Enwogion Sir Aberteifi/David Davies (bu f 1826)

Oddi ar Wicidestun
Benjamin Davies (bu f 1811) Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
David Davies (Castellhywel)

DAVIES, DAVID, a anwyd yn Geuffos, Llandysilio. Derbyniodd hyfforddiadau crefyddol gan ei rieni, y rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Bwriedid ei ddwyn i fyny i'r Eglwys Sefydledig, ac i'r dyben o'i barotoi at hyny, treuliodd amryw flynyddoedd mewn gwahanol ysgolion, ac weithiau cadwai ysgol ei hunan. Ac er mwyn cwblhau ei efrydiaeth anfonwyd ef o dan addysg yr ysgolhaig rhagorol hwnw, David Jones, Ddolwlff, yn mhlwyf Aberduar, lle y cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r Groeg a'r Lladin. Tra yno, elai i wrando y Bedyddwyr, ac o'r diwedd, yn groes i ddymuniad ac amcan ei rieni, ymunodd â'r eglwys yn y lle. Gwelwyd ynddo yn fuan gymhwysderau amlwg i'r weinidogaeth, ac felly urddwyd ef yