Drych y Prif Oesoedd 1884/Rhan I Pennod I
← Cynnwysiad | Drych y Prif Oesoedd 1884 gan Theophilus Evans golygwyd gan William Spurrell |
Rhan I Pennod II → |
DRYCH Y PRIF OESOEDD.
RHAN I.
PENNOD I.
CYFF-GENEDL Y CYMRY, A'U DYFODIAD CYNTAF I'R YNYS HON.
GWAITH mawr, ond gwaith salw a chwith, yw adrodd helynt y Cymry, eu haflwydd a'u trafferthion byd, ym mhob oes a gwlad y buont yn preswylio ynddi, er pan gymmysgwyd yr iaith yn Nhŵr Babel. Canys onid peth galarus a blin yw adrodd mor annïolchgar oeddent i Dduw, mor chwannog i wrthryfela yn ei erbyn, ac mor barod i syrthio i brofedigaeth y byd, y cnawd, a'r cythraul, yr hyn a barodd eu bod mor anffodiog ac aflwyddiannus? Ac o herwydd i'n hen deidau ninnau yfed "anwiredd fel dwfr," bu gwir y ddiareb, "Dinystr fydd i weithwyr anwiredd." (Diar. xxi. 15.) Ac felly nyni (fel amryw genedloedd eraill o'r diwedd), wedi i'n pechodau addfedu, "a adawyd yn ychydig bobl, lle yr oeddem fel ser y nefoedd o luosogrwydd: o herwydd ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw." (Deut. xxviii. 62.)
Nid oes, yn wir, un genedl dan haul wedi cadw ei gwlad a'i hiaith o'r hen amser gynt yn gyfan a dilwgr; nac oes un wedi cadw ei braint yn ddigoll ac yn ddigymmysg. Y mae'r Iuddewon er ys talm yn achwyn, "Wele ni heddyw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau ni, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi." (Neh. ix. 36.) Canys y mae'r Tyrciaid wedi goresgyn gwlad Iudea, ac nid oes gan yr Iuddewon gymmaint a lled troed o feddiant ynddi. Y mae'r Groegiaid hwythau, y rhai a fuont yn yr hen amseroedd yn ben ar y byd, wedi gwasgaru (megys yr Iuddewon hwythau) hyd wyneb y gwledydd, a'u tiroedd a'u teyrnasoedd eang ym meddiant y Twrc. Y mae'r Rhufeiniaid hefyd (y rhai, o gylch amser ein Harglwydd Iesu, oeddent feistraid ar y rhan fwyaf o'r byd ag oedd adnabyddus y pryd hwnw), y maent yn awr, meddaf, er ys llawer cant o flynyddoedd maith, wedi darfod am danynt, hwynt—hwy a'u hiaith hefyd, ond a geffir mewn llyfrau; a'u hawdurdod fawr gynt wedi ei llarpio, megys burgyn gan adar ysglyfaeth. Ond yr ŷm ni eto, gweddillion yr hen Frytaniaid, yn trigo mewn cwr o'r ynys fawr hon, y buom gynt yn feistraid o'r naill gwr i'r llall o honi, ac yn cadw ein hiaith gyntaf, os nid yn berffaith gwbl, eto yn burach nag un genedl arall yn y byd. "Eu hiaith a gadwant, eu tir a gollant," ebe Myrddin[1].
Yr oedd yr hen bobl yn yr oesoedd gynt, mor anysbys am ddechreuad trigolion cyntaf y wlad hon, fel nad oedd ganddynt na medr nac amcan tuag at hyny. Yr wyf yn cofio am un awdwr Seisnig, a eilw'r Cymry Gwilym Bach, yr hwn a ddywed gael mewn ogof yn Lloegr, yn amser y brenin Stephan, fachgen ac herlodes o liw gwyrdd dyeithr anferthol, annhebyg i un dyn arall a welwyd erioed yn y byd hwn; ac mai'r opiniwn cyffredin oedd, iddynt dreiddio i fyny drwy dwll o eigion neu berfedd y ddaiar, fel mae'r awdur yn bur ddoeth yn adrodd yn helaeth.1
Er ynfyted yw y fath hen chwedlau gwallgof a'r rhai hyn, eto nid oedd rhai (ac yn cymmeryd arnynt yn wŷr dysgedig hefyd) ym mysg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid un tipyn gallach yn eu traws amcan annyben yng nghylch trigolion cyntaf yr ynys hon; canys barn rhai o honynt yw iddynt dyfu allan o'r ddaiar megys bwyd llyffant.
Y mae e'n wir yn orchwyl dyrys ddigon i chwilio allan ddechreuad ein cenedl ni yn gywir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i haberoedd i lygad y ffynnon; ond mi amcanaf i symmud ymaith y niwl oddi ar y ffordd, fel y bo ein taith at y gwirionedd yn eglur.
Wedi i Adda droseddu gorchymmyn Duw, a myned tua'i epil yn ddarostyngedig i bechod, amlhaodd drygioni dynol ryw gymmaint, ag y bu "edifar gan yr Arglwydd wneuthur o honaw ddyn." Ac yn y flwyddyn er pan greawdd Duw y byd 1655, y danfonodd yr Hollalluog ddiluw cyffredinol i foddi dyn ac anifail; ond Noah gyfiawn (ac, er ei fwyn ef, ei deulu) a gafas ffafr yn ei olwg, ac a achubwyd rhag gormes y dwfr diluw mewn llong a alwn ni yr Arch.
