Neidio i'r cynnwys

Mae 'nghyfeillion adre'n myned

Oddi ar Wicidestun
Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad Mae 'nghyfeillion adre'n myned

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Enaid cu! mae dyfroedd oerion

676[1] Galar ar ôl Cyfeillion.
87. 87. D.

1 MAE 'nghyfeillion adre'n myned
Draw o'm blaen o un i un,
Gan fy ngadael yn amddifad,
Fel pererin wrtho'i hun.


2 Wedi bod yn hir gyd-deithio
Yn yr anial dyrys maith,
Gormod iddynt oedd fy ngado
Bron ar derfyn eitha'r daith.

3 Wedi dianc uwch gelynion,
Croesau, a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.

4 Byddaf yn dychmygu, weithiau,
Fry eu gweld yn Salem lân,
Ac y clywaf, ar rai prydiau,
Atsain odlau pêr eu cân.

5 Ond mae'r amser bron a dyfod
Y caf uno gyda hwy,
Yn un peraidd gôr diddarfod,
Uwchlaw ofn ymadael mwy.

Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 676, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930