Dyddgwaith/Clasuron
← Prydyddiaeth | Dyddgwaith gan Thomas Gwynn Jones |
Hela a Chloddio → |
CLASURON
UN o drychinebau addysg, o leiaf yng Nghymru, ryw hanner can mlynedd yn ôl oedd y dyb gyffredin nad oedd dim yn addysg ond a geffid mewn ysgolion. Yn yr ysgolion hynny, gan mwyaf, ni cheffid ond ychydig o Saesneg digon llymrig. Hyd yn oed yn yr ysgolion gramadeg a geid yma ac acw, er bwrw bod brith- ddysgu ychydig syniadau niwlog am reolau mydryddiaeth Ladin yn ddysg, ni chyfrifid gwybod rheolau mydryddiaeth Gymraeg, y fanylaf a'r gywreiniaf yn Ewrop efallai, yn ddysg o fath yn y byd.
A bwrw bod rhyw rinwedd arbennig ar fedru Groeg a Lladin, y mae'n eglur na thybiai'r Cymry a gafodd y cyfle i fod yn feistriaid arnynt ddim bod. y rhinwedd hwnnw yn werth ei ddwyn i gyrraedd pobl a ddibynnai ar y Gymraeg am eu diwylliant, canys ni wnaethant gymaint ag un llyfr Cymraeg at wasanaeth y rheiny. Dododd Charles o'r Bala lawer o eiriau Groeg (a Hebraeg o ran hynny) yn ei "Eiriadur," a thrawslythreniad ohonynt rhwng crymfachau. Drwy'r ddamwain honno y dysgodd un hogyn y llythrennau Groeg ac o leiaf ystyr rhai geiriau, cyn bod un cyfrwng arall at ei alwad—onid tlysion oedd y llyth rennau bychain Groeg, gyferbyn â'r traed brain Hebraeg! Bu'n edifar ganddo wedyn gymryd yn erbyn y traed brain hefyd, canys yr oedd, pe gwybuasai ef, o leiaf un llyfr Cymraeg a roesai iddo gymorth i ddeall y rheiny. Am Ladin, ni cheid cymorth hyd yn oed yn ysgil crefydd. Eto, rhaid bod yng Nghymru yr adeg honno nid ychydig a fedrai Roeg. Cafodd yr hogyn hwnnw'r fraint ddeng mlynedd yn ddiweddarach o'i dynnu i ddarllen y Testament Groeg mewn "Cyfarfod Darllen" lle'r oedd tri arall a wnâi hynny—hen ysgolfeistr, teiliwr, a garddwr, coffa da amdanynt.
Ni ellir amau na thraethwyd o dro i dro lawer o bethau rhyfedd am ragoriaeth Groeg a Lladin. "Nid gŵr bonheddig ni wypo Roeg" meddai rhywun gynt, peth a ddengys—a bwrw bod y wybodaeth yn ddilys—na ellir bod yn sicr mai'r un peth fyddai ei heffaith ar bawb. Ond a rhoi na ddichon hyd yn oed Roeg wneuthur gŵr bonheddig o bob math o stwff, y mae'n rhyfedd na feddyliodd rhai o'r dosbarth, a awgrymai ddarfod eu boneddigeiddio hwy, ddim am y dull mwyaf effeithiol, yng Nghymru o leiaf, at luosogi'r cwmni. Efallai yn wir mai un gynneddf ar ŵr bonheddig o'r fath oedd ofn. . . "Ni ellir iawn ysgrifennu Saesneg heb fedru Lladin," meddai un arall, ac yn ddiau, a barnu wrth eu hymdrechion, fe'i credodd llaweroedd o'i gydwladwyr llenyddol am gyfnod maith, er bod eraill ohonynt yn ddi weddarach wedi darganfod rhinwedd Anglo- Saxon at yr un pwrpas, a bod erbyn hyn nid ychydig ohonynt yn gwbl sicr nad oes gan hyd yn oed Esperanto ddim siawns yn erbyn Saesneg fel iaith wneud. Bellach hefyd, bu wiw gan rai prifysgolion droi Lladin a Groeg, nid yn unig o'r hen ogoniant oedd eiddynt unwaith, ond hefyd ddeddfu nad rhaid wrth Ladin hyd yn oed er mwyn trin y defnyddiau hanes sy'n digwydd bod yn yr iaith honno. Ac am Roeg, ymddengys bod yn beth dysgedig i feistr ar athroniaeth gymryd ei Blato'n ddibetrus oddi ar blât rhywun arall, megis.