Wedi achub Noah fel hyn, a dyfod ag efi genedlaethu to megys mewn byd arall, cydfwriadodd ei epil, ym mhen talm o amser (sef yng nghylch can mlynedd ar ol y diluw), i adeiladu "tŵr â'i nen hyd y nefoedd." (Gen. xi. 4.) [2] Mae rhai yn tybied mai yr achos a'u cymhellodd i ymosod at y fath waith aruthrol a hwn, ydoedd, rhag i ddiluw eu goddiwes eilwaith, a'u llwyr ddinystrio oddi ar wyneb y ddaiar; a rhag ofn hyny, iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas i'w cadw yn ddiogel rhag llifeiriant y dyfroedd. "Gwnawn i ni enw,' "ebe hwy, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaiar.” Er mai barn ereill yw hyn, eu bod hwy yn awr ar eu taith tua Gardd Baradwys; ac o blegid fod y wlad o amgylch mor hyfryd, yn llawn o beraroglau, a llysiau, a ffrwythau, a phob peth arall dymunol, chwennychasont i aros yno, hwy a'u hepil dros fyth, ac ar hyny iddynt adeiladu y tŵr a'r ddinas rhag eu gwasgaru oddi yno. [3]Ond pa fodd bynag yw hyny, ni adawodd yr Arglwydd iddynt ddwyn eu gwaith i ben, o blegid fe a gymmysgodd eu hiaith, fel na ddeallai'r naill beth a ddywedai y llall. Os dywedai un wrth ei gyfaill, "Moes i mi gareg," fe estynid iddo, ond odid, gaib yn lle careg. Os dywedai un arall, "Cadw y rhaff yn dyn," y llall a'i gollyngai hi yn rhydd. Fel hyn, yr iaith yn gymmysg, ac megys yn estron y naill i'r llall, ni allasent fyth fyned â'u gwaith yn y blaen.
Nid oedd ond un dafodleferydd o'r blaen drwy'r byd mawr, sef yr Hebraeg yn ddilys ddigon. Eithr y ddaiar, ag oedd cyn hyny o un iaith ac o un ymadrodd, a glywai ei thrigolion yn awr yn siarad deuddeg iaith a thri ugain; canys i gynnifer a hyny y mae hen hanesion yn mynegu ddarfod cymmysgu y famiaith, yr Hebraeg. Ac yn y terfysg mawr hwnw llawen iawn a fyddai gan un gyfarfod â'r sawl a fai'n deall eu gilydd; a hwy a dramwyent yma ac acw nes cael un arall; ac felly bob un ac un, i ddyfod yng nghyd oll, ac aros gyda'u gilydd yn gynnifer pentwr ar wahân, y sawl ag oeddent o'r un dafodiaith: a phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwnw, ond Gomer, mab hynaf Iaphet, ab Noah, ab Lamech, ab Methusalah, ab Enoch, ab Iared, ab Malaleel, ab Cainan, ab Enos, ab Seth, ab Adda, ab Duw?
Dyma i chwi waedolaeth ac ach yr hen Gymry, c'uwch a'r a all un bonedd daiarol fyth bosibl i gyrhaedd ato, pe baem ni, eu hepil, yn well o hyny. Ac y mae yn ddilys ddiammheu genyf nad yw hyn ond y gwir pur loew; [4] canys, (1.) Y mae hanesion yr hen oesoedd yn mynegu hyny; a pha awdurdod chwaneg am unrhyw beth a ddygwyddodd yn y dyddiau gynt, na bod coflyfrau neu groniclau'r oesoedd yn tystio hyny? (2.) Y mae holl ddysgedigion Cred, gan mwyaf yn awr, megys o un geneu yn maentumio hyny. (3.) Y mae'r enw y gelwir ni yn gyffredin arno, sef yw hyny, Cymro, megys lifrai yn dangos i bwy y perthyn gwas, yn ysbysu yn eglur o ba le y daethom allan; canys nid oes ond y dim lleiaf rhwng Cymro a Gomero, fel y gall un dyn, ïe, â hanner llygad, ganfod ar yr olwg gyntaf.
Heb law hyn, yr ym yn darllen (Gen. x. 5) yng nghylch epil Iaphet, "O'r rhai hyn y rhanwyd ynysoedd y cenedloedd ;" lle, wrth "ynysoedd y cenedloedd," y meddylir yn ddiau Brydain Fawr ac Iwerddon, os nid y rhan fwyaf o ardaloedd Europ. Ond am Sem a Cham y dywedir yn unig, "Dyma feibion Sem a Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenedloedd." Oddi yma, y mae'n hawdd i gasglu, fod cynnifer o famieithoedd yn Nhŵr Babel a chenedlaeth hyd wyneb yr holl ddaiar; o famieithoedd, meddaf, y rhai sydd hen, a rhywiog, a boneddig. Nid oes oddi eithr deuddeg gwlad o holl ardaloedd Europ, [5] yn siarad mamiaith ddilwgr; nid yw y lleill eu gyd ond cymmysg, megys y Seisneg, Ffrangeg, Hispaneg, &c.
