taith tua gardd Paradwys; ac oblegid fod y wlad o amgylch mor hyfryd, mor llawn o beraroglau, a llysian, a ffrwythau, a phob peth arall dymunol, chwenychasant i aros yno, hwy a'u hepil, tros fyth, ac ar hynny iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas rhag eu gwasgaru oddiyno. Ond pa fodd bynnag yw hynny, ni adawodd yr Arglwydd iddynt ddwyn. en gwaith i ben, oblegid efe a gymysgodd eu hiaith, fel na ddeallai y naill beth a ddywedai y llall. Os dywedai un wrth ei gyfaill, "Moes i mi garreg," fe estynnid iddo ond odid gaib yn lle carreg. Os dywedai un arall," Cadw y rhaff yn dynn," y llall a'i gollyngai hi yn rhydd Fel hyn, yr iaith yn gymysg, ac megis yn estron y naill i'r llall, ni allasent byth fyned â'u gwaith yn y blaen.

Nid oedd ond un dafod-leferydd o'r blaen trwy y byd mawr, sef yr Hebraeg, yn ddilys. ddigon; eithr y ddaear, ag oedd cyn hynny of un iaith ac o un ymadrodd, a glywai ei thrigolion yn awr yn siarad deuddeg iaith a thriugain, canys i gynifer a hynny y mae hen hanesion yn mynegu ddarfod cymysgu y fam-iaith yr Heb. Ac yn y terfysg mawr hwnnw, llawen. iawn a fyddai gan un gyfarfod â'r sawl a fae'n deall en gilydd; a hwy a dramwyent yma ac acw, nes cael un arall, ac felly bob un ac un i ddyfod ynghyd oll, ac aros gyda'u gilydd yn gynifer pentwr ar wahan, y sawl ag oeddent o'r un dafodiaith. A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwnnw, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech ab Methusela ab Enoch ab Jared ab Malaleel ab. Cainan ab Enos ab Seth ab Adda ab Duw.

Dyma i chwi waedoliaeth ac âch yr hen Gymry, cyfuwch a'r a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni, eu hepil, yn well o hynny. Ac y mae yn ddilys ddiameu gennyf nad yw hyn ond y gwir pur loew; canys 1,—Y mae hanesion yr hen oesoedd yn mynegu hynny; a pha awdurdod chwaneg am unrhyw beth a ddigwyddodd yn y dyddiau gynt na bod coflyflrau neu groniclau yr oesoedd yn tystio hynny? 2. Y mae holl ddysgedigion cred,—gan mwyaf yn awr,—megis o un genau yn myntumio hynny. 3. Y mae yr enw y gelwir ni yn gyffredin arno, sef yw hynny, Cymro, megis lifrai yn dangos i bwy y perthyn gwas, yn hysbysu yn eglur o ba le y daethom allan; canys nid oes ond y dim lleiaf rhwng Cymro a Gomero, fel y gall un dyn, ie, â hanner llygad, ganfod ar yr olwg gyntaf.

Heblaw hyn, yr ydym yn darllen Gen. x. 5, ynghylch epil Japhet,"—O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenedloedd;" lle wrth "ynysoedd y cenhedloedd,' y meddylir yn ddiau, Brydain Fawr ac Iwerddon, os nid y rhan fwyaf o ardaloedd Ewrop. Ond am Sem a Cham y dywedir yn unig,—"Dyma feibion Sem a Cham, yn ol eu teuluoedd wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd." Oddiyma, y mae yn hawdd i gasglu, fod cynifer o fam-ieithoedd yn Nhwr Babel a chenedlaethau hyd wyneb yr holl ddaear. O fam-ieithoedd, meddaf, y rhai sydd hen, a rhywiog, a boneddig, nid oes oddieithr deuddeg gwlad o holl ardaloedd Ewrop yn siarad mam-iaith ddilwgr; nid yw y lleill i gyd ond cymysg, megis y Saesoneg, Ffranceg, Hispaeneg, &c.

