Dyddgwaith/Darllen
← Hen Gynefin | Dyddgwaith gan Thomas Gwynn Jones |
Prydyddiaeth → |
II
NAWN
DARLLEN
PRIN yr wyf yn cofio pa bryd yn union y dysgais ddarllen. Daw'r enw "John Halifax," a sôn am ryw "Josi" i'r cof o'r cyfnod hwnnw, dim ond yr enwau, a rhyw bang bach o chwithdod am rywbeth a fu ac a aeth heb adael ond enw ar ei ôl. Tebycaf yw mai rhywun arall fyddai'n darllen allan i mi'r pryd hwnnw. Sut bynnag, yr oedd hynny ryw ysbaid cyn y diwrnod yn nechrau haf, pryd yr oedd yn rhaid i mi aros yn fy ngwely, o achos rhyw anghaffael a fu'r diwrnod cynt, a'r pryd y teimlais fy mod eisoes wedi dysgu rhywbeth rhyfeddol, rhywbeth tebyg i ddyfod o hyd i fyd newydd.
Edrych yr oeddwn y tro hwnnw drwy gyfrolau o gylchgrawn bychan i blant—pethau prinion yr adeg honno. Yr oedd yno sôn am wŷr enwog a da nad oeddynt, am ryw reswm, yn fy nifyrru. Yr oedd lluniau rhai o'r gwŷr da hyn, eu golwg ddifrif a'u barfau helaeth, yn peri i mi ofni na allwn i byth fod yn dda fy hun. Un llun oedd yno a hoffwn—yr oedd hwnnw wedi tynnu fy sylw o'r blaen, a gwnaeth yr un peth y tro hwn eto. Llun "Y Cleddyfwr yn Marw" ydoedd. Nid oedd yno ddim o'i hanes, dim ond y llun. Trist oedd yr wyneb ond yr oedd yn hardd, pen crwn, gwallt crych, bron iawn fel gwallt fy mrawd bach, oedd fel goleuni'r haul "yn ddigon. o ryfeddod," meddai Mari Wiliam. Yr oeddwn yn sicr mai'r un lliw oedd modrwyau gwallt y cleddyfwr oedd yn marw. Trist oedd meddwl ei fod yn marw, ond yr oedd ef o leiaf wedi tyfu i'w faint, a gwyddwn fod yn rhaid i bobl wedi tyfu i'w maint farw. Byth er pan welswn yr oen bach wedi marw yn y coed, pan oeddwn yn bur fychan, byddai'n ddrwg iawn gennyf dros bob peth fyddai'n gorfod marw yn ieuanc. Byddai'r cylchgrawn yn rhoi hanes bechgyn a merched bach wedi marw yn ieuainc, a lluniau rhai ohonynt. Byddai golwg drist ar y rheiny, fel pe na buasent erioed wedi bod yn hapus. Byddwn yn meddwl eu bod yn gwybod, efallai, y byddai'n rhaid iddynt farw yn ieuainc, ac er eu bod bob amser wedi bod mor dda, rhaid bod ofn marw arnynt. Ond nid oedd wyneb y cleddyfwr yn peri i rywun feddwl na bu ef erioed yn hapus, na bod arno ofn marw.
Dywedid wrthyf weithiau y dylaswn innau geisio bod fel y plant bach da hyn. Yn wir, yr oeddwn wedi ceisio fwy nag unwaith, a methu bob tro bron, ac o achos y peth fyddai'n digwydd. yn gyffredin ar ôl i mi fethu, yr oedd gennyf ryw fath o gwyn yn erbyn plant bach da iawn, yn enwedig bechgyn bach. Ond ni byddwn yn teimlo'n gas at y rhai fu farw chwaith. Byddai eu lluniau'n peri i mi gofio am yr oen bach hwnnw, mor llonydd, mor oer, a byddai mor ddrwg gennyf drostynt fel y byddwn yn sicr bod yn well i mi beidio â darllen eu hanes.