Ar ol i Gomer a'i gyd-dafodogion ddyfod o Asia i Europ, y mae'r hen ysgrifenyddion yn helaeth ragorol yn son am eu gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys dyna agos yr unig gelfyddyd ag oedd yn gosod synwyr yr hen bobloedd ar waith; ond yn enwedig ar ol eu dyfod i wladychu yn nheyrnas Ffrainc; canys ein hynafiaid ni, yr hen Gymry, oeddent yn ddilys ddiammheu y trigolion cyntaf yn Ffrainc, yn yr amseroedd gynt, sef yng nghylch amser Crist Iesu ar y ddaiar, a chyn hyny, fel y dangosaf isod. Digon gwir, yr oedd y Rhufeiniaid hwythau o gylch amser ein Hiachawdwr, yn wŷr mawrion, wedi goresgyn amryw wledydd wrth rym y cleddyf, ac yn wir â llywodraeth fawr iawn ganddynt ar fôr ac ar dir; ond nid oeddent ond cynnifer o grwydredigion ladronach ar y cyntaf, ac yng ngwasanaeth y Cymry, y rhai oedd feistraid arnynt; ïe, ar ol eu myned yn gadarn yn y byd, ac yn dechreu hyrddu eu cymmydogion gweinion, eto gorfu iddynt ymostwng i gleddyf dau Gymro, a dau frawd hefyd, Beli a Brân, meibion Dyfnwal Moelmud.[6] Nid oedd galon yng ngwŷr Rhufain i sefyll yng ngwyneb y brodyr enwog hyn, eithr yn cilio idd eu llochesau, fel y gwelwch chwi lu o fechgynos yn ffoi oddi wrth darw gwyllt a fai'n cornio.
O hyn y mae fod cymmaint o eiriau Cymraeg yn y iaith Ladin, o herwydd fod y Lladinwyr gymmaint o amser dan iau y Cymry; ac y mae'n naturiol i dybied, y bydd y gwanaf yn benthycio gan y trechaf, a bod y gweision yn dynwared iaith y meistraid. Camsynied erchyll yw tybied i ni fenthycio y fath luaws o eiriau oddi wrth y Rhufeiniaid, [7] fel y mae Pezron ddysgedig wedi profi tu hwnt i ammheu neb a fyn ymostwng i reswm. [8] Nid ydys yn gwadu na fenthyciodd ein hynafiaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma ym Mrydain, a hyny oedd agos i bum cant o flynyddoedd, sef o amser Iul Caisar hyd y flwyddyn o oed Crist 410; ond nid yw hyny ond ambell air, ac eto heb lwyr golli yr hen air priodol i'r iaith, megys i enwi mewn un neu ddau : Ysbeilio sydd air Lladin; ond y mae'r hen air fyth yng nghadw, sef yw hwnw, Anrheithio. Gair Lladin yw Rhod; ond y mae'r hen air heb fyned ar goll, sef yw hwnw, Olwyn. [9]
Ond yma yr wyf yn barod eisys i goelio, y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur, fod y Cymry unwaith yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er annhebyced y tybir hyny yn awr, nid oes, er hyny, un peth wirach mewn histori. Canys, nid i son fod ym mysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon-i adael hyn heibio, meddaf (ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau), y mae Iul Caisar-yr hwn a ysgrifenodd agos er ys deunaw cant o flynyddoedd a aethont heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mrydain-y mae Iul Caisar, meddaf, yn dywedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd, hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad.[10] Y mae awdwr arall, a ysgrifenodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iul Caisar,[11] ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hyny, [12] yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall, sef rhwng iaith trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau, y rhai oeddent yn byw y pryd hyny yn Lloegr. Fe allasai fod, ond odid, gymmaint o wahaniaeth a rhwng Gwynedd a Deheudir, neu, fe allai, ryw ychydig chwaneg. Ond beth er hyny? Diammheu mai'r un bobl oeddent o'r dechreuad.
Hefyd, heb law cyssondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr: nid oes ond cainc o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall, ar ddiwrnod dysglaer. Ynys Brydain, gan hyny, yn ddiammheu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesaf ati, megys y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.
Ond yma y mae i ni ddal sylw, mai nid Ffrainc oedd enw y wlad a elwir felly yn gyffredin yn awr: nag e; fe a'i galwyd hi Ffrainc gan y trigolion sydd yn awr yn aros ynddi, y rhai, a hwy yn farbariaid ysgymmun ar y cyntaf, a oresgynasont y wlad, drwy ladd a llosgi yr hen drigolion, o gylch yr un amser ag y darfu i'r Seison, barbariaid ereill, oresgyn drwy frad yr ynys hon oddi ar yr hen Frytaniaid. Eithr enw y wlad ar y cyntaf oedd y Gelli, o blegid ei bod hi yn wlad hyfryd a rhagorol, a ffrwythlawn a choediog; megys y gwelwn ni amryw leoedd eto yng Nghymru o'r un enw. hen drigolion cyntaf a alwent eu hunain y Gwyddelod, [13] weithiau y Gwylliaid;[14] ond yr enw cyffredin yn llyfrau hanesion, yw y Cymry.[15]
Y mae traddodiad hyd y dydd heddyw ym mysg y werin bobl (er nad ydys yn edrych ar hyny ond megys hen chwedl) fod y Gwyddelod, ryw bryd yn yr amseroedd gynt, yn frodorion Cymru a Lloegr; ond y mae yn ddilys ddigon eu bod hwy, megys nad oeddem ni a hwythau ar y cyntaf ond un genedl. Ac yn wir, prin y gall un dybied amgen ond o'r un dorllwyth daeth y ddwy genedl allan, sef y Cymry a'r Gwyddelod, yr hwn a ystyrio y lluaws geirau sydd o'r un ystyr gyda ni a hwythau. A phwy bynag a ddarlleno y Gramadeg Gwyddelaeg, a wel fod tueddiad a natur eu hiaith hwy yn gofyn newid llythyrenau yn nechreu'r geiriau, yn gwbl gysson a'r Gymraeg.
