Drych yr Amseroedd/Anwybodaeth a thywyllwch

Oddi ar Wicidestun
Cyfieithu yr Ysgrythyrau Sanctaidd i'r iaith Gymraeg Drych yr Amseroedd

gan Robert Jones, Rhoslan


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Mr. Wroth yn dechreu pregethu yn y Deheudir

YMOF. Oni b'ai fod arnaf ofn eich blino, erfyniwn arnoch roddi byr ddarluniad o agwedd ein gwlad yn yr amseroedd gynt, cyn i freintiau'r efengyl ddyfod mor helaeth i'w mysg ag y maent yn y dyddiau hyn?

SYL. Anwybodaeth a thywyllwch dudew oedd yn gorlenwi y wlad. Nid oedd ond ychydig yn medru darllen. Prinion iawn oedd Biblau, ac nid oedd ond ychydig o lyfrau ereill wedi eu hargraffu yn yr iaith Gymraeg y dyddiau hyny: o ba herwydd yr oedd llawer iawn o weddill Pabyddiaeth yn aros yn y wlad. Pan y byddai gwraig yn esgor, gweddïai y fydwraig a hithau yn daer ar i Dduw a Mair wen ei chymhorth. Hwy a ddysgent eu plant, ac arferent eu hunain, wrth fyned y nos i'w gwely (a'r bore hefyd, os caent hamdden) ddywedyd y Pader, sef Gweddi'r Arglwydd, y Credo, a'r Deg gorchymyn,[1] ynghyda rhyw wag ddychymyg, ffôl a alwent Breuddwyd Mair; yr oedd hwnw yn fwy cymeradwy yn eu golwg nag un o'r lleill. Arferai bagad o'r cymydogion ymdyru at eu gilydd y nos o flaen claddedigaeth y marw, a byddai pawb yn myned ar eu gliniau pan ddelent gyntaf i'r tŷ. Gellir meddwl mai dechreuad yr arfer hon oedd, gweddïo am ddedwyddol ymwared enaid eu cyfaill marw allan o'r purdan.—Yna darllenai y clochydd, neu ryw un arall, ryw ranau o wasanaeth y claddedigaeth, er y byddai llawer o afreolaeth ac ysgafnder tra y cyflawnid hyny; ac wedi hyny, pob math o chwareyddiaethau a ddylynid hyd haner nos, neu ysgatfydd byd ganiad y ceiliog. Nid oedd un gwaharddiad i'r ynfydrwydd hyn gael ei gyflawni, oni byddai i wr neu wraig farw yn nghanol eu dyddiau, a gadael o'u hol blant amddifaid neu berthynasau galarus. Fe ddygwyddodd un tro mewn wylnos rhyw hen ferch, i'r chwareu barhau nes darfu y canwyllau: a phryd nad oedd ganddynt ond ychydig o lewyrch tân i chwareu cardiau wrtho, aeth rhyw langc eithaf rhyfygus, ac a gymerth y corph yn ei freichiau (yr hwn oedd y pryd hyny heb ei roddi mewn arch) gan wneuthur oerleisiau i ddychryn ei gyfeillion ynfyd; a bu mor drwstan a syrthio i lawr yn eu canol hwynt, a'r corph yn ei freichiau.

YMOF. Galarus meddwl mor anystyriol a phechadurus oedd agwedd ein gwlad yn y dyddiau tywyll hyny; yn enwedig yn wyneb amgylchiad mor sobr a gweled un o flaen eu llygaid wedi myned trwy borth angeu i'r farn a thragywyddoldeb, a hwythau eu hunain ar syrthio dros y geulan. —Y mae yn gof genyf glywed fy nhaid yn son am ryw beth a elwid Diodlas, neu, Diodles. A gaf fi glywed genych pa beth oedd hwnw?

