Neidio i'r cynnwys

Mi gana' am waed yr Oen

Oddi ar Wicidestun
Dy glwyfau yw fy rhan Mi gana' am waed yr Oen


golygwyd gan Robert Jones, Rhoslan
Wel dyma'r Ceidwad mawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

99[1] Y Gwaed yn puro'r Gydwybod.
M. B. D.

1.MI gana' am waed yr Oen,
Er maint yw 'mhoen a'm pla;
'D oes genny'n ŵyneb calon ddu
Ond Iesu'r Meddyg da;
Fy mlino ges gan hon,
A'i throeon chwerwon chwith;
Fy unig sail i am y wlad
Yw'r cariad bery byth.

Grawnsypiau Cannan. 1

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 99, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930