Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Deigryn Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Beth yw Siomiant Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Bedd y Morwr

DEIGRYN HIRAETH.

Lle bo hiraeth, gwelir deigryn
Ar y rudd yn mynych ddisgyn;
Ac yn llithro drosti'n araf,
Gan arwyddo'r teimlad dwysaf.

Deigryn yw yn tarddu allan
O ffynonell dagrau'i hunan :
Ffyuon nad oes sychu arni
Tra bo hiraeth yn bodoli.

Gwres yr haul a sycha'r deigryn
Gwlith ar rudd y siriol rosyn;
Ond nid oes trwy'r greadigaeth
Ddim all sychu "deigryn hiraeth."
—IONORON GLAN DWYRYD:


Nodiadau

[golygu]