Neidio i'r cynnwys

Drych y Prif Oesoedd 1884/Rhan I Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Rhan I Pennod I Drych y Prif Oesoedd 1884

gan Theophilus Evans


golygwyd gan William Spurrell
Rhan I Pennod III

PENNOD II.

Y RHYFEL A'R RHUFEINIAID. HWYNT-HWY, YN ANGHYFIAWN, YN TREISIO Y BRYTANIAID O'U GWIR EIDDO.

FE fu Ynys Brydain, yn yr hen amser gynt, yn talu teyrnged i Rufain, a hyny dros ychwaneg na phedwar cant o flynyddoedd; a'r pryd hwnw yr oedd bonedd y Cymry yn siarad Lladin mor gyffredin ag y maent yn siarad Seisoneg yn awr. Nid wyf fi ddim yn meddwl gwaith Pab Rhufain yn danfon ei swyddogion yma i geinioca bob blwyddyn, megys y byddai yr arfer yn amser Pabyddiaeth; ond yr wyf yn meddwl ymherodron neu emprwyr Rhufain, y rhai, ym mhell cyn dyfodiad y Seison i'r ynys yma, oeddent wedi goresgyn, drwy nerth arfau, amryw wledydd yn Asia ac Affrica, ond yn enwedigol yn Europ, ac ym mysg ereill yr ynys hon o Frydain.

Ond beth oedd gan nac emprwr na Phab Rhufain i wneuthur â'r deyrnas hon o Frydain? Pa hawl oedd gan y naill na'r llall i awdurdodi yma? Cewch glywed. Teitl y naill oedd min y cleddyf; canys pa wlad bynag a allai yr emprwr a'i wŷr rhyfel ei hennill drwy nerth arfau, tybid fod hyny yn ddigon o hawl i gymmeryd meddiant ynddi. Ond pa fodd bynag yw hyny, pe bai wr canolig, a phump neu chwech o ddyhirwyr wrth ei gynffon, yn beiddio mwrddro a lledrata, fe a estynid eu ceg wrth grogbren am hyny. Ac am deitl y Pab, y mae hwnw cynddrwg a'r llall, os nid gwaeth; canys nid yw e ddim amgen na'i drais yn ymhyrddu ar anwybodaeth dynion, ac yn rhyfygu awdurdod i fod yn ben ar yr eglwys na roddes Iesu Grist erioed iddo. A phan oedd eglwys Rhufain yn ei phurdeb, heb ei diwyno ag ofergoelon, megys y mae hi yn awr, nid oedd wahaniaeth yn y byd rhwng Esgob Rhufain, ond yn gydradd ag esgobion ereill.

Y cyntaf o'r Rhufeiniad a adnabu Ynys Brydain oedd Iul Caisar; a hyny oedd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. Gwr oedd hwn o ysbryd eang, yn rhyfelwr o'i febyd, ac yn chwennych, fel Alexander Fawr, oresgyn yr holl fyd, a myned yn glodfawr.

"Blaenred wrth fyned oedd fo,
Ac olaf pan fai gilio."

Ond cyn iddo ddyfod ar antur i Frydain, efe a anfonodd lythyr at y brenin a elwid Caswallon, yn y geiriau hyn,[1] nid amgen:—

"Yn gymmaint a bod cwbl o'r Gorllewin wedi ymroi i mi, fal i frenin goruchaf arnynt, ac i Senedd[2] Rufain, naill ai drwy gariad ai drwy ryfel; o herwydd hyny yr wyf yn ysbysu i ti, Caswallon, a'th Frytaniaid, sy'n teyrnasu â'r môr yn eich amgylchynu, ac eto fod dan reolaeth Rhufain, y bydd raid i chwi ufuddhau i mi ac i Senedd Rufain; canys dyledus a chyfiawn yw hyny. Er eich rhybuddio, yr ydym ni, Senedd Rufain, yn danfon atoch y llythyr hwn, er traethu ac ysbysu i chwi, yr ymddïalwn ni â chwi drwy ryfel o nerth arfau, os chwychwi nid ymroddwch i ni am dri pheth; sef, (1.) Talu o honoch i Rufain deyrnged bob blwyddyn. (2.) Bod bob amser yn barod, â chwbl o'ch nerth, i ymladd wrth fy nghorchymmyn â'm gelynion, o amser bwygilydd. (3.) Danfon gwystlon i Rufain ar gyflawnu hyny. Yr hyn, os chwychwi a'i gwna, eich perygl a fydd lai, a'ch rhyfel ar ddyben: ac onid e, edrychwch am ryfel ar frys."

Pan ddarllenodd Caswallon, brenin y Brytaniaid, y llythyr hwn, danfonodd i geisio ei gynghoriaid a'i arglwyddi goruchel ato, fel y gwelent pa ryw dymmestl a dinystr oedd yn crogi uwch eu penau; ac er gwaethaf bygythion Caisar, hwy a gydfarnasant, megys o un geneu, anfon llythyr ateb iddo yn y wedd hon, nid amgen: :

"Yn y modd yr ysgrifenaist ti, Caisar, ataf fi, mai ti biau freniniaethau'r Gorllewin; yr un modd boed ysbys i ti, mai myfi a'r Brytaniaid a biau Ynys Brydain. Ac er i'r duwiau roddi i ti gwbl o'r gwledydd wrth dy ewyllys dy hun, ni chei di ddim o'n heiddo ni; canys cenedlaeth rydd ydym ni, ac nid oes arnom deyrnged, nerth, na gwystl i ti nac i Senedd Rufain. Ac o'r achos hwnw, dewis di ai cilio yn dy eiriau ai rhyfela; ac yr ydym ni yn barotach i ymladd â thydi nag i ddymuno tangneddyf; ac yn fodlon genym i fentro ein hoedlau er cadw ein gwlad rhag estron genedl, heb ofni mo'th fawr eiriau. Gwna a fynych dan dy berygl.'

Wedi i Iul Caisar ddarllen y llythyr hwn, a gweled bwriad diysgog y Brytaniaid i ymladd ag ef, dirfawr lid a gymmerth ynddo ei hun, ac a ddywedodd wrth ei uchel swyddogion, "Chwi a welwch mor anfoesol a sarig y'm hatebasant; ond odid ni a wnawn iddynt laesu peth o'r dewrder a'r taiogrwydd hyn." A hwy a atebasant, "A gymmeri di, O Caisar, dy lwfrhau gan wag ymffrost barbariaid? Ni a wyddom amgen. Wele ni yn barod i ymladd wrth dy ewyllys tra fo defnyn gwaed yn ein cyrff." Ac ar hyny Caisar a ymwrolodd, ac a gynnullodd ei sawdwyr yng nghyd, sef oedd eu rhifedi pum mil ar hugain o wŷr traed, a phedair mil a phum cant o wŷr meirch, ac mewn pedwar ugain o ysgraffau, a fordwyodd efe a'i wŷr tuag at Ynys Brydain.

Yr oedd y Brytaniaid hwythau yn gwybod eu bod ar fedr ymweled â hwy (canys nid amser i fod yn segur ac yn ysmala oedd hwn); ac am hyny yr oedd ysbïwyr yn dysgwyl yn y prif aberoedd, rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod, a'u lladd yn eu cwsg. A chyn gynted ag y daeth y llongau i olwg y tir, y swyddogion a anfonasant yn ddiaros i fynegu i'r brenin fod y gelynion wedi dyfod. Ac ar hyny y brenin a archodd i'r pen rhingyll i ganu'r cyrn cychwyn, i gynnull ei wŷr rhyfel yng nghyd; a brysio a wnaethant, yn llu mawr arfog, at y porthladd, ar fin Môr Caint; ac erbyn hyny yr oedd y gelynion o fewn ergyd saeth. Nid oedd gan y Brytaniaid y pryd hwnw na lluryg, nac astalch, na tharian, na phenffestin, nac un trec na pheiriant i amddiffyn rhag y saethau a'r gwaewffyn; lle yr oedd gan wŷr Rhufain helm o bres ar eu penau, tarian yn eu dwylaw, a lluryg ddur o gylch eu dwyfron. Ond er hyn o anfontais, pobl noeth yn erbyn gwŷr arfog,[3] eto bernwch chwi a fu achos gan wŷr Rhufain fostio mai hwy a gawsant y trechaf yn y diwedd? Canys am y glewion Frytaniaid, rhai a safasant ar benau y creigydd, rhai a ddisgynasant i'r traeth, ereill a aethant hyd eu tinbeisiau i'r môr, a phawb yn ergydio eu saethau cyn amled at y gelynion, nes oedd gwaed y lladdedigion yn ffrydio megys pistyll, yma ac acw, dros ystlysau'r llongau i'r môr. Yr oedd Iul Caisar yn bwrw cael hawddgarach triniad ; ac er gwyched rhyfelwr oedd efe , efe a edrychodd yn awr yn lled ddiflas ar y mater, wrth weled ei wŷr wedi digaloni ; rhai yn ei regu ef am eu tynu i'r fath ddinystr, rhai yn hanner marw yn ochain ac yn griddfan yng nghrafangau angeu , ereill yn gorwedd yn gelaneddau meirw yn ymdrabaeddu yn eu gwaed. Unwaith, yn wir, y meddyliodd i godi hwyliau , a myned adref; ond yna efe a ystyriodd y byddai hyny yn ddifenwad ac yn gywilydd byth iddo ym mysg ei gydwladwyr ; ac o achos hyny, efe a ymwrolodd drachefn , ac a ddywedodd rhwng bodd ac anfodd, " Gwaradwydd , ïe , gwaradwydd tu hwnt i ddim, i ni ddychwelyd adref wedi dyfod cyn belled a hyn ; nag e, ni a fynwn dirio, pe bai'r diawl ei hun ynddynt." Ac yna, fel yly gwelwch chwi darw yn taflu ac yn gwylltio ar ol bod dau neu dri o waedgwn wrtho un hanner awr ; felly gwŷr Rhufain hwythau a chwerwasant oddi mewn , gan ergydio eu saethau cyn amled a chenllysg at y Brytaniaid ; a lladdwyd y fath nifer o bob ochr, nes oedd y môr agos yn wridog gan waed y lladdedigion, a chyrff y meirw a'r clwyfus cyn dewed yn gor- wedd ar fin y môr a defaid mewn corlan. A phe buasai elw i Iul Caisar osod ei draed ar dir Brydain, hyny a gas efe ; eto pe ni buasai efe a'i wŷr redeg yn gyflym i gael diogelwch yn eu llongau (fel y gwelwch chwi haid o wenyn yn taro i'r cwch o flaen tymmestl), hwy a larpiasid yn dameidiau â chleddyf y Brytaniaid dewrion . O bobtu deuddeg a deugain o flynydd- oedd cyn geni Crist y bu hyn. Mi a wn o'r goreu fod Iul Caisar yn dywedyd ei hun, iddo wneuthur gryn hafog ym Mrydain. Ond pa le mae ei gym- mydogion i roddi gair o'i blaid ? Prin y gellir coelio neb yn seinio allan ei glod ei hun ; ond yn enwedig yma, pan yw ei gydwladwyr (y rhai a ysgrifenasant hanes ei fywyd) yn tystio yn eglur na wnaeth efe ond gosod ychydig fraw ar y trigolion;[4] ond nid dim o'r fath beth a'u meistroli, a dyfod â hwy dan ei lywodraeth. Ac y mae un o brydyddion yr oes hono yn canu

am ei weithred ym Mhrydain fel hyn:

"Territa quæsitis ostendit terga Britannis."
LUCAN.

Caisar, er trydar tramor,—a giliodd
O'r golwg i'r dyfnfor,
Rhag saethau picellau por
Llu dien Fryden frodor."

