Neidio i'r cynnwys

Enwogion Ceredigion/John Lloyd Davies

Oddi ar Wicidestun
John Davies, Daventry Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
John P Davies

DAVIES, JOHN LLOYD, diweddar o Flaendyffryn, a anwyd yn Aberystwyth. Nid oedd ei rieni ond pobl gyffredin eu hamgylchiadau yn cadw gwestty yn y dref. Ymrwymodd yn freintwas i John Walters, Ysw., cyfreithiwr, Castell Newydd Emlyn, wedi hyny, J. W. Philipps, Ysw., Aberglasney, a chyn hir, ymrestrodd yn gyfreithiwr ei hun. Yn y cylch hwnw, daeth yn adnabyddus â Mrs. Stuart, gweddw y Milwriad Stuart, o Gaerfyrddin; a thrwy ei ymddangosiad hardd, a'i ymddygiad boneddigadd, ennillodd sylw a serch y foneddiges, a'r canlyniad fu iddynt briodi. Merch oedd Mrs. Stuart i John Lloyd, Ysw., o Allt yr Odyn, ac Elizabeth ei wraig, yr unig un o'u un ar hugain o blant a oroesodd eu mam. Cyn hir daeth ystâd helath a chryno Gallt yr Odyn, rhan helaethaf o hen gyfoeth Llwydiad Castell Hywel, yn feddiant i Mrs. Lloyd Davies. Bu iddynt un plentyn, yr hwn a briododd, gan gael dau o blant ; ond bu farw o flaen ei dad. Priododd Mr. Lloyd Davies yr ail waith â boneddiges o Loegr, yr hon fu farw tua thair wythnos o'i flaen. Bu am ryw gymmaint yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Ceredigion, a thynodd sylw y ty a'r wlad ar unwaith at yr angen o gael porthladd diangol yn Aberteifi. Dangosodd yn yr amser byr hwnw, fod ynddo fwy o gymhwysder seneddol na holl gynnrychiolwyr dystaw Cymru. Fel ynad heddwch, nid oedd modd cael ei debyg. Gwyddai y gyfraith, a gwyddai sefyllfa y wlad. Gwnaeth fwy na neb at wella y ffyrdd yn Nyfed. Efe a wnaeth fwyaf at gael rheilffordd o Gaerfyrddin i Landyssul Bu farw Mawrth 21, 1860, yn 59 oed. Mae ar ei ol ddau o blant o'r ail wraig. Mae yr ystâd yn eiddo mab ei etifedd, o'r wraig gyntaf. Mae Eglwys newydd St. Ioan, Llandyssul, a adeiladodd ar ei draul ei hun, yn golofn o'i haelfrydedd a'i aidd eglwysig.

Nodiadau

[golygu]