Enwogion Ceredigion/John Davies, Daventry
Gwedd
← John Davies, Mear | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
John Lloyd Davies → |
DAVIES, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Daventry, a anwyd mewn pentref ger Ilaw Aberystwyth. Pan yn faban symmudodd ei rieni gydag ef i Woolwich. Dechreuodd ei yrfa grefyddol dan weinidogaeth y Parch. Dr. Jones, Bangor. Daeth yn fuan yn gynnorthwywr yn ysgol y Parch. Mr. Bickerdike, yn Woolwich. Pan yn un ar bymtheg oed, aeth i ysgol Llanfyllin, dan ofal y Dr. Lewis. Ar ol gorphen ei efrydiaeth yno, bu yn athraw yn nheulu G. George Ysw., Lan, sir Gaerfyrddin. Gafodd ei urddo yn Newcrofis, Deptford; ac yn 1826 daeth yn weinidog i Daventry. Bu farw yn y flwyddyn 1857. Gyfrifìd ef yn wr o dalentau dysglaer, yn ysgolor da o fywyd Ilafurus a diargyhoedd, ac yn Gristion didwyll.