Dyddanwch yr Aelwyd/Y Delyn
Gwedd
← Bedd fy Nghariad | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Hiraeth y Cymro am ei Wlad → |
Y DELYN.
HOFF Elen! dyg dy delyn fwyn
I'm lloni gyda'i İlef;
Ias hiraeth i fy mryd mae'n ddwyn
Am odlau maws y nef.
A phan yw tanau hon mor gu
Yn lleisio ger fy llaw,
Gofidion dwys y gauaf du
Yn siriol giliant draw.
Ac felly pan ddel Gauaf oes,
Llais Rhinwedd lwys mewn hedd,
A bair fy enaid yn ddi—loes,
I wenu ar y bedd.
—GWENFFRWD