SYL. Pan ddygwyddai i ryw un farw mewn teulu, byddai rhywun tlawd a ddewisai y teulu yn cael y ffafr o dderbyn y gardod ddedwydd hono, sef y ddiodles. Y dull o'i rhoddi i'r tlawd oedd fel hyn; anfonai y teulu gwpan at wneuthurwr yr arch i'w lliwio yr un lliw a'r arch: (dau liw a arferid ar eirch y pryd hyny; lliw du ar eirch rhai wedi bod yn brïod, a lliw gwŷn ar eirch rhai sengl:) a phan ddeuai dydd y claddedigaeth, wedi dodi y corph ar elor, cyflwynai penaeth y tŷ yr elusen у goelgrefyddol i'r tlawd; sef forth fawr o fara da, a darn helaeth o gaws, a dryll o arian yn blanedig yn y caws, a llonaid y gwpan liwiedig o gwrw, os byddai, neu o laeth, gan eu hestyn dros y corph i'r tlawd.' Yntau a fendithiai, ac a weddïai yn ddwys a difrifol gydag enaid y marw. Arferai yr holl deulu, у Sul cyntaf ar ol claddu, fyned ar eu gliniau ar y bedd, pob un i ddywedyd ei Bader. Ac ni choffäent am neb o'u teulu na'u perthynasau, wedi eu meirw, heb ddywedyd yn ddefosiynol iawn, "Nefoedd iddo."

YMOF. Ni allaf lai na sýnu wrth glywed genych am gymaint o weddillion Pabyddiaeth a lynodd yn ein gwlad, wedi taflu yr iau Babaidd oddiar yddfau ein hynafiaid. Mae yn ddïau mai oddiar y dŷb wyrgam fod eneidiau ar ol marw yn myned i'r Purdan, y tarddodd yr arferiad o roddi dïodles dros y marw; ac hefyd, yr arferiad o ddywedyd, Nefoedd iddo, wrth son am un o'u cyfeillion trangcedig. O herwydd pe buasent yn credu fod pawb yn eu mynediad trwy borth angeu, yn myned yn ebrwydd, naill ai i'r nefoedd neu i uffern, ofer ac ynfyd yn eu golwg fuasai rhoddi gweddi nac offrwm drostynt byth mwy.

"Ffei o'r Pab a'i wael aberth,
Burdan gwael, a'i bardwn gwerth."

Mae arnaf chwant gwybod, onid yw yr arferiad o offrymu sydd yn aros eto yn ein mysg, yn sawru yn gryf o Babyddiaeth?

SYL. Sicr iawn mai Pabyddiaeth digymysg yw, er nad oes un o gant, yn ein dyddiau ni, yn edrych arno yn ddim amgen nag arfer gwlad, a thâl am gladdu. Dalier sylw fod y gair offrwm, ynddo ei hun, yn arwyddo rhywbeth mwy na chyflog am gladdu; sef rhyw aberth tuag at gael cymhorth gweddïau i brysuro yr enaid o'r lle poenus hwnw, sef y Purdan. Golygwch blant amddifaid, wrth gladdu eu tad caruaidd, neu eu hanwyl fam, yn dyfod at yr allor dan wylo dagrau, a'u calonau ar dori, wrth feddwl fod eu rhieni tirion yn poeni yn fflamau tanllyd y Purdan. Oni allech chwi feddwl yr offryment yn ewyllysgar, er mwyn eu cael ar frys oddiyno? Yr un modd, yn ddiau, y gwnai tad neu fam ar ol un o'u hanwyl blant. Ac am y perthynasau ereill, ynghydag amryw o'r cymydogion, ni allai y rhai hyny lai, o dosturi, nag aberthu rhyw gymaint dros eu hen gyfaill caredig, tuag at ei ddedwyddol ymwared o'r lle poenus hwnw.

YMOF. Mae drueni fod y ddefod goelgrefyddol hon yn cael ei dal i fyny yn barhaus. Diau y dylai yr Eglwyswyr eu hunain ei ffieiddio, a dywedyd yn onest yn ei herbyn. Ond am eu bod gan mwyaf heb ystyried ei natur, neu yn hytrach yn caru budr elw, gwell ganddynt dewi a son. Ond a oedd yn yr amseroedd gynt (ac eto fe allai yn ormodol) lawer o ofergoelion heblaw a soniasoch eisoes?

SYL. Oedd, beth aneirif. Llawer oedd yn coelio y medrai y rhai a fyddent yn dywedyd tesni neu ffortun, ragfynegu eu helyntion yn yspaid eu hoes. Cyrchu mawr a fyddai at ryw swynwr, pan fyddai dyn neu anifail yn glaf: a choel mawr fyddai gan lawer i'r Almanac. Sylw neillduol a fyddai ar bob math o freuddwydion gan y rhan fwyaf; a llawer iawn yn cymeryd arnynt eu deongli. Llawer ofergoelion a arferid wrth weled y lloer newydd: a braidd yr ehedai aderyn, ac y cai yr oen bach diniwaid ymddangos, na'r falwoden ymlusgo, heb ffurfio rhyw ddychymyg am yr hyn a ddygwyddai iddynt y flwyddyn ganlynol. Mewn gair, braidd y dodent ewin ar eu croen heb ryw goel. Ond mi derfynaf ar hyn yn ngeiriau yr hen ddiareb "Pob diareb gwir, pob coel celwydd."