Pwy bynag a ddeil sylw ar lawer o hen enwau afonydd a mynyddoedd drwy y deyrnas hon, ni chaiff efe le i ammheu nad y Gwyddelod oedd y trigolion pan roddwyd yr enwau hyny arnynt. Fe ŵyr pawb mai enw afon fawr yng Nghymru yw Wysg; ac nid yw Conwy, Tywi, Wy, ond gwahan enwau at yr un ystyr; ïe, enw yr afon benaf yn y deyrnas yw Tafwys,[16] hyny yw, cydiad Taf ac Wysg yng nghyd. Ni ŵyr neb gyda ni beth yw ystyr y gair; ond nid oes gan Wyddelod yr Iwerddon un gair arall am ddwfr, ond Uisg; ac megys y mae'r geiriau Coom, Dor, Stour, Tam, Dove, Avon, yn Lloegr, yn cyfaddef nad ynt amgen na'r geiriau Cymreig, Cum, Dwr, Ys-dwr, Taf, Dyfi, ac Afon; a thrwy hyny yn dangos mai y Cymry oedd yr hen frodorion; felly y mae'r geiriau Wysg, Llough, Cynwy, Ban, Drum, Llechlia, ac amryw ereill, yn dangos fod y Gwyddelod yn preswylio gynt hyd wyneb y wlad hon; canys ystyr y geiriau yn ein hiaith ni ydyw, Dwfr, Llyn, Prif-afon, Mynydd uchel, Cefn, Maen llwyd. Pwy fyth a ŵyr achos am alw Cut defaid yn Gorlan, oni ŵyr hefyd fod y Gwyddelod yn galw dafad yn eu hiaith hwy yn caor? neu pa ham yr ydys yn galw gwartheg godro yn wartheg Blithion, oni ŵyr hefyd mai Blithuin yw godro yn yr iaith hono? [17]
Ni all neb ddeall y Gymraeg yn iawn heb y Wyddelaeg. Pwy a ddeallai ystyr Traeth Saith, yn Sir Aberteifi, oni ddeall Wyddelaeg hefyd? canys ystyr y gair yw Traeth bas. Eithon yw enw afon yn Sir Faesyfed: y gair Gwyddelaeg yw Aithafon, h.y., afon redegog wyllt.
Nid llai gwaith na gwneuthur geirlyfr bychan, a fyddai osod i lawr yr holl eiriau o'r un sain ac ystyr yn yr iaith Gymraeg a'r Wyddelaeg: bydded yr ychydig a ganlyn yn lle esampl.
Cymraeg | Gwyddelaeg. | Cymraeg. | Gwyddelaeg | Cymraeg. | Gwyddelaeg. |
Afu | Aef | Ardderchog | Oirddeirch | Bastard | Bastardd |
Aithin | Attin | . | . | Blwyddyn | Bliawyn |
Afal | Aful | Asen | Asna | Bloneg | Blonig |
Anadl | Anal | Aur | Or | Byddar | Boddar |
Amser | Aimsir | Bara | Aran | Bord | Bordh |
Bru | Bru | Garfan | Gairman | Nain | Nain |
Bon coes | Bôn côsh | Gafr | Gafar | Nef | Nef |
Benyw hen | Bun bean | Glas | Glas | Nerth | Nert |
Brân | Brân | Glyn | Glen | Niwl | Neul |
Bramu | Brimmo | Glin dost | Gluin dos | Neidr | Nathair |
Byw | Beo | Glynu | Glenu | Dynan newydd eni | Denan naoidd eni |
Bywyd | Biad | Glöyn | Gloin | O buan | O ban |
Bwa | Boha | Gwallt glân | Folt glann | Pwll | Poll |
Bwth | Both | Goglais | Giglif | Pobl | Poibliach |
Cach | Cac | Gwer | Geir | Rhanu | Rannan |
Ceryg | Carig | Gŵydd | Gedd | Rhawn | Roin |
Ceraint | Caraid | Gweddi | Gwyddif | Rhin | Run |
Celyn | Culin | Gwyddelaeg | Goiddelg | Rhi | Ri |
Cerbyd | Carbod | Isel | Iseal | Rhef | Reif |
Ci hir | Cu hêr | Llaw ddeheu | Law deha | Rhudd | Ruaidd |
Cenedl | Cinel | Lledr | Lleathir | Sal | Sal |
Cidwm | Cidwm, i.e.Cadnaw | Llefaru | Llafairt | Saer | Saor |
Cil drws | Cul dorus | Lliain | Llian | 'Sgubor | Sgibol |
Claf | Claf | Llo | Llo | 'Sgubo | Sguabo |
Cleddyf | Cloiddef | Llosgi | Lloisci | 'Sgefain | Sgeafain |
Cogel | Cuigel | Llys | Llis | 'Sgian | Sgian |
Cnau | Cnu | Llydan | Llethan | 'Sgubell | Sguab |
Crybach | Crabach | Lludw | Lluoth | 'Sbleddach | Spleddach |
Croen | Croian | Llysiau | Llyssan | 'Sgolpen | Sgolb |
Crib | Criban | Llong | Llong | Sibwl | Siobal |
Crogi | Crochu | Llygod | Llychod | Sopen | Soipin |
Crwth | Crwith | Llyfr | Leafir | Swch | Soc |
Cwyr | Coir | Mawr | Môr | 'Stôl | Sdôl |
Cwyno | Cwynif | Maer | Maor | Sudd | Suf |
Cyffion | Cleiffion | Mab glân | Mac glan | Taradr | Tarar |
Dall | Dall | Mantach | Mantoch | Tasg | Tasga |
Dalen | Dailen | Madyn | Madah | Tarw | Tarw |
Deri | Dair | Mall | Mall | Tid | Ted |
Dlyed | Dlia | Marw my ddau fab | Marf moddia macsa | Tes | Tês |
Dof | Taf | Marwnad | Marnah | Tew | Tiw |
