Drych yr Amseroedd/Mr. Wroth yn dechreu pregethu yn y Deheudir
← Anwybodaeth a thywyllwch | Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Hanes Mr. Howell Harris → |
YMOF. Yr wyf yn ddiolchgar i chwi, fy hen gyfaill, am adrodd cymaint a hyn o helynt ein gwlad yn yr oesoedd gynt, Nid oeddwn yn blino arnoch; er hyny y mae brys arnaf am glywed pa bryd, a pha fodd, yr ymwelodd Duw a'n gwlad, i chwalu, mewn graddau, y fagddu o dywyllwch oedd fel cwmwl afiach yn gorchuddio, gan mwyaf, dros holl Wynedd. Pa beth oedd y moddion dechreuol, neu y seren ddydd a ymddangosodd, i arwyddo fod y wawr yn nesâu?
SYL. Er fod Gwynedd, fel y soniwyd, mewn dirfawr dywyllwch ac anwybodaeth, yn enwedig ar ol marwolaeth y gwŷr enwog hyny a fuont yn offerynol i ddwyn gair Duw i'n dwylaw yn ein hiaith ein hunain, fe dorodd gwawr yn y Deheubarth yn foreuach. Tua'r flwyddyn 1620, dechreuodd Mr. Wroth, o Lanfaches, yn Sir Fynwy, bregethu yn enwog ac yn llwyddiannus iawn. A'r gwr enwog hwnw, Mr. Walter Cradoc, tua'r un amser. Mr. Robert Powell, Ficar Cadegstone, yn Sir Forganwg a lafuriodd yn ddiwyd a llwyddiannus hyd y flwyddyn 1640, pryd y gorphenodd ef a Mr. Wroth eu gyrfa a'u llafur yn ngwinllan eu Harglwydd. Yn cydoesi â'r ddau wr enwog hyn yr oedd Mr. Rees Pritchard, ficar Llanymddyfri, yr hwn oedd seren oleu yn ei oes. Yr oedd Mr. Powell a Mr. Pritchard yn gyfeillgar iawn â'u gilydd, ac o fawr gynorthwy y naill i'r llall mewn amser tywyll. Yr oedd hefyd yn yr amser hyny, ac yn ganlynol i hyny, lawer o weinidogion enwog yn mysg yr Ymneillduwyr, y rhai a fuont ffyddlon iawn yn wyneb erlidigaethau chwerwon, ac yn fendithiol i laweroedd yn eu hoes: a bydd eu coffadwriaeth yn arogli yn beraidd hyd ddiwedd. Yn nghylch can mlynedd ar ol y gwŷr defnyddioł uchod, sef yr hen ficar a'i gyfeillion, gwelodd yr Arglwydd yn dda gymeryd yn ei law y Parchedig Griffith Jones, Person Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, yr hwn a fu yn ymdrechgar ac yn ddiwyd dros lawer o flynyddoedd, i bregethu yr efengyl i dorfeydd lluosog gyda grym, dwysder, ac arddeliad mawr; a hyny mewn amser ag yr oedd dirywiad trwm, nid yn unig yn yr Eglwys Sefydledig, ond hefyd yn mysg yr Ymneillduwyr. Wrth iddo ystyried fod y wlad gan mwyaf yn anllythyrenog, ac yn dra anwybodus, nid oedd ganddo, dros amser, ddim i'w wneuthur ond ymofidio o'r herwydd: ond daeth i'w feddwl i ystyried a oedd yn bosibl cael rhyw foddion i osod i fyny ysgolion rhad i ddysgu plant tlodion i ddarllen gair Duw, a'u hegwyddori mewn gwir grefydd. Dechreuodd ymosod yn egnïol at y gwaith, a llwyddodd yn ei amcan tu hwnt i bob dysgwyliad; ac o radd i radd, ymdaenodd yr ysgolion rhad dros y rhan fwyaf o holl ardaloedd Cymru, a rhyfedd fendithion a'u dylynodd. Cafodd Mr. Jones gymhorth gan amryw o wŷr cyfrifol a haelionus at y gorchwyl tra angenrheidiol hwn; ond y fwyaf nodedig oedd y bendefiges elusengar hòno, Mrs. Bevan, o Laugharne, yr hon oedd megys mam yn Israel. Cynaliodd hon yr ysgolion ymlaen, gan mwyaf ar ei thraul ei hun, hyd ddiwedd ei hoes, er fod Mr. Jones wedi gorphen ei yrfa flynyddau o'i blaen. Gadawodd ddeng mil o bunnau yn ei hewyllys tuag at barhad y gwaith elusengar hwn hyd ddiwedd amser: ond ryw fodd y mae y rhodd haelionus hono wedi ei throi i lwybr nad ydym ni yn Ngwynedd yn cael dim o'i llesad, na neb yn un man arall nemawr well erddi. Pan ddaeth yr ysgolion hyny gyntaf i Wynedd, daeth y gelyn ac a hauodd efrau yn mysg y gwenith. Trôdd golygwr yr ysgolion allan yn ddyn meddw, a hollol annuwiol; ac felly hefyd yr oedd y rhan fwyaf o'r ysgolfeistriaid. Ond er yr holl annhrefn oedd ar yr ysgolion, cafodd miloedd ynddynt y fraint o ddysgu darllen gair Duw. Ond tuag at atal llwyddiant yr ysgolion, taenwyd chwedl gelwyddog ar hyd y wlad, mai brenhines oedd Mrs. Bevan, ac y byddai yn galw am plant i ryw deyrnas arall: a bu hyn yn atalfa i rai yru eu plant i'r ysgol: eithr diddymwyd y dychymyg gwyrgam hwnw cyn pen hir. Ond er pob peth gellir priodoli dechreuad y diwygiad i'r ysgolion rhad, pa rai a fu fel caniad y ceiliog yn arwyddo fod gwawr y bore ar ymddangos.
