Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Beth yw Siomiant

Oddi ar Wicidestun
Fy Anwyl Fam Fy Hunan Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Deigryn Hiraeth

IV. BETH YW SIOMIANT.

BETH yw Siomiant? Tywyll ddu-nos.
Yn ymdaenu ganol dydd,
Nes i flodau gobaith wywo,
Syrthio megis deilach rhydd.
Beth yw Siomiant? Pryf gwenwynig
Yn anrheithio gwraidd y pren,
Nes ymdaena cryndod drwyddo,
Er dan iraidd wlith y nen.

Beth yw Siomiant? Llong ysblenydd,
Nofia'n hardd i lawer man,
Wrth ddychwelyd tua 'i phorthladd,
Yn ymddryllio ar y lan.
Beth yw Siomiant? Cwpan hawddfyd
Yn godedig at y min,
Ac yn profi'n fustlaidd wermod,
Yn lle bywiol felus win.

Beth yw Siomiant? Calon dyner,
Drom, yn gwaedu dan ei chlwyf,
Mewn distawrwydd, pan o'i deutu
Y mae pawb yn llawn o nwyf.
Beth yw Siomiant? Cynllun bywyd
Mewn amrantiad wedi troi,

Minau ar ei ol yn wylo,
Yntau wedi bythol ffoi!

Beth yw Siomiant? Tad yn edrych
Ar ei faban tlws,—dinam,
Arno'n gwenu,—yna'n trengu,
Pan ar fron ei dyner fam.
Beth yw Siomiant? Sylwi'n mhellach.
Ar y fam yn wyw ei gwedd,
Ac yn plygu, megis lili,
I oer wely llwm y bedd.

Beth yw Siomiant? Dim ond teimlad
Meddwl claf yn llawn o wae,
Pan yn canfod pob meddygon
Yn ei adael fel y mae.
Beth yw Siomiant? Chwennych bywyd,
Eto methu'n deg a byw;
Yna plygu'r pen i farw
Dan och'neidio—DYNA YW!
—IEUAN GWYNEDD.


Nodiadau

[golygu]