Dyddgwaith/Holi

Oddi ar Wicidestun
Tawelwch Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Byd yn ei Le

HOLI

Ni welsai Hi eto ond rhyw bedwar haf. Ambell dro—efallai mai ar ganol rhyw chwarae bach diniwed y byddai—fe beidiai'n sydyn ac eisteddai i lawr. Wedi blino, mi dybiwn. Plygai ei phen bach ychydig ymlaen. Dodai ei phenelin ar ben ei glin a'i llaw dan ei gên. Crychai ei thalcen, dôi rhyw olwg bell i'w llygaid, ac edrychai yn syth o'i blaen, nid ar neb na dim a fyddai yn y golwg. Byddai felly yn gwbl lonydd ac yn syn am ysbaid, weithiau am ysbaid go hir-hir iawn yn wir, iddi Hi, a fyddai drwy'r dydd mor aflonydd a bywiog.

Dywedasech ei bod Hi fel rhyw hen wraig fach, yn ceisio atgofio rhywbeth y bu'n ei wybod ryw dro. Byddai arnaf ofn dywedyd un dim wrthi, na gwneuthur sŵn yn y byd i'w tharfu. Dim ond ei gwylio'n ddistaw, fel y gwyliai dyn doriad gwawr neu ymachlud haul, fel yr eisteddai dyn mewn hen eglwys a'i deimlo'i hun yn fychan bach ac yn ddibwys ac annheilwng, fel y gwnâi dyn y peth cysegredicaf a wnaeth erioed.

Ychydig eiliadau cynt, byddai Hi yn fy holi a minnau'n ceisio ateb. Yr un cwestiynau bach syml bron bob amser—"O ble?" "I ble?" "I be?" A'r un atebion, weithiau'n ffaith, ran amlaf yn gorfod bod yn ddim ond dychymyg noeth, canys byddai'r dirgelwch yn gymaint i ni'n dau.

Unwaith, wedi profiad felly, megis un a ofynno tan ei lais beth nis dylai, rhyfygais innau holi pa beth yr oedd Hi yn ei wneud. Cododd ei phen yn araf, gwenodd ryw wên fach wylaidd, fel y pelydryn lleiaf o heulwen yn dyfod yn sydyn ac yn mynd yn ebrwydd. "Melwl," meddai. Ac yn ddioed cyfododd ar ei thraed a mynd rhagddi gyda'i chwarae yn union fel o'r blaen. A minnau'n teimlo fel pechadur wedi torri ar fyfyrdod sant, mor drwsgl â phe na bai i mi na phwyll na pharch.

Ie, "melwl." Ac ond odid yn ddwysach ac unionach nag y bydd neb ohonom ninnau'n gwneuthur hynny byth er pan ddysgasom ddodi mil o ffurfiau ar yr un cwestiynau tragywydd, "O ble?" "I ble?" "I be?"

Nodiadau[golygu]