Neidio i'r cynnwys

Pam 'r ofna f'enaid gwan

Oddi ar Wicidestun
Rhagluniaeth fawr y nef Pam 'r ofna f'enaid gwan

gan William Williams, Pantycelyn

Mae Duw yn llond pob lle
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

60[1] Cariad Duw yn para byth.
66. 66. 88.

1. PAM 'r ofna f'enaid gwan
Wrth weld aneirif lu
Yn amau bod im ran
A hawl yn Iesu cu?
Gwn mai di-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

2.P'odd gall y Bugail mawr
Anghofio'i annwyl wyn,
Pan ddaeth o'r nef i lawr
I farw er eu mwyn?
Gwn mai di-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.


3.A ddiffydd cariad rhad ?
Ai ofer geiriau Duw ?
A gollir rhinwedd gwaed
Ac angau Iesu gwiw ?
Gwn mai di-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

4.Er Satan, byd, a chnawd,
A'm holl elynion cas,
Fe ddygir f'enaid tlawd
O'i holl gadwynau i maes:
Gwn mai di-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 60, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930