Diau y gellid profi bod yr ysgolion gynt yn dodi ar Roeg a Lladin fwy o bwys nag oedd raid, ac nid rhyfedd, efallai, i rai ohonynt o'r diwedd fynd i'r eithaf arall. Eto, ni ellir amau na pherthyn i'r llenyddiaeth a geir yn y ddwy hen iaith hynny ansoddau sy'n haeddu pob rhyw barch a roed iddynt erioed. Ac er na chaiff neb oddi wrth unpeth a ddysgo onid meithrin y peth fydd ynddo wrth natur, y mae'r nodd cyfrin hwnnw, a geir, yn wir, yng nghlasuron pob iaith, y nodd fydd yn rhywiogi ac yn ffrwythloni pob anian gydnaws, i'w gael yn helaeth yn nhrysorau Groeg a Lladin.
Nid oes dim mwy diddorus, fel y cerdda'r blynyddoedd ymlaen, na darllen o dro i dro rai o'r pethau a ddarllenid gynt, cyn dyfod o'r dyddiau blin, pethau o ddewisiad hen athrawon a farnai nad oedd cyfnod dysgu Lladin i fechgyn ddim. yn adeg ry gynnar i wneuthur hynny drwy gyfrwng doethineb a phrofiad eraill. Nid hawdd anghofio'r pleser a ddôi pan ildiai'r gystrawen ddieithr ei hystyr, na'r lled syndod a ganlynai sylweddoli mor fynych y byddai meistriaid y gystrawen honno yn ymddwyn mor urddasol ac yn llefaru mor gynnil.
Ffortunus oedd yn gynnar daro ar hen lyfr o ryw gan tudalen, yn llawn o'r urddas a'r ddoeth ineb a'r cynildeb hwnnw, casgliad hen athro a fentrodd gredu nad yw hyd yn oed hogiau drygionus ac aflonydd ddigon lawn cyn ddyled ag y bydd llawer yn tybio eu bod. Mynych y methid dyfod yn rhwydd o hyd i gyfrinach y gystrawen anghynefin-amheuid weithiau a oedd raid iddi fod mor anodd !-ond fe ddôi drwy ofal, ac wedi dyfod felly, byddai'n debyg o aros. Tybiwyd, y mae'n ddiau, mai mewn llyfrau yn unig y ceid doethineb o'r fath, ac mai i Roegiaid a Rhufeiniaid yn unig y perthynai, ond fe geid ar dro y gallai hi dalu hefyd mewn bywyd cyffredin. Cof gennyf unwaith glywed ffrae wyllt rhwng dau hogyn, un distaw a'r llall yn tafodi'n ddi-baid. "Cau dy geg, gael i ti ddysgu pryd i'w hagor hi !" meddai dyn oedd yn digwydd mynd heibio ar y pryd. Ar drawiad, cofiais innau ddywediad o'm llyfr Lladin nad oeddwn hyd hynny wedi ei ddeall yn iawn-"Qui non novit tacere nescit loqui." Yr oeddwn mor falch o ganfod yr ystyr a'r tebygrwydd fel y mynaswn ddywedyd hynny wrth rywun, ond cofiais hefyd, y tro hwnnw, am y tewi. A thewais.
O hynny hyd heddiw bu'r hen lyfr yn gyd ymaith cyson. Mynych ddigon y bu gwahaniaeth rhwng y peth a ddywedai ef a'r peth a wnawn innau. Ond nid amheuais ef erioed, canys sicr fyddwn mai efô a wyddai.
Dysgais wedi hynny beth nis gwyddwn y pryd hwnnw, sef bod y gamp honno i'w chael hefyd ar waith meistriaid ieithoedd eraill, y Gymraeg yn eu plith, ac nas ceir ar bob rhyw beth a sgrifennwyd hyd yn oed yng Ngroeg a Lladin, nac ar rai o'r pethau a astudir ymhlith eu clasuron hwythau. Ond yn y dyddiau rhy brin hynny y cafwyd cip ar ffynnon glewder meddwl a gloywder ymadrodd, ffynnon a yrrodd ei goferau ymhell ac a fu'n fam i'r lleill. Pan ddêl egwyl ar dro i grwydro'n ôl o'r brys a'r sŵn a oddiweddodd bopeth, bydd y ffynnon honno'n dawel ac yn loyw o hyd, yn murmur profiad dilys, craffter a doethineb, hoffter at natur, cyfeillgarwch, caredig rwydd hyd yn oed at gaethion, edmygedd at symledd ac urddas dynion dewr dirodres, ai gwyllt ai gwâr. Honno yw ffynnon y Clasuron, "splendidior vitro" hithau.