Dyddanwch yr Aelwyd/Deigryn y Milwr
Gwedd
← Y Lili Gwywedig | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Cathl idd yr Eos → |
DEIGRYN Y MILWR.
Ar ael y bryn fe droes i gael yr olaf drem
O'r dyffryn teg, o'r llanerch hoff, a'r deildy harddliw gem;
Gan wrando sain y ffrwd i'w serch oedd felus iawn,
Ymbwysai'r Milwr ar ei gledd—a sychai y Deigryn llawn.
Gerllaw y deildy hardd penliniai geneth lân,
I fynu daliai lain liw'r iâ, hwn nofiai'r gwynt ar da'n;
Gweddïai ar ei rann, nis clywai ef mo'i dawn
Ond safai a bendithiai hi,—a sychai y Deigryn llawn.
Gan droi, gadawai'r bryn, na thybiwch ef rhy brudd,
Mae calon gwron tan ei fron, er dagrau ar ei rudd;
Ar ben y flaenaf lîn, mewn brwydyr enbyd iawn,
Grymusaf yno, dyna'r llaw, a sychai y Deigryn llawn.
—ROBIN DDU ERYRI.