Ar ol i Gomer a'i gyd-dafodogion ddyfod o Asia i Ewrop, y mae yr hen ysgrifenyddion yn helaeth ragorol yn son am eu gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys dyna agos yr unig gelfyddyd ag oedd yn gosod synwyr yr hen bobloedd ar waith; ond yn enwedig ar ol eu dyfod i wladychu yn nheyrnas Ffrainc; canys ein hynafiaid ni, yr hen Gymry, oeddent yn ddilys ddiameu y trigolion cyntaf yn Ffrainc yn yr amseroedd gynt, sef ynghylch amser Crist Iesu ar y ddaear, a chyn hynny, fel y dangosaf isod. Digon gwir, yr oedd y Rhufeiniaid hwythau o gylch amser ein Hiachawdwr yn wŷr mawrion, wedi goresgyn amryw wledydd wrth rym y cleddyf; ac yn wir, â llywodraeth fawr iawn ganddynt ar for ac ar dir; ond nid oeddent ond cynifer o grwydredigion lladronach ar y cyntaf, ac yng ngwasanaeth y Cymry, y rhai oeddent feistriaid arnynt. Ie, ar ol eu myned yn gadarn yn y byd, ac yn dechreu hyrddu eu cymydogion gweinion, eto gorfu iddynt ymostwng i gleddyf dau Gymro, a dau frawd hefyd, Beli a Brân, meibion Dynwal Moelmud. Nid oedd galon yng ngwŷr Rhufain i sefyll yng ngwyneb y brodyr enwog hyn, eithr yn cilio i'w llochesau, fel y gwelwch chwi lu o fechgynnos yn ffoi oddiwrth darw gwyllt a fyddai yn cornio.

O hyn y mae fod cymaint o eiriau Cymreig yn yr iaith Ladin, oherwydd fod y Lladinwyr gymaint o amser dan iau y Cymry; ac y mae yn naturiol i dybied y bydd y gwannaf yn benthyca gan y trechaf, a bod y gweision yn dynwared iaith y meistriaid. Camsynied erchyll ydyw tybied i ni fenthyca y fath luaws o eiriau oddiwrth y Rhufeiniaid, fel y mae Pezron ddysgedig wedi profi tuhwnt i amheuaeth neb a fyn ymostwng i reswm. Nid ydys yn gwadu na fenthycodd ein hynafiaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma ym Mhrydain, a hynny oedd agos i bum cant o flynyddoedd, sef o amser Iwl Caisar, hyd y flwyddyn o oed Crist 410. Ond nid yw hynny ond ambell air, ac eto heb lwyr golli yr hen air priodol i'r iaith; megis i enwi mewn un neu ddau,—yspeilio sydd air Lladin, ond y mae yr hen air fyth yng nghadw, sef yw hwnnw, anrheithio. Gair Lladin yw rhod, ond y mae yr hen air heb fyned ar goll, sef yw hwnnw, olwyn.

Ond yma yr wyf yn barod eisoes i goelio y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur,—fod y Cymry unwaith gynt yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er anhebyced y tybir hynny yn awr, nid oes er hynny un peth gwirach mewn hanesiaeth; canys onid oes son fod ymysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd, ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon? I adael hyn heibio, meddaf,—ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau, y mae Iwl Caisar, yr hwn a ysgrifennodd agos ers deunaw cant o flynyddoedd a aethant heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mhrydain, y mae Iwl Caisar, meddaf, yn dywedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad. Y mae awdwr arall, a ysgrifennodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iwl Caisar, ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hynny, yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall, sef rhwng iaith trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau y rhai oeddent yn byw y pryd hynny yn Lloegr. Fe allasai fod ond odid ryw gymaint o wahaniaeth rhwng Gwynedd a Deheudir, neu fe allai ryw ychydig yn chwaneg. Ond beth er hynny, diameu mai yr un bobl oeddent o'r dechreuad.

Hefyd, heblaw cysondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr; nid oes ond caine o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall ar ddiwrnod clir. Ynys Brydain, gan hynny, yn ddiameu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesaf ati, megis y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.

Ond yma y mae i ni ddal sylw mai nid Ffrainc oedd enw y wlad a elwir felly yn gyffredin yn awr; nage, fe'i galwyd hi yn Ffrainc gan y trigolion sydd yn awr yn aros ynddi; y rhai, a hwy yn farbariaid ysgymun ar y cyntaf, a oresgynasant y wlad drwy ladd a llosgi yr hen drigolion, o gylch yr un amser ag y darfu i'r Saeson,—barbariaid ereill,—oresgyn drwy frad yr ynys hon oddiar yr hen Frutaniaid. Eithr enw y wlad ar y cyntaf oedd y Gelli; oblegid ei bod hi yn wlad hyfryd, a rhagorol, a ffrwythlawn, a choediog; megis y gwelwn ni amryw leoedd eto yng Nghymru o'r un enw. Yr hen drigolion cyntaf a alwent eu hunain y Gwyddelod, weithiau y Gwylliaid, ond yr enw cyffredin yn llyfrau hanesion yw y Cymry.