Dyn | Duin | Marchog | Marcach | Toes | Taos |
Drwg | Droch | Maidd | Meadd | Torog | Toroch |
Du | Du | Mân | Mên | Ton | Ton |
Draenog | Graenog | Mêl | Mil | Trais | Treis |
Dwrn | Dorn | Mes | Mês | Trwm | Trom |
Dwfn | Dofuin | Memrwn | Memruin | Truan | Truhan |
Edn | Ean | Melin | Muilen | Troed | Troid |
Eiddiorwg | Eiddeau | Mollt | Mollt | Tri gwr | Tri wr |
Eog | Eo | Moch | Moc | Ty | Te |
Eingion | Inneon | Môr | Muir | Tylau | Tylah |
Esgud | Esgaid | Mysg | Mesc | Twlc | Tolch |
Ffroen | Ffron | Mud | Muit | Twrch | Torc |
Gardd | Garda | Mynydd | Monydd | Waen | Wain |
Gafael dân | Gafal tein | . | . | Wy | Hwi |
Ond er hyn oll, ni ddeall Cymro un tipyn mo Wyddel yn siarad, na Gwyddel chwaith un Cymro. Y mae amryw achosion am hyn; megys, (1) Yr hir amser maith y maent yn ddwy genedl wahanol, heb ddim cyfeillach neu fasnach teuluaidd rhyngddynt. Y mae amser, o fesur cam a cham, yn gosod wyneb newydd ar bod peth, ond yn enwedig ar ieithoedd. Nid i son am bobloedd pellenig, dyna'r Cymry, y rhai a aethont i'r rhan hòno o deyrnas Ffrainc a elwir Llydaw, gyda Chonan, Arglwydd Meiriadog, yn y flwyddyn o oedran Crist 383; er mai Cymraeg y maent yn siarad hyd y dydd heddyw, eto prin iawn y gall un Cymro o Ynys Brydain eu deall hwy yn siarad, nes bod encyd fawr o amser yn eu mysg. (2.) Y mae gan y Gwyddelod amryw eirau priodol, y rhai sy wedi colli gyda ni; megys y mae gyda ninnau amryw eiriau y rhai sy wedi colli gyda hwy. Ni a welwn gymmaint o wahan eiriau sy rhwng Gwynedd a Deheudir; ac eto a feiddia neb ddywedyd mai nid Cymraeg a siaredir, er hyny, yn y ddwy dalaeth? Ië, ac yn Neheubarth, nid oes odid gwmmwd na chantref, onid oes ryw ychydig o wahaniaeth yn yr iaith; nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw sain i'r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer bethau yn wahân. (3.) Achos arall, ïe, achos mawr ac hynod, yw hyn: rai cantoedd o flynyddoedd cyn geni Crist, yn amser Gwrgant Farfdrwch, brenin Brydain Fawr, y cododd llu anferthol o bobl yr Hispaen (wedi eu gyru gan eisieu a newyn allan o'u gwlad), gan hwylio ar hyd y weilgi, os ar antur y caffent ryw le i breswylio ynddo, i dori chwant bwyd. Ar ol goddef gryn drallodion ar y môr yn eu taith beryglus, y tiriasont o'r diwedd ym Mrydain, lle y gwnaethont eu cwyn â llygaid yn llawn o ddagrau, ac â chalon llawn ufudd-dod, o byddai gwiw gan fawrhydi y brenin ddangos iddynt ryw gwr gwlad, a chael rhydd-did i achub einioes, hwynt-hwy a'u gwragedd a'u plant. Dywedasont mai pobl heddychol oeddent; mai y newyn a'u gyrodd hwynt allan o'u gwlad; ac os byddai wiw gan y brenin i'w cymmeryd dan ei amgeledd, nad oedd ganddynt hwy ond gadael bendith Duw am dano, a bod yn ddeiliaid cywir i goron Loegr. Ar hyny y tosturiodd y brenin wrth eu chwedl, a rhoddes genad iddynt fyned i'r Iwerddon; o blegid fod y wlad yn eang ddigon, ac yn lled deneu o drigolion y pryd hwnw.[18]
Dros hir amser y bu'r Gwyddelod a hwythau yn cadw yn bobl wahanol, y naill genedl a'r llall yn dilyn ei harferion a'i hiaith ei hun; ond yno ym mhen talm o amser, ymgyfathrachodd y naill bobl â'r bobl arall, sef y Gwyddelod a'r Scuidiaid (canys felly y gelwid gwŷr dyfod yr Hispaen), ac a aethont megys un pobl, fel y gwelwch chwi ddwy haid o wenyn yn taro yng nghyd yn yr un cwch. O hyny allan y cymmysgwyd y iaith, a lluniwyd un iaith gymmysg o'r ddwy, yr hon a siaredir yn yr Iwerddon hyd y dydd heddyw. O hyn y mae fod llawer o eiriau dyeithr wedi eu benthycio oddi gan y Scuidiaid yn iaith y Gwyddelod. Lle y maent yn cytuno â nyni, yno dilys yw mai hen Gymraeg ddiledryw yw y geiriau hyny; a lle y maent yn anghytuno, naill ai geiriau Cymraeg yw y rhei'ny, y rhai a gollasom ni, neu eiriau estronaidd, y rhai a fenthyciodd y Gwyddelod oddi gan y Scuidiaid.
