Neidio i'r cynnwys

Dy glwyfau yw fy rhan

Oddi ar Wicidestun
Tosturi dwyfol fawr Dy glwyfau yw fy rhan

gan William Williams, Pantycelyn

Mi gana' am waed yr Oen
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

98[1] Y cwbl trwy'r Gwaed.
M. B. D.

1.DY glwyfau yw fy rhan,
Fy nhirion Iesu da;
Y rhain yw nerth fy enaid gwan,
Y rhain a'm llwyr iachâ:
Er saled yw fy nrych,
Er tloted wyf yn awr,
Fy llenwi gaf â llawnder Duw,
A'm gweled fel y wawr.


2.Mi brofais Dduw yn dda,
Fy nhirion raslon Dad,
Yn maddau im fy meiau mawr
Yn rhwydd o'i gariad rhad:
Fe'm seliodd i mewn hedd—
On'd rhyfedd yw ei ras?
Fe'm bwydodd i â'r manna pur
Mewn gwledd o hyfryd flas.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 98, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930