Neidio i'r cynnwys

Dyddgwaith/Gwladgarwch

Oddi ar Wicidestun
Hela a Chloddio Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Traddodiad

GWLADGARWCH

YR oeddym eto yng nghanol y dyddiau gogoneddus hynny pan oedd ymchwil o bob math i ddwyn trefn ar bopeth dyrys ac anodd. Ar ôl hwyr ddatblygu diddordeb, a wybu'r Groegiaid oesau lawer yn ôl, yr oedd Gorllewin Ewrop yntau yn ei dro yn brysur iawn yn chwilio hanes yr hen fyd. Wrth wneuthur hynny, diau ei fod yntau'n dangos llawer o osgo'r dyn fydd yn gwisgo het sidan am y tro cyntaf, gan ryw hanner cellwair o'i phlegid, er mwyn galw eich sylw ati a rhoi ar ddeall i chwi ar yr un pryd ei fod ef yn hen gynefin â hi. Ond yr oeddis yn gweithio'n galed, yn chwilio a chwalu, cymharu a dosbarthu, nes bod y peth, wrth i ddyn edrych yn ôl arno bellach, yn edrych fel pe buasai dysg Ewrop yn gwneud ei hewyllys olaf, cyn bod. plwc arall o'r dwymyn oesol yn torri allan ac yn ymosod arni i ddinistrio cymaint ag a ellid o weddillion diwylliant oesau cynt. Er gwaethaf llawer ymdrech a fu eisoes i ddistrywio pob tystiolaeth o'r fath, yr oedd eto yn y byd gryn domennydd wedi eu gadael, ac yr oedd cloddio o bob math yn beth difyrrus, heblaw ei fod am ysbaid yn y ffasiwn—erbyn heddiw, gwaith pennaf llawer o'r ymchwilwyr yw chwilio am wlad lle bo siawns am damaid o fwyd. Yr oeddis y pryd hwnnw yn cwestiyno pob peth, gyda phrysurdeb sydd erbyn hyn yn edrych fel pe buasai gan ddynion ryw fud ymwybod y byddai cwestiyno unpeth yn y man yn beth gwaharddedig.

Hyd yn oed yn y ddinas fwyaf gwlatgar yn Ewrop, gellid chwilio hanes a thwf gwladgarwch yn weddol ddiogel, a gallai dynion o wahanol wledydd gyd-weithio'n gyfeillgar.

Cwmni bychan oeddym o fyfyrwyr ieuainc a thanbaid, i gyd â'n bryd ar wahanol weddau i'r un pwnc, y dystiolaeth newydd a ddarganfuwyd am hanes gwareiddiad a gladdwyd, cofnodion gwladgarwch oedd â'i wreiddiau mewn hynafiaeth nad oedd na Groegaidd na Rhufeinig, mewn crefydd gyntefig, efallai mewn athroniaeth gyntefig, na cheid ond rhyw grybwylliad arwynebol amdani gan ambell lenor clasurol. Eto, yr oeddym yn byw yng nghanol gweithgarwch egnïol gwladgarwch ein cyfnod ein hunain, yng nghanol cofgolofnau ei fuddugoliaethau a'i orchfygiadau yng nghwrs ei ymdrech hir, ymdrech a fu'n ddigon trychinebus, ond na bu bwlch ynddi er hynny.

Yr oeddym ymhlith eneidiau dewr, prydyddion o feddyliau syml, megis rhai o arwyr yr henfyd, rhai a chanddynt weledigaeth, rhai heb ias o wag osgo bywyd y dinasoedd ar eu cyfyl; a'r rhai hynny, gan ddilyn yn ôl astudiaethau manwl y seinofyddion a'r ieithofyddion, unwaith eto'n traethu eu delfrydau tanbaid yng ngeiriau iaith a gadwyd yn fyw ar wefusau gwladwyr tlodion, ymhlith y rhai y cawsai'r prydyddion a'r meddylwyr hyd i'w hathrawon. Ac yr oeddym ninnau wedi dyfod ynghyd i astudio peth nad oedd yn debyg o dalu i ni mewn aur ac arian ar law.

