Dyddgwaith/Byd yn ei Le
← Holi | Dyddgwaith gan Thomas Gwynn Jones |
→ |
BYD YN EI LE
PAN fo hen gyfoedion a fu, ac a barhaodd hefyd drwy bob newid, yn gyfeillion, yn cyfarfod â'i gilydd ar dro yn rhywle ar ffordd fawr bywyd, dywedyd y byddant ei bod hi'n hen bryd iddynt gael y cyfle unwaith yn rhagor i "roi'r byd yn ei le." Llawer gwaith y gwnaethant hynny yn ystod y dyddgwaith, ac eto ni wybu'r byd y dim lleiaf oddi wrthynt, ac nid nes mono i'w le wedi'r tro olaf nag wedi'r cyntaf. A'r tebyg yw na bydd y byd-fydd-yn-ei-le byth i'w gael yn unman, onid yng nghytundeb cyfeillion.
Gofyniad cyffredin gan y naill o'r ddau hen gyfaill i'r llall fydd-"Wyt ti'n cofio mor wirion fyddem gynt, yn credu'r peth hwn neu'r peth arall?" Ac fe fydd y llall yn cofio ac yn cytuno. Onid peth felly, yn wir, fydd hanes y blynyddoedd, darganfod o dro i dro mor wirion fyddid cynt? Yr awydd am rywbeth amgen, rhywbeth na bydd ef lle bôm ni, onid hwnnw a'n tynnai o hyd at y peth-sydd-yn-ei-le? Ac ymlaen yn y pellter y byddai hwnnw o hyd. Onid ymguddiai ef y tu draw i bob tro yn y ffordd, a phan ddoem ninnau ryw ddiwrnod at y tro ac edrych yn swil heibio'r plygiad, oni byddai yntau eisoes yn ymguddio y tu draw i'r tro nesaf?
O dipyn i beth, dechreuem sylweddoli, nid yn unig ei fod ef yn newid ei guddfan o hyd, ond ei fod bellach wedi newid ei gyfeiriad hefyd. Ymlaen y byddai gynt. Yn ôl y bydd bellach. Gallem fod wedi mynd heibio iddo yn rhywle ar y ffordd a'i adael yno heb yn wybod i ni ein hunain. Tybed mai wrth freuddwydio amdano ef ei hun yr aethom heibio iddo heb ei adnabod? Syn fydd gennym hefyd deimlo bellach nad ymlaen y bydd rhyfeddodau'r pellter. Drwy ryw hudoliaeth, yn ôl y bydd yntau, draw yn yr heulwen araul, fydd yn tywynnu yno erbyn hyn; a syndod ei fod yntau weithian yn edrych mor debyg i'r peth y byddem yn ei geisio gynt, ymlaen.
Dechreuwn hefyd synio nad ei guddfan a'i gyfeiriad yn unig a newidiodd y byd hwnnw. Oni chwaraeodd ef ambell gast â ni yn ystod y dyddgwaith? Oni theimlwyd, nid yn unig ei fod ef yn chwarae mig â ni, ond ei fod yn newid ei wisg o dro i dro? Ai rhyw hudol oedd yntau, rhyw wehydd yn dieithro'i wisgiad yn gywrain, pan fyddai dynion yn cynefino â'r hen drwsiad, wrth gael cip ar y tu chwith, ac yn dechrau meddwl nad oedd hwnnw wedi'r cwbl lawn cyn wyched ag y bu unwaith yn edrych iddynt hwy? Er hynny, onid medrus oedd ef, a'i wisgiad newydd bob tro mor gymwys, mor ddeniadol â phe bai wedi ei lunio yn union wrth batrwm a mesur gorhoffedd dyn ei hun, wrth ddymuniad ei galon?
Pe deuid rywfodd o hyd i weithdy cudd y gwehydd hwnnw, a medru gwybod manylion ei grefft, oni byddai'r byd yn nes i'w le, onid yr ymchwil am y dirgelwch hwnnw yn wir oedd i wneuthur pethau yn eglur i ni a rhoi'r byd yn ei le? A diau mai difyr oedd yr ymchwil. Antur fawr a chloddio dwfn. Rhamant a dirni, yn gofyn byrbwyll a hirbwyll.
Ac eto, er a ddysgem oddi wrth ein cyfeillion sicraf o'u dysg, teimlem rywfodd, er mor ddifyrrus oedd yr ymchwil yn aml, nad oedd y gwehydd a'i grefft nemor nes i ddyfod i'r golwg. Eithaf y peth a allai'n penaethiaid rhywiocaf fyddai gwisgo rhyw olwg ddoeth, gwenu ambell waith, ysgwyd pen fel pe bai'n drwm gan ddoethineb profiad lawer, a throi at godi neu gadw ein diddordeb yn nhermau aml eu gwybodau hwy. Dangosai eraill, afrywiocach eu graen, ryw dosturi uwchraddol tuag atom, gan chwerthin weithiau am ein pen, pe pen hefyd, ac awgrymu na waeth heb wastraffu amser, na ŵyr neb beth yw, at oleuo'r rhai na roddwyd iddynt mo'r ddawn— ni ddywedid gan bwy—i weled pethau fel y maent, nid fel yr edrychont. Pe gofynsem ninnau sut y mae pethau, a gaem ychwaneg na rhes o dermau mawr mawr am bethau bach bach, mor fach weithiau fel y gellid amau a oeddynt yn bethau o gwbl, hyd yn oed er cael enw o Ladin bas arnynt yn gwarantu eu petholdeb? A ninnau yn ein penbleth, eto heb allu dirnad profiad hen bobl addfwyn nac ateb cwestiynau plant bach, yn chwennych ac eto'n ofni gofyn ai gyda hwy wedi'r cwbl y mae'r byd sydd yn ei le, y pellter a'r awen, y reddf sy'n sicrach na barn—ai eiddynt hwy yw holl ogoniant bod yn effro?
Un peth sydd sicr i ni bellach. Ni chawn ni
ddim myned yn ôl. A thraw, ymlaen, y mae'r
niwl a'r cysgod, yr anhysbys a'r di-gyfrif. Ac eto,
cawn gysgu'n drwm wedi'r dyddgwaith. Ac a
allem ni gynt, ai ynghwsg ai yn effro, ddychmygu
am beth na allo'r Dirfod ei roddi i ni, o'r drugaredd sy dragywydd: Onid Efô a egyr y drws i
bob un ohonom yn ei dro, ac a rydd i ni orffwys? Ac os cawn, fel plant wedi blino, ein gollwng
drwy'r drws hwnnw, oblegid dyfod o'r amser i
ddadflino o olwg yr Arglwydd, onid hyfryd
fyddai'r deffro eilwaith a'r dyddgwaith arall?
ARGRAFFWYD GAN
HUGHES A'I FAB
WRECSAM