Wel dyma'r Ceidwad mawr

Oddi ar Wicidestun
Mi gana' am waed yr Oen Wel dyma'r Ceidwad mawr

gan John Thomas (1730-1803)

Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

100[1] Adnabod Crist.
M. B. D.

1.WEL dyma'r Ceidwad mawr
A ddaeth i lawr o'r nef
I achub gwaelaidd lwch y llawr;
Gogoniant iddo Ef!
Bu farw yn ein lle
Ni, bechaduriaid gwael;
Mae pob cyflawnder ynddo Fe
Sydd arnom eisiau'i gael.

2.Ei 'nabod Ef yn iawn
Yw'r bywyd llawn o hedd,
A gweld ei iechydwriaeth lawn
Sydd yn dragwyddol wledd:
Cael teimlo gwaed y groes
Yn dofi'r loes a'r cur,
A wnaeth i filoedd o bob oes
Gydseinio'r anthem bur.

John Thomas (1730-1803)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 100, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930