Yn sydyn, wrth droi'r dail, a gwrando ar y ci lwcus oedd yn cyfarth oddi allan, dyma fi ar draws ystori am yr Indiaid Cochion. A dyma ddarllen. Hyd hynny, fy nheimlad fyddai mai dyletswydd heb fod bob amser yn bleserus fyddai darllen. Ond dyma ddarganfyddiad o'r radd flaenaf. Digwyddai fy mod eisoes wedi gweled Indiaid Cochion—o leiaf, dyna beth a ddywedai'r cymdogion amdanynt. Yr oeddynt yn byw heb fod ymhell o'm cartref. Edwin oedd ei enw ef, ac Angelina y gelwid ei wraig, pwy bynnag o edmygwyr Goldsmith a'u bedyddiodd—byddai fy nhad yn sôn yn aml am Goldsmith. Aent o gwmpas gan werthu pinnau a thrwsio ambareli, a dywedai pawb mai dau syml, gwbl ddiniwed, oeddynt. Nid tebyg fod neb yn gwybod llawer o'u hanes. Nid oedd ganddynt ddim Cymraeg ond "bore da" a "nos dawch," ac ni wyddent ond ychydig Saesneg, prin ddigon i fod yn ddealladwy i'w cymdogion, pobl heb lawer mwy na hwythau o'r iaith honno. Os dywedech rywbeth wrtho, byddai Edwin yn ail adrodd y geiriau wrtho'i hun cyn ceisio'ch ateb. Nid wyf erbyn hyn yn amau dim nad Indiaid Cochion oeddynt, wedi dyfod ar ddamwain o rywle ac aros yn yr ardal am ysbaid. Pan welais deitl yr ystori, meddyliais ar unwaith am Edwin ac Angelina.
Dyna ddechrau darllen, ac yn fuan iawn, o fod yn hogyn y byddai raid dywedyd wrtho am ddarllen, euthum yn un o'r hogiau y dywedid amdanynt eu bod "a'u trwyn mewn rhyw lyfr o hyd," neu y byddai raid dywedyd wrthynt lawer gwaith bod y cinio'n barod neu ei bod yn amser mynd i'r gwely. Felly bûm innau'n hela yn y coed, yn cysgu allan y nos ac yn ymladd ag Indiaid Cochion. Yr wyf yn cofio hyd heddiw ym mha fan yn union y digwyddai popeth yn yr ystori o'r dechrau i'r diwedd. Breuddwydiais unwaith fy mod wedi tynnu croen pen Edwin druan, a bûm yn euog ac anesmwyth nes ei weled ym mhen deuddydd neu dri a'i wallt gloywddu llaes yn dorch ar ei war, fel arfer.
Aruthr oedd balchter a rhyfeddod y darganfyddiad hwnnw—mwy na balchter medru dywedyd faint fyddai hi o'r gloch ar y cloc. Nid yn unig medru darllen, ond bod y fath bethau i'w darllen; bod pethau'n digwydd mewn llyfrau; bod y rhai fyddai'n ysgrifennu llyfrau yn gwybod ac yn gallu dywedyd wrthych beth y byddai pobl yn ei feddwl, hyd yn oed pan na byddai'r bobl hynny yn siarad, fel y bydd dynion, y naill â'r llall; bod llyfrau'n gallu dywedyd wrthych sut le oedd America, coed ac afonydd, fel y gallech eu gweled yn ymyl eich cartref eich hun, yn union fel y byddent yn y llyfr. Os byddai'r llyfr yn sôn am graig mewn lle na byddai ynddo'r un graig yn eich coed chwi, gallech ddywedyd wrthych eich hunan fod yno graig felly yn union yn y fan honno, a gallech ei gweled yno, er ei bod hi mewn gwirionedd yn digwydd bod filltir oddi yno, mewn lle nad oedd goed o gwbl. Os byddai'r llyfr yn sôn am aderyn yn gwneud sŵn tebyg i'r geiriau "whip-poor-will," gallech glywed y gri honno'n glir, gan aderyn a welsech lawer gwaith. Teimlech y gallech fod yn y fan a fynnech, clywed popeth, gweled popeth. Gallech wneud hyn oll pan ddewisech. Nid rhaid i chwi byth fod yn annifyr yn y tŷ pryd na chaech fynd allan. Gallech hyd yn oed weled y cwbl a'ch llygaid yn gaead, pan fyddech yn methu cysgu'r nos. Byddech fel pe baech bawb, fel pe baech ym mhobman, dim ond am eich bod wedi dysgu darllen. Ambell waith, byddech yn dyfod i wybod ystyr geiriau nad oeddych wedi eu clywed na'u gweled o'r blaen, a hynny heb ofyn i neb; a doech i ddeall mai'r un peth oedd meddwl geiriau fel "buaswn yno," a fyddai i'w cael mewn llyfr, a'r geiriau "yr oeddwn i wedi bod yno," fel y byddech yn dywedyd eich hun wrth siarad â rhywun. Rhown lawer am fedru darllen felly eto. Yr wyf yn cofio syndod a balchter teimlo na byddai raid i mi byth mwy, fel y dywedwn y pryd hwnnw, fod yn annifyr.