Y mae traddodiad hyd y dydd heddyw ymysg y werin bobl,—nad ydys yn edrych ar hynny ond megis hen chwedl,—fod y Gwyddelod ryw bryd yn yr amseroedd gynt yn frodorion Cymru a Lloegr; ond y mae yn ddilys ddigon eu bod hwy, megis nad oeddem ni a hwythau ar y cyntaf ond un genedl. Ac yn wir, prin y gall un dybied amgen nad o'r un dorllwyth y daeth y ddwy genedl allan, sef y Cymry a'r Gwyddelod, yr hwn a ystyrio y lluaws geiriau sydd o'r un ystyr gyda ni a hwythau. A phwy bynnag ddarllenno y Gramadeg Gwyddelig, a wel fod tueddiad a natur eu hiaith hwy yn gofyn newid llythyrennau yn nechreu y geiriau, yn gwbl gyson â'r Gymraeg.

Pwy bynnag a ddeil sylw ar lawer o hen enwau afonydd a mynyddoedd drwy y deyrnas hon, ni chaiff efe le i ameu nad y Gwyddelod oedd y trigolion, pan roddwyd yr enwau hynny arnynt. Fe ŵyr pawb mai enw afon fawr yng Nghymru yw Wysc; ac nid yw Conwy, Tywi, Wy, ond gwahanol enwau at yr un ystyr; ie enw yr afon bennaf yn y deyrnas yw Tafwys, hynny yw, cydiad Tâf ac Wysc ynghyd. Ni ŵyr neb gyda ni beth yw ystyr y gair; ond nid oes gan Wyddelod yr Iwerddon un gair arall am ddwfr ond visc. Ac megis y mae y geiriau Coom, Dor, Stour, Tam, Dove, Afon, yn Lloegr, yn cyfaddef nad ydynt amgen na'r geiriau Cymreig, Cwm, Dwr, Ysdwr, Tâf, Dyfi, ac Afon, a thrwy hynny yn dangos mai y Cymry oedd yr hen frodorion; felly y mae y geiriau Wysc, Llough, Cinwy, Ban, Drym, Llechlia, ac amryw ereill, yn dangos fod y Gwyddelod yn preswylio gynt hyd wyneb y wlad hon; canys ystyr y geiriau yn ein hiaith ni ydyw, dwfr, llyn, prif afon, mynydd uchel, cefn, maenllwyd. Pwy fyth a ŵyr yr achos am alw lle defaid yn gorlan, oni ŵyr hefyd fod y Gwyddelod yn galw dafad yn eu hiaith hwy, Kaor? Neu paham yr ydys yn galw "gwartheg godro yn "wartheg blithion," oni ŵyr hefyd, mai blithuin yw godro yn yr iaith honno?

Ond er hyn oll, ni ddeall Cymro un tipyn mo'r Gwyddel yn siarad, na Gwyddel chwaith un Cymro. Y mae amryw achosion am hyn, megis,—1. Yr hir amser maith y maent yn ddwy genedl wahanol, heb ddim cyfeillach neu fasnach deuluaidd rhyngddynt. Y mae amser o fesur cam a cham yn gosod wyneb newydd ar bob peth, ond yn enwedig ar ieithoedd. Nid i son am bobloedd pellenig,—dyna y Cymry, y rhai a aethant i'r rhan honno o deyrnas Ffrainc, a elwir Llydaw, gyda Chonan, Arglwydd Meiriadog, yn y flwyddyn o oedran Crist 383; er mai Cymraeg maent yn siarad hyd y dydd heddyw, eto prin iawn y gall un Cymro o ynys Brydain eu deall hwy yn siarad nes bod ennyd fawr o amser yn eu mysg. 2. Y mae gan y Gwyddelod amryw eiriau priodol, y rhai sydd wedi eu colli gyda ni; megis y mae gyda ninnau amryw eiriau y rhai sydd wedi colli gyda hwy. Ni a welwn gymaint o wahanol eiriau sydd rhwng Gwynedd a Deheudir; ac eto, a feiddia neb ddywedyd mai nid Cymraeg a siaredir er hynny yn y ddwy dalaeth? Ie, ac yn Neheubarth, nid oes odid gwmwd na chantref onid oes rhyw ychydig o wahaniaeth yn yr iaith; nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw sain i'r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer o bethau ar wahan. 3. Achos arall,—ie achos mawr ac hynod, yw hyn. Rai cannoedd o flynyddoedd cyn geni Crist, yn amser Gwrgant Farf-drwch, brenin Brydain Fawr, y cododd llu anferthol o bobl yr Hispaen, wedi eu gyrru gan eisieu a newyn allan o'u gwlad, gan hwylio ar hyd y weilgi, os ar antur y caffent ryw le i breswylio ynddo i dorri chwant bwyd.