YMOF. Mae yn amlwg, fel y dywed y gŵr doeth, fod trueni dyn yn fawr arno: ac er gwneuthur o Dduw ddyn yn uniawn, hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion. Ond ewch rhagoch gan adrodd ychydig pa fodd yr oeddynt yn treulio y Sabbathau yn ein gwlad yn y dyddiau tywyll hyny.

SYL. Tra halogedig a phechadurus yn gyffredinol. Mewn rhai manau cyflogid cerddor dros y tymhor haf, i ganu i dorf annuwiol o ynfydion gwamal a ymdyrent i ryw lanerch deg, ar fynydd, neu ryw gytir arall, i gynal math o gyfarfod annuwiol a elwid, Twmpath chwareu, neu chwareuyddfa gampau. Byddai yno, nid yn unig ganu a dawnsio, ond amryw ereill o arferion gwageddol, yn cael eu cyflawni, a hyny tra parhai goleu dydd iddynt. Ymgasglai ereill i'r pentrefi i chwareu y bêl a'u holl egni, hyd yn nod ar yr anedd gysegredig: ac ereill yn fawr eu lludded yn erlid y bêl droed, ac weithiau yn tori aelodau eu gilydd yn yr ymrysonfa. Treuliai ereill y Sabbathau yn y tafarndai, i ymdrybaeddu mewn meddwdod hyd dranoeth; ac yn fynych ni ddybenid y cyfarfodydd llygredig hyn heb ymladdfeydd gwaedlyd. Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul pennodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant, ac yr oedd hwnw yn un o brif wyliau y diafol: casglai ynghyd at eu cyfeillion luaws o ieuengctyd gwamal o bell ac agos, i wledda, meddwi, canu, dawnsio, a phob gloddest. Parhai y cyfarfod hwn yn gyffredin o brydnawn Sadwrn hyd nos Fawrth. Arferent hefyd weithiau gladdu eu meirw ar y Sabbathau. Alaethus meddwl y dull gwag ac anystyriol a fyddai ar y werin ar ol danfon eu cymydog i dŷ ei hir gartref. Heidient yn lluoedd i'r tafarndai i yfed diod gadarn, i'r dyben i ddiffodd pob ystyriaeth am farw a byd arall o'u meddyliau. Rai gweithiau cyrchent gerddor i'r cwmni i'w difyru, fel y cyrchwyd Samson gynt i beri chwerthin. Fel hyn y treuliodd y rhan fwyaf o'n hynafiaid eu dyddiau, ac mewn moment disgynent i'r bedd. Ond Och! na b'ai pobl yr oes hon, sydd mor helaeth eu breintiau, yn rhagori mwy arnynt mewn rhinwedd nag y maent.

YMOF. Mawr yw yr achos sydd genym i ryfeddu daioni Duw tuag atom, am i'n llinynau syrthio mewn lleoedd mor hyfryd, sef trefnu i ni gael ein geni mewn gwlad ac oes ag y mae yr efengyl yn seinio mor beraidd yn ein clustiau., Os cyfrifodd un o'r hen Feirdd cenhedlig ei hun yn ddedwydd yn ei enedigaeth (er mai mewn oes dywyll y cawsai ei eni) pan y dywedai,

"Ei chyfrif 'rwy'n rhagorfraint imi,
Yn 'r oes hon im' gael fy ngeni."

O! pa faint mwy ni, y rhai y cyfododd Haul cyfiawnder arnom, a meddyginiaeth yn ei esgyll. Ond cyn gadael yr hanes am ddull ein gwlad yr amseroedd gynt, dymunwn glywed genych pa fath athrawiaethau ac egwyddorion crefyddol oedd yn cael eu traddodi a'u derbyn yn y dyddiau hyny.