Cefais achos i newid y farn honno gryn lawer o weithiau wedyn, fel y mae'n ofidus meddwl, a bu raid i mi gytuno fwy nag unwaith â'r gŵr doeth a ddywedodd, "Nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen gormod, blinder yw i'r cnawd." Dim ond y buaswn yn awgrymu'n wylaidd y gallasai yntau chwanegu "ac i'r ysbryd." Eto, y mae darllen a darllen. Dywedir fod y wasg Saesneg yn unig yn bwrw allan ryw dair mil o nofelau bob blwyddyn. Heb sôn dim am y llenyddiaeth helaeth a sgrifennir i esbonio llawer ohonynt a dangos i fyd synedig sut y bydd meddyliau eu hawduron yn gweithio. Nid yw'r Cymry mor hoff o ddarllen nofelau—nofelau Cymraeg, o leiaf. Eu ffordd hwy yw eu beirnadu, ar ôl darllen adolygiadau arnynt, yn nodi'r gwallau yn yr orgraff.
Byddis yn dywedyd weithiau am ambell un ei fod "wedi peidio â darllen ers blynyddoedd," gan fwriadu i hynny olygu ei fod wedi peidio â meddwl hefyd. Ond prin y mae'n canlyn bod darllen a meddwl yn gyfystyr bob amser. Cydymdeimlodd rhywun â dyn a gollodd ei olwg yn ei ddegfed flwydd a thrigain, ag yntau, fel y gwyddid, yn "ddarllenwr mawr." "O," meddai yntau, "nid rhaid i chwi ddim cydymdeimlo â mi am hynny. Bûm wrthi mor brysur yn darllen ar hyd f'oes fel na chefais ddim amser i feddwl nes fy mynd yn ddall." Trueni o beth bod yn rhaid i ambell un golli ei lygaid. cyn eu hagor, megis.
"Pan fo pawb yn sôn am lyfr newydd, darllen dithau hen un," meddai rhyw ŵr doeth—ni wn i ddigon i allu ychwanegu ym mha le na pha bryd y ganed ein gwrthrych," na pha beth "oeddynt enwau ei rieni," na hyd yn oed pa goleg y bu ynddo, os bu erioed mewn lle o'r fath, peth amheus, efallai. Gellir casglu ei fod ef, sut bynnag, yn darllen—hen lyfrau. A chryn nifer ohonynt hefyd, os canlynai ei gyngor ef ei hun bob tro y byddai pawb yn sôn am lyfr newydd. Adwaenwn ddyn gynt â chanddo syniadau clir a rhesymol iawn am ddarbodaeth. Addawodd ysgrifennu llyfr ar y pwnc dymunol hwnnw, ond aeth ati i ddarllen llyfrau a sgrifennodd eraill. eisoes ar y pwnc. Nid ysgrifennodd ef byth mo'i lyfr ei hun. Mwy na hynny, nid oes ganddo bellach, meddai ef, ddim dirnadaeth pa fath gyfalaf y dylid galw buwch odro neu fuwch hesb, na pha beth a olygir wrth "werth y bunt," er y gall fynegi'n rhugl pa beth a synio—neu a sonio-pawb arall ar y pwnc. Dyna'r rheswm, y mae'n debyg, pam y gelwir y wybodaeth honno yn eco-nomeg gan Brifysgol Cymru. Clywais am un tramorwr galluog a dysgedig ymhob cyfeiriad, yn ôl y sôn fyddai amdano yn y papurau, a sgrifennodd ar y sut i ddarllen. Dechreuais ail obeithio pan glywais am y llyfr hwn, ond barn un gŵr a'i darllenasai eisoes oedd mai'r peth gorau o ddigon oedd cadw pris y llyfr hwnnw at brynu'r llyfrau y byddai raid i chwi eu darllen a'u deall cyn mynd i gynghori neb arall, beth bynnag.
Ni wn i ai gwir hynny, ond dywedodd meddyg wrthyf unwaith ar ei wir yntau mai clefyd yw darllen, ac mai'r unig feddyginiaeth rhagddo yw chwarae golff neu bysgota. Pan awgrymais iddo na ellid gwneuthur y naill na'r llall o'r ddeubeth hynny'n llwyddiannus iawn ond wrth olau dydd, dywedodd yntau wrthyf mai cysgu a ddylai dyn call wedi bo nos. Pan orfu arnaf innau gyfaddef wrtho mai'r unig beth a'm gyrrai'n fynych iawn i gysgu fyddai ceisio darllen pregethau neu fardd oniaeth, neu feirniadaeth lenyddol, dywedodd yntau'n sychlyd nad rhaid i mi byth ddioddef oddi wrth anhunedd.
Y drwg yw bod darllen, megis y mae mygu tybaco, yn beth na ellwch ymwrthod ag ef unwaith y dechreuoch arno. Ac eto, dyn ffodus y cyfrifir dyn heb ddysgu mygu tybaco.