Neidio i'r cynnwys

Enwogion Ceredigion/Evan Davies, y Cilgwyn (I)

Oddi ar Wicidestun
Evan Davies, Llanedi Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Evan Davies, Cilgwyn (II)

DAVIES, EVAN, gweinidog yn y Cilgwyn, oedd enedigol o'r ardal rhwng Llechryd ac Aberteifi. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llechryd. Cafodd addysg athrofaol. Cafodd ei urddo yn y Çilgwyn, yn y flwyddyn 1726, a bu yno yn cydweinidogaethu â Philip Pugh hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le yn y flwyddyn 1744; ond dywed rhai iddo farw yn 1737.