Enwogion Ceredigion/David Davis, Pantteg

Oddi ar Wicidestun
David Davis (Dafis Castellhywel) Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Syr David Davis K.C.H., M.D.

DAVIS, David, Pantteg, a aned yn Chwefror, 1791, yng Nghilfforch, ger Aberaeron. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfrifol a pharchus yn y wlad. Ymunodd Mr. Davis â'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Neuaddlwyd, pan yn dra ieuanc; ac ar gymmeradwyaeth ac annogaeth ei fugail, y diweddar Barch Ddr. Philips, efe a dderbyniwyd i Goleg Henadurol Caerfyrddin pan yn 17 oed. Bu cyn hyny mewn rhai ysgolion gwledig, ac yn eu plith ysgol enwog y dysgawdwr dwfn a'r bardd awenber, y Parch. D. Davis, Castell Hywel. Wedi treulio ei amser penodedig yn y coleg, efe a gafodd wahoddiad i fod yn gydfugail a'r Parch. John Griffiths, yng Nghaernarfon; a thua'r flwyddyn 1813 efe a urddwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn y dref uchod. Dim ond dwy flynedd y bu ei arosiad yng Nghaernarfon, gan iddo gael gwahoddiad oddi wrth eglwysi Pantteg a Phenuel, ger Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1814. Parhaodd yma am 50 mlynedd, yn terfynu gyda'i farwolaeth, yr hyn a ddygwyddodd ar y Sabbath olaf yng Ngorphenaf, 1864. Ar ynmeillduad yr hybarch D. Peter oddi wrth y coleg yng Nghaerfyrddin, dewiswyd Mr. Davis yn olynydd iddo; ac efe a ddaliodd y swydd hon am 21 o flynyddau, er cyflawn foddlonrwydd i awdurdodau y sefydliad, ac i'r efrydwyr dan ei ofal. Y mae y coleg hwn, er ei fod yn henadurol mewn enw, o dan ardrefniad gwarcheidwaid Dr. Williams; ond llenwir y gadair dduwinyddol fynychaf gan Drindodwr. Yr oedd Mr. Davis yn Drindodwr o galon; ond yr oedd, serch hyny, yn ddigon rhyddfrydig i barchu gonestrwydd a chydwybodolrwydd pleidiau yn coleddu tybiau llwyr wahanol i'r eiddo ei hun. Yr oedd wedi bod am flynyddau yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru; eithr yng nghanol ei nerth a'i boblogrwydd, gafaelwyd ynddo mewn modd ffyrnig yn 1840 gan dwymyn yr ymenydd; ac er ymadferu o hono yn raddol, o ran ei gorff, oddi wrth effeithiau yr afiechyd, eto nis adfeddiannodd byth yr unrhyw nerth ac egni a chynt. Yr oedd ganddo alluoedd naturiol rhagorach na chyffredin, y rhai a ddiwylliwyd ganddo gyda phob dyfalwch. Yr oedd yn efrydydd dyfnddysg o'r natur ddynol a'r Ysgrythyrau; a thaer gymhellai i sylw ei fyfyrwyr yr angenrheidrwydd o ddeall y ddau, cyn ceisio egluro y naill na'r llall; o blegid esbonio peth heb ei ddeall yn gyntaf sydd annichonadwy; a chan fod cymmaint a fyno gweinidogion Crist â dynion ac â'r Beibl, y mae yn anhebgorol iddynt astudio y ddau bwnc pwysig uchod yn drwyadl. Safai braidd wrtho ei hun o ran synwyr cyffredin cryf; a'i ymadroddion oeddynt ddihafal o ran bod yn wastad i'r pwynt ar bob peth. EI amgyffredion oeddynt gyflym, eto mor glaer a'r grisial, ac yn cael eu hamlygu gyda'r nifer lleiaf dichonadwy o eiriau. Ei arddull o bregethu oedd eglur ac ymarferol. Ni wyddys am neb mor debyg iddo yn hyn, a rhyw bethau ereill hefyd, a'r diweddar hybarch Ddr. Philips, Neuaddlwyd, yr hwn a roddodd ddeheulaw cymdeithas iddo pan yn ieuanc, ar ei dderbyniad dan ei ofal yn aelod o'r eglwys hòno. Yr oedd rhyw debygolrwydd o ran agwedd corfforol rhwng y Dr. a Mr. Davis yn fwy felly fel yr oedd yr olaf yn, heneiddio. Eithr o ran ansawdd y meddwl, a'r dull o amlygu, yr oedd y tebygolrwydd mwyaf. Rhai anghymharol oedd y ddau am fod yn fyr, eglur, ac i bwynt ar bob peth; oddi gerth ar rai amgylchiadau neillduol iawn, pan lyncid hwy gan ryw deimlad anghyffredin. Fel awdwyr a phregethwyr, hwy a ystyrientient ar