Dyma ni wedi gweled estron genedl, yn gynnar iawn, wedi ymgymmysgu ag un llwyth o'r hen Gymry, sef â Gwyddelod yr Iwerddon. Dygwyddodd yr un perth i'n hynafiaid ninnau ym Mrydain, fel yr wyf yn awr i ddangos.
Ar ol bod yr ynys hon, o ben bwygilydd o honi, ym meddiant yr hen Gymry, ni wyddys yn dda pa gymmaint o amser, tiriodd yma wr o Gaerdroia a elwid Brutus; yr hwn, ac efe yn medru darllen ac ysgrifenu, ac yn gynnil ei wybodaeth mewn llawer o bethau cywrain a chelfyddgar, a gas o unfryd ei ddyrchafu yn ben ar yr hen drigolion, y rhai, a hwy y pryd hwnw yn anfedrus agos mewn pob peth ond i ryfela, a ddysgodd Brutus mewn moesau dinasol, ac i blanu, i adeiladu, ac i lafurio y ddaiar, ond yn enwedig efe a'u haddysgodd mewn dau beth nad oedd ond ambell genedl yn yr hen amseroedd hyny yn gydnabyddus â hwy, sef yw hyny, i ddarllen ac ysgrifenu, yr hyn ni chollasant byth wedyn. Dywedir i Frutus a'i wŷr dirio ym Mrydain yng nghylch mil o flynyddoedd cyn geni Crist.
Iaith Brutus a'i wŷr oedd y Groeg; ac y mae'n ddilys mai oddi wrtho ef y cawsom yr amryw eiriau Groeg, y rhai sydd hyd heddyw yn gymmysg â'r iaith Gymraeg; canys Brutus a'i bobl a ymgymmysgodd â'r hen drigolion yr un ffunud ag y darfu i Madog ab Owen Gwynedd ymgymmysgu â phobl America. Canys y Madog hwnw, yn y flwyddyn o oedran Crist 1170, pan oedd ei frodyr yn mwrddro eu gilydd fel bleiddiau ffyrnig, yng nghylch eu treftadaeth yng Nghymru, a gymmerth long, ac a hwyliodd tua'r gorllewin, heibio i'r Iwerddon, nes dyfod o'r diwedd i'r deyrnas fawr ac eang hòno a elwir yn awr America. [19] Yna y gadawodd efe rai o'i wŷr i gadw goresgyn a meddiant o'r wlad, ac a fordwyodd adref i Gymru drachefn, lle y traethodd efe wrth ei gydwladwyr, ba wlad ffrwythlawn a rhagorol a gafodd efe allan wrth hwylio gyda'r haul i bellder y gorllewin : dymunodd arnynt i ystyried am ba greigle, a mynydd-dir, ac anialwch yr oeddent hwy yng Nghymru, megys cynnifer cigydd gwaedlyd, yn llofruddio ac yn darnio eu gilydd: deuent gydag ef, hwy a gaent drigo mewn brasder gwlad, yn yr hon y bwytäent fara heb brinder, ac ni byddai eisieu dim arnynt.
Fe fenodd hyn gymmaint ar ei gydwladwyr, fel y cododd llu mawr o wŷr a gwragedd gydag ef, yn enwedig o'r rhai hyny ag oedd yn caru byw yn llonydd, ac a diriasont ym mhen wyth mis a deng niwrnod yn y porthladd y buasai efe o'r blaen ynddo. Tra y parhaodd y to hwnw, hwy a gadwasant gyda'u gilydd o'r un iaith, o'r un grefydd, a'r un gyfraith. Ond ym mhen talm o amser, ar ol dwy genedlaeth neu dair, fe ymgyfathrachodd y to nesaf â thrigolion y wlad, ac a aethont yn un genedl â hwy; fel y gwelwch chwi ddwfr a llaeth yn ymgymmysgu.
Yn awr, y mae genym y sicrwydd mwyaf sydd bosibl i fod, mai y Cymry oeddent y cyntaf o holl drigolion Europ a gawsant y ffordd allan i America: oblegid (1.) Fod croniclau yr oesoedd yn tystio hyny. (2.) Fod amryw eiriau Cymraeg gan bobl y parthau hyny hyd y dydd heddyw, lle y gwladychodd y Cymry gyntaf; megys, pan y byddont yn siarad, dywedant, Gwrando. Pengwyn yw enw aderyn â phen gwyn iddo; Coch y dwr yw enw aderyn arall. Corroeso yw enw y lan gyntaf y tiriasont arni; a Gwenddwr y gelwir un o'u hafonydd. Ac heb law hyn oll, fe gafwyd beddrod Madog ab Owen yn y wlad hòno, a'r ysgrifen a ganlyn ar gareg ei fedd:—[20]