Ar ol goddef gryn drallodion ai y môr yn eu taith beryglus, y tiriasant o'r diwedd ym Mhrydain, lle y gwnaethant eu cwyn â llygaid yn llawn o ddagrau, ac â chalon lawn o ufudd—dod, o byddai gwiw gan fawrhydi y brenin ddangos iddynt ryw gwrr gwlad, a chael rhyddid i achub einioes, hwynt-hwy, a'u gwragedd, a'u plant. Dywedasant mai pobl heddychol oeddent, mai y newyn a'u gyrrodd allan o'u gwlad; ac os byddai wiw gan y brenin i'w cymeryd dan ei ymgeledd, nid oedd ganddynt hwy ond gadael bendith Duw am dano, a bod yn ddeiliaid cywir i goron Lloegr. Ar hynny y tosturiodd y brenin wrth eu chwedl, a rhoddes gennad iddynt fyned i'r Iwerddon, oblegid fod y wlad yn eang ddigon, ac yn lled deneu o drigolion y pryd hwnnw.

Dros hir amser y bu y Gwyddelod a hwythau yn cadw yn bobl wahanol; y naill genedl a'r llall yn dilyn ei harferion a'i hiaith ei hun. Ond yno ymhen talm o amser, ymgyfathrachodd y naill bobl â'r bobl arall, sef y Gwyddelod a'r Skuidiaid,—canys felly y gelwid gwŷr dyfod yr Hispaen, ac aethant megis un pobl, fel y gwelwch chwi ddwy haid o wenyn yn taro ynghyd yn yr un cwch. O hynny allan y cymysgwyd yr iaith, a lluniwyd un iaith gymysg o'r ddwy, yr hon a siaradir yn yr Iwerddon hyd y dydd heddyw. O hyn y mae fod llawer o eiriau dieithr wedi eu benthyca oddigan y Skuidiad, yn iaith y Gwyddelod. Lle y maent yn cytuno â nyni, yno dilys yw mai hen Gymraeg ddiledryw yw y geiriau hynny; a lle y maent yn anghytuno, naill ai geiriau Cymreig yw y rheiny, y rhai a gollasom ni; neu eiriau estronaidd, y rhai a fenthyciodd y Gwyddelod oddigan y Skuidiaid.

Dyma ni wedi gweled estron genedl yn gynnar iawn wedi ymgymysgu âg un llwyth o'r hen Gymry, sef & Gwyddelod yr Iwerddon. Digwyddodd yr un peth i'n hynafiaid ninnau ym Mhrydain, fel yr wyf yn awr i ddangos.

Ar ol bod yr ynys hon, o benbwygilydd o honi, ym meddiant yr hen Gymry, ni wyddys yn dda på gymaint o amser y tiriodd yma ŵr o Gaerdroia, a elwid Brutus; yr hwn, ac efe yn medru darllen ac ysgrifennu, ac yn gynnil ei wybodaeth mewn llawer o bethau cywrain a chelfyddgar, a gâs o unfryd ei dderchafu yn ben ar yr hen drigolion, y rhai, a hwy yn anfedrus y pryd hwnnw agos mewn pob peth ond i ryfela, a ddysgodd Brutus mewn moesau dinasol, ac i blannu, i adeiladu, ac i lafurio y ddaear; ond yn enwedig efe a'u haddysgodd mewn dau beth nad oedd ond ambell genedl yn yr hen amseroedd hynny yn gydnabyddus â hwy, sef yw hynny, i ddarllen ac ysgrifennu, yr hyn ni chollasant fyth wedi hyn. Dywedir i Brutus a'i wŷr dirio ym Mhrydain ynghylch mil o flynyddoedd cyn geni Crist.

