Enwogion Ceredigion/David Davis (Dafis Castellhywel)

Oddi ar Wicidestun
William Davies, Portsea Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
David Davis, Pantteg

DAVIS, DAVID, ysgolhaig a bardd rhagorol, a anwyd yn y Goettref Isaf, ym mhlwyf Llangybi, o gylch y flwyddyn 1743. Gafodd ei anfon i'r ysgol yn olynol i Lanybydder, Llangeler, Leominster, ac a orphenodd ei ddysg yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Daeth yn bregethwr Arminiaidd ac a sefydlodd ar y cyntaf yng Nghiliau Aeron; ond (ar ol cael ei urddo yn gydweinidog â'r Parch. Dafydd Llwyd, yn Llwyn Rhyd Owain, a manau eraill, efe a sefydlodd yng Nghastell Hywel, oddi wrth ba le y cafodd byth ei adwaen yn ol llaw wrth yr enw Mr. Davis Castell Hywel. Cadwodd yma ysgol enwog am flynyddoedd lawer, i ba le yr oedd ieuenctyd o'r holl ardaloedd cyfagos, yn gystal ag o fanau pell, yn dyfod i ymofyn dysg, llawer o'r rhai a ddaethant yn enwog fel ysgolheigion, ac i lanw cylchoedd uchel a pharchus mewn gwlad ac Eglwys. Yn y flwyddyn 1824: cyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth, dan yr enw Telyn Dewi, Y mae y Llyfr yn cynnwys llawer o gyfieithadau o'r Seisoneg; ac y mae ei gyfieithad o Gray's Elegy sef Myfyrdod mewn Mynwent yn y Wlad ar frig yr Hwyr yn cael ei ystyried gan lawer yn rhagorach na'r gwaith gwreiddiol. Priododd Tachwedd 15, 1755, â Mis Ann Evans, Foelallt, yr hon fu yn gydymaith bywyd tra dedwydd iddo. Yr oedd yn meddu dysgeidiaeth a gwybodaeth uchel, ac yn hynod am ei ysbryd hynaws a didramgwydd. Ym mhrydnawn ei fywyd symmudodd o Gastell Hywel i Lwyn Rhyd Owain, lle y bu farw tua'r flwyddyn 1826, yn 83 mlwydd oed. Gafodd ei gladdu yn Llanwenog. Y mae B. Evans, Ysw., cyfireithiwr, Gastell Newydd yn Emlyn, yn ŵyr iddo. Hefyd, y mae John Jones, Ysw., cyfreithiwr, Llandyssul, a'r Parch. Joshua Evans, periglor Llanofer, sir Fynwy, yn orwyrion iddo. Mae yr olaf yn bwriadu ail gyhoeddi ei waith barddonol, yng nghyd â hanes ei fywyd; a diammheu y celai y llyfyr dderbyniad gwresog a helaeth gan y wlad, gan nad oes modd braidd gael copi o'r argraffiad cyntaf am unrhyw arian.

Ymddengys fod Mr. Davis yn hollol ddedwydd mewn addysgu pobl ieuainc. Clywsom hynafgwr yn dyweyd er ys ychydig yn ol, eu bod fel dosbarth un prydnawn wedi myned dros eu gwers yn weddol rwydd; a chan fod yr hin yn dwym iawn, yr oedd yr hen wr wedi cael ei hanner orchfygu gan gwsg, ac felly yr oeddynt yn falch o'r cyfle; ac ym mhen ychydig dywedodd yr olaf, "That is all, sir". Erbyn hyny dyna yr hen athraw yn rhwbio ei lygaid, ac yn ymysgwyd fel cawr, gan ddywedyd, "Oh, that's all, is it i". Ar ol hyn efe a'u cadwodd am dair awr, gan fyned yn ol a blaen ar hyd un llinell o Ladin, gan olrhain gyda manylrwydd bob cyssylltiad ag a allesid gael yn perthyn iddi. Yr oedd yr hen foneddwr a adroddai yr hanes wrthym yn dywedyd fod holl wersi yr hen athraw yn rhy- feddol dda a meistrolgar, ond fod gwers y prydnawn hwnw yn aros yn ffres ar ei gof. Y mae hanes ei fod yn elusen- gar iawn i dlodion; ac yr oedd Mrs. Davis gymmaint felly ag yntau. Yr oedd yn wr o dymmer ostyngedig a charedig, ac hefyd yn ddrylliog. Yr oedd yn aml yn wylo yn hidl pan yn pregethu, yn neillduol wrth draddodi rhai pregethau, megys y Mab Afradlawn, &c.

Er mai cyfieithad ydyw ei Fyfyrdod mewn Mynwent eto i gyd y mae wedi piesennoli y golygfëydd mor Gymreig ac mor ardderchog, fel y byddai yn werth i bob cyfieithydd ymdrechu ei efelychu yn hyn. Y mae y cyfan o'r gân swynol hon yn goglais teimlad y darllenydd gymmaint, fel nas gall yn aml lai na cholli dagrau. Buom lawer adeg yn darllen gwaith o natur uchel a choethedig; ond ar ol ei ddarllen unwaith neu ddwy, yr oedd y swyn yn darfod, ac nid oedd awydd am ei ddarllen drachefn; ond nid felly y gân odidog hon; y mae hon yn dal fyth a hefyd yn ei blas cynenid. Ar ol dilyn y dyn ieuanc a chadarn yn gorwedd dan dew goeden yng ngwres yr haul ganol dydd, yn gwrando dwndwr per y dwfr, ac yn gweithio pennill neu englyn, ac yn y prydnawnau yn rhodio ar y gwyndwn glân, weithiau yn gwenu wrth fwmial canu, a phrydiau ereill yn llibyn pendrwm heb englyn na phennill, mewn trwm ofid neu fawr gariad wedi troi yn anobaith prudd, y mae yn colli yr olwg arno. Y mae y gân hon eto yn diweddu mor dda, fel y mae "ysgrifen fedd" y gwrthddrych yn cadw fyny â'r holl gyfansoddiad o'i dechreu i'w diwedd. Mewn gair, y mae'r gân hon yn ddigon i roddi coron lawrwyddog bardd i'r cyfieithydd, pe na buasai dim arall. Y mae hefyd ei Anerch i'r Duwdod, Golwg ar Fangre ac Amser Mebyd, Ffynnon Bedr, Cwymp Ffynnon Bedr, Y Gwynfan, Cri Carcharor dan Farn Marwolaeth a llawer ereill, yn ddamau ardderchog o farddoniaeth, o chwaeth uchel a choethedig iawn. Y mae bellach ddeugain namyn un o flynyddau er pan orphenodd yr awdwr dysgedig ei yrfa ddaiarol; ond er hyny y mae ei gofiant ym mhob modd yn uchel yn ei wlad, a diammheu y deil felly tra byddo yr iaith seinber, yr hen Gymraeg doreithog, i gael ei siarad ar lechweddi Ceredigion. Mewn rhyddiaith, cyfieithodd Bywyd Duw yn Enaid Dyn, gan Scougal. Y mae y beirdd Mr. Joseph Jenkins, Trecefel, a'i frawd Mr. John Jenkins, a'r Parch. J. Davis, B.D., Llanhywel, yn wyron i frawd Mr. Davis. Gorwyr i'w frawd yw Mr. J. Jenkins (Penarth) Melin y Coed.

Nodiadau[golygu]