Enwogion Ceredigion/Evan Davies, y Cilgwyn (II)

Oddi ar Wicidestun
Evan Davies, y Cilgwyn (I) Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Evan Davies, Gwernfedw

DAVIES, EVAN, sef yr ail o'r enw yn y Cilgwyn, ydoedd enedigol o ardal Llanbedr. Dygwyd ef i fyny yn athrofa Hoxton, dan olygiaeth Dr. Ridgeley a Mr. James Eames. Bu yn gweinidogaethu yn Hwlffordd ; a thra yno, bu yn athraw yr Athrofa Henadurol yn y dref, yr hon a symmud- wyd yno er ei fwyn ef. Ymadawodd â Hwlffordd yn y flwyddyn 1743, ac aeth i'r Cilgwyn i gynnorthwyo y Parch. P. Pugh. Dywedir iddo fod yn cadw ysgol enwog yn y Cilgwyn; hyny yw, dwyn ym mlaen yr hen ysgol oedd yno. Symmudodd i Lanybri i gymmeryd gofal yr eglwys ymneillduol yn y lle hwnw. Daeth yr Athrofa Henadurol yn ol i Gaerfyrddin, a bu Mr. Davies yn ei dwyn ym mlaen yno gyda'r Parch. S. Thomas. Yn ganlynol i helynt annymanol & gymmerodd le mewa etholiad aelod seneddol yn y dref, aeth Mr. Davies i yohydig drallod: daeth swyddog gwladol o'r enw Grace a gwarant ato up boreu Sul cyn iddo godi. Mynegodd gwraig y ty yr helynt iddo. “Wel," ebai ef, “bûm lawer gwaith yn gofyn am gynnorthwy yn y fan hon i fyned. drwy waith y dydd; ond bellach, dyma fi wedi gorphen fy ngwaith yma.” Aeth allan drwy ddrws y cefn, a ffwrdd ag ef i Loegr.[1] Bu yn weinidog diwyd yn Billericay, yn Essecs, hyd ei farwolaeth, Hydref 16, 1770. Ei oedran oedd 76.

Nodiadau[golygu]

  1. Dywedir hefyd mai gadawiad cyfeillion Mr. Davies â'r athrofa, o herwydd fod ei gydathraw yn Ariad, oedd yr achos o'i ymadawiad.