Mawr a fu llawenydd a gorfoledd y Brytaniaid wedi gyru ffo, fel hyn, ar wŷr mor enwog, y rhai oeddent yn galw eu hunain yn feistri y byd. A Chaswallon y brenin a barodd i'r pen rhingyll gyhoeddi diaspad,[5] i orchymmyn pawb i aberthu i'r tadolion dduwiau. Ac yna fe anfonodd lythyrau at bendefigion, uchel swyddogion, a gwŷr da y wlad, i'w gwahawdd hwy i Lundain i wledda a bod yn llawen; ac fe ddywedir i ladd at y wledd fawr hòno ugain mil o wartheg, deng mil a deugain o ddefaid, a dau can mil o wyddau a chaprynod; ac o adar mân, gwylltion a dofion, ddau gymmaint a'r a allai neb eu cyfrif neu eu traethu;[6] a'r wledd hon oedd un o'r tair gwledd anrhydeddus Ynys Brydain.

"Ugain mil o fwystfiledd
Yn feirw a las pan fu'r wledd."

DAFYDD NANMOR A'I CANT.

Ond ni pharhaodd tegwch y llwyddiant hwn yn hir, nes i'r haul drachefn fachludo gan gwmwl gerwineb. "Nid y boreu y mae canmol diwrnod teg." Mor anwadal ac ansafadwy yw parhâd anrhydedd a golud bydol! Ac ni a welwn yn fynych rwygiadau enbyd yn dygwydd, ïe, hafog a distryw gwledydd, oddi wrth bethau bychain a distadl ar yr olwg gyntaf; ond pan unwaith y brydia o lid galon ddyn fileinig a chwerw, pwy a ŵyr pa le y diwedda? "Gwr digllon," ebe Selyf ddoeth, "a ennyn gynhen; a'r llidiog fydd aml ei gamwedd;" megys y tystia yr hanes a ganlyn.

Ryw ychydig ar ol y wledd fawr uchod, y dygwyddodd i ddau bendefig iefanc, o waed breninol, fyned allan i'r gamp i ddifyru; megys i ymaflyd codwm, neidiaw, taflu coetan, chwareu palet, chwareu cleddeu deuddwrn, &c. Enw y naill oedd Hirglas, ac efe oedd nai i Gaswallon y brenin; ac enw y llall oedd Cyhelyn, a nai oedd yntef i Afarwy, tywysog Llundain, ewythr y brenin, frawd ei dad. Ond yn niwedd y chwareu yn lle difyru a bod yn llawen, y tyfodd anghydfod ac ymrafael rhyngddynt, a dechreu ymgecru; ac o roddi geiriau cras, myned a wnaethant frigfrig ac ymdynu; ar hyny i dynu eu cleddyfau, lle y lladdodd Cyhelyn, nai Afarwy, Hirglas, nai y brenin, er bod Afarwy yn honi mai syrthio ar ei gleddeu ei hun a wnaeth Hirglas. A rhag y gelwid ei nai i gyfrif am y mwrdd-dra a dyoddef cosp cyfraith (am fod Caswallon yn bygwth hyny), Afarwy a anfonodd lythyr i wahawdd Iul Caisar i ddyfod eto i Frydain, yn y geiriau hyn: [7]

"Arfarwy ab Lludd, Tywysog Llundain, yn anfon anerch i Iul Caisar, Ymherawdr Rhufain, a chwedi dymuno gynt ei angeu, weithian yn dymuno iechyd iddo. Edifar yw genyf i ddal i'th erbyn di, pan fu'r ymladd rhyngot ti a Chaswallon ein brenin ninnau; canys pe peidiaswn, heb dy ammheu, ti a fuasit yn fuddugol. A chymmaint o syberwyd a gymmerth yntef wedi caffael y fuddugoliaeth hòno trwy fy nerth i, ag y mae yntef weithian yn fy nigyfoethi innau, ac felly yn talu drwg dros dda i mi. Mi a'i gwneuthym ef yn dreftadawg, ac y mae yntef yn fy nidreftadu innau. A minnau a alwaf dystiolaeth nef a daiar, hyd na haeddais i ei fâr ef o iawn, ond o herwydd na roddwn fy nai iddo i'w ddienyddu yn wiriawn. Ac edryched dy ddoethineb di ddefnydd ei lid ef. Chwareu palet a orug2 dau neiaint i ni, a gorfod o'm nai i ar ei nai ef; ac yna llidio a orug[8] nai y brenin, a chyrchu fy nai i â chleddyf; ond efe a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun, oni aeth trwyddo. Ac wrth nas rhoddais, Ꭹ mae efe yn anrheithio fy nghyfoeth innau. Ac wrth hyny, yr wyf yn gweddïo dy drugaredd, ac yn erchi nerth genyt i gynnal fy nghyfoeth, hyd pan fo, drwy fy nerth innau, y ceffych di Ynys Brydain. Ac nac ammheued dy bryder di am yr ymadrodd hwn, canys llawer wedi ffoi unwaith a ymchwelant yn fuddugol.”

Ac o ran ei fod efe yn gwybod mai hen gadnaw oedd Iul Caisar, ac nad oedd ond ofer iddo dybied y rhoisid coel idd ei eiriau heb ryw feichnïaeth, y bradwr Afarwy a anfonodd ei fab, yng nghyd â deuddeg ar hugain o farchogion, i ddwyn y llythyr at Iul Caisar, ac hefyd i fod yn wystlon o fod ei amcan ef yn gywir. Bywiogodd hyn galon Caisar, ac nid allasai un peth yn y byd ddygwydd yn fwy dymunol ganddo; ond eto o herwydd na chafas efe ond groesaw cyn hagred, a gorfod arno ffoi a throi ei gefn y waith gyntaf, efe a ddaeth yn awr yn llidiog ac yn hyderus, yr ail waith; canys lle nid oedd ganddo ond pedwar ugain ysgraff (neu o longau) y tro cyntaf, i fordwyo ei wŷr drosodd i Frydain, yr oedd ganddo yn awr wyth cant, a nifer ei sawdwyr y tro hwn oedd tair mil ar ddeg ar hugain, a thri chant a deg ar hugain o wŷr traed, a'r un nifer hefyd o wŷr meirch; sef oedd eu rhifedi gyda'u gilydd, chwech mil a thrigain, a chwech cant a thri ugain; [9] agos i gan mil o wŷr arfog, a'r rhei'ny, gan mwyaf, yn rhyfelwyr o'u mebyd. Beth a allai sefyll yn erbyn y fath lu mawr a hwnw! ac ni wyddys pa nifer o filoedd oedd gan y bradwr Afarwy i fod yn blaid â hwy! Ac y mae un bradwr cartrefol (a melltith ei fam a gaffo pob cyfryw un byth) yn waeth na chant o elynion pellenig; canys y mae y bradwr gartref yn gydnabyddus â phob amddiffynfa a lloches, a lle dirgel, lle y mae dim mantais i'w gael. Ond er hyn oll, ni fu i Iul Caisar ddim achos mawr i orfoleddu o'i daith, na chlod chwaith gan ei gydwladwyr yn Rhufain. Canys yr oedd y Brytaniaid wedi pwyo, yng ngwaelod Tems, farau heiyrn erchyll â phigau llymion, y rhai nid allai neb eu canfod o yma draw, am eu bod droedfedd neu ddwy dan y dwfr; a phan ddaeth llongau Caisar yn ddiarwybod ar draws y rhei'ny, gwae fi! pa waeddi wbwb a therfysg oedd, ar hyny, ym mysg sawdwyr Rhufain; y pigau dur yn rhwygo yr ysgraffau, a hwythau yn soddi ar fin y lan; a'r Brytaniaid hwythau ar dir sych, yn llawen am weled eu dyfais yn llwyddo cystal. Y mae yn hawdd i farnu (pe bai hyny ond oddi yma yn unig), nad oedd yr hen Frytaniaid ddim cyn anfedrused pobl ag y mae rhai yn gweled bod yn dda i daeru. "Cas yw'r gwirionedd lle ni charer."

Ond gan nad pa un, Iul Caisar a diriodd, yn ddilys ddigon, waith hon, ym Mrydain; ac od oes coel ar y peth a ddywed y pendefig ei hun, efe a diriodd yn ddirwystr, ond a gafodd ei longau, gan y picellau dur, yng ngwaelod y Tems. Yr oedd y trigolion, eb efe, wedi cilio i'r coedydd ac idd eu llochesau, wedi brawychu wrth weled cynnifer o longau (wyth cant o rifedi). Ond ym mhen ychydig amser yr ymwelsant ag ef, nid idd ei gapio a phlygu glin ger ei fron, ond i ergydio picellau dur at ei galon; canys ar eu gwaith yn bloeddio i'r frwydr, y Brytaniaid a gymmerasant arnynt i ffoi; ond nid oedd hyny ond rhith: ac ar waith y Rhufeiniaid yn eu herlid yn fyrbwyll, yr ymchwelodd y Brytaniaid, ac ailruthro, a gwneuthur galanasdra nid bychan ym mysg y gelynion, er bod Iul Caisar yn bostio mai efe a'i wŷr a gawsant y trechaf yn y diwedd.

Ond boed hyny fel y myno; un peth, yn anad dim, oedd hynod dros ben ym mysg yr hen Frytaniaid, sef eu gwaith yn ymladd o gerbydau a bachau heiyrn oddi tanynt; ac yr oedd gan Gaswallon, y brenin, bum mil o honynt yn yr ymladdfa uchod. Dyfais waedlyd oedd hon; canys wrth yru ar bedwar carn gwyllt, hwy a dorent restrau y gelynion, ac a'u llarpient yn echrydus, wrth fod y bachau dur yn rhwygo eu cnawd, ac yn eu dragio yn erchyll, fel nad allai dim fod yn fwy ofnadwy na ffyrnig. Ni welodd y Rhufeiniaid erioed y fath beth o'r blaen, a diammheu mai dychymmyg aruthrol greulon oedd hyny; ond wrth ryfela nid ydys yn astudio ar ddim ond dinystr a distryw. Ac er gwyched rhyfelwyr oedd gwŷr Rhufain, fe ddywedir eu bod yn wyneblasu ac yn delwi ar eu gwaith yn clywed trwst cerbyd; fel y gwelwch chwi gywion yr iâr yn crynu rhag barcut chwiblsur, egr, yn gwibio oddi fry arnynt.

Ni arosodd Iul Caisar ond amser byr chwaith y tro hwn ym Mrydain; ac achos da pa ham: yr oedd y wlad yn rhy dwym iddo. Canys y mae efe ei hun yn addef, nad oedd dim esmwythdra na llonyddwch iddo ef na'i wŷr. Canys pan elai ei wŷr allan i barotoi lluniaeth, neu mewn geiriau ereill, pan elent i ladrata da a defaid, ac ysbeilio tai gwirioniaid, yna y Brytaniaid a ruthrent arnynt, a'u taro yn eu talcen; a dedwydd a fyddai hwnw, yr hwn o nerth ei draed, a ddygai y chwedl yn ddiangol i glustiau Caisar. Ac atolwg, a oedd bai mawr ar yr hen Frytaniaid yn trin lladron a mwrddwyr felly? Eu holl ymgais hwy oedd ceisio amddiffyn eu gwir feddiant a'u heiddo eu hun; ac oddi yno y tyfodd y ddiareb, "Gwell gwegil câr na gwyneb estron.” A Caisar, ar hyny, a fwriadodd o ddifrif fyned adref i dir ei wlad; a'r Brytaniaid hwythau a feddiannasant eu gwlad yn heddychol ac yn ddidaro dros agos i gant o flynyddoedd wedi hyny. A pheth mawr na chai dynion fyw yn llonydd ar eu gwir eiddo eu hunain.

