Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Fy Anwyl Fam Fy Hunan

Oddi ar Wicidestun
Diolch Plentyn i'w Dad am i Noddi Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Beth yw Siomiant

FY ANWYL FAM FY HUNAN.

Pwy a'm hymddygodd, yn ddi lŷs
O dan ei gwregys mwynlan?
Pwy ro'es i'm faeth a lluniaeth llon,
laeth ei bron bêr anian?
A phwy a'm cadwai rhag pob cam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy im' a süai, uwch fy nghryd,
Pan oeddwn wanllyd faban?
A phwy fu'n effro lawer, gwaith,
Drwy'r hirnos faith anniddan;
Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy a'm dilladai, er fy llwydd,
Bryd diniweidrwydd oedran?
Rhag i mi fawr beryglu f'oes,
Ysigo einioes egwan?
A phwy a'm noddai rhag drwg nam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Er blino'm mam garüaidd iawn,
A digio, na chawn degan,
Hi'n fynych wedi i'm syrthio'n groes
Iachaes fy loes a chusan:
Pwy ni chwenychai i mi gam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

A phwy a'm gwyliai ddydd a nos
Rhag syrthio dros y geulan?

Neu gwympo ar yr aelwyd boeth,
Mewn cyflwr noeth a thrwstan:
Pwy a'm golygai rhag drwg lam?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy, ond fy mam, dirionaf merch,
O eithaf traserch gwiwlan,
A wylai drosof, waelaf drych,
Pan oeddwn wrthddrych truan;
A pheth ond llaw Rhagluniaeth lon
A ddaliai hon ei hunan.

Pwy a'm cynghorai, bob rhyw bryd,
Rhag arwain bywyd aflan?
Ond parchu enw Duw drwy ffydd,
A chadw ei ddydd sancteiddlan,
Heb wneuthur unrhyw dwyll na cham?
Fy anwyl Fam fy hunan.

Er mwyn i'm hawddgar fam, heb groes,
Ddiweddu oes yn ddiddan,
Wrth iddi blygu bob yn bwyth
Dan ddirfawr lwyth o oedran;
Rhag suddo i'r bedd dan ofal bŵn,
Cymmeraf hwn fy hunan.

Pan fyddo angau llym ger llaw,
Ei phen â'm dwylaw daliaf;
A thrwyddi gras, yn fendith gref,
Fy Ion o'r nef erfyniaf?
A'm serch yn rhaffau heilltion rhed,
Wrth dalu'r ddyled olaf.


Oblegid credu'r wyf fod Duw
Awel,aglywycyfan;
Ei lid o entrych wybren fawr
Melltenai i lawr drwy f'anian,
Pe meiddiwn oddef cynnyg cam
I'm hanwyl Fam fy hunan.

—DAFYDD DDU ERYRI .


Nodiadau

[golygu]