Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad
← Pryd y caf, O! Arglwydd Iesu | Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Mae 'nghyfeillion adre'n myned → |
675[1] Yr Hyfryd Wlad
86. 86. 88.
1 RWY'N caru enw'r hyfryd wlad,
Y wlad tu draw i'r bedd;
Lle mae digymysg bur fwynhad,
Lle mae tragwyddol hedd:
Y nefol wlad, y nefol wlad,
Lle mae tragwyddol bur fwynhad!
2 'R wy'n caru enw'r hyfryd wlad,
Lle mae anwyliaid Duw,
O gylch gorseddfaine wen fy Nhad
Yn deulu mawr yn byw:
O! hyfryd wlad, O! hyfryd wlad,
Cartrefle'r saint yn nhŷ fy Nhad.
3 'R wy'n caru enw'r hyfryd wlad,
Lle mae fy Iesu'n byw;
Lle mae fy Nuw, lle mae fy Nhad,—
Gwlad ogoneddus yw:
O! nefol wlad, fy nghartref yw,
Y wlad lle mae fy Iesu a'm Duw.
4 'R wy'n canu am yr hyfryd wlad
Wrth fynd yn nerth fy Nuw,
Yng nghwmni'r pererini on mad,
I'r nefol wlad i fyw:
Yr hyfryd wlad! fy nghartref yw,
'R wy'n canu wrth fynd yno i fyw.
Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 675, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930