Fe amcanodd Augustus Caisar (yn amser yr hwn y ganed Crist Iesu) ymdreiglo i'r ynys hon; ac y mae un o ben prydyddion yr oes hono yn dymuno llwyddiant iddo ef a'i wŷr, yn y fath bennill a hon:—

Cadwed y duwiau Cæsar fawr,
A'i lu yn awr yn treiddio'
Ym mhell i Frydain, dros y môr;
A boed hawddammor iddo."[10]

Ond ni wnaeth efe ddim ond amcanu a bygwth ar flaen tafod. O gylch deng mlynedd ar hugain ar ei ol ef, y bwriadodd Caio Caisar, yr hwn oedd ddyn pendreigl ysgeler, ymweled â'r ynys hon. Efe a gynnullodd yng nghyd ei wŷr; efe a daclodd ei arfau; ac a wnaeth bob peth yn barod at y daith; ac yna, ar ol codi hwyliau, a morio ryw gymmaint o olwg tir Ffrainc, fe laesodd calondid y gwr; ac yn lle myned yn y blaen i dir Brydain i ennill clod wrth nerth arfau, fe roes orchymmyn idd ei wŷr ddychwelyd yn eu hol i dir Ffrainc, a myned a chasglu cregyn ar lan y môr: [11] ac yr oedd hyny, ond odid, yn well difyrwch na chael briwio eu hesgyrn wrth ymladd a'r Brytaniaid.

Hyd yn hyn, y cadwodd y Brytaniaid eu hawl a'u rhydddid yn gyfan rhag trais a gormes y Rhufeiniaid: a hwy a allasent wneuthur hyny o hyd, pe buasent yn unfryd ac heddychol â'u gilydd. Ond rhaid addef mai dynion diffaith cynhenus drwgoeddent; na fedrent gydfod fel brodyr yng nghyd: arglwydd un cwmmwd yn ymgecru â'i gymmydog, ac yn myned benben, fel y gwelwch chwi ddau waedgi gwancus yn ymgiprys frigfrig am asgwrn. Odid fyth y byddai heddwch parhäus drwy y deyrnas; y trechaf yn treisio'r gwanaf; ac ysbryd o ymddïal yn brydio yn ddiorphwys ym monwesau y gwŷr mawr. Ac y mae y Rhufeiniaid, er eu bod yn elynion, yn addef yn ddigon eglur, na allasent hwy fyth orthrechu'r Brytaniaid, oni buasai eu hanghydfod, a'r ymraniad ym mysg eu pendefigion eu hun. [12] Er mai un brenin oedd ben ar yr holl deyrnas (yr hwn a alwai yr hen Gymry, "Unben coronog"), eto yr oedd amryw dywysogion ac arglwyddi â llywodraeth oruchel yn eu dwylo; ac odid fyth fod y rhai hyn heb ryfel a ffyrnigrwydd rhyngddynt.

Yr oedd yr ysbryd ymddïal hwn yn fwy anesgusodol, eto, o herwydd fod eu doethion a'u gweinidogion crefydd (y rhai a enwid y pryd hwnw y Derwyddon) yn pregethu o hyd ym mhob cymmanfa, ar iddynt ystyried enbyted iddynt eu hunain, ac i les cyffredin y wlad, oedd eu gwaith yn ymrafaelio ac yn ymdynu. Ac ym mysg ereill, Cyntwrch, gwr dysgedig o radd y Derwyddon, a areithiodd yn y wedd hon:-"Chwychwi bendefigion urddasol o genedl y Brytaniaid, clust-ymwrandewch â'm chwedl. Rhyw henafgwr gynt, ag iddo ddeuddeg mab anhydyn, ac heb wrando ar ei gynghor i fod yn unfryd ac yn heddychol â'u gilydd, a ddygodd gwlwm o ffyn ger eu bron, sef deuddeg o nifer, ac a archodd os gallai neb un o honynt, o rym braich, dori y cwlwm yn ddau; yr hyn pan brofodd un ac arall ol yn ol, a atebasant, nad oedd agos rym ddigon yn neb un i dori y baich ffyn yng nghyd. Ac yna yr henafgwr a ddattododd y cwlwm, ac yn hawdd ddigon torodd y llanciau y ffon, a roddasid i bob un ar neilldu. Ac ar hyny y dywad eu tad wrthynt, 'Cydnabyddwch, fy meibion, tra fo chwithau yn cyttal yng nghyd mewn cwlwm tangneddyf a chariad brawdol, nad all neb eich gwaradwyddo; eithr os ymranu a wnewch, gwybyddwch o fod yn ysglyfaeth i'ch gelynion.' O gydwladwyr, a chwi bendefigion y bobl, dyna ansawdd ein cyflyrau ninnau; os nyni a ymgeidw yn un a chytûn, nid all holl ymgyrch y Rhufeiniaid wneuthur dim niwed i ni. Nyni a welsom hyny eisys, wrth yru Iul Caisar ar ffo; eithr os anrheithio a difodi cyfoeth y naill y llall a rhyfela â'ch gilydd yw eich dewis, byddwch sicr o fod yn gaethweision i'r Rhufeiniaid."V

Ond yr un peth a fuasai canu pibell yng nghlustiau'r byddar, a cheisio eu perswadio hwy fod yn heddychol; canys dilyn eu hen gamp ysgeler a wnaethant hwy fyth, i ymryson a mwrddro eu gilydd, fel y gwelwch chwi adar y to yn ymgiprys am ddyrnaid o yd, heb wybod fod hyny yn eu harwain at y groglath. Ar air, cymmaint oedd eu cynddeiriogrwydd a'u malais, fel prin y byddai cydfod parhäus rhwng y naill gantref a'r llall drwy y deyrnas. [13]

Yn awr yn y terfysg a'r cythrwfl yma, fe ddygwyddodd i ryw wr mawr a elwid Meurig gael ei ysbeilio o'i gyfoeth a'i awdurdod, llosgi ei dai, anrheithio ei diroedd, mwrddro ei ddeiliaid, a'i yru yntef ar draws gwlad i gael noddfa lle y gallai! Ac yn y wŷn danbaid hon, efe a aeth dros y môr i wahawdd Gloew Caisar[14] i oresgyn Ynys Brydain; yr hyn a ddygwyddodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 44; a hyny oedd agos i gan mlynedd ar ol i Iul Caisar dirio yma gyntaf.

Ac yna Gloew Caisar, Ymherawdr Rhufain, a alwodd ei ben cynghoriaid yng nghyd, i wybod eu barn, pa un a wnai efe-ai rhyfela â'r Brytaniaid ai peidio a fyddai oreu. A hwy a atebasant, "Digon gwir fe gadd Iul Caisar ei drin yn hagr a'i faeddu ganddynt; eto ystyried dy fawrhydi di, pa fodd y mae gwlad Brydain wedi ymranu yn awr; nid oes dim ond y gynhen a'r anras yn eu mysg; ac y mae gyda ni un o'u goreuon yn gyfaill calonog i ni, Meurig dan ei enw. mae efe yn gwirio eisys na fydd ond ychydig ac anaml daro, hyd onid allwn oresgyn gan mwyaf eu gwlad oll. Felly, yr ŷm ni yn barnu y dylid, yn anad dim, ryfela yno; pe amgen ni a'n cyfrifir fel cler y dom, ac fel cacwn; ac y mae hyny yn anweddus i barch y Rhufeiniaid." "Gwir ddigon," ebe Gloew Caisar, "dyma'r odfa i ni ymddïal arnynt, ac ennill y sarhâd a'r golled a gadd Iul Caisar, fy hen ewythr, oddi ganddynt."

Ac ar hyny Gloew Caisar a ymwrolodd yn ei ysbryd, ac a gymmerth galon gwr; ond er hyny yr oedd efe yn gallach na mentro ei fywyd ei hun yn fyrbwyll ar chwedl Meurig; ac a archodd i'r pen capten, a elwid Plocyn,[15] os byddai hi yn galed arno, ar ddanfon hysbysrwydd o hyny ato ef i Rufain, ac y deuai efe ag ychwaneg o wŷr yn gymhorth iddo.

Yna wedi i Plocyn a'i wŷr, drwy fawr ludded, deithio cyn belled a Môr Ffrainc, a hwy yno megys yng ngolwg Brydain, eto ef a gafas ei wala o waith eu perswadio hwy i hwylio drosodd i Frydain: yr oedd dewrder yr hen Frytaniaid megys yn ddrain pigog ar eu hafu fyth. Ond rhwng bodd ac anfodd, morio a wnaethant; ac a hwy yn awr yng ngolwg y tir, y chwythodd tymmestl o wynt gwrthwyneb a'u gyru drachefn i ardal Ffrainc. Tybiodd y Brytaniaid i'r llongau ddryllio a soddi gan y dymmestl, ac a aethant ar hyny bawb ar wasgar; ond yn y cyfamser y tiriodd Plocyn a'i wŷr agos yn ddiarwybod i lu y Brytaniaid; canys y llongau a achubasant rhag soddi, er maint oedd y dymmestl.[16]

Pan oedd llu y Brytaniaid yn y fath drefn annosbarthus a hyn, a wedi gwasgaru yma ac acw ar draws y wlad, y mae yn ddilys i'r Rhufeiniaid wneuthur galanasdra nid bychan wrth ddyfod a rhuthro arnynt, a hwy yn ammharodol; ond yn anad dim o ran yr anghydfod a'r ymrafael yn eu mysg eu hunain. Eithr ym mhen ychydig, wrth weled cleddyf eu gelynion yn difrodi mor ddiarbed, hwy a ddaethant i well pwyll o fod yn un a chytûn â'u gilydd; ac "O, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yng nghyd!" canys tra y parhaodd yr undeb hwn, y cynnullasant eu byddinoedd yng nghyd dan eu pen capten a'u brenin, a elwid Cynfelyn; ac a phawb yn awr yn wresog i ymladd dros eu gwlad, buan y dialeddwyd ar y Rhufeiniaid am y gwaed a dywalltasant; ac er cyn cyfrwysed rhyfelwr oedd Plocyn, a ffyrniced i oresgyn y wlad hon, er cael clod a goruchafiaeth gan ei feistr gartref, eto gorfu arno, o anfodd ei ên, i ddanfon i Rufain am ychwaneg o gymhorth; [17] ac yna y daeth Gloew Caisar ei hun, yr ymherawdr, a'i holl gadernid i Frydain.

Yr oedd y cenadon a ddanfonodd Plocyn i Rufain i gynnull ychwaneg o sawdwyr, wedi adrodd y fath chwedl garw am ddewrder y Brytaniaid, fel na wyddai Gloew Caisar beth i wneuthur, ac arno chwant i ymddïal a chwant i aros gartref; megys anner dwym-galon, yn brefu wrth weled y cigydd yn mwrddro ei chyntafanedig,[18] ac eto heb galon i gornio y mwrddwr. Ond yno, ar ol bod yn hir yn go bendrist, y daeth yn ei gof i'r Rhufeiniaid unwaith neu ddwy ennill y maes ar eu gelynion wrth ymladd oddi ar gefn yr elephant, yr hwn sydd fwystfil hagr o faint, ac yn llwyr anghydnabyddus yn y gwledydd hyn. Ac yn wir nid oedd bosibl iddo daro ar well dychymmyg; canys ar ol iddo dirio ym Mrydain, a gosod ei sawdwyr o fesur ugain neu ddeg ar hugain ar gefn pob elephant (canys cynnifer a hyny all efe ddwyn yn hawdd), fe darfodd hyny y meirch rhyfel, yng nghyd â'u marchogion, fel y bu annhrefn erchyll drwy holl lu y Brytaniaid; a'u gelynion yn hawdd a gawsant y trechaf arnynt.

Cynfelyn, brenin y Brytaniaid, ar hyny o ymostyngodd i dalu teyrnged i Rufain, sef tasg o aur ac arian bob blwyddyn; ac y mae yr arian a fathwyd y pryd hwnw heb fyned ar goll eto, a'r ysgrifen hon fyth i'w darllen, "Tasg Cynfelin." Acyno ym mhen un diwrnod ar bymtheg yr aeth Gloew Caisar i dir ei wlad tuag adref; a choeliwch fi, nid ychydig oedd ei fost yn Rhufain, o'i waith yn darostwng y Brytaniaid wrth y fath ystranc ddichellgar; ac er coffadwriaeth o hyny, y bathwyd arian â llun Gloew Caisar ar y naill wyneb, ac elephant ar y wyneb arall.