Ond i ddychwelyd at Frutus. Fel y gwelwch chwi ddwy gangen wrth ymgydio, yn tyfu yng nghyd, a myned yn un pren; felly yr ymgymmysgodd Brutus a'i wŷr yntau a'r hen Gymry, ac a aethont o hyny allan dan yr enw Brytaniaid, er parchus goffadwriaeth i'r gwr yr hwn a'u haddysgodd mewn amryw gelfyddydau perthynasol i fywyd dyn. Ac o herwydd mai Groegwr oedd Brutus (fel y dywedais o'r blaen), o hyn y mae fod yr hen Frytaniaid yn arferu llythyrenau Groeg yn eu hysgrifenadon, a hyny, ni a wyddom, ym mhell cyn amser Cred, os nid er dyfodiad cyntaf Brutus i'r ynys hon. Canys y mae Iul Caisar yn adrodd am y Derwyddon, [23] eu bod hwy yn dysgu ar dafodleferydd rifedi afrifed o bennillion a chywyddau; a bod rhai yn treulio ugain o flynyddoedd yn dysgu y pennillion hyny, cyn bod yn ddigon o athrawon. Yr oeddid yn cyfrif y pennillion hyn, eb efe, mor sanctaidd, fel na feiddiai neb eu hysgrifenu ar bapyr; ond pob materion ereill, eb efe, y maent yn ysgrifenu â llythyrenau Groeg. [24]
Yn awr, y mae yn eglur oddi yma, (1.) Fod yr hen Frytaniaid yn medru darllen ac ysgrifenu cyn dyfod na Rhufeinwr na Sais i Frydain; canys yr oedd yr awdur dysgedig, yr hwn sydd yn rhoddi yr hanes yma i ni, yn byw yng nghylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. (2.) Mai llythyrenau Groeg oedd ganddynt, sef y cyfryw ag a ddysgodd Brutus iddynt: yr un llythyrenau a welir hyd heddyw ar fagad o geryg mewn amryw fanau yng Nghymru. [25]
Heb law fod yr hen Frytaniaid yn arferu llythyrenau Groeg yn eu hysgrifeniadau, y mae ein hiaith ni, hyd y dydd heddyw, yn cydnabod amryw ac amryw eiriau o dyfiant Groeg; sef yw hyny, amryw eiriau y rhai a blanodd Brutus yn ein mysg; yr hen eiriau Cymraeg wedi eu colli genym ni, ond a gedwir eto ym mysg y Gwyddelod. Yn awr Uisc y gelwai yr hen Gymry Ddwfr: y mae'r gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynnelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw Dwr ond gair Groeg a gafwyd oddi wrth Frutus. Ac nid i són am ychwaneg, Grian y gelwai yr hen Gymry yr Haul: y mae'r gair wedi ei golli gyda ni, ond a gynnelir o hyd gan y Gwyddelod; canys nid yw Haul ond gair Groeg a gafwyd oddi wrth Frutus.
Yr achos cyntaf a gafwyd i wadu dyfodiad Brutus i'r ynys hon o Frydain, oedd hyn: pan fu farw Ieffrey ab Arthur,[26] Arglwydd Esgob Llanelwy, y daeth Sais, a eilw'r Cymry Gwilym Bach[27] (am yr hwn y sonais i o'r blaen), a deisyfu ar Dafydd ab Owen, Tywysog Gwynedd, gael bod yn esgob yn ei le, o gylch y flwyddyn o oed Crist 1169. Ond gan na fu gwiw gan Dafydd ab Owen ganiatäu iddo ei ddymuniad, aeth y gwr adref yn llawn digofaint, a gosod ei synwyr ar waith i ddirmygu a rhedeg i lawr, nid yn unig goffadwriaeth yr esgob ag oedd yn gorwedd yn ei fedd, ond holl genedl y Cymry hefyd a'r Gwilym Bach hwnw, o'i falais, o waith gael pall am esgobaeth Llanelwy, oedd y cyntaf a feiddiodd wadu dyfodiad Brutus yma.[28] Nid yw ei holl lyfr ddim amgen, agos, na sothach o gelwyddau haerllug yn erbyn y Cymry.
Dywed Gwilym Bach yn ddigywilydd, na soniodd neb erioed am ddyfodiad Brutus a'i wŷr o Gaerdroia i'r ynys hon, nes i Ieffrey ab Arthur ddychymmyg hyny o'i ben ei hun: ond y mae hyn yn achwyniad rhy noeth a safnrwth, heb ddim awdurdod, ac yn erbyn pob awdurdod; canys ni wnaeth Ieffrey ab Arthur ond cyfieithu y cronicl Cymraeg i'r Lladin, fel y gallai y dysgedig o bob gwlad ei ddarllen. Ac ym mhell bell cyn amser Ieffrey, y mae un o bennillion Taliesin yn dangos barn ei gydwladwyr yn ei amser ef; ac efe a ysgrifenodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 556. Ei eiriau ynt—
"Mi gefais innau yn fy mryd lyfrau,
Holl gelfyddydau gwlad Europa:
Och Dduw! mor druan, drwy ddirfawr gwynfan,
Y daw'r ddarogan i lin Droia.
Sarffes gadwynog falch annhrugarog,
A'i hesgyll yn arfog o Sermania,
Hòno a oresgyn holl Loegr a Phrydyn,
O lan môr Llychlyn hyd Sabrina.[29]
Yna bydd Brython fel carcharorion,
Ym mraint alltudion o Sacsonia;
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant, ond gwyllt Walia."[30]
TALIESIN BEN BEIRDD A'I CANT.
