Dyddanwch yr Aelwyd/Diwedd y Cynhauaf
Gwedd
← Y Gwlithyn | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Marwolaeth Ieuan Glan Geirionydd → |
DIWEDD Y CYNHAUAF.
TYMORAU ehedant,
A blodau a wywant,
A dail a orweddant
Ar hyd y llawr;
Medelwyr a ganant,
Yd addfed a gludant,
Adar ehedant
Dros y mor mawr.
Ar frys daw'r llym Aua',
Ei wynt a ysgythra,
Pob peth o'i flaen rwyga,
Daw'n dywydd du;
Wrth dân goleuedig,
O friwydd o'r goedwig,
Bydd sionc a methedig,
Yn llechu'n ty.
Ar fyr yr ymlithra
Fel hyn yr oes hwya',
Fe dderfydd yr yrfa,
Gwywa'r hardd wedd;
Dy wanwyn di ddarfu,
Mae'th Haf dithau i fyny;
Down toc i auafu
I dy y bedd.
CALEDFRYN.