Iaith Brutus a'i wŷr oedd y Groeg, ac y mae yn ddilys mai oddiwrtho ef y cawsom yr amryw eiriau Groeg, y rhai sydd hyd heddyw yn gymysg â'r iaith Gymreig. Canys Brutus a'i bobl a ymgymysgodd â'r hen drigolion, yr un ffunud ag y darfu Madoc ab Owen Gwynedd ymgymysgu â phobl America. Canys y Madoc hwnnw, yn y flwyddyn o oedran Crist 1170, pan oedd ei frodyr yn llofruddio eu gilydd, fel bleiddiau ffyrnig, ynghylch eu treftadaeth yng Nghymru, a gymerth long, ac a hwyliodd tua'r Gorllewin, heibio i'r Iwerddon, nes dyfod o'r diwedd i'r deyrnas fawr ac eang honno a elwir yn awr America. Yna y gadawodd efe rai o'i wŷr i gadw goresgyn a meddiant o'r wlad, ac a fordwyodd adref i Gymru drachefn, lle y traethodd efe wrth ei gydwladwyr pa wlad ffrwythlawn a rhagorol a gafodd efe allan wrth hwylio gyda'r haul i bellder y gorllewin. Dymunodd arnynt ystyried am ba greigle a mynydd-dir, ac anialwch, yr oeddent hwy yng Nghymru, megis cynifer cigydd gwaedlyd, yn llofruddio eu gilydd. Deuent gydag ef, a hwy a gant drigo mewn gwlad, yn yr hon y bwytaent fara heb brinder, ac ni byddai eisieu dim arnynt.

Fe synnodd hyn gymaint ar ei gydwladwyr, fel y cododd llu mawr o wŷr a gwragedd gydag ef, yn enwedig o'r rhai hynny ag oedd yn caru byw yn llonydd, ac a diriasant ym mhen wyth mis a deng niwrnod yn y porthladd y buasai efe o'r blaen ynddo. Tra y parhaodd y to hwnnw, hwy a gadwasant gyda'u gilydd, o'r un iaith, o'r un grefydd, a'r un gyfraith. Ond ymhen talm o amser, ar ol dwy genhedlaeth neu dair, fe ymgyfathrachodd y to nesaf â thrigolion y wlad, ac aethant yn un genedl â hwy, fel y gwelwch chwi ddwfr a llaeth yn ymgymysgu.

Yn awr, y mae gennym y sicrwydd mwyaf sydd bosibl i fod, mai y Cymry oedd y cyntaf o holl drigolion Ewrop a gawsant y ffordd allan i America; oblegid, (1) Fod croniclau yr oesoedd yn tystio hynny. (2) Fod amryw eiriau Cymreig gan bobl y parthau hynny hyd y dydd heddyw, lle y gwladychodd y Cymry gyntaf; megis pan y byddont yn siarad dywedant, Gwrando. Pengwyn yw enw aderyn a phen gwyn iddo. Coch-y-dwr yw enw aderyn arall. Corroeso yw enw y lan gyntaf y tiriasant arni, a Gwenddwr y gelwir un o'i hafonydd. Ac heblaw hyn oll, fe gafwyd beddrod Madoc ab Owen yn y wlad honno, a'r ysgrifen a ganlyn ar garreg ei fedd ef,—

Madoc wyf mwydic ei wedd,
Iawn genau Owen Gwynedd;
Ni fynnwn dir! fy awydd oedd
Na da mawr, ond y moroedd.

Ond i ddychwelyd at Brutus. Fel y gwelwch chwi ddwy gangen wedi ymgydio yn tyfu ynghyd, a myned yn un pren,—felly yr ymgymysgodd Brutus a'i wyr yntef â'r hen Gymry, ac a aethant o hynny allan dan enw Brutaniaid, er parchus goffadwriaeth i'r gŵr yr hwn a'u haddysgodd mewn amryw gelfyddydau perthynasol i fywyd dyn. Ac oherwydd mai Groegwr oedd Brutus, fel y dywedais o'r blaen, o'r hyn y mae fod yr hen Frutaniaid yn arferu llythyrennau Groeg yn eu hysgrifeniadau, a hynny, ni a wyddom, ymhell cyn amser Cred, os nid er dyfodiad cyntaf Brutus i'r ynys hon; canys y mae Iwl Caisar yn adrodd am y Derwyddon, eu bod hwy yn dysgu ar dafod-leferydd rifedi afrifed o benhillion a chywyddau; a bod rhai yn treulio ugain o flynyddoedd yn dysgu y penhillion hynny cyn bod yn ddigon o athrawon. Yr oeddid yn cyfrif y penhillion hyn, eb efe, mor santaidd, fel na feiddiai neb eu hysgrifennu ar bapur; ond pob materion ereill, eb efe, y maent yn ysgrifennu â llythyrennau Groeg.