Ond nid oedd yn agos i ddegfed ran o'r ynys wedi ymostwng eto i dalu teyrnged i Rufain; nid dim ond y wlad o gylch Llundain, lle yr oedd Cynfelyn yn teyrnasu; canys pan amcanodd y Rhufeiniaid i eangu eu llywodraeth tua'r Gorllewin, y safodd gwr pybyr a nerthol, a elwid Caradog Freichfras, yn eu herbyn; ac yn ol yr hanes y mae'r Rhufeiniaid (er eu bod yn elynion) yn ei adrodd am dano, gwr oedd hwnw heb ei fath, nid yn unig am ei fedr a'i galondid mewn rhyfel, ond hefyd am ei syberwyd a'i arafwch; na chwyddo mewn hawddfyd, na llwfrhau mewn adfyd. Efe a ymgyrchodd naw mlynedd â holl gadernid Rhufain, ac a allasai ymdopi naw ereill, oni buasai ei fradychu ef gan lances ysgeler o'i wlad ei hun, a elwid Curtisfinddu.[19] Ac yn yr ysbaid hwnw efe a ymladdodd ddeg brwydr ar hugain â'i elynion; ac, er nid o hyd â chroen cyfan, eto fe a ddaeth bob amser yn ddiangol o'i fywyd, ac yn llawn anrhydedd. Ei araith tuag at annog ei sawdwyr, a gosod calon ynddynt, oedd at yr ystyr hyn: "Byddwch bybyr a nerthol, O Frytaniaid; yr ydym yn ymladd ym mhlaid yr achos goreu yn y byd-i amddiffyn ein gwlad, a'n heiddo, a'n rhydd-did, rhag carnladron, a chwiwgwn. Adgofiwch wroldeb eich teidau yn gyru Iul Caisar ar ffo, Caswallon, Tudur Ben-goch, Gronwy Gethin, Rhydderch Wynebglawr, a Madog Benfras."[20]

Ar ol ei fradychu i ddwylo ei elynion, fe a ddygpwyd yn rhwym i Rufain, lle y bu cymmaint orfoledd a llawenydd, a dawnsio a difyrwch, o ddal Caradog yn garcharor, a phe buasid yn gorchfygu gwlad o gewri. Ni bu dinas Rufain ond prin erioed lawnach o bobl na'r pryd hwnw; nid yn unig y cyffredin bobl, ond y pendefigion, yr uchel gapteniaid, y marchogion, a'r arglwyddi, o bell ac agos, oeddent yn cyrchu yn finteioedd i gael golwg ar y gwr a ymladdodd gyhŷd o amser â holl gadernid Rhufain. Ac yno, ar ddiwrnod gosodedig, mewn eisteddfod lawn o holl oreuon Itali, a'r ymherawdr ei hun yn bresennol, efe, â wyneb diysgog, ac â chalon ddisigl, a wnaeth araith, yn gosod allan helbulon byd, a chyfnewidiadau bywyd dyn, mor deimladwy, fel y menodd hyny gymmaint ar bawb, fel prin oedd un yn gallu ymattal rhag wylo, a dywedyd, "Wele, ym mhob gwlad y megir glow. Yng nghylch blwyddyn yr Arglwydd 53, y bu hyny.

Ond er hyn oll, ni laesodd calon y Brytaniaid i sefyll allan yn erbyn gormes y Rhufeiniaid; ond yr oeddent yn awr yn fwy llidiog nag o'r blaen i ddïal arnynt am y sarhâd o ddwyn Caradog yn garcharor i Rufain. Eu pen capten, ar ei ol ef, a elwid Arifog; ac efe a ymladdodd â hwy lawer brwydr waedlyd, ambell waith yn cael y trechaf, ac ambell waith yn colli. Ond beth a allai un genedl wneuthur yn chwaneg tuag at gynnal ei gwlad a'i gwir eiddo rhag treiswyr gormesol, nag a wnaeth y Brytaniaid yma? Calondid, a gwroldeb, a medr i drin arfau rhyfel oedd ganddynt gystal ag un genedl arall dan haul; ond pan oedd gwŷr o newydd yn ymruthro o hyd arnynt (megys yr oedd y Rhufeiniaid yn codi gwŷr o bob gwlad, a'u danfon i Frydain), pa le yr oedd yn bosibl iddynt ymgadw? Y mae genym achos yn hytrach i ryfeddu pa fodd y gallasant sefyll allan gyhŷd.

Ac yma daliwn sylw ar gyfrwysdra y Rhufeiniaid i gadw craff ar y wlad a oresgynent drwy nerth arfau; canys yr oeddent yn arferol o arllwys y wlad hòno cyn llwyred ag oedd bosibl o'i rhyfelwyr, fel y gallent, drwy nerth eu harfau hwy, ennill gwledydd ereill, ac er cadw y wlad a eresgynid dan law. Nid llai nag ugain mil o Frytaniaid oedd gyda Thitus ab Fespasian yn ymladd yn erbyn Ierusalem; [21] ac yn eu lle y danfonwyd trosodd filoedd a miloedd o bobl yr Ital, y rhai a ymwthiasont i bob man hyfryd, megys haid o gilion gwancus yn tyru i badell o ddwfr a mêl, ac yn soddi ynddo; neu megys cenfaint o foch gwylltion yn tori i gae o wenith, ac ar hyny yr hwsmon yn galw ei gŵn ac yn eu llarpio. A thyna fel y dygwyddodd i'r Rhufeiniaid disberod yma yn y diwedd, fel y dangosaf isod.

Canys yr oedd y rhai hyn yn gwneuthur castiau hagr â'r hen drigolion; yn eu gwatwar, a'u galw wrth bob enw cras a'r a allasai digywilydd-dra noeth ei ddychymmyg. Os byddai tiroedd neu dai wrth fodd y Rhufeiniaid, fe orfyddai ar y perchenogion ymadael â hwy; a'r cyffredin bobl hwythau yn gorfod gweithio yn galed o foreu hyd hwyr, ac estroniaid yn cael yr elw. Ac os beiddiai neb achwyn fod hyny yn dost, fod estroniaid yn meistroli trwy drais, ac yn gwneuthur y trigolion yn gaethweision yn eu gwlad eu hun, hwy gaent aml ffynodiau am eu cwyn, ac yn fynych eu trywanu â'r cleddyf. Ië, yr oedd Ꭹ Rhufeiniaid yn awr wedi myned mor ysgeler,

megys nad oeddent yn edrych ar oreuon y deyrnas ond megys cŵn a barbariaid; fel (ym mysg ereill) y mae genym hanes iddynt wneuthur ag arglwydd mawr a elwid Brasydog;[22] canys hwy a ysbeiliasant ei balas o bob peth gwerthfawr ag oedd ganddo; ac a'i arglwyddes [23] yn ymresymu yn llariaidd â hwy am eu trais a'u cribddail, hi a gurwyd â gwïail nes ei bod yn hanner marw, a threisiwyd ei merch o flaen ei llygaid; ac i gwblhau ar y cwbl, dygpwyd delw a wnaed ar lun yr ymherawdr, a phwy bynag nid ymgrymai o'i blaen a'i haddoli, osodid i farwolaeth.

Yr oedd hyn, yn ddilys, yn fyd tost ac annyoddefol; ac ar hyny y cydfwriadodd arglwyddi a phendefigion y deyrnas i ruthro arnynt, a'u tori ymaith yn gwbl, hen ac iefainc, oddi ar wyneb y wlad; megys y gwelwch chwi lafurwr yn son am ddiwreiddio drain, ac ysgall, a mieri, rhag eu bod yn anffrwythloni y tir. Yr oedd hyn yn ddïau yn gydfwriad cethin ac ysgeler; ond dyna oedd eu barn hwy y pryd hwnw.

Yn y cyfamser yr oedd holl lu y Rhufeiniaid, gan mwyaf, sef eu holl ryfelwyr a'u gwŷr arfog, wedi myned i oresgyn Ynys Fon. Nid oedd yr ynys hòno y pryd hwnw ond trigfa o wŷr crefyddol, a elwid y Druidion, y rhai megys cenedloedd ereill,[24] oeddent yn anad un lle arall yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderi cauadfrig, i aberthu a galw ar y duwiau, megys yr oedd Ynys Fon y pryd hwnw yn llawn o laneirch a llwynau pendewon; a hyn yw meddwl y Bardd:

"Nos da i'r ynys dywell: Ni wn oes un ynys well."

LLYWELYN GOCH AB MEURIG.

Nid oedd gwŷr Mon, fel y dywedais, ddim rhyfelwyr mawr y pryd hwnw, ond cymmanfa o wŷr crefyddol; a hwy a dybiasant [a] y dangosai y Rhufeiniaid barch iddynt ar y cyfrif hwnw. Y Druidion, heb ddim arfau rhyfel, a gadwent y blaen, gwedi eu gwisgo mewn gynau symmudliw, capan côr taleithiog ar eu penau, a ffyn hirion parwyn yn eu dwylo; a'r gwyryfon yn dwyn lampau cwyr wedi eu ennyn, yn dawnsio draw ac yma drwy eu canol, yn edrych yn anferthol ac yn syn o hirbell. Fe wnaeth yr olwg o hyn, yn wir, ryw ychydig fraw ar y cyntaf yn llu y Rhufeiniaid; ond ar ol ergydio cafod o saethau tuag atynt, buan iawn y gwasgarwyd hwy; a'r gelynion a wnaethant laddfa echrydus yn eu mysg. Y lle y tiriodd y Rhufeiniaid ym Mon a elwir hyd heddyw, Maes Hirgad; a'r ymladdfa uchod fu ger llaw Porthamel, rhwng Pwll y Fuwch a Llanidan; ac y mae man ger llaw a elwir Pant yr Ysgraffau. [25]

Yr oedd y fath alanasdra a hwn ar eu difinyddion yn chwerwi yr hen Frytaniaid fwyfwy fyth; canys ymresymu a wnaethant, "Dyma'r Rhufeiniaid-mwrddwyr a dyhirwyr ag ydynt!-wedi rhuthro ar ein hoffeiriaid a thrigolion Ynys Mon, y rhai ni wnaethant erioed y niwed lleiaf iddynt; ac wele ninnau, ar ol pob ammharch a thrais yn y byd, eto yn ymostwng iddynt fel diadell o ddefaid wedi eu tarfu gan ddau neu dri o gorgwn. Megys y gwnaethant hwy â nyni, felly gwnawn ninnau â hwynt-hwy. 'Gwell erlid arglwydd na'i ragod. Ac ar hyny, megys cnud o lewod wedi tori allan o ffau, codi a wnaethant dros yr holl wlad, a dangos cyn lleied trugaredd i'r Rhufeiniaid yn awr, ag a ddangosasant hwythau i wŷr Ynys Fon. Nid oedd yn awr dros wyneb yr holl wlad ond crechwenydd y Brytaniaid yn tywallt gwaed, ac ocheneidiau a griddfan y Rhufeiniaid. Llosgwyd teml a delw yr ymherawdr, a lladdwyd yr holl offeiriaid. Llundain, yng nghyd â'r trefydd o amgylch, lle'r oedd pobl Rhufain yn byw, a losgwyd yn ulw mân, yng nghyd â'u trigolion. Ac er nad oedd y Rhufeiniaid ddim mor anghall ddynion a gadael eu trefydd heb lu digonol o sawdwyr i amddiffyn y trigolion (heb law y rhai a aethai i Ynys Fon), eto eu gwŷr arfog hwythau a dorwyd ymaith megys un â chryman yn tori penau cawn. Mor llidiog ac mor wrolwych oeddent! Ar air, ychydig lai na phedwar ugain mil, o bob gradd ac oedran, a gwympasant yn y lladdfa echrydus hon. [26]

