Dyddanwch yr Aelwyd/Mi'th welais yn Wylo
Gwedd
← Cân Hen Wr y Cwm | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Bwthyn Mynyddig → |
MI'TH WELAIS YN WYLO.
Mi'th welais yn wylo; a'r deigryn tryloew
Yn araf ymdreiglaw o'th wâr lygad hoew;
A thybied yr oeddwn ei fod yn ymddangos
Fel lili y bore yn dafnu mân wlithnos.
Mi'th welais yn gwenu; a'r gemau teleidion
A welid yn gwelwi o flaen dy belydron:
Mi'th glywais yn siarad; ac àr fy nghlust disgyn
A wnelai dy eiriau fel gwlith àr y rhosyn.
Mi brofais dy gusan; a chynted a'i profais,
Holl fwyniant y ddaear àr unwaith anghofiais:
Mi'th welais wrth allor y llan' ac yn ffyddlawn
Dy law yn rhoi imi;—a'm gwynfyd oedd gyflawn.
D. S. EVANS.