Drych y Prif Oesoedd 1884/Barn Wiliam Lewes, Llwynderw, am y Llyfr

Oddi ar Wicidestun
Cyflwyniad i'r Argraffiad Cyntaf (Cymraeg) Drych y Prif Oesoedd 1884

gan Theophilus Evans


golygwyd gan William Spurrell
Cerddi clod i'r llyfr

BARN MR WILIAM LEWES, O LWYNDERW, O FEWN[1] SIR GAERFYRDDIN, YNG NGHYLCH Y LLYFR HWN.

NID oes un genedl oddi fewn i Gred, nac un oddi fewn i barthau ereill y byd, ag sydd â moesau dinasol iddynt, onid oes ganddynt ryw gynenid ewyllysgarwch i wybod o ba gyff y daethant allan, a'r ymrafael ddamweiniau a ddygwyddodd i'w hynafiaid o amser bwygilydd. A'r neb a fyddai ag addysg llythyrol ganddynt a osodent y pethau hyny mewn cofysgrifen yn eu hiaith eu hun, er tragwyddol goff äu gweithredoedd eu hynafiaid, ac er cyfarwyddyd i'r to a ddeuai.

Nid allaf esgusodi (yn anad neb ryw genedl) ddiofalwch a syrthni'r Cymry yn hyn o beth; o herwydd nad oedd un o honynt a ysgrifenodd ddim o hanesion y Brytaniaid, er ys pump neu chwech cant o flynyddoedd (hyd y gwn i) yn y iaith Gymraeg, ond Mr Charles Edwards yn unig, yn y llyfr a elwir Hanes y Ffydd, yr hwn sy'n crybwyll ryw ychydig yn fyr ac yn lled dywyll yma ac acw, yng nghylch helynt ein hynafiaid, a phregethiad yr efengyl gyntaf ym Mrydain.

I gyflawnu y diofalwch a'r esgeulusdra hwn, y cymmerodd y gwr ieuanc dysgedig o Geredigion, yn Neheubarth Cymru, awdur y traethawd sy'n canlyn, y boen a'r llafur i chwilio llyfrau hen a diweddar mewn amryw ieithoedd, er gosod allan hanes gyflawn o weithredoedd yr hen Frytaniaid. A hyny a wnaeth efe mor effeithiol fal y bu hi yn achlysur llawenydd i mi weled traethawd mor ddysgedig yn dyfod allan yn ein hiaith ein hun, yr hwn sydd yn cynnwys ynddo pa beth bynag sydd fuddiol a chyfleus i wybod o ran llys a llan a ddygwyddodd i'n hynafiaid. Y mae ei drefn yn llwybraidd ac yn daclus; y mae ei iaith yn gywrain ac yn ddiledryw; y mae ei hanes yn gywir, ac yn cytuno yn berffaith â'r awdwyr a grybwyllir ynddo. Ar fyr eiriau, efe a gyfansoddwyd gyda'r fath gywreinrwydd ac uniawnder barn, fel na wn i a oes un llyfr a ysgrifenwyd mewn un iaith pa un bynag yng nghylch helynt y Brytaniaid, sydd yn ei ragori.


Mi allwn anghwanegu yng nghylch yr angenrhaid, a'r mawr lesâd sydd oddi wrth y fath waith godidog ag ydyw'r llyfr hwn; ond pwy bynag a'i darlleno yn ystyriol, a gydnebydd trwy brofiad bodlongar. fod y cyfryw orchwyl yn cyfranu nid ychydig i ddyrchafu gwybodaeth, ac i hyfforddi dynion yng nghylch y wir ffydd a'r grefydd Gristionogol: ac yno chwi a welwch i'r awdur dysgedig wneuthur daioni nid bychar i bawb o'i gydwladwyr. Os caniatëwch, fy anwyl gydwladwyr, i dderbyn hyn o flaenffrwyth ei lafur ef yn roesawgar, chwi a'i hannogwch ef (os cenada Rhagluniaeth iechyd ac einioes iddo) i dreulio ei amser yn ewyllysgar, i'ch gwasanaethu â rhyw draethawd arall, a'r a fyddo yn fuddiol i helaethu eich gwybodaeth; yn y cyfamser, byddaf Eich gwasanaethydd caredig,

WILIAM LEWES.

Nodiadau[golygu]

  1. Mywn, fywn, yw orgraff yr awdwr yn ei argraffiad cyntaf.—GOL.