Neidio i'r cynnwys

Enaid cu! mae dyfroedd oerion

Oddi ar Wicidestun
Mae 'nghyfeillion adre'n myned Enaid cu! mae dyfroedd oerion

gan James Edmeston


wedi'i gyfieithu gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
Rwy'n dy garu er nas gwelais

677[1] Croesi Iorddonen.
87. 87.

1 ENAID cu! mae dyfroedd oerion
Yr Iorddonen ddu gerllaw;
Eto, gwel! mae'r ddinas sanctaidd
Ar y lan yr ochr draw:

2 Yno mae dy hen gyfeillion
Wedi dianc uwch bob clwy',
Yn dy aros, er cael cyfran
O'u dedwyddwch hyfryd hwy.

3 Paid ag ofni, berr yw'r fordaith,
Ac mae'r Archoffeiriad cu
Yn dy aros yn y dyfroedd
Er dy ddwyn i'r ddinas fry;


4 Clyw seraffaidd seiniau'n 'hedfan,
Draw o frodir Seion fryn;
Gwel ei heuraidd byrth yn agor
Drwy y niwl sy'n toi y glyn.

5 Ffarwel fyd, a ffarwel deithio
Yn yr anial dyrus mwy;
Ffarwel gnawd, a ffarwel lygredd,
Ffarwel boen, a phob rhyw glwy;

6 Mae'r tywyllwch yn gwasgaru,
A'r goleuni yn cryfhau;
'N awr 'rwy'n gweld y pur drigfannau,
'Hed, fy enaid, i'w mwynhau.

James Edmeston
cyf: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 677, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930