YMOF." Ni feddyliais erioed o'r blaen fod yr ysgolion hyny wedi bod mor ddefnyddiol i ragbarotoi y ffordd i gael Dagon i lawr. Ond pa beth oedd yr arwydd cyntaf yn ein gwlad ni, os gellwch gofio, fod gwawr y bore yn nesâu, heblaw yr ysgolion?
SYL. Yr oedd gwr yn byw gerllaw Nefyn, mewn lle a elwir Nant Gwrtheyrn, mewn blinder meddwl ynghylch mater ei enaid. Pa un ai yn ddigyfrwng ai trwy foddion y gweithiodd hyny arno, nis gallaf ddywedyd. Pa fodd bynag, yr oedd yn barnu yn benderfynol nad oedd ef na'i gymydogion yn feddiannol ar rym duwioldeb. Enw y gŵr oedd John Roberts. Yn ei drallod, breuddwydiodd iddo weled megys pen yn dyfod oddiwrth y Dehau, ac yn goleuo y wlad; ac yn llefain, nes bod cyffro a deffroad trwy'r ardaloedd. Trwy hyny credodd y cai weled diwygiad yn y wlad cyn hir; ac felly y bu. Canys yn fuan wedi hyny y torodd diwygiad allan trwy Loegr, Scotland, ac America; a ninau y Cymry tlodion a gawsom gyfranogi yn helaeth o hono. A chafodd y gwr a freuddwydiodd weled a phrofi yn sylweddol yr hyn y breuddwydiodd am dano, a bu yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw hyd ddiwedd ei oes.
YMOF. Y mae hyn yn dwyn ar gôf i mi eiriau yr apostol, "Duw wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd." Dywed Elihu hefyd, Fod Duw yn llefaru unwaith, ïe, ddwywaith, ond ni ddeall dyn: trwy hûn, a thrwy weledigaeth nos, &c. Ond adroddwch rywbeth eto yn flaenorol i'r diwygiad.
SYL. Yr oedd yn byw yn y dyddiau hyny yn Nglasfryn fawr, plwyf Llangybi, yn Eifionydd, un William Prichard, yr hwn oedd wr cyfrifol, bywiog ei gyneddfau, ac yn fwy awdurdodol yn ei ardal na llawer o'i sefyllfa. Ar ryw noswaith wrth ddyfod adref, dyrysodd gan dywyllwch y nos, a chollodd ei ffordd, fel nas gwyddai pa le yr ydoedd: ond o'r diwedd gwelodd oleuni o ffenestr, a chyrchodd ato. Adnabu y lle yn ebrwydd, sef mai Pen-cae-newydd ydoedd. Yn y cyfamser yr oedd gwr y tŷ yn darllen pennod yn y teulu. Wrth weled hyny, tarawodd fel saeth i'w feddyliau, fod ganddo yntau deulu, ac na byddai ef un amser yn arferu hyn yn eu mysg. Ar ol darllen, sylwodd gwr y tŷ ar ryw bethau yn y bennod, er addysg i'w deulu. Aeth hyn hefyd yn ddwys i'w feddyliau, na byddai ef yn dywedyd dim wrth ei deulu am gyflwr eu heneidiau. Wedi hyn aeth gwr y tŷ i weddïo. Aeth hyn yn ddwysach na'r cwbl at feddyliau y gŵr oedd yn y ffenestr, wrth feddwl na byddai ef un amser yn plygu ei liniau i weddïo gyda'i deulu. Aeth y gŵr adref dan ddwys ystyriaeth o'i gyflwr ei hun a'i deulu, a gwelwyd yn ganlynol ddiwygiad amlwg arno. Yr oedd lle yn yr ardal y byddai mawr gyrchu iddo gan lawer i halogi y Sabbath, trwy lawer math o chwareuyddiaethau. Methodd y gwr hwn, o gydwybod, oddef iddynt halogi dydd yr Arglwydd; ond aeth atynt yn wrol, gan ddangos iddynt y perygl o dori gorchymyn Duw; ac ni feiddiai neb mwyach ymgasglu yno o'r dydd hwnw allan. Enw y gŵr oedd yn darllen ac yn gweddio yn ei deulu oedd Francis Evans (Ymneillduwr o ran ei broffes.) Mewn lle a elwir Cae'r tyddyn y bu fyw y rhan olaf o'i ddyddiau, yn amlwg mewn duwioldeb, nes gorphen ei daith yn llawen a gorfoleddus.