Yn awr y mae yn eglur oddiyma,—1. Fod yr hen Frutaniaid yn medru darllen ac ysgrifennu, cyn dyfod na Rhufeiniwr na Sais i Frydain; canys yr oedd yr awdwr dysgedig, yr hwn sydd yn rhoddi yr hanes yma i mi, yn byw ynghylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. 2. Mai llythyrennau Groeg oedd ganddynt, sef y cyfryw ag a ddysgodd Brutus iddynt. Yr un llythyrennau a welir heddyw ar fagad o gerrig mewn amryw fannau yng Nghymru.

Heblaw fod yr hen Frutaniaid yn arferyd llythrennau Groeg yn eu hysgrifeniadau, y mae ein hiaith ni hyd y dydd heddyw yn cydnabod amryw, ac amryw eiriau o dyfiant Groeg; sef yw hynny. amryw eiriau y rhai a blannodd Brutus yn ein mysg; yr hen eiriau Cymreig wedi eu colli gennym ni, ond a gedwir eto ymysg y Gwyddelod. Yn awr, visc y gelwai yr hen Gymry ddwfr; y mae y gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynhelir o hyd gan y Gwyddelod canys nid yw dwfr ond gair Groeg a gafwyd oddiwrth Brutus. Ac nid i son am ychwaneg, grian y gelwai yr hen Gymry yr haul. Y mae y gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynhelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw haul ond gair Groeg a gafwyd oddiwrth Brutus.

Yr achos cyntaf a gafwyd i wadu dyfodiad Brutus i'r ynys hon o Frydain oedd hyn. Pan fu farw Jeffrey ap Arthur, arglwydd esgob Llanelwy, y daeth Sais a eilw y Cymry Gwilym Bach, am yr hwn y soniais i o'r blaen, a deisyfu ar Dafydd ab Owen, tywysog Gwynedd, gael bod yn esgob yn ei le o gylch y flwyddyn o oed Crist 1169. Ond gan na fu gwiw gan Dafydd ab Owen ganiatau iddo ei ddymuniad, aeth y gŵr adref yn llawn digofaint, a gosod ei synwyr ar waith i ddirmygu a rhedeg i lawr, nid yn unig goffadwriaeth yr esgob ag oedd yn gorwedd yn ei fedd, ond holl genedl y Cymry hefyd. A'r Gwilym Bach hwnnw, o'i falais o waith gael pall am esgobaeth Llanelwy, oedd y cyntaf a feiddiodd wadu dyfodiad Brutus yma. Nid yw ei holl lyfr ddim amgen agos na sothach o gelwyddau haerllug yn erbyn y Cymry.

Dywed Gwilym Bach yn ddigywilydd, na soniodd neb erioed am ddyfodiad Brutus a'i wŷr o Gaerdroia i'r ynys hon, nes i Jeffrey ap Arthur ddychymygu hynny o'i ben ei hun; ond y mae hyn yn achwyniad rhy noeth a safnrwth heb ddim awdurdod, ac yn erbyn pob awdurdod. Canys ni wnaeth Jeffrey ap Arthur ond cyfieithu y cronicl Cymraeg i'r Lladin, fel y gallai y dysgedig o bob gwlad ei ddarllen. Ac ymhell bell cyn amser Jeffrey, y mae un o benhillion Taliesin yn dangos barn ei gydwladwyr yn ei amser ef; ac efe a ysgrifennodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 556. Ei eiriau ydynt,—

Mi gefais innau yn fy mryd lyfrau,
Holl gelfyddyd gwlad Ewropa;
Och, Dduw, mor druan, drwy ddirfawr gwynfan,
Y daw'r ddarogan i lin Droia.