eu pwnc ar unwaith, heb ryw ddyrys gylchymadrodd, gan drin yn fyr, eglur, ac i bwrpas. Yr oedd y ddau hefyd yn gwbl rydd oddi wrth hunanoldeb neu falchder Pan yn dal y swydd o athraw, gwelid Mr. Davis yn y boreu yn rhoddi gwersi mewn rhesymeg, Hebraeg, Ac, yn y coleg; ond yn y prydnawn gellid ei weled â'i gryman a'i bigfforch yn ei ddwylaw, yn cau tyllau yn y gwrychoedd, rhag trachwant anghyfreithlawn yr anifeiliaid; o blegid yr oedd efe yn amaethwr yn gystal a gweinidog yr Efengyl ac ysgolor. Nid oedd dim ariangarwch yn perthyn iddo; cyflawnai swyddau ei wahanol gylchoedd gydag hyfrydwch, fel dyngarwr; fel gwas Crist, fel gwasanaethwr ei gydgenedl yn eu diwylliant moesol a chrefyddol, gau ateb cydwybod dda i Dduw; yn hytrach nag fel un yn edrych ar daledigaeth y gwobrwy, yn y byd hwn na'r byd a ddaw. Pan gynnygiwyd codiad iddo gan yr eglwysi o ryw swm yn ei gyflog, ychydig cyn ei farwolaeth, dywedai fod cymmaint swm yn ormod, y gwnelai llai y tro, rhag troseddu ar gasgliadau ereill; ond ei fod ef yn ymdeimlo yr un mor ddiolchgar am y cynnyg er hyny. Byddai dywed am ryw anffawd, neu rywbeth aunymunol yn cyfarfod â rhyw un, yn effeithio yn ddwys ar ei feddwl. Ymdrechai yn fawr galonogi myfyrwyr a gweinidogion ieuainc dan gyfyngderau. Yr oedd o anian heddychol; nis gallasai gynnal gwg, nac anadlu mewn awyr anghydfod. Yr oedd yn wr boneddig trwyadl yn ol gwir ystyr y gair. Meddai enaid eang a rhydd. Yn holl ystod ei weinidogaeth, bu yn enwog a llwyddiannus. Edmygid ef yn fawr gan yr eglwysi dan ei ofal; ac er nad allent ymffrostio mewn aelodau cyfoethog iawn, eto hwy a'i hanrhegasant ar derfyn yr hanner canfed flwyddyn o'i fugeiliaeth drostynt, ag alwar yn cynnwys 167p. Daeth ei oes i ben, er ei fod wedi cyrhaedd "gwth o oedran" hytrach yn anamserol, neu o leiaf yn lled ddirybudd, trwy gwymp oddi ar ei geffyl, ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth, a fu yn achos dechreuol o'i afiechyd. Dim ond mis neu bum wythnos y bu fyw wedi cyfarfod ei Iwbili; ac efe a hunodd yn yr angeu Gorph 1864, yn 73 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 52 mlynedd. Efe a fydd byw eto yn hir yng nghofion serchocaf ei efrydwyr, ei eglwysi, a lluaws o'i edmygwyr dysgedig yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod ei oes efe a ysgrifenodd lawer i'r gwahanol gyfnodolion, yn draethodol, dadleuol, &c, trwy yr hyn y dygwyd llawer pwnc tywyll a dyrys i'r goleuni. Pan mewn dadl, yr oedd yn anhawdd cael neb a driniai ei wrthwynebydd mor llym; ymaflai ynddo mor gadarn, ac a'i lloriai mor ddidrugaredd. Bu yn olygydd y misolyn bychan a elwid Tywysydd a misolyn arall a elwid Cronicl Cenadol am hirfaith flynyddau. Cyfansoddodd lyfryn yn cynnwys Sylwadau ar Sefyllfa Prawf Dyn dan yr Efengyl, yr hwn a greodd gynhwrf ar y pryd trwy y Dywysogaeth; yr hwn bwnc y bu efe yn dadleu ag amryw yn ei gylch yn y gwahanol fisolion. Cyfansoddodd hefyd Draethawd ar Godi yn Fore, Cyhoeddodd bregeth ar Ffurf yr Athrawiaeth lachus, a draddodwyd ganddo ar agoriad addoldy Ebeneser, Llansadwrn, yn y flwyddyn 1831. Efe a ysgrifenodd y Sylwadau ar y Dadguddiad, ym Meibl y Parch. D. Davis, Abertawy. Cyhoeddodd holwyddoreg o'r enw Cyfarwyddwr Duwinyddol. Heb law hynyna, y mae yn awr yn barod i'r wasg, yn ei lawysgrifen, draethawd a fwriadai gyhoeddi, dan yr enw "Gwinllan y Gweithio" neu '"Gorf o Dduwinyddiaeth," Hyderir y gwneir sylw gan rywun yn fuan o'r llawysgrifau sydd ar ei ol, a'u dwyn allan trwy y wasg er lles y wlad ; o herwydd y mae yn golled ac yn drueni fod dim a gyfansoddwyd gan wr mor fawr yn gorfod ymlechu mewn cuddfan.

Nodiadau[golygu]