YMOF. Nid yw addoliad i Dduw mewn teulu ond peth distadl iawn yn nghyfrif llawer: ond dylem ei olygu yn ddyledswydd ac yn fraint; ïe, braint nodedig yw cael cydymostwng o flaen ein Tad nefol, i dalu diolch iddo am ei drugareddau, ac i erfyn am ei fendith. Dywedai Josua (er cymaint o orchwylion oedd ganddo mewn llaw,) Myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd. Yr wyf yn cofio i mi ddarllen yn y Drysorfa, hanes nodedig am ŵr crefyddol yn trin llawer o fasnach fydol, ac er hyny yn cynal addoliad i Dduw gyda'i deulu a'i brentisiaid yn gyson hwyr a bore; bendithion nef a daear oedd yn disgyn yn gawodydd tra bu yn gwneuthur felly. Ond fel yr oedd y fasnach yn cynyddu, dechreuodd esgeuluso addoliad teuluaidd y bore, gan feddwl (er mai yn groes i'w gydwybod,) os cyflawnai y ddyledswydd gyda'i wraig, y gwnai hyny y tro, a gadael y teulu ereill wrth eu gorchwylion. Wedi treulio talm o amser fel hyn, derbyniodd lythyr o Lundain, oddiwrth hen brentis iddo, yn mha un yr oedd hwnw yn addef, nas gallai fyth, fyth, fod yn ddigon diolchgar i'w feistr am y rhagorfraint a gawsai yn ei deulu, sef cyfranogi o'r addoliad teuluaidd: na byth fod yn ddigon diolchgar i Dduw, am y fendith a gawsai yn yr ymarferiad o hono. Dymunodd ar ei feistr, gyda'r taerineb mwyaf, na byddai iddo byth, byth, esgeuluso y cyflawniadau hyny, gan hyderu fod ganddo brentisiaid a thylwyth i gael eu hail-eni yn ei deulu eto. Effeithiodd y llythyr yn ddwys ar feddyliau y gŵr; yr oedd pob llinell o hono yn melltenu yn arswydus yn ei wyneb. Cyfrifodd ei hun yn llofrudd ei deulu: gofidiodd a galarodd yn chwerwdost, a llefodd yn daer am faddeuant. Ac ni esgeulusodd wedi hyny gadw yr addoliad yn mysg ei holl deulu tra fu byw. Ond er i mi fyned ychydig o'r llwybr, gobeithio y maddeuwch i mi am goffau yr adroddiad uchod am yr effeithiau a'r fendith sydd yn cydfyned âg addoli Duw mewn teulu. Ond ewch rhagoch â'r hanes.
SYL. Yn fuan ar ol hyn daeth Mr. Lewis Rees i Bwllheli i bregethu, yr hwn oedd weinidog deffrous a llafurus, a nodedig iawn mewn gweddi, yn enwedig yn ei ddyddiau boreuol, yn mysg yr Ymneillduwyr, ac a fu yn offerynol yn ei oes i alw llawer at Dduw. Ar ol y bregeth, aeth yr ychydig gyfeillion ato, i gael rhagor o'i gyfeillach; a dechreuasant gwyno wrtho eu bod yn isel ac yn ddigalon: neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Anogodd yntau hwynt i beidio llwfrhau ac ymollwng yn ormodol.[1] Ebe ef, Y mae y Wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir. Y mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris; ac y mae yn myned oddiamgylch, i'r trefydd, a'r pentrefydd, y prif-ffyrdd, a'r caeau; ac fel ôg fawr y mae yn rhwygo y ffordd y cerddo. O! (meddynt hwythau) na chaem ef yma i'n plith ni. Fe allai y daw ef, ebe yntau. Dywedodd yn mhellach wrthynt, fod dyn gerllaw'r Bala, a elwir Jenkin Morgan, yn cadw'r ysgol râd, dan Mr. Griffith Jones, a'i fod yn cynghori ar hyd y cymydogaethau yn ddeffrous ac yn llwyddiannus. A oes posibl (meddynt hwythau) cael hwnw i'n plith ni, neu i'n gwlad? Atebodd Mr. Lewis Rees, mai tan aden eglwys Loegr yr oedd yr ysgol a'r meistr (er iddo wedi hyny ymneillduo, a chael ei ddewis yn weinidog yn Môn.) Pe gallech gael rhyw wr cyfrifol yn yr ardal yn caru crefydd, heb gymeryd arno yr enw o Ymneillduwr, fe allai y llwyddai hwnw gyda'r person i gael yr ysgol i'r Llan. Daeth yn fuan i feddyliau y cyfeillion am y gŵr a soniwyd am dano o'r blaen, sef William Prichard o Lasfryn fawr, mai efe oedd y cymhwysaf o bawb a wyddent am dano i gymeryd y gorchwyl mewn llaw.
