Enwogion Ceredigion/Evan Davies, Llanedi
← David Peter Davies | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Evan Davies, Cilgwyn (I) → |
DAVIES, EVAN, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanedi, ydoedd fab Mr. James Davies, Cilgwyn. Ganwyd ef yn Nyffryn Llynod, plwyf Llandyssul. Enw ei fam oedd Mary, yr hon a fu fyw flynyddau yng Nglyniar, plwyf Llanllwni, wedi claddu ei phriod. Dygwyd Mr. Davies i fyny yn athrofa Caerfyrddin, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal y Parch. Jenkin Jenkins. Cafodd ei urddo yn weinidog yn Llanedi, o ddeutu y flwyddyn 1776. Yr oedd yn dwyn y cymmeriad o ddyn hawddgar a duwiol iawn, yn bregethwr gwresog a melus, ac yn weinidog ffyddlawn a llafurus. Bu yn foddion i sefydlu achos ac adeiladu addoldy yn Llanedi; efe ddechreuodd yr achos sy yn awr ym Mhenbre, Bethania, Cross Inn, a Chydweli, a hyny dan lawer o anfanteisîon a gwrthwynebiadau. Efe hefyd fu yn offeryn i ffurfio eglwys ac adeiladu addoldy Capel Als, Llanelli. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn o ddeall cryf ac ysbryd didramgwydd; ac ni bu neb yn ei oes yn fwy gweithgar nag ef, fel y gwelir ol ei lafur yn y cylch hwnw o'r wlad yn awr. Bu farw o'r darfodedigaeth, Ebrill 12, 1806, yn bymtheg mlwydd a thrigain oed, wedi treulio deng mlynedd a deugain yn y weinidogaeth.— Hanes Ymneillduaeth