Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Bugail Cwmdyli yn cwynfan ymadawiad ei Rïan

Oddi ar Wicidestun
Can y Bardd wrth farw Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Y Lili Gwywedig

BUGAIL CWMDYLI YN CWYNFAN

YMADAWIAD EI RIAN.

E DDIFLANODD clog y gwlaw,
Fy anwylyd wiw,
Oedd yn toi Eryri draw,
Fy anwylyd wiw,
Mae yr haul ar hyn o dro,
Yn goreuro bryniau'n bro,
I'r hafotty rhoddwn dro,
Fy anwylyd wiw.

Ni gawn wrando'r creigiau crog,
Fy anwylyd wiw,
Yn cyd-ateb gyda'r gog,
Fy anwylyd wiw ;
A diniwed fref yr wyn,
A'r eidionau ar bob twyn,
A'r ehediaid llon o'r llwyn,
Fy anwylyd wiw.

Ond ar fyrder pa i mi,
Fy anwylyd wiw,
Fydd Cwmdyli hebot ti,
Fy anwylyd wiw ;
Yn iach wrando'th adsain dlos,
Wrth dy wylio dros y rhos,
I odro fore a nos,
Fy anwylyd wiw.

Ac yn nghanol dwndwr tre',
Fy anwylyd wiw,
A dyddanion llon y lle,
Fy anwylyd wiw.
Nac anghofia un a fydd
Ar dy ol, yn wylo'n brudd,
Yn Ngwmdyli uos a dydd,
Fy anwylyd wiw.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.


Nodiadau

[golygu]