Ac heb law hyn, y mae rhyw beth hefyd i ddysgu oddi wrth draddodiad a hen chwedlau; ac fe ŵyr pawb nad oes un peth mor gyffredin, ym mysg y Cymry, na chred o'u dyfod gyntaf i'r ynys hon o Gaerdroia (ond pa fodd y bu hyny mi ddangosais eisys); ïe, y mae hyn wedi greddfu mor ddwfn, fel y cewch chwi weled hyd yn oed y bugeiliaid ar ben pob twyn a bryn, yn tori llun Caerdroia ar wyneb y glas. Fe all dyn o ystyriaeth gasglu rhyw beth oddi wrth hyn; ond pa fodd bynag, dyma fel y maent yn ei darlunio hi, yn llawn o droion, yn wir, yn ol ei henw. [31]
Nid oes yn awr, hyd y gwn i, ond un peth yn ol, sef pa ham y galwyd yr ynys hon Brydain ar y cyntaf. Tybia Mr Camden (yr hwn yn ddiau oedd wr dysgedig, ond opiniwnus) i wŷr o wledydd ereill ei galw felly gyntaf, o waith fod yr hen Frytaniaid yn britho eu crwyn: ond nid oes odid gymmaint ag un yn ei ganlyn ef yn awr yn ei ddychymmyg wan annilys. Mae Mr Humffrey Llwyd, gwr dysgedig arall o Gymro a ysgrifenodd o flaen Camden, yn tybied mai ystyr y gair Brydain yw Pryd-cain; sef yw hyny, ei galw hi felly gan yr hen drigolion, o blegid tegwch ei phryd. Y mae hyn hefyd yn seinio yn lled annaturiol, os nid yn dyn ac yn drwsgl. Ond dyma'r anffawd, pe bai un mor ffodiog a tharo wrth y gwir ddeongliad, eto nid all neb fod yn sicr mai hwnw sydd ar y iawn. Mi a dybiwn, os nid Brutus a alwodd y wlad ar ei enw ei hun, mai yr hen enw yw Pryd-wen; ac mi a wn fod y gair Prydwen yn ateb yr ystyr cystal, ac yn fwy rhwydd a naturiol na Phryd-cain, am fro deg brydweddol hyfryd. Dyna fel y gelwai yr hen Frytaniaid gynt darian Arthur.
Y mae dadl nid bychan ym mysg amryw wŷr dysgedig, yng nghylch pa wlad a feddylir wrth yr hon a eilw hen awdwr pellenig wrth y gair Thule. Ond pe buasent hwy yn deall Cymraeg, ni fuasai dim dadl nac ymryson yn y peth. Canys wrth ddarllen rhyw hen ysgrifen o waith llaw y cefais yno, Tylau Iscoed, sef yw hyny, Tylau'r Iwerddon; canys Scotia, yn Lladin, y geilw yr holl wŷr pellenig ynys yr Iwerddon, [32] oddi wrth y gair Cymraeg Iscoed. A chan fod pawb yn cytuno mai rhyw ynys ger llaw Ynys Brydain yw Thule, a'r eithaf tua'r Gorllewin, [33] pa wlad amgen a all hi fod, ond Tylau Iscoed, neu ynys yr Iwerddon? Nid oes ond y peth lleiaf rhwng y gair Cymraeg Tylau, a'r gair Lladin Thule.
Yr oedd yr hen bobl yn siarad pethau rhagorol yng nghylch y wlad hon, yn ei galw hi yn Baradwys, yn Degwch Bro, y Wlad Fendigaid, ac Hyfrydwch Pobl; ac ond odid un achos am ei bod mor anwyl yw hyn, am nad all un creadur gwenwynig fyw yno; na llyffant, na sarff, na gwiber, nac un creadur arall â dim naws gwenwyn ynddo; ac os dygir un creadur gwenwynig i'r wlad hon, fe a dry â'i dor i fyny yn y man, ac a drenga ar ei waith yn anadlu awyr bur ynys yr Iwerddon.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gul. Niubrig. Rer. Anglic. lib. 1. cap. 27.
- ↑ Vid. Shuckford, vol. 1, p. 106.
- ↑ Robins. Annal. Mundi. lib. 2, p. 86. 3 Orig. Sacr. lib. 3, c. 5.
- ↑ Vid. Pezron Antiq. of Nations, lib. 1, cap. 3
- ↑ 2 Vid. S. Purch. Pilgr. Vol. 1. lib. 1, cap. 12.
- ↑ Galf. Monem. lib. 3. cap. 8, 9.
- ↑ Vid. Camd. Britan. ed. Gibs.& Llwyd, p. 658, 659.
- ↑ Antiq. of Nations.
- ↑ Vid. Dav. Præf. ad Lexic.
- ↑ Cæs. Com. lib. 5, p. 80
- ↑ Strabo. Geogr. p. 405.
- ↑ 3 Tacitus, Vit. Agricol. p. 637.
- ↑ Celtæ.
- ↑ Galli
- ↑ Cimbri.
- ↑ Thamesis. Nid yw Ask, Esk, Ax, Ex (enwau bagad o afonydd Lloegr), ond yr un peth.
- ↑ Vid. Luid. Præf. ad Archæol.
- ↑ Mae'r ystori hon yn wir ddigon, ebe Mr. Edward Llwyd. Vid. Galf. lib. 3, c. 12.
- ↑ Powell's Chronicle, p. 227, &c. Herb. Travails, p. 218.
- ↑ Hoel. Ep. vol. iv. ep. 29, p. 474, ed. 7.
- ↑ Wedi hir forio.
- ↑ Epil.
- ↑ Felly y gelwid gweinidogion crefydd ym Mrydain cyn geni Crist.
- ↑ Cæs. de Bell. Gal. lib. 6, p. 106.
- ↑ De Antiq. Græc. Lit. vid. Shuckford, vol. i. p. 265, &c.
- ↑ Sieffre o Fynwy
- ↑ William of Malmesbury
- ↑ Vide Præf. ad. Galf. p. 31.
- ↑ Hafren.
- ↑ Cymru
- ↑ Yr oeddwn i yn cwbl fwriadu, pan ysgrifenais hyn ar y cyntaf, i osod yma lun Caerdroia; ond nid oedd dyn o fewn fy nghydnabod, ag oedd o fedr i wneuthur hyny, nac mewn pren nac mewn efydd.
- ↑ Uss. Primord. 725-734.
- ↑ Ultima Thule.