Ar hyn, wele ben capten y Rhufeiniaid, a eilw'r Cymry, Sywidw Paulin,[27] yng nghyd â'i wŷr arfog, yn dychwelyd o Fon. Ac er eu dyfod, erioed ni bu eu calon, un ac arall gyda'u gilydd, mor farwaidd a diddim a'r pryd hwn; canys prin y gallasent ddal eu harfau yn eu dwylo, y fath oedd eu dychryn. Gweled celaneddau meirw eu cydwladwyr yn gorwedd yma ac acw cyn dewed ar hyd wyneb y meusydd a hen ddefaid yn trigo o'r pwd mewn gauaf dyfrllyd! gweled eu dinasoedd a'u caerau yn mygu dros wyneb yr holl wlad! ac yn anad dim, gweled y Brytaniaid â llu cadarn ganddynt, o leiaf, bedwar cymmaint a'u llu hwy! ar air, ni fu dim rhyngddynt a diffodd yn barod; canys "toddodd calonau y bobl" wrth weled y fath ddistryw, ac yr aethant fel dwfr." [28] A dilys yw, na tharawsent ergyd, oni buasai fod eu pen capten yn wr call a glew hefyd: canys ar ei waith ef yn eu gweled yn delwi ac yn ymollwng, efe, â wyneb siriol, a'u galwodd yng nghyd, ac yna a areithiodd yn y wedd hon: "Ha wŷr," eb efe, "ai digaloni a wnewch rhag dadwrdd a bloeddian y barbariaid acw? Beth yw eu llu, gan mwyaf, ond menywetach ffol, y rhai a fuasai yn well syberwyd iddynt aros gartref wrth eu rhod a'u cribau. Ac am eu gwrywaid, beth ynt ond cynnifer lleban difedr i drin arfau rhyfel? Ymwrolwch, gan hyny, chwi Rufeiniaid, dychryn gwledydd; a byddwch nerthol y waith hon, a chwi a welwch y barbariaid hyn yn gelaneddau meirwon dan eich traed yn ebrwydd."

Ar hyny Buddug, gwraig Brasydog, cadbenwraig llu y Brytaniaid (canys benyw oedd ben y gad y tro hwn), a areithiodd hithau, gan ddywedyd,[29] "Adnabyddwch, O Frytaniaid, er fy mod i ol yn ol o waed breninol, eto nid yw edifar genyf, er nad wyf ond benyw, i gydfilwrio â chwi dros yr achos cyffredin, sef i amddiffyn ein gwlad, ein hawl, a'n heiddo rhag trais anrheithwyr ysgymmun, y Rhufeiniaid ysgeler acw. Dialed Duw arnynt am y cam a'r sarhâd a wnaethant hwy, ni ddywedaf i myfi fy hun a'm teulu yn unig, ond i holl genedl y Brytaniaid! Am danaf fy hun y dywedaf, ni fyddaf fi byth yn gaethwraig dan eu llywodraeth; dewised y sawl a fyno. Ac od oes ynoch galonau gwŷr, ymddygwch fel gwŷr yn awr; myfi a wnaethym, ac a wnaf fy rhan i." Ar hyny ergydio a wnaethant eu saethau cyn amled a chafod o genllysg at y gelynion; ac mor hyderus oeddent i ennill y maes (a hwy y fath lu mawr anferthol o bob rhyw ac oedran), yn gymmaint a bod miloedd a miloedd yn gynnifer pentwr yma ac acw ar benau'r bencydd, acereill mewn meni a cherbydau, wedi dyfod yng nghyd yn unig i weled dyfetha'r Rhufeiniaid. Mor fyrbwyll a nawswyllt oeddent! Y Rhufeiniaid hwy a dderbyniasant y gafod gyntaf o saethu yn ddigyffro, heb fyned allan o'u rhestr; ond ar ol i'r Brytaniaid oeri ychydig o'u brwd ymgyrch, cydio a wnaethant eu tarianau yng nghyd, i ymachub rhag y saethau, a rhuthro arnynt i ymladd lawlaw â'u cleddyfau llym daufiniog. Nid oedd y Brytaniaid hwy yn gydnabyddus â'r fath ymgyrch a hwn, lawlaw frigfrig: ac nid oedd ganddynt hwy ond cleddyfau unfiniog, à blaen pŵl, â'u plyg tuag i fyny; ac o achos hyn o anfontais, ond yn anad dim o herwydd eu bod blith draphlith, heb eu byddino yn drefnus, hwy a fathrwyd gan y gelynion megys crin-goed yn cwympo mewn tymmestl. Ychydig lai na phedwar ugain mil a gwympodd y dydd du hwnw, o bob gradd ac oedran; er nid cymmaint a hyny o wŷr arfog; ond rhwng gwragedd, a gwyryfon, a phlant, a'r werin wirion o gylch. Canys mor ffyrnig oedd y Rhufeiniaid y tro hwn, fel nad arbedasant nac hen nac iefainc, nac hyd yn oed y benywod yn eu griddfan,[30] ond trywanu pawb yn ddiwahân, cynnifer ag a ddaethant o fewn eu cyrhaedd. A Buddug hithau, meddant hwy, o chwerwder a gofid calon a wenwynodd ei hun. O gylch blwyddyn yr Arglwydd 62, y bu hyny.

Ar ol hyn, digon gwir, yr eangodd llywodraeth y Rhufeiniaid, ond nid heb golli llawer o waed, ac ymladd megys am bob troedfedd, a goresgyn trwy rym y cleddyf. Bu ymladdfa waedlyd drachefn ym Môn; un arall â gwŷr y Deheubarth, y rhai, fel y tystia y Rhufeinwyr, oeddent y dynion dewraf a grymusaf y pryd hwnw o holl wŷr Brydain. Ac o gylch dwy flynedd ar bymtheg ar ol hyny, sef blwyddyn yr Arglwydd 84, y bu ymladdfa fawr a chreulon eto drachefn yn y Gogledd, yn agos i gyffiniau Iscoed Celyddon,[31] lle y cwympodd o'r Brytaniaid, os gwir a ddywed hanesion Rhufain, ddeng mil o wŷr, dan eu pen cadben a elwid Aneurin Gilgoch; ond nid ychwaneg, meddant hwy, nag yng nghylch pedwar cant o bobl Rufain; ond bod amryw bendefigion a gwŷr mawr o'r nifer hwnw.

Dyweded y neb a fyn ei ddewis chwedl, ni bu cymmaint o daraw ar y Rhufeiniaid erioed ag a gawsant ym Mrydain; canys, am wledydd ereill, ar ol ymladd ac ennill y maes ddwywaith neu dair, y trigolion yno a ymostyngent i geisio ammodau heddwch; ond am yr hen fechgyn, y Brytaniaid, hwy a ddewisent golli can bywyd, pe bai hyny bosibl, cyn ymostwng i fod yn gaethweision. Ac i ddywedyd y gwir goleu, yr oedd yRhufeiniaid wedi dygn flino, ac yn edifar ganddynt ddarfod iddynt droedio tir Brydain erioed, gan mor beryglus ac anesmwyth oedd eu bywyd. Ac yno, wrth adnabod natur a thymmer y trigolion yn well, eu bod yn ddynion nad ellid fyth eu llusgo drwy foddion hagr, y cynnyg nesaf a wnaethant, oedd eu harwain i gaethiwed drwy ddywedyd yn deg, a'u colwyno drwy weniaith, a danteithion, a moethau da; megys heliwr yn elïo abwyd i ddal cadnaw mewn magl, yr hwn a fu drech na'i holl filgwn. A choelwch fi, mai dyfais enbyd a dichellgar oedd hon o eiddo'r Rhufeiniaid; canys y pendefigion yna a ddechreuasant adeiladu tai gwychion, gwisgo dillad o lawnt a sidan, cadw gwleddoedd, a dilyn pob difyrwch a maswedd; dysgasant hefyd y iaith Ladin, a phrin y cydnabyddid neb yn wr boneddig ond yr hwn a fedrai siarad Lladin. Nid oedd hyn ddim oll ond gwisgo lifrai gweision, er hardded y tybid hyny gan y werin anghall.

Ond eto, er y cawsai y Rhufeiniaid yn ddiammheu eu gwynfyd, pe buasai pawb o'r deyrnas yn dirywio i'r fath fywyd masweddol, eto yr oedd rhai â golwg sur yn edrych ar y fath feddalwch llygredig; ac ym mysg ereill, gwr a elwid Gwrgant Farfdrwch[32] a areithiodd yn y wedd hon:"Chwi ddyledogion a goreuwyr y wlad, rhowch glust i ddychymmyg: Y llew, ar foreu teg o haf, a ganfu afr yn porfäu ar ben craig uchel yn Arfon: 'O, fy nghares,' eb efe, 'beth a wnewch chwi yn dyhoeni ar dusw o wellt mor arw ag y sydd yna rhwng y creigydd?' Pa ham, fy anwylyd, na ddeuwch i waered yma i'r dyffryn, i bigo meillion a blodau gwinwydd?' 'Diolch i chwi, meistr,' ebe'r afr, 'am eich cynnyg da; ond ar hyn o dro mi a ddewisaf i aros lle yr ydwyf.' Gwybyddwch chwithau, O bendefigion, nad yw y teganau y mae y Rhufeiniaid yn eich harddu â hwynt, ddim angen na'r meillion y mae'r llew gwancus yn gwahawdd yr afr atynt. Hyhi, yn y ddammeg, a atebodd yn gall; mynwn petai chwithau yn adnabod nad yw y coeg bethau ffiloreg yr ydych yn ymdecäu â hwynt, ddim amgen na gwenwyn wedi elio drosto â mel. Hon ydyw yr ymgais olaf a'r enbytaf hefyd o eiddo'r Rhufeiniaid i'ch dwyn i gaethiwed; a dywedaf yn hy wrthych, y fath fywyd masweddol a'ch dyg yn ddilys i ddistryw, oddi eithr i chwi adnabod eich hunain mewn pryd, megys y gwnaeth yr afr yn y ddammeg."[33]

Ond dilyn eu rhodres a fynent hwy; ac ni chafas Gwrgant Farfdrwch ond chwerthin am ei ben, am ei ewyllys da i'w hachub rhag myned bendramwnwgl i gaethiwed. Ac o hyny allan, dros amryw flynyddoedd, y boneddigion a ymroisant i ddifyrwch a moethau; y gwŷr iefainc yn dwyn arfau, a gipiwyd ymaith i wledydd pellenig; a'r cyffredin bobl hwythau a osodwyd ar waith i ddyhyspyddu llynoedd, gwneuthur sarnau newyddion ar draws y wlad, neu wneuthur priddfeini i adeiladu tai gwychion idd eu meistraid, y Rhufeiniaid. O gylch deugain mlynedd y buont yn lled dangneddyfus, heb ddim terfysg nac ymyraeth, ond yn talu teyrnged yn lled ddiddig; ond o gylch y flwyddyn 124, pan oedd gwr a elwid Sefer yn rheoli yma dan yr Emprwr Adrian, cydfwriadu a wnaethant, dros yr holl deyrnas, i ysgwyd ymaith awdurdod y Rhufeiniaid, ac i gleimio eu rhydd-did a'u braint unwaith eto. Eu dirmyg ar foneddig a gwreng a gyffroawdd y trigolion i fwrw ymaith iau eu caethiwed. A dywedir, oni fuasai fod Adrian yr ymherawdr a'i holl lu ger llaw, a hwylio drosodd yn ebrwydd yn gynnorthwy cyfamserol, y Rhufeiniaid, ar hyn o bryd, a dorasid ymaith yn gyfan-gwbl; ac eto hi a fu gyfyng iawn arnynt, er mai hwynt-hwy, digon gwir, a gawsant y trechaf yn y diwedd.[34]

Ac ar hyn o bryd, wele ddychymmyg arall ac ystryw o eiddo'r Rhufeiniaid i gadw tan law yr hen drigolion; canys gwnaethant glawdd mawr o dyweirch a pholion, bedwar ugain milltir o hyd, draws yr ynys, o fôr i fôr, sef o Abercwnrig, y naill ran o'r ynys tua'r dwyrain, hyd yn Ystrad Clwyd, tua'r gorllewin; sef yn agos i gydiad Lloegr ac Iscoed Celyddon, neu Scotland, lle mae yr ynys yn gulaf drosti.[35] Pwy bynag ni roddai ufudd-dod i lywodraeth y Rhufeiniaid a yrid allan o gyffiniau Lloegr, y tu arall i'r clawdd; a sawdwyr yn gynnifer pentwr yma ac acw, ar bwys y clawdd, yn gwylied, i gadw pawb allan o'r tu draw.

