Dyddgwaith/Tawelwch

Oddi ar Wicidestun
Traddodiad Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Holi

III

HWYR

TAWELWCH

RHYFEDD gennyf feddwl fy mod yn ei gofio ef yn ei rym yn ddyn cadarn o bymtheg ar hugain i ddeugain mlwydd oed, ac imi ei weled yn tynnu'r gŵys i'r pen yn saith a phedwar ugain. Amaethwr ydoedd, fel y bu to ar do o'i hynafiaid, ond cawsai well addysg na'r cyffredin o'i ddosbarth yn ei ieuenctid. Yr oedd yn athronydd wrth natur a rhifydd da—gweithiai broblem allan yn ei ben cyn y byddwn i wedi dyfod o hyd i'r ffordd i gynnig arni. Llefarai, darllenai ac ysgrifennai ddwy iaith ac enillodd grap ar drydedd. Clywais ei fod o dymer fywiog iawn yn hogyn, a bu a'i fryd ar grwydro'r byd gynt. Hyd yn oed yn ei ganol oed yr oedd ei waed yn boeth, ac anodd ganddo oddef rhai pethau. Gwelais ef yn cynhyrfu nes bod ei wyneb yn cochi lawer tro, ond tewi a wnâi. Pan lefarai byddai'n gwbl dawel. Hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw, cyfrifai ei gymdogion ef yn ddyn pwyllog. Ymddiriedent iddo ganoli a thorri dadleuon rhyngddynt, yn hytrach na mynd i gyfraith. Yr oedd yn hoff o gwmpeini, ond ni bu arno erioed ofn distawrwydd ac unigedd.

Darllenodd lawer yn gyson ar hyd ei oes, ond gallai eistedd yn llonydd am oriau i feddwl drosto'i hun. Pan oedd yn bedwar ugain oed, ac eto'n sionc ar ei droed, dywedodd wrthyf ei fod ryw noswaith drymllyd yn yr haf, er blino mwy nag arfer yn ystod y dydd, wedi cerdded tair milltir i ryw wasanaeth. Ar gychwyn y daith yn ei ôl, teimlai mor flinedig fel na wyddai sut i roi'r naill droed heibio'r llall. Ond dechreuodd feddwl am y corff, oedd yn blino, a'r ysbryd na flinai ddim. Yr oedd wedi cyrraedd adref ac eistedd yn ei gadair heb gofio unwaith am ei flinder. Câi'r profiad hwnnw'n aml. Ni adawai'r argraff ar ddyn ei fod yn hen, canys yr oedd ei feddwl mor ddianwadal a chyn hoywed ag erioed. Agos hyd y diwedd, gallai amgyffred a chofio cynnwys pob llyfr a ddarllenai, a lluniodd iddo'i hun athroniaeth bywyd a roddes iddo fwy fwy o dawelwch rhywiog a llarieidd-dra aeddfed o ddydd i ddydd, er gwaethaf oes ddigon helbulus a thrallodus.

Eiddigeddwn wrtho am na byddai dim a'i cynhyrfai mwy. Araf oeri o'r gwaed a fu boeth gynt? Efallai, ond nid hynny'n unig chwaith, canys ni bydd ar hynny nemor rinwedd oni bydd hunan-ddisgyblaeth eisoes wedi achub y blaen arno. Gall y gwaed oeri heb rywiogi, a'r dymer arafhau heb warhau. Yn ei hanes ef, dechreuodd y ddisgyblaeth honno'n gynnar a pharhaodd ar hyd y daith. Nid ofnodd ddilyn ei ddealltwriaeth hyd yn oed yn ei henaint. Newidiodd ei feddwl ar lawer peth, mewn gwleidyddiaeth a chrefydd, yn ei ddydd, ond ni chlywais erioed mono'n dirmygu'r syniadau na allai ef mo'u derbyn mwy. "Yn dawel iawn y bydd popeth yn tyfu," meddai wrthyf unwaith, "ac ni waeth heb ddisgwyl unpeth lawer cyn ei bryd." Felly yn dawel yr aeddfedodd yntau, ac yr aeth ei dawelwch yn eidduned, o leiaf, i un arall.

Y tro diwethaf ond un i mi ei weled, ar ganol yr agonía olaf, ni'm hadnabu pan gyferchais ef. Atebodd yn Saesneg, gan esgusodi ei glyw a'i olwg. Adfail. Eto, yn y man daethom ar draws dirgelwch corff ac ysbryd. Daeth yr hen oleuni i'w lygaid. Nid oedd gryndod yn ei lais mwy. Am awr, llefarodd fel cynt. Yr oedd yr ysbryd mor fyw ag erioed, er mai blin iawn oedd y corff. Yna tawodd, dododd bwys ei ben ar ei law a bu'n edrych yn hir, megis pe ar rywbeth yn y pellter. Ofnwn ei darfu, ond aeth yr ysbaid mor hir fel yr anturiais ofyn a oedd dim a fynnai. "Na," meddai, "meddwl yr oeddwn." Yna sibrydodd:

"Ti a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae'n dyfod nac i ba le y mae'n myned."

Nid hir fu'r ymdrech wedyn. Agorwyd y drws iddo o'r diwedd. Aeth trwodd yn dawel, gan sibrwd rhywbeth am " yr amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd."

Perffeithiwyd y tawelwch.

Nodiadau[golygu]