Enwogion Sir Aberteifi/Benjamin Davies (bu f 1811)

Oddi ar Wicidestun
Benjamin Davies (1825-1859) Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
David Davies (bu f 1826)

DAVIES, BENJAMIN, ydoedd frawd i'r Parch. D. Davies, Castell-hywel. Bu am ryw gymaint o amser yn gyd-athraw a'r Parch. R. Gentleman, yn Athrofa Caerfyrddin. Ystyrid ef yn ysgolhaig Hebraeg rhagorol, ac yn mysg eraill, bu y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), gydag ef am beth amser yn dysgu yr iaith hòno. Aeth wedi hyny i Lynlleifiad, lle y bu yn gydweinidog ag un Mr. Yates. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i fywyd fel gweinidog yn Evesham, lle y bu farw, Ionawr, 1811.