Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Marwolaeth Ieuan Glan Geirionydd

Oddi ar Wicidestun
Diwedd y Cynhauaf Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul

MARWOLAETH IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

AR làn Iorddonen ddofn
Y mynych grwydraist,
Mewn blys myn'd trwy ac ofn
Ond ti anturiaist!
A'r byw a'th welsant di
Yn croesi' hymchwydd hi,
Yn hedfan uwch y lli',
I'r Ganaan welaist.

Ti wyddit rymy dwr
Cyn myned iddi,
A gwyddet am y Gŵr
Sydd Gyfaill ynddi;
Os teimlet fel yn wàn,
Llwyddianus fu dy ran,
Cyrhaeddaist dawel làn
Bro y goleuni.

A ninnau welwn draw,
Ar fynydd Seion,
Yn iach heb boen na braw,
Y cywir Gristion:
Ar làn Iorddonen gref,
Mewn hiraeth am y nef,
Cân myrdd ei Emyn ef
I'r dyfroedd dyfnion.

—CEIRIOG.


Nodiadau

[golygu]