Dyddanwch yr Aelwyd/Mam, beth yw hwna?
← Y Bwthyn Mynyddig | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Terfyn Diwrnod Haf → |
MAM BETH YW HWNA?
Mam, beth yw hwna?
Yr hedydd, fy mhlentyn;
Prin yr agorodd y wawr ei hamrentyn,
Pan gyffry o'i welltog nyth fach gron,
I fyny â ymaith a'r gwlith ar ei fron,
A chân yn ei galon, i'r wybren fry,
I'w seinio yn nghlustiau ei Grewr cu:
Boed fyth, fy mhlentyn, dy foreu gân,
Fel eiddo yr hedydd i'th Grewr glân.
Mam, beth yw hwna?
Y g'lomen, fy maban;
A'i llais gwan, melus, fel gweddw yn griddfan,
A lifa o'i mynwes dirion, byth
Yn ffyddlon a plur wrth ei hunig nyth;
Fel o wrn risialaidd y ffrydia'r dôn,
Am ei hanwyl gymhar y dysgwyl hon:
Byth fel y g'lomen, fy mab, bydd di,
Mor ffyddlon a chywir fel cyfaill cu.
Mam, beth yw hwna?
Yr eryr, fy machgen,
Yn chwareu'n falch yn ei nwyfre lawen;
Yn ngrym ei briod fynyddoedd hydera,
Gwyneba'r ystorm, a'r daran-follt heria;
Ar yr haul ei drem, ar y gwynt ei edyn,
Yn ei flaen â'n syth, ac ni chilia flewyn:
Gad byth, fel yr eryr, fy machgen, fod
Dy hediad fry, yn syth at y nod.
Mam, beth yw hwna?
Yr alarch, fy nghariad,
O'i allt gynhenid i lawr mae ei nofiad;
Heb nythle'n agos, na char iddo 'nawr,
I farw'n unigaidd y nofia i lawr;
Ei lygaid a geuir, a threnga'n lân,
Ond ei olaf yw ei felusaf gân:
Bydd fyw fel y gelli, fy nghariad llon,
Bêr ganu wrth adael y fuchedd hon.[1]
PARCH. D. L. PUGHE.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfieithiad o What is that Mother? gan George Washington Doane