Duw! er mor eang yw dy waith

Oddi ar Wicidestun
Y Man y bo fy Arglwydd mawr Duw! er mor eang yw dy waith

gan William Williams, Pantycelyn

Rhagluniaeth fawr y nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

58[1] Duw yng ngoleuni'r Groes.
M. H.

1.DUW! er mor eang yw dy waith,
Yn llanw'r holl greadigaeth faith,
'D oes dim trwy waith dy ddwylaw oll
At gadw dyn fu gynt ar goll.

2.Dyma lle mae d'anfeidrol ras
I'r eitha'n cael ei daenu i maes;
A holl lythrennau d'enw a gawn
Yn cael eu dangos yma'n llawn.

3.Ar Galfari, rhwng daer a nef,
Llewyrchodd ei ogoniant Ef;
Un haul ymguddiodd y prynhawn,
A'r llall a wnaed yn eglur iawn.

4.Pa ddawn sydd yn y Duwdod mawr
Nad yw'n ysgrifen yma i lawr?
Beth allsai ddangos pwy wyt Ti
Yn well nag angau Calfari?

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 58, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930