Dros dalm ar ol hyn y bu amser lled heddychol, megys heddwch rhwng boneddigion, oddi eithr ambell wth a bonclust yn awr a phryd arall, yma ac acw. Ond, megys wrth groni afon redegog, hi a erys ond odid yn llonydd ac yn dawel dros encyd; eto pan ddêl llifeiriant, hi a ffrydia yn rhaiadr gwyllt dros yr ystanc, ac a dreigla ac a chwilfriwa pa beth bynag a saif ar ei ffordd: felly y Brytaniaid hwythau, er eu bod dros amser yn lled esmwyth, eto, wrth weled eu trin mor hagr, ac fel estroniaid yn eu gwlad eu hun, a gymmerasant galon o newydd eto. Er bod eu gwŷr dewisol, pigion a blodau ieuenctyd y wlad, wedi eu cipio o drais y tu draw i'r môr, megys yr oedd y Rhufeiniaid yn arferol o wneuthur, eto yr oedd digon o ysbryd chwerw o ymddïal yn brydio calonau y gwŷr oedd gartref; canys y gwŷr y tu draw ni wnaethant fwy cyfrif o'r clawdd, nag a wna march rhyfel i neidio dros gornant; a phreswylwyr Lloegr a Chymru hwythau, y tu yma i'r clawdd, a godasant yn un a chytûn dros wyneb yr holl wlad, nes ei bod hi yn amser gwaedlyd y pryd hwnw ym Mhrydain. Cynllwyn am waed, lladd a dyfetha eu gilydd drwy boenau a chreulonder, llosgi tai â gwŷr a gwragedd a phlant o'u mewn; ar air, ymffyrnigo mewn dialedd oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brytaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd. Digon gwir, hwy a lonyddent dros ychydig amser i gymmeryd eu hanadl, megys dau darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig; ond yna eu llid a frydia o newydd, a myned i ymdopi yn ffyrnicach nag o'r blaen.

Fe syrthiodd peth aneirif o bob gradd ac oedran, yn gystal o'r Rhufeiniaid ag o'r Brytaniaid, yn y terfysg yma, yr hwn a barhaodd dros gymmaint o flynyddoedd. Dywedir i ddeng mil a deugain o sawdwyr a swyddogion Rhufain, heb law ereill hyd wyneb y deyrnas, gael eu trywanu â chleddyf y Brytaniaid. Y gwirionedd yw hyn, yr oedd y ddwy genedl yn bengam eu gwala; ni fynai'r naill ddim i blygu ac ymostwng, na'r llall ddim i adael heibio wedi dechreu.

Felly y newyddion nesaf sy genym ni am danynt yw o gylch y flwyddyn o oedran Crist 197, pryd y daeth yr ymherawdr a elwid Sefer, â llu mawr iawn ganddo, drosodd i Frydain, sef agos i gan mil rhwng meirch rhyfel a gwŷr traed, gan lwyr fwriadu gwbl ddyfetha cenedl y Brytaniaid oddi ar wyneb y ddaiar. Canys nid hwyrach nag y tiriodd, efe a roddes orchymmyn idd ei sawdwyr mewn pennill allan o hen brif fardd:—[36]

"Na edwch Fritwn yn y wlad, ond lleddwch oll i gyd;
Gwryw a benyw, mawr a bach, difrodwch oll yng nghyd."

Ond er gwaethaf hyn o fygwth i daro braw a'u digaloni, fe gafas ei wala o waith i ddarostwng pob man dan ei lywodraeth. Am y rhan fwyaf, digon gwir, a hwy wedi cael ond gormod prawf eisys o ddyhirwch rhyfel, ac yn enwedig wrth ystyried nad oedd e ddim sarhâd na chywilydd i'r Brytaniaid ymostwng i dalu teyrnged, pan oedd yr holl fyd (h.y., y rhan fwyaf o'r byd adnabyddus y pryd hwnw) dan awdurdod y Rhufeiniaid, ac yn eu cydnabod yn feistraid; am hyny, meddaf, y danfonasant genadwri at yr ymherawdr, ar fod yn wiw ganddo alw yn ol a diddymu y gorchymmyn gwaedlyd a roddes efe o'r blaen idd ei filwyr, ac y byddent hwythau wedyn yn ddeiliaid ffyddlon iddo. A'r ymherawdr yno, ar ol cael deuddeg o ben goreuon y deyrnas yn wystlon ar iddynt gyflawnu eu gair, a'u derbyniodd idd ei ffafr; ac ar hyny y gwnaethpwyd ammodau o heddwch rhwng y ddwy genedl.

Ond er i'r rhan fwyaf o'r deyrnas gymmeryd llw o ufudddod, eto yr oedd miloedd o rai cyndyn (a Merfyn Frych Wynebglawr yn ben capten arnynt) nad ymostyngent ar un cyfrif i lywodraeth pobl pellenig, er gwaethaf eu holl gadernid a'u bygythion. O blegid hwy a gilient i'r anialwch a'r corsydd, lle nid allai y Rhufeiniaid ddim eu canlyn heb berygl bywyd. A phrin y gellid eu newynu chwaith; o blegid fod ganddynt ryw damaid gymmaint a ffäen a gadwent yn eu geneuau, a fwriai ymaith chwant bwyd.[37] Ond o fesur ychydig ac ychydig, hwy a ddofwyd, ond nid heb golli llawer o waed o bob ochr. Ond nid ymddiriedodd yr ymherawdr fyth iddynt; canys efe a'u danfonodd hwy y tu arall i'r clawdd, yr hwn a adgyweiriodd efe o fôr i fôr, ac a'i gwnaeth yn gadarnach o lawer na'r hen glawdd, er nad oedd e eto ond o dyweirch a pholion; ac a enwir hyd heddyw Gwal Sefer; am ba un y cân rhyw hen fardd fel hyn:—

Gorug Seferus waith cain yn draws dros Ynys Frydain,
Rhag gwerin gythrawl, gwawl fain."

Dyn dewr calonog oedd Sefer, ac a gadwodd, tra fu efe yn teyrnasu, bob peth yn wastad ac yn heddychlon. Efe a fu farw bl. yr Arg. 213, yng Nghaerefrog; a'r geiriau diweddaf a ddywad efe ar ei wely angeu oeddent, "Mi a gefais yr ym herodraeth yn llawn terfysg a helbul; ond wele bob peth yn awr yn dangneddyfus, ïe, hyd yn oed ym mysg y Brytaniaid eu hun."

Ni bu dros amryw flynyddoedd wedyn ddim rhyfel oddi eithr ambell ergyd chwyrn, ac ambell sen chwimmwth draw ac yma. Y Rhufeiniaid oedd yn awr yn feistraid, ac odid fod gwas lifrai trwy gydol y deyrnas, onid oedd yn deall ac yn siarad Lladin yn ddifai ddigon. Yn y flwyddyn 228, y gwelwyd yn y misoedd Tachwedd a Rhagfyr, seren y gynffon yn estyn ei phelydr megys tân llachar, yn ofnadwy ac yn aruthrol ei ganfod; a'r haf, dros dair blynedd ar ol hyny, oedd mor wlybyrog fel nad addfedodd nac yd na ffrwythau coed; yr hyn a barodd ddrudaniaeth, a haint, a newyn. Y bara oedd afiach, ac hyd y mae histori yn mynegu, hon oedd y waith gyntaf (er dygwydd yr un farnedigaeth amryw brydiau wedi hyny) o'i alw y bara chwydog; o blegid nad oedd e ddim yn dygymmod â chorff dyn, ond ei chwydu allan drachefn, er fod y werin druain, yn eu gwanc a'u newyn, yn gorfod ei fwyta, er ei saled. Ond y gauaf y drydedd flwyddyn y bu dur-rew parhäus o ganol Tachwedd i ddechreu Chwefror, a haf rhadlon tymmerus ar ol hyny, yr hyn, drwy fendith Duw, a ddygodd lawndid a digonolrwydd o bob dim i'r trigolion drachefn. [38]

Y pryd nesaf y mae dim crybwyll am helynt y Brytaniaid, sydd o gylch y flwyddyn 286, ym mha amser, gwr a elwid Caron, yr hwn oedd o dylwyth gwael,[39] eto yn sawdiwr gwych a dewr, a anfonwyd o Rufain yn ben ar ddeugain o longau, i gadw ymaith y Ffrancod[40] a'r Seison, y rhai oeddent yn diffeithio y wlad a elwir yn awr Ffrainc, ond y pryd hwnw y Gelli: canys pig-ladronach a gwibiaid oedd y ddwy genedl hòno ar y cyntaf, megys haid o gacwn neu wenyn ormes yn ymwthio i gwch yn llawn o fêl. Yna Caron a ymddygodd yn wrolwych, gan ddarostwng hyd lawr y crwydredigion ladronach hyny, ac ennill anrhaith fawr iawn oddi arnynt; ond yn y cyfamser efe a drodd yn ben lleidr ei hun ac yn fradwr idd ei feistr, Ymherawdr Rhufain; canys yr holl gyfoeth yma a gadwodd efe yn ei feddiant ei hun. A rhag y gelwid ef i gyfrif am hyny, efe a lanwodd ei longau â'r ysbail, ac a hwyliodd i Frydain, a thrwy ei weniaith hudol efe a ennillodd galonau'r Brytaniaid, gan wneuthur araith a dywedyd, y caent hwy esmwythach byd dan ei lywodraeth ef na chan y Rhufeiniaid; ac y byddai efe yn gyfaill cywir iddynt rhag ymgyrch un gelyn pa un bynag; er, pan gafas efe y llywodraeth yn ei law, efe a ymddygodd yn ormeswr creulon yn hytrach nag ymgeleddwr, megys y gwelwn ni lawer boreu teg o haulwen haf yn diweddu mewn dryghin. Ond eto, o ran ei fod efe yn cadw llaw dyn ar war y Brytaniaid, ei hen feistr (Dioclesian oedd ei enw) a heddychodd ag ef, ac a gadarnhaodd ei freniniaeth ym Mrydain; am ba ham, y mae ar naill wyneb yr arian a fathwyd dan ei lywodraeth ef, ddwy fraich estynedig yn siglo dwylaw; ac y mae y fath hòno heb fyned ar goll eto.[41]

Lle nid oes dim hawl dda, y mae yno yn wastad ofn; ac felly Caron, i ddiogelu ei hunan yn y freniniaeth, a adeiladodd saith castell wrth Wal Sefer, yn gynnifer amddiffynfa i gadw allan y rhai oedd yn edrych arno ddim amgen na charn-leidr mewn awdurdod. Ac efe a wnaeth hefyd dy mawr crwn o geryg nadd ar lan Caron, i gynnal llys ynddo pan y byddai efe yn y parthau hyny.[42] Ond ar ol saith mlynedd o deyrnasiad gerwin a llym, efe a laddwy[43] 3 yn fradychus gan ei swyddog ei hun, yn yr hwn yr ymddiriedodd, a elwid Alectus. A hwn hefyd a drawsfeddiannodd y wlad dair blynedd, ac yna a laddwyd3 gan Frân ab Llyr, yr hwn a deyrnasodd chwe mlynedd, ac yna a laddwyd3 yntef gan Coel Codebog, iarll Caerloew; a'i fab Caradog a aeth i Wynedd, lle y claddwyd Bronwen, chwaer ei dad, mewn bedd petryal, ar lan Alw yn Ynys Fon; a chwedi marw Caradog, gwnaethpwyd ei fab Eyddaf yn rhaglaw Brydain gan Gystenyn Fawr, ei gefnder, fel y dangosaf isod.

Dyddiau blin oedd y rhai hyn; pan po llymaf y byddai cleddyf gwr, mwyaf gyd fyddai ei awdurdod a'i feistrolaeth. Ond ar hyny y daeth drosodd i Frydain dduwe anrhydeddus a elwid Cysteint, yr hwn a fu yn emprwr yr holl fyd ei hun wedyn. Efe a ddaeth drosodd mewn amser da; canys efe a achubodd y brif ddinas, Llundain, rhag ei llosgi a'i hanrheithio gan y Ffrancod, y rhai, yn yr annhrefn a'r afreolaeth uchod (y gwŷr mawr yn ymranu benben), oeddent yn chwilena draw ac yma am ysglyfaeth; megys pan fyddo dau waedgi yn tynu llygaid eu gilydd am olwyth o gig, heb fod well oddi wrtho, y mae corgi taiog yn dyfod heibio, yn myned ymaith â'r golwyth, ac yn gadael y ddau golwyn i wneuthur heddwch gan eu pwyll. Mawr oedd gorfoledd y Brytaniaid, a'u diolchgarwch i Gysteint, am eu hachub o grafangau plant annwn, y Ffrancod. Bathwyd arian yn Llundain er anrhydedd iddo; a gosodwyd ar y naill wyneb ei ddelw ef, ac ar y wyneb arall teml rhwng dwy eryr, gan arwyddocäu wrth hyny, mae yn debygol, fod eu braint eglwysig yn ddiogel dan ei nawdd ef; canys ei fod efe yn ffafrio y Cristionogion, ac yn gwneuthur mwy cyfrif o honynt nag o neb ereill, sydd eglur ddigon oddi wrth yr hanes nodedig hon o'i fywyd:[44] Meddyliodd ynddo ei hun i gael profiad hollol, pa un ai Cristionogion cywir ai rhagrithwyr oedd swyddogion ei lys; canys Cristionogion gan mwyaf oeddent oll. Felly efe a'u galwodd hwy oll yng nghyd, ac a ddywad wrthynt, mai ei ewyllys oedd y cai y sawl a aberthai i'r duwiau gadw ei fraint ac aros yn y llys; ond y cai y sawl nad ymostyngent i hyny, ymadaw o'i wasanaeth ef. Ar hyny, y Cristionogion cywir, gan oblygu eu penau a aethant allan; ond y rhagrithwyr a arosant gyda'r ymherawdr, ac a ddywedasant eu bod hwy yn fodlon i aberthu. Ac yna yr ymherawdr a barodd alw i mewn y rhai a aethant allan, ac a'u gwnaeth hwy yn ben cynghoriaid; ond efe a ymlidiodd ymaith y rhagrithwyr, gan farnu yn uniawn na fyddai y cyfryw rai ag oedd fradychus i Dduw, fyth yn ddeiliaid ffyddlon iddo ef.

Erioed ni bu gwr o Rufain mor anwyl gan y Brytaniaid a Chysteint; ac yntef a'u hoffodd hwythau o flaen un genedl arall; a phrin y gellir gwybod pwy oedd yn caru y naill y llall oreu, ai hwynt-hwy yn eu parch a'u hufudd-dod iddo ef, ai yntef yn ei foesau da a'i diriondeb tuag atynt hwythau. Ac fel y sefydlid heddwch parhäus rhwng y ddwy genedl, ac i symmud ymaith o hyny allan bob llid, a chwerwder, a digofaint, efe a brïododd Elen (y bendefiges lanaf a goreu ei rhinwedd dan haul), merch Coel Codebog, yn awr yn Frenin Brydain, a'i wraig Stradwen, merch Cadfan ab Conan, Tywysog Gwynedd; ac o'r Elen hon y ganwyd i Gysteint fab, a elwir Cystenyn Fawr, y gwr enwocaf o'r byd Cristionogol, a'r ymherawdr cyntaf a fedyddiwyd i ffydd Iesu Grist. Elen oedd Gristionoges wresog yn y ffydd, a chymmaint yn rhagori ar ereill yn ei dyledswydd at Dduw a dyn, ag oedd hi mewn anrhydedd a goruchafiaeth fydol. Hi a aeth i Gaersalem i weled y lle y dyoddefodd Crist Iesu dros bechod y byd, yn ol yr hyn a ddywad yr angel wrth y gwragedd, "Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd." (Mat. xxviii. 6.) Ac yno, drwy fawr ludded ac anhawsdra, hi a gadd y groes y dyoddefodd Crist; canys y paganiaid a daflasant yno grug aruthrol o geryg, o'u casineb i'r Cristionogion, ac yn y gwaelod y cafwyd tair croes; ond o blegid fod yr astell yn cynnwys yr ysgrifen wedi tori, ac yn gorwedd ar neilldu, croes Crist, medd yr hen hanesion, a adnabuwyd wrth fod â rhinwedd ynddi i iachäu clefydon.[45] Am ba weithred y mae un o'n beirdd ni yn canu, ac yn ei galw hi Diboen:—

"Diboen, ferch Coel Codebog,
I gred a gafas y grog."

Hi a fu farw yn llawn o ddyddiau, yn bedwar ugain oed, ac a gladdwyd yn Constantinopl; ond Cysteint yr ymherawdr a fu farw yn mhell o'i blaen hi, sef yn y flwyddyn 313, ac a gladdwyd yng Nghaerefrog, yn Lloegr. Dywedir i gael yn ei feddrod ef, yn amser Iorwerth y Chweched, lamp a gynneuodd yno yn wastadol er yr amser y claddwyd ef, hyd y pryd hwnw, sef dros ychwaneg na deuddeg cant o flynyddoedd. [46] Cafwyd yr un fath lamp ym meddrod Tulia, merch Cicero yr areithydd, yr hon a gynneuodd yng nghylch 1550 o flynyddoedd,[47] ond hi a ddiffoddes yn y man cyn gynted ag y daeth goleu'r dydd i mewn. Dychymmyg odiaeth ryfeddol oedd hon o eiddo yr hen bobl i wneuthur lamp fel hyn i gynneu yn wastadol yn y tywyllwch; tybai rhai mai aur wedi gyfnewid i rith arian byw oedd yn pesgu'r lamp; ond pa fodd bynag yw hyny, mae'r gelfyddyd wedi ei cholli yn awr.

Er cyn gynted ag y clybu Cystenyn Fawr yn Rhufain fod ei dad yn glaf, er meithed oedd y ffordd, eto prin y rhoddes efe hun i'w amrantau nes ei ddyfod i dir Brydain; ond yno yr hen wr oedd ar dranc marwolaeth. Yr oedd y pryd hwnw derfysg a gwrthryfel yn yr Ital, am ba ham nid allodd Cystenyn aros ond ychydig amser ym Mrydain ar ol claddu ei dad; ond cyn ymadael efe a drefnodd bob peth yma er cadw llonyddwch yn y deyrnas. Eyddaf, ei gefnder, a wnaeth efe yn ben ar Loegr gan mwyaf oll; Cenau ab Coel, ei ewythr, brawd ei fam, a appwyntiodd efe yn rhaglaw i lywodraethu Cerniw; Cynedda Wledig, ei gefnder, sef mab Gwawl, ei fodryb, chwaer ei fam, a osodes efe yn dywysog ac yn rheolwr Cymru; ac Einion Urdd, câr arall iddo, a sefydlodd efe â llawn awdurdod yn y Gogledd tua chydiad Lloegr a Scotland. Ac ar hyny efe a ymadawodd, a chododd llu mawr o Frydain gydag ef, i ymladd yn erbyn y rhai oeddent yn ymgeisio â'r goron. Eithr, ar ol darostwng y gelynion, ni ddychwelodd ond ychydig o'r rhai hyny adref; eithr arosodd rhai yn Rhufain, ac ereill a arosasant yn y rhan hòno o deyrnas Ffrainc a elwir Llydaw: a hon oedd y waith gyntaf i'r Brytaniaid fyned i breswylio yn Llydaw, sef yn y flwyddyn 313.

Cyd-dylwyth oedd yn awr gan hyny yn eistedd ar orseddfeinciau Rhufain a Brydain; am ba ham ni cheisiodd Cystenyn Fawr ddim arian teyrnged o Frydain, ond rhyw gydnabyddiaeth yn unig mai efe oedd ben. Yr oedd ganddo ei wala; oedd ei wala wen y tu hwnt i'r môr, yn Ymherawdr Ffrainc, ac Hispaen, a Germania, a'r Ital, yr Aipht, a Mesopotamia, a Iudea, a Chappadocia, Phrygia, Pontus, ac Asia; ac onid oedd hyn ddigon?

Ond i ddychwelyd i Frydain. Eyddaf, wedi heneiddio, ac iddo ond un ferch yn unig, a'i henw Elen, a chwennychai, megys gwr call, sefydlu y goron yn ei fywyd, rhag bod ymgais am dani, a therfysg ar ol ei ddyddiau ef. A chynghor ei arglwyddi oedd, ei rhoddi hi yn briod i garwr iddi a elwid Macsen Wledig, yr hwn oedd o ran ei dad yn Gymro, fab Llywelyn, brawd Coel Codebog; ond o ran ei fam yn Rhufeiniad (canys Llywelyn a aethai gyda'i nai, Cystenyn Fawr, i Rufain, ac a briodasai yno), ac a anwyd ac a fagwyd yn y llys yn Rhufain; ac a o ran tad a mam o waed breninol; ac am hyny a farnwyd yn briod gweddus i Elen, etifeddes y goron. Yr oedd Macsen Wledig y pryd hwnw yn Rhufain, ac, fel yr oedd gwaetha'r bod, wedi newydd syrthio allan â'r ddau ymherawdwr, Falentinian a Grasian, am na chai yntef fod yn drydydd. Ac erioed ni bu lawenach ei galon na phan ddaeth y genadwri ato o Frydain i gynnyg Elen, merch Eyddaf, yn wraig iddo, yng nghyd â choron Lloegr yn waddol gyda hi.

Ond wedi priodi Elen, ni bu efe ddim bodlon i wisgo coron Lloegr yn unig (a phe gwnaethai hyny, e fuasai o goffadwriaeth ddedwydd); ond efe a fynai fod yn ben ymherawdr y byd. Eto, i ddywedyd y gwir, nid ei ryfyg ei hun, ond cariad y milwyr ato a'i cymhellodd ef o'i anfodd i wneuthur yr hyn a wnaeth; ac y mae pawb yn tystio, nad oedd wr dan haul yn weddusach i fod yn ymherawdr, pe buasai ei deitl yn dda; ac er hyny, yr oedd efe yn gâr agos i Elen Lueddawg, mam Cystenyn Fawr.[48]

Ond bynag pa fodd, cymmaint oedd ei barch gyda goreuon y llu, fel y dewiswyd ef yn ymherawdr, a'i gyhoeddi, nid yn unig ym Mrydain, ond gan y llu tu hwnt i'r môr hefyd; ac yntef, ar hyny, o'i led anfodd, a gymmerth ei berswadio; a rhag bod dim yn rhwystr ar ei ffordd, y fath oedd ei gariad ym mhob gwlad, fel y declariodd llu aneirif o ddewis filwyr y Brytaniaid eu bod yn llwyr fwriadu i sefyll gydag ef, ac na chai dim ond angeu fyth eu gwahanu oddi wrtho; ac yna hwylio a wnaethant i deyrnas Ffrainc.

