Dyddgwaith/Hen Gynefin

Oddi ar Wicidestun
Crwydro Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Darllen

HEN GYNEFIN

TREULIO diwrnod o haf gyda chyfaill yn Ardudwy. Niwl ar fôr a mynydd. Rhyw rith heulwen megis ar wasgar trwyddo, fel y gwelwyd lawer tro yn yr hydref. Mwynder aeddfed yn yr awyr, oni theimlai dyn fel pe daethai adref i'w gynefin o grwydro'n hir. Eto, nid oedd Ardudwy ond rhan o Gymru i mi, nid hen gynefin fy hynafiaid, fel yr oedd hi i'm cyfaill.

Yn y mynydd-dir, na welid mono ond yn aneglur drwy'r niwl a orweddai fel hud ar y wlad, yr oedd cartref gŵr a dorrodd ei enw ar warant dihenyddio brenin. Tua'r môr, cartref yr hen Buritan hwnnw, â dim ond glas onnen yn ei law, a yrrodd ffo ar ddwsin o gabaliriaid a gamdrinodd ei was ar y ffordd am ei fod eto'n gwisgo hen lifrai'r Senedd. Ymhellach fyth, yr eglwys fechan unig yn y tywyn, lle cwsg y bardd a sgrifennodd mor wych-pan anghofiai grefydd wleidyddol ei gyfnod yn Lloegr -Weledigaethau'r Byd ac Angau ac Uffern. A thraw yn y môr, yr ynys fach lle trigai bardd arall, a welodd gynddaredd y tonnau ar ddydd ystorm o'r gorllewin yn torri ar y traeth, gan chwydu eu trochion i'r lan fel "gloes sarff yn gla' o syrffed." Nid oedd dŷ nac adfail a welid yno na wyddai fy nghyfaill rywbeth amdano. Yma, cartref ei hendaid. Acw, tŷ a gododd ei daid, lle ganed ei dad, lle ganed yntau. Cartrefi teulu ei fam yn y pellter. Traddodiadau amdanynt oll, yn gwlwm â hanes yr ardal am ganrifoedd. Nid rhyfedd ddywedyd o'm cyfaill y byddai'n fodlon pan ddôi yno o unman yn y byd, ac na byddai arno byth eisiau ymadael â'r lle, unwaith y dôi yno. Yno yr oedd ei wreiddiau. Adwaenai bob pren a maen yno. Ardudwy oedd Cymru iddo ef.

Minnau? Ni bûm hanner dwsin o weithiau erioed yn hen gynefin fy nhadau. Bedair cen hedlaeth a mwy yn ôl, dechreuasant hwy symud, ac aethant ar led y byd. Adroddid hanes rhai ohonynt ym mrwydr Waterloo; un arall a brynwyd o'r fyddin gan ei dad a'i fam, ond a oedd yn filwr yn ei ôl cyn pen y mis, ac a fu farw ar ei ffordd adref o Rwsia. Byddai llythyrau'n dyfod oddi wrth rai o'r crwydriaid weithiau oddi yma ac oddi acw. Cedwid a danfonid hwy o law i law i'w darllen. Clwyfwyd a lladdwyd rhai o'r hil yn America yn y rhyfel rhwng taleithiau'r De a'r Gogledd. Yr oedd rhyw ramant i ni gynt mewn llythyr a gadwyd, a sgrifennodd un ohonynt â'i law ei hun at ei chwaer, fy nain, yn adrodd hanes ei glwyfo yn y rhyfel hwnnw—ei saethu drwy ei law nes syrthio ohono oddi ar ei farch; carlamu ymaith o'r march; gorwedd o hono yntau lle syrthiasai, fel marw; tybio o'r gelyn mai marw ydoedd a gadael iddo; ymlusgo ohono yntau wedyn at lwyn gerllaw, a dodi ei law glwyfus yn nwfr ffynnon oedd yno i oeri; yna colli gwybod arno'i hun. O'r diwedd, dyfod o hyd iddo gan rai o'i blaid ei hun, yn ddiymwybod yno, a'r ffynnon yn goch gan ei waed. Hanes hynt eraill, a ymfudodd i'r Amerig, ac a fyddai'n methu deall pam yr oedd neb o'r tylwyth mor ffôl ag aros yn yr hen wlad i dalu rhenti a threthi at gadw ffyliaid a chnafon, meddynt hwy. O blaid mynd. ar eu holau y byddai'r gwaed ifanc, wrth gwrs— onid yn y pellter yr oedd rhyddid hefyd?

Nid cof gennyf am y tŷ y'm ganed ynddo. Llai na deng mlynedd fu cyfnod y cartref cyntaf i'w gofio. Trydydd a phedwerydd mewn ardaloedd digon pell i fod yn ddieithr. Yna, y byd mawr, trefi prysur, mwy nag un wlad, pobl o bob cenedl, crap ar eu harferion a rhai o'u ieithoedd. Nid un mo brofiad fy nghyfaill a minnau. Yr oedd Ardudwy yn feddiant iddo ef. Rhaid i minnau fodloni ar Gymru yn unig. A bûm o ran hynny lawn mor gartrefol yn Iwerddon neu Gernyw. Hyd yn oed ar y Cyfandir neu yn yr Aifft, nid am ryw fan lle byddwn un o'm tylwyth y byddai arnaf hiraeth, ac yng Nghymru ei hun nid oedd un man mwy na'i gilydd i mi.

Pan awn ar ddamwain i hen gynefin fy nhadau, gwir y byddwn innau'n teimlo y gallaswn aros yno, er bod dwy genhedlaeth rhyngof a'r rhai a fu fyw a marw yno, ac a fedrai, mi glywais, ddywedyd i'r funud pa awr o'r dydd fyddai hi wrth oleuni'r haul ar glogwyn neu lechwedd, ac a gysylltai ryw ddigwyddiad yn hanes y teulu â phob lle a welid yno. Pa beth well a welswn innau erioed yn unman na'r noswaith lawen ar hen aelwyd yn y Glasgwm neu Groesor, lle'r oedd yr ymborth wrth ddefod, a gwasanaeth y bwrdd wrth foes cenedlaethau a fu; yr adrodd ystraeon a'r canu penillion yn gelfyddus o hyd; curiad y gwaed eto'n gryf, a'r awyr a anadlem, hithau'n llawn o gyfaredd canrifoedd: Diau, un ohonynt fyth oeddwn innau, ac eto, rywfodd, ar led yn yr holl fro, megis, yr oedd y pethau hyn i mi, onid y tair hen Hafod a fu'n feddiant i genedlaethau o'm hynafiaid gynt. A rhyngof a hwythau, yr oedd cartrefi eraill yma ac acw, fel dolennau cadwyn wedi ei thorri.

Eiddig oeddwn wrth fy nghyfaill, am fod Ardudwy eto'n feddiant iddo ef, a minnau heb ddim ond Cymru.

Nodiadau[golygu]