Y bore Llun canlynol, cymerodd y gŵr a grybwyllwyd o'r blaen, sef Francis Evans, ei daith i'r Bala, a llwyddodd i gael yr ysgolfeistr gydag ef adref: a rhag i neb dybio ei fod yn Ymneillduwr, aeth ag ef yn uniongyrchol heibio ei gartref ei hun i Lasfryn fawr at William Prichard. Bu gwr y tŷ mor gymwynasgar a myned at offeiriad y plwyf a deisyf ei ffafr am genad i'r ysgol fyned i'r Llan. Cafodd nacâd hollawl gan hwnw (oddiar y dŷb, mae'n debyg, fod yr ysgolfeistr yn un o'r crefyddwyr.) Os oes genych chwi awdurdod ar eich eglwys (ebe W. P.) y mae genyf finau awdurdod ar fy nghegin; caiff gadw yr ysgol yno: ac felly fu. Wedi dechreu yr ysgol, daeth yno fagad o blant, a rhai mewn oedran. Byddai yr ysgolfeistr yn ddiwyd iawn wrth ei orchwyl; yn dysgu iddynt ddarllen, eu cateceisio, a gweddïo fore a hwyr gyda'r ysgolheigion. Llunid cyfarfodydd iddo i gynghori neu bregethu, a deuai cryn nifer i wrando arno; a bu yno radd o arddeliad ar y gair. Nid oedd un man ond Glasfryn fawr (hyd y deallais i) y cai dderbyniad. Yr oedd y pryd hyny eneth seml, yn caru crefydd, yn byw gyda'i nain, yn y Tywyn, yn agos i Dydweiliog. Clywodd yr eneth son am yr ysgolfeistr; a bu daer ar ei nain am genad iddo ddyfod yno i gynghori. Wedi iddi lwyddo, gwahoddwyd ychydig o'r cymydogion i ddyfod i'r oedfa, a hyny mor ddirgel ag a ellid.—Fel yr oedd un tro yn Nglasfryn fawr daeth yno ddyn ar yr oedfa, a cherig yn ei boced, gan fwriadu eu hergydio ato: ond yn lle cyflawni ei amcan, arddelodd Duw ei air i gyrhaedd ei galon, fel y gorfu iddo ollwng y cerig i lawr o un i un. Bu y gŵr o hyny allan âg argoelion amlwg o dduwioldeb arno; a chafodd anogaeth i gynghori ei gyd-bechaduriaid i droi at yr Arglwydd, a bu yn fendithiol i lawer. Enw y gŵr oedd Richard Dafydd. Dro arall daeth dyn i mewn ar ganol yr oedfa, a golwg gyffrous arno; a meddyliodd y pregethwr mai am erlid yr oedd hwnw: ond cafodd newid ei farn am dano yn ebrwydd, wrth weled ei ddagrau yn llifo. Cyffro o natur arall oedd ar y gŵr, sef trallod ynghylch mater ei enaid.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Mae'n amlwg fod agwedd ddeffrous ar grefyddwyr yn amser yr erlidigaeth, ond ar ol caniatâu rhyddid cydwybod (er mor hyfryd a siriol oedd cael gwaredigaeth o ddwylaw erlidwyr creulon,) eto buan iawn yr aeth yr eglwys yn fwy cysglyd, ac yr adfeiliodd crefydd i raddau mawr yn mysg y rhan fwyaf o'r Ymneillduwyr dros lawer o flynyddoedd; er fod rhai gweinidogion deffrous a defnyddiol yn eu plith yn yr hir auaf diffrwyth hyn. Trueni fod haf mor hyfryd o dawelwch yn magu bwystfilod gwenwynig, sef cysgadrwydd, ffurfioldeb, ac iechyd yspryd; a gwaeth na hyny, cofleidio â thaenu ar led yr athrawiaethau mwyaf cyfeiliornus, nid amgen Ariaeth a Soziniaeth, megys y mae amryw o'r Presbyteriaid wedi gwneyd er's llawer o flynyddoedd.