Sarffes gadwynog, falch anrhugarog,
A'i hesgyll yn arfog o Sermania,
Honno a oresgyn holl Loegr a Phrydyn,
O lan Môr Llychlyn hyd Sabrina.

Yna bydd Brython fel carcharorion,
Ym mraint alltudion o Sacsonia;
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant, ond gwyllt Walia.[1]


Ac heblaw hyn, y mae rhyw beth hefyd i ddysgu oddiwrth draddodiad a hen chwedlau; ac fe ŵyr pawb nad oes un peth mor gyffredin ymysg y Cymry na chred o'u dyfod gyntaf i'r ynys hon o Gaerdroia. Ond pa fodd y bu hynny mi a ddangosais eisoes. Ie, y mae hyn wedi greddfu mor ddwfn fel y cewch chwi weled hyd yn oed y bugeiliaid ar ben pob twyn a bryn yn torri llun Caerdroia ar wyneb y glas. Fe all dyn o ystyriaeth gasglu rhyw beth oddiwrth hyn; ond pa fodd bynnag, dyma fel y maent yn ei darlunio hi, yn llawn o droion yn wir yn ol ei henw.

Nid oes yn awr, hyd y gwn i, ond un peth yn ol, sef paham y galwyd yr ynys hon Brydain ar y cyntaf. Tybia Mr. Camden, yr hwn yn ddiau oedd ŵr dysgedig, ond opiniwnus,—i wŷr o wledydd ereill ei galw felly gyntaf o waith bod yr hen Frutaniaid yn britho eu crwyn. Ond nid oes odid gymaint ag un yn ei ganlyn ef yn awr yn ei ddychymyg wan anilys. Y mae Mr. Humffrey Llwyd, gŵr dysgedig arall o Gymro a ysgrifennodd o flaen Camden, yn tybied mai ystyr y gair Prydain, yw "pryd cain," sef yw hynny, ei galw hi felly gan yr hen drigolion oherwydd tegwch ei phryd. Y mae hyn hefyd yn seinio yn lled anaturiol, os nid yn dynn ac yn drwsgl. Ond dyma'r anffawd, pe bae un mor ffodiog a tharo wrth y gwir ddeongliad, eto ni all neb fod yn sicr mai hwnnw sydd ar yr iawn. Mi a dybiwn, os nid Brutus a alwodd y wlad ar ei enw ei hun, mai yr hen enw yw Prydwen; ac mi a wn fod gair Prydwen yn ateb yr ystyr cystal, ac yn fwy rhwydd a naturiol na Phrydcain, am fro deg brydweddol hyfryd. Dyma fel y galwai yr hen Frutaniaid gynt darian Arthur.

Y mae dadl nid bychan ymysg amryw wŷr dysgedig ynghylch pa wlad a feddylir wrth yr non a eilw hen awdwr pellenig wrth y gair Thule. Ond pe buasent hwy yn deall Cymraeg, ni fuasai dim dadl nac ymryson yn y peth. Canys wrth ddarllen rhyw hen ysgrifen o waith llaw y cefais yno "Tylau Iscoed," sef yw hynny, Tylau'r Iwerddon; canys Scotia yn Lladin y geilw yr holl wŷr pellenig ynys yr Iwerddon oddiwrth y gair Cymraeg Iscoed. A chan fod pawb yn cytuno mai rhyw ynys gerllaw ynys Prydain yw Thule, ar eithaf tua'r gorllewin, pa wlad amgen a all hi fod ond Tylau Iscoed, neu ynys yr Iwerddon? Nid oes ond y dim lleiaf rhwng y gair Cymraeg Tylau, a'r gair Lladin Thule.

Yr oedd yr hen bobl yn siarad pethau rhagorol ynghylch y wlad hon, yn ei galw hi yn Baradwys, yn Degwch Bro, y Wlad Fendigaid, ac Hyfrydwch Pobl. Ac ond odid un achos am ei bod mor anwyl yw hyn, am nad all un creadur gwenwynig fyw yno; na llyffant, na sarff, na gwiber, nac un creadur arall â dim naws gwenwyn ynddo; ac os dygir un creadur gwenwynig i'r wlad hon, fe a dry â'i dor i fyny yn y man, ac a drenga ar ei waith yn anadlu awyr bur ynys yr Iwerddon.

Nodiadau[golygu]

  1. Taliesin Ben Beirdd a'i cânt.