Rhagluniaeth fawr y nef

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Rhagluniaeth fawr y nef yn emyn gan David Charles (1762-1834)


Rhagluniaeth fawr y nef,
mor rhyfedd yw
esboniad helaeth hon
o arfaeth Duw:
mae’n gwylio llwch y llawr,
mae’n trefnu lluoedd nef,
cyflawna’r cwbwl oll
o’i gyngor ef.


Llywodraeth faith y byd
sydd yn ei llaw,
mae’n tynnu yma i lawr,
yn codi draw:
trwy bob helyntoedd blin,
terfysgoedd o bob rhyw,
dyrchafu’n gyson mae
deyrnas ein Duw.


Ei th’wyllwch dudew sydd
yn olau gwir,
ei dryswch mwyaf, mae
yn drefen glir;
hi ddaw â’i throeon maith
yn fuan oll i ben,
bydd synnu wrth gofio’r rhain
tu draw i’r llen.