Yr oedd berfau annibynnol, nas diffiniai'r termau cyffredin yn fanwl, rhagenwau mewnol, effeithiau ysgubol hen acen rymus a nodweddion priod-ddull ryfeddol, yn gofyn gweithio'n ddygn drwy'r bore, ac yr oedd darlithoedd y prynhawn yn brawf llym ar sylw a diwydrwydd. Yr oeddym yn byw megis mewn byd cyntefig, ond byd wedi ei drefnu'n fanwl, a cheid tystiolaeth helaeth am arferion a defodau a ddaethai i lawr o'r oesau cyn cof. I rai ohonom, o leiaf, yr oedd hyn oll yn rhywbeth mwy na'r ddysg, yr oedd yn brofiad na ellir na'i anghofio na'i ddisgrifio; dyfod i gyffyrddiad union â gorffennol didranc; cael gafael ar beth dir, nad oedd cyn hyn ond megis wedi cyffwrdd yn awr ac eilwaith â'r mud ymwybod ynom, gan gilio drachefn, megis breuddwyd. Yr oedd hud yn yr awyr o'n cwmpas; mil o afaelion yr amser a fu, fel dwylaw anweledig, yn ein dal a'n tynnu ym mhobman; peroriaeth hen iaith yn ein cario'n ôl i ieuenctid byd, megis. Ni bu dim erioed mor fyw a'r dyddiau hafaidd hynny. Nid hen mo'r bywyd hwnnw. Bob bore, deffroid dyn gan sŵn dynion a chŵn yn gyrru gwartheg tua'r lanfa lle'r oedd llongau'n eu disgwyl, ond drwy'r cwbl clywid darn o gytgerdd y "Byd Newydd" gan Dvorak, a ganai rhyw hen ŵr ar ei gorn pres, bron i'r funud am wyth o'r gloch. A genid y darn hwnnw yn y wlad lle'r oeddym, cyn i'w meibion ddechrau llifo wrth y miloedd tua'r "Byd Newydd," ai awen y cerddor a'i creodd, nis gwn. Ond cymwys oedd ei ganu o'r hen gornor yno i ni y boreau hynny, a ninnau eto'n ieuainc. Newydd oedd y byd, y newydd hwnnw sy'n cynnwys pob hen.

Eto, pan dorrai'r peth beunyddiol a chyfamserol ar ein traws, fel y gwnâi wrth raid ar dro, byddem ninnau'n feirniadus, a cheisiem fod megis ar wahân i bethau, nid effaith galwedig aeth yr ymchwiliwr yn unig, efallai, ond peth oedd hefyd yn ddyledus i nodwedd arall yn perthyn i'r ddinas ryfeddol honno-ei diofalwch ysgafn, ei hysbryd cellwair di-ildio, y peth y tybir, efallai'n gyfiawn, mai ef oedd yr esprit gaulois.

Diau fod dylanwad y ddwy nodwedd arnom. Mewn ysbaid o'n gweled ein hunain fel y gallai fod eraill yn ein gweled, troesom un hwyrddydd i sôn am wladgarwch. Aethom i ymholi am y pryd gyntaf y daethom i ymwybod â'r peth (onid ymchwilwyr oeddym?). Cyfaddefodd un o'r cwmni mai ar ôl colli ei gariad yr aeth ef yn wladgarwr.

"Yr oedd yn rhaid i mi garu rhywbeth," meddai. "Yr oedd rhyfel ar dro yn neheudir Affrica. Darganfum innau wladgarwch."

Darllenasem oll am y meibion dewrion hynny a fyddai, od oes goel ar brydyddion, yn y dyddiau rhamantus gynt, yn myned i chwilio ym mlaen y gad am ddihangfa, chwedl y beirniaid llenyddol, rhag eu tynged, ar ôl profiad tebyg. Ond nid oedd dim rhamantus yn ein cyfaill, erbyn hyn. Ystlen? Dim byd llawn mor syml, ni gredem. Cariad-efallai, ond nid ystlen mo hwnnw oll, er a ddywedai'r ystlenyddion. Cyffesodd un arall o'r cwmni mai byw yng ngwlad estron a chofio am Ebrill yn ei wlad ei hun fu deffroad cyntaf ei wladgarwch yntau. Felly o un i un gwnaethom bawb ei gyffes.

Yr oedd yno bedwar ohonom, bob un o wlad wahanol, yn olrhain y peth yn ôl at effaith ysgolion lle y ceisiwyd ein dysgu i ddibrisio'r wlad y'n ganed ynddi a phopeth a berthynai iddi. Cawsom na wybu'r ddau gyntaf mo'r profiad hwnnw yn yr ysgolion, ond yn hytrach y gwrthwyneb, a'u bod hwy wedi diflasu, mwy na pheidio, ar y sôn a glywsant am weithredoedd nerthol eu hynafiaid, a'u rhagoriaeth ddiamau ar hynafiaid pawb arall.

O'r pedwar a fu yn yr ysgolion gormes, yr oedd tri o waed cymysg, un ohonynt a mesur o waed y genedl ormes yn ei wythiennau. Cytunem oll fod hanes y pedwar a gafodd brofiad yr ysgolion yn hawdd i'w ddeall, ac nad pell oddi wrthynt oedd safle'r gŵr a aeth i wlad estron yn ieuanc. Ond beth am y gŵr a siomwyd yn ei gariad?