SYL. Anfucheddol iawn yn gyffredinol oedd yr athrawon, a thywyll a diffrwyth oedd eu hathrawiaethau: ac nid oedd un arwydd fod y gwynt nerthol a'r tân sanctaidd yn gweithredu drwyddynt. Swm a sylwedd yr athrawiaeth gan mwyaf oedd hyn; fod dyn yn cael ei ail-eni wrth ei fedyddio; a bod yn rhaid i bawb edifarhau a gwella ei fuchedd, a dyfod yn fynych i'r eglwys a'r cymun: bod raid i bawb wneyd ei oreu, ac y byddai i haeddiant Crist wneuthur i fyny yr hyn a fyddai yn ddiffygiol; ac mai ar law dyn ei hun yr oedd dewis neu wrthod gras a gogoniant. Cyfrifid cystudd corphorol yn foddion digonol (os nid yn deilyngdod) i addasu dynion i deyrnas nefoedd. —Hyn, ynghyda llawer o bethau cyffelyb, oedd gynt (os nad eto gan lawer) megys rheolau anffaeledig i'r gwrandawyr, wrth ddylyn pa rai (meddynt) y caent etifeddu teyrnas nefoedd.

YMOF. Dyma dywyllwch a ellir ei deimlo, fel hwnw yn yr Aipht gynt. Mae mor beryglus pwyso ar y pethau hyn ag ydyw adeiladu ar y tywod. Nid oes yma son am bechod gwreiddiol, na throi enaid o feddiant Satan, na bywhau trwy ras, na symud o farwolaeth i fywyd; na gair o son am argyhoeddi a dwys bigo y galon, na chrybwylliad unwaith am ffydd, heb yr hon ni ellir rhyngu bodd Duw, nac am gyfiawnhad rhad pechadur trwy gyfrifiad o gyfiawnder yr Arglwydd Iesu Grist, nac ychwaith am sancteiddiad yr Yspryd Glân. Rhag y fath athrawiaethau cyfeiliornus, gwared ni, Arglwydd daionus. Ond, ai yr un egwyddorion oedd gan y gwrandawyr a chan eu hathrawon?

SYL. Pa fodd y gellid dysgwyl yn amgenach? Digon i'r dysgybl fod fel ei athraw. Os dygwyddid weithiau son am enaid, Wele, meddant, os da y gwnawn da y cawn. Yr oeddynt o'r meddyliau y byddai clorian ddydd y farn i bwyso gweithredoedd pawb; as os y rhai da a fyddai drymaf, nefoedd wen i'r rheiny: ond os y gweithredoedd drwg a dröent y clorian, nid llai nag uffern byth a ellid ddysgwyl. Wrth ddyfod o'r addoliad, fe allai y dywedai ambell un lled ddefosiynol, "Onid oedd pregeth dda yn yr eglwys heddyw?" Oedd, oedd (atebai ereill,) pe gwnaem ond yr haner. Yr oedd y Llythyr dan y gareg yn gymeradwy iawn yn y dyddiau hyny, a choel fawr iawn oedd ar-ddaroganau Robin Ddu. Byddai rhyw rai, dan arweiniad Satan, yn cael rhyw ffug o weledigaethau, gan roi allan yn argraffedig eu bod yn gweled nef ac uffern; a byddai y rhei'ny yn effeithio yn fawr ar y gwerinos. Dywedid am gerdd neu garol lled grefyddol, ei bod cystal a phregeth. Rhoddid mwy coel ar aderyn y cyrph a'r wats farw nag ar yr holl Fibl. Os byddai i rai o'r babanod feirw o flaen eu rhieni, yr oeddynt yn coelio y byddai y rhei'ny fel cynifer o ganwyllau i'w goleuo i deyrnas nef, pan y byddent hwythau feirw eu hunain. Digon o'r fath ynfydrwydd bellach: a mi a ddiweddgloaf yn ngeiriau yr apostol, "Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awr hon yn gorchymyn i bob dyn yn mhob man i'edifarhau."


Nodiadau[golygu]

  1. Peidied neb a chamsynied, a barnu fy mod yn rhoddi un gradd o ddiystyrwch ar y weddi ragorol hono o eiddo yr Arglwydd Iesu Grist, sef y Pader, nag ychwaith ar y Credo, nag mewn un modd ar Gyfraith sanctaidd y Jehofa: ond er nid wyf o'r farn mai mewn ffordd o weddi y dylai y Credo na'r Deg gorchymyn gael eu harferyd.