Y ddau ymherawdr cyfreithlon ar hyny (sef Falentinian a Grasian) oeddent agos â gorphwyllo, a pheth i wneuthur ni wyddent. Ond tuag at attal eu cyrch ym mhellach tua'r Ital, gwnaethant gynghrair â barbariaid gwylltion o Sythia, rhai a fuasent o'r blaen yn anrheithio gwlad Brydain, ac a'u danfonasant drosodd ag arian ac arfau, a'u hannog i wneuthur pa ddrygau oedd bosibl, sef i ladd, a llosgi, a dinystrio hyd ddim y gallent; gan hyderu y dychwelai Macsen ar hyny i Frydain i achub ei deyrnas ei hun; (a phwy a allai ddysgwyl llai?) megys haid o frain yn myned allan o'u nythod i chwilena, ac i gipio'r had oddi ar wyneb y maes, os dygwydd cafod ddisymmwth o gesair dygasog, yna hwy a ehedant ar frys i achub eu cywion gartref. Ond Macsen yn awr wedi ymgaledu yn ei ddrwg, oedd â'i lygad ar bethau uwch nag achub ei wlad ei hun rhag y Ffichtiaid gormesol (canys dyna oedd enw'r bobl a ddaethant o Sythia); felly efe a'i wŷr, ym mlaen yr aethant tua'r Ital; a phan oedd Grasian, gwr ieuanc grasol o gylch 25 oed, yn brysio adref i ymweled â'i briod newydd-weddawg, ac efe yn rhydio afon yn ei gerbyd, efe a syrthiodd i gynllwyn Anarawd Gethin,[49] un o uchel gapteniaid Macsen, ac a laddwyd; a Falentinian ei frawd, rhag y trinid yntef yn yr un modd, a giliodd ar encil ym mhell i Asia, tua'r Dwyrain.[50].

Wedi bod cyhŷd mor llwyddiannus yn eu gwrthryfel, y newydd nesaf, fe all dyn dybied, a fyddai coroni Macsen Wledig yn ymherawdr; o blegid yn awr fod y ffordd yn rhydd: ond yma y gwiriwyd yr hen ddiareb, mai "drwg y ceidw y diawl ei was; canys, pa un ai ofni y dychwelai Falentinian â llu cadarn o Asia, ai bod eu cydwybod yn eu brathu oddi mewn; ai hyny ai beth bynag oedd yr achos, efe a laddwyd gan ei wŷr ei hun, yng nghyd ag Owen Finddu, ei fab; ac Anarawd Gethin ar hyny a syrthiodd i bwll ar ei ben, yn yr un man ag y gosodes efe gynllwyn am waed gwirion y gwr da hwnw Grasian. Ac yna holl lu Macsen a wasgarwyd draw ac yma hyd wyneb y gwledydd; ond y rhan fwyaf, yng nghyd â'u pen cadben, Conan, Arglwydd Meiriadog, a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw: a hon oedd yn ail waith i'r Brytaniaid wladychu yno, sef o gylch y flwyddyn 383.

Conan ni fynai ymgyfathrachu â neb ond â'i genedl ei hun. Am hyny efe a anfonodd i Frydain am wragedd; a danfonwyd iddo un fil ar ddeg, rhwng merched gwŷr cyfrifol ac ereill o isel radd. Ac fel yr oeddent yn hwylio tua Llydaw, y cyfododd tymmestl ddirfawr, fel y soddes tair o'r llongau; ond y deuddeg diangol a yrwyd gan gynddeiriogrwydd y gwynt i barthau Llychlyn, ac a ddaliwyd gan y Ffichtiaid. "Ac yna,' ebe'r cronicl, "gwedi canfod o'r ysgymmun bobl y morwynion, a gweled eu teced, ceisiaw a wnaethant i lenwi eu godineb â hwy; a chan na fynodd y morwynion gydsyniaw ag hwynt, sef a orug y bradwyr eu lladd." Yr ydys yn cadw dydd gwyl, er coffadwriaeth i'r gwyryfon hyny, Hydref 21, ag a elwir Gwyl y Santesau. Ac y mae eglwys yng Ngheredigion[51] a elwir Llan Gwyryfon, a gyfenwid felly ar ei chyssegriad er cof am danynt. Dywedir i Frytaniaid Llydaw, ar ol hyny, gymmeryd merched y wlad hòno yn wragedd iddynt; a phan enid plentyn (os gwir yw'r chwedl), pob un yno a dorai dafod ei wraig, rhag y buasai hi yn difwyno yr iaith, ac yn dysgu i'r plant siarad llediaith.[52]

Nid oedd o gylch yr amser yma, yn nhir Brydain, ddim ond annhrefn a'r anras gwyllt: cyhoeddid gwr yn ymherawdr heddyw, ac y dorid ei ben ef dranoeth i roddi lle i ryw un arall; a hwnw o fewn ychydig ddyddiau a gai yntef yr un dienydd. Nid yw wiw osod i lawr eu henwau,[53] eto un o honynt, yr hwn oedd yn ddilys o waed breninol y Brytaniaid, a haeddai ei goffäu, ac a elwir Cystenyn. Heb law ei deitl i'r goron, efe a ddewiswyd hefyd er mwyn ei enw, gan obeithio y byddai efe cyn enwoced gwr a Chystenyn Fawr, ei gâr. Rhyfelwr enwog oedd y gwr, ac a fu mor llwyddiannus, fel y bu Ffrainc, ac Hispaen, a Brydain dan ei lywodraeth ef dros amryw flynyddoedd; ac ni fu ond lled troed rhyngddo a bod yn ben ymherawdr byd, a'i goroni yn yr Ital. Ond yna, yng nghanol ei rodres, efe a laddwyd drwy frad a chynllwyn, a'i wŷr a wasgarwyd, ond y rhan fwyaf a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw: a hon oedd y drydedd waith i'r Brytaniaid adael llwyth o'u pobl yno, sef o gylch y flwyddyn 409.

Buan y parodd y fath afreolaeth a hyn, a hyny yn ddibaid dros amryw flynyddoedd, i holl ymherodraeth Rhufain siglo ac ymollwng, megys llong fawr yn ymddattod pan fo'r tònau a gwynt gwrthwyneb yn ei chipio; neu megys maes llydan o wenith yn cael ei sathru a'i rwygo gan genfaint o foch, oni bydd cae diogel o'i gylch: felly Rhufain a'i holl gadernid a aeth o fesur ychydig ac ychydig, yn chwilfriw mân, o ran yr aml ymbleidiau o'i mewn, a dygasog ymgyrch y barbariaid o amgylch. Ac megys nad all neuadd fawr eang o amryw ystafelloedd, amgen nag adfeilio, pan y bo deiliad gwan yn byw ynddi; felly yr un modd, pan oedd y milwyr mor afreolus, ac yn newid eu meistr mor fynych, h.y., yn gosod y sawl a welent hwy fod yn dda yn ymherawdr, ac ar y cweryl lleiaf yn ei ddiswyddo eilwaith, nid yw ryfedd nad allai un pen rheolwr, yn y fath achos a hwn, gadw cynnifer o wledydd mewn ufudd-dod. A thyna a barodd i'r ymherawdr a elwid Honorius, o gylch y flwyddyn 410, ymwrthod â'r deyrnas hon, a danfon am ei fyddinoedd oddi yma adref i'r Ital, lle yr oedd mwy rhaid wrthynt. Dyma ddechreuad yr aur a'r arian yr ydys mewn amryw fanau yn eu cloddio o'r ddaiar; canys ar waith yr ymherawdr yn galw am danynt adref ar frys, y Rhufeiniaid yno a guddiasant eu trysorau mewn tyllau ac ogofeydd yn y ddaiar, gan obeithio y caffent hwy odfa i'w meddiannu ryw bryd arall; ond hyny nis cawsant fyth.[54]

Yr oedd Brydain Fawr ar hyn o bryd, gan hyny, wedi ei harllwys yn gwbl o'i gwŷr arfog; a hyny a barodd i'r gwibiaid treigl hyny, y Ffichtiaid, fod mor llwyddiannus yn eu lledrad a'u gwaith yn anrheithio'r wlad hon wedyn. Ond eto fe arosodd yma filoedd a miloedd o bobl Rhufain, y rhai oeddent wedi ymgyfathrachu â'r hen drigolion, ac felly wedi myned yn un genedl â hwy. Ac erbyn hyny y mae yn amlwg ein bod ni, gweddillion yr hen Frytaniaid, yn bobl gymmysg o Wyddelod,[55] Groegiaid,[56] a Rhufeiniaid.

Nodiadau

[golygu]
  1. 1 Ms. vet. 2
  2. Senedd Rufain oedd megys Parliament yn Lloegr.
  3. 1 Apud quos [Brittanos] nulla loricarum galearumve tegmina. Tacit. Annal. 1. 12, p. 142.
  4. Quanquam prosperâ pugnâ terruerit incolas, ac littore potitus sit, potest videri ostendisse posteris, non tradidisse. Vit. Agr. p. 638.
  5. Proclomation
  6. Hanes Brenin, 23. Ms
  7. Geiriau y Cronicl yw y rhai hyn, air yn air. Ms.
  8. Ystyr y gair "orug" yw, a wnaeth."
  9. Cum Legionibus V. et pari numero equitam. Cæs. lib. 5, p. 77.
  10. Horat. lib. 1, od. 35.
  11. Dio. Cass. cit. a. c. p. 43.
  12. Tacit. Annal. lib. 12, p. 24
  13. Rarus duabus tribusve civitatibus conventas. Tacit. Annal.
  14. Claudius Cæsar yw ei enw yn Lladin.
  15. Plaucius.
  16. Dio. Cass. p. 506.
  17. Dio. Cass. loc. cit.
  18. Vide Levit. xxvii. 26.
  19. Cartismandua.
  20. Vocabatque nomina majorum. Tac. p. 242.
  21. Jos. Antiq., abridged by J. Howell, Esq., p. 255.
  22. Prasutagus.
  23. Boadicea, neu Buddug.
  24. Ed. Ezec. vi. 13. Hosea iv. 13.
  25. Vid. Rol. Mon. Antiq. Restor., p. 98. 311.
  26. Tac. Annal., p. 98
  27. Suetonius Paulinus.
  28. Ios. vii. 5.
  29. Tacit. ubi supra.
  30. Tacit. ubi supra.
  31. Scotland.
  32. Fe fu brenin 375 o flynyddoedd cyn geni Crist o'r enw.
  33. Vet. Mss.
  34. Spartian. ap. c. p. 67.
  35. Edrych y Map
  36. Ex Homer. Il. 3.
  37. Dio. Cass. ap. c. p. 45.
  38. Ms.
  39. Villissime natus. Eutrop. Inst. p. 607
  40. Nid y Ffrancod presennol oedd yn byw yn y wlad y pryd hwnw.
  41. Camd. p. 73.
  42. Vid. Uss. Primord. p. 586.
  43. "Ad generum Cereris sine cæde et sanguine, pauci
    Descendunt reges et siccâ morte tyranni."
  44. Sozom. Hist. Eccles. lib. 1 , cap. 6.
  45. Sozom Hist. Eccles. lib. 2, cap. 1. Edit. Lovan. 1569
  46. Camd. in Yorkshire.
  47. Salmuth in Pancir. p. 1, tit. 35, p. 124.
  48. Maximus, vir strenuus et probus, atque Augusto dignus, nisi contra sacramenti fidem, &c. Paul Diac. p. 628
  49. Andragathius. 3
  50. Paul Diac. loc . cit . Sozom. 1. 7, c. 13
  51. Rhandir Aberteifi.
  52. Ms. Vet.
  53. Soz. Hist. Eccles. lib. 9, cap. 11-15
  54. Vid. Uss. Primord. p. 600.
  55. O blegid mai hwynt-hwy oedd yr hen drigolion.
  56. O blegid mai gwŷr o Asia, a Groegiaid, oedd Brutus a'i bobl.