Chwarae teg iddo, cyfaddefodd mai merch o genedl arall oedd hi, ac mai gŵr o'r un genedl â hithau a'i dug oddi arno. Felly, daeth yntau i'r un cwch â'r gweddill ohonom, efallai—y peth cynharaf y gallem olrhain ein gwladgarwch iddo ydoedd cam, bwriadol neu ddifwriad, oddi ar law'r genedl arall. Nid ymddangosai fod modd dianc rhag y casgliad hwnnw. Eto, yng nghywair yr ymddiddan hwnnw, o leiaf, prin yr oedd un ohonom yn gwbl fodlon ar ganlyniad rhesymegol. y casgliad cyffredin. Pam yr oedd yn rhaid i ninnau wrth un esgus?

A oedd hynny'n meddwl mai casáu'r genedl arall yr oeddym, yn hytrach na charu'n cenedl ein hunain? Peth o'r naill a'r llall, efallai, meddem, er nad cas at y genedl arall fel cenedl, ond at dra-arglwyddiaeth estron. Nid oedd ein profiad ni bob yn un ond darganfod y profiad cyffredin. Yr oedd pob math o gymhlethdod yn y peth, fe wyddem. Pob math o ddiffiniadau o wladgarwch, o "Dulce et decorum est pro patria mori" hyd at "The last refuge of a scoundrel," a rhywfaint o wir ym mhob un ohonynt, ond odid. Ond pa beth oedd y patria? Rhywbeth heblaw tiriogaeth hynafiaid rhywun, weithiau'n feddiant, megis, i ddyn ei hun, bryd arall heb fod yn ddim ond enw? Wrth reswm, yr oedd pawb ohonom wedi adnabod dynion syml, gonest, a garai wlad eu genedigaeth yn gwbl gywir, ond nad oedd ganddynt un syniad am fod yn wladgarwyr yn ystyr ddiweddar y gair, dynion yr oedd eu profiad yn tueddu at eu gadael heb fod yn agored i'r apêl.

Cofiais mai Cymro o Leyn, John Owen wrth ei enw, gan roi adlais i linell a gofnodwyd neu a luniwyd gan Aristophanes, a ddywedodd yn un o'i epigramau:

Illa mihi patria est ubi pascor, non ubi nascor,
Illa ubi sum notus, non ubi natus eram.

Adrodd geiriau John Owen. Distawrwydd. Nid wyf yn meddwl bod neb ohonom eto'n gwbl barod i gymryd John Owen o ddifrif. Gellid cydnabod ei glyfrwch, wrth reswm, neu ddangos y dirmyg uwchraddol hwnnw at y gair mwys, yn ôl fel y digwyddai fod y chwaeth. Cydnabuom y gallasai'r peth a ddywedodd ef apelio at y dyn ion syml, gonest, a adnabuom ni, at ddynion o'r

'πατρὶς γάρ έστι πᾶς᾽ ίν άν πράττη τις εύ.

(" Plutus"). fath yn yr henfyd, yn yr oesau canol, yn nyddiau

Thomas Hardy yn Lloegr. Nid yr un peth, yn ddiau, oedd cariad naturiol at wlad â gwladgarwch. Chwarddwyd am ben epigram y Cymro. Cofiwyd a gwnaed eraill tebyg. Eto, pan chwarddo dyn, meddem, oni bydd ef ar y ffordd i weled ochr ddigrif i'w ddifrifwch ei hun? Ai gwir a ddywedodd Siôn Wawd Ysgafn, wedi'r cwbl: Pa beth a fynnem ni, ai'n porthi, ni waeth ym mha le, ai ynteu oddef adfyd gyda ———, gyda phwy? Cofiodd un o'r cwmni am y sôn am neges gwledydd i'r byd a phethau felly, ac ymrithiodd ffenestr siop y gwladgarwch dangos a gorchestion y cenhedloedd etholedig o flaen ei feddwl, nes bod arno las ofn nad oedd un wlad yn y byd a garai. Ond aeth yr ymddiddan yn ddwysach eilwaith.

Er chwerthin am ben rhai o'n gwendidau ein hunain, onid llawn mor ddigrif â'r eiddom oedd gwendidau'r lleill, er iddynt hwy eu galw yn rhywbeth amgen? Beth ddigrifach, gofynnai un, na'r syniad am Rufain gynt, yn ymladd ac yn ymlâdd gyda'r unig amcan dyrchafedig hwnnw—gwareiddio a dyrchafu barbariaid—rhai gonestach a glanach eu buchedd na'i thrigolion hi ei hun, yn ôl tystiolaeth un o'i phoëtau:

Campestres melius Scythae,
Quorum plaustra vagas rite trahunt domos,
Vivunt, et rigidi Getae.

Efallai, meddai arall, mai digrifach fyth meddwl am Brydain yn cadw byddinoedd a swyddogion yn yr India yn unswydd i ddysgu'r trigolion sut i wneud hebddynt.

"Drwy ddwyn eu tiroedd, eu tolli a'u newynu," meddai un o'r pedwar, braidd yn gas, megis pe clywsai sôn am bethau tebyg yn nes adref na'r India.

Diau fod i ninnau'r barbariaid, Scythiaid a Getiaid, hawl i chwerthin am ein pen ein hunain —a'r lleill. Rhaid wrth bob math o bobl i wneud byd," meddai rhywun.

"Rhaid!" meddai un arall, disgynnydd i genedlaethau o fôr—herwyr Llychlyn, "tynnu a gwrth-dynnu yw popeth. Cyn rheitied un anwes ag arall."

Ac ymlaen â ni bawb a'i ddihareb o ystôr profiad ei hynafiaid ei hun.

Eto, yn iaith un o'r cenhedloedd gormes yr ymddiddanem. Pa mor gas bynnag y gallai fod honno i rai ohonom, fel offeryn gorfod y dyddiau gynt ac eto, hi oedd cyfrwng ein cyd-ddealltwriaeth y tro hwn, er nad oedd hi yn famiaith un ohonom. Llawer camp arni, at fynegi meddwl—a'i guddio. Yn enwedig ei guddio. Ond rywfodd, ni charai neb ohonom hi, mwy nag y gallasem garu'r gloch drydan gerllaw, oedd mor hwylus i alw ar wasanaethwr wrth raid. Diau fod eraill a'i carai hi fel arglwyddes, ond ni buasai hynny'n rheswm yn y byd i un o'r ceraint hynny ddisgwyl i ni oll briodi'n morwyn, pob parch iddi, wrth gwrs. Diau bod y Viking yn ei le—cystal un anwes ag arall, a chyn rheitied hefyd. Felly y mynn Natur weithio, meddem. Nid unwaith na dwy y gorfu amrywiaeth bywyd ar ddiffrwythdra unrhywiaeth, ac yn yr ymdrech dragywydd honno, cyn rheitied un anwes ag arall.

Aethom allan. Cerddasom gyda glan y môr, ac eistedd ar y wal rhyngom a'r dwfr glaswyrdd gloyw. Llifai dilyw o heulwen felen dros dai bychain gwynion yr hen bentref a'r maes ar lan y môr, lle bu marwol ymdrech, fil o flynyddoedd cynt, rhwng hynafiaid rhai ohonom, a thros y ddinas draw, lle ni pheidiodd cyfrwysach dulliau ymdrech gyffelyb hyd y dydd hwnnw. Troes yr adeiladau yn y ddinas draw yn lliw fflam yn y goleuni, fel y dyfnhai. Nofiai tarth ysgafn uwchben, fel mwg, a thywyllodd hwnnw'n araf fel yr âi'r haul yn is. Edrychai'r ddinas fel pe buasai ar dân, fel y bu lawer gwaith yn ystod mil o flynyddoedd, fel y byddai eto, efallai, yn wir . . . Edrychai'r tai bychain gwynion ar y morfa yn hen iawn, yn gyntefig, yn ddiniwed, fel y bydd nyth aderyn yn edrych. Aeth cryndod tros yr hesg ar ymyl yr hen faes brwydr, nes eu bod yn gwneud rhyw sŵn bach trist, megis pe buasai'r awel ei hun yn crino yn eu mysg, nes ei bod hithau'n hen ac yn drist wrth ddwyn i ni megis adlais gwan o riddfan y gwŷr a drengodd yno, fil o flynyddoedd yn ôl, miloedd o wŷr, na wyddis enwau onid ychydig ohonynt. Yna distawrwydd dwys. Edrychai'r tai bychain yn hŷn fyth, yn druanach fyth, ond eto fel pe buasent hwy a daear y wlad yn un â'i gilydd, fel pethau oedd yno erioed, ac a fyddai yno wedi darfod am rai pethau a welem. Tawsom. Nid oedd fodd chwerthin yno.

Fel yr edrychem tua'r môr, crychodd wyneb y dŵr yn ein hymyl, megis ped aethai ferw drwyddo. Haid o bysgod, pob un fel etewyn, ac eraill, fel byllt gleision, yn gwanu ar eu holau drwy'r dŵr gloyw.

"Duw mawr!" meddai un o'r cwmni, disgynnydd môr-herwyr Scandinafia, "ai fel yna. y bydd hi byth?"

Ac ni ddywedodd neb air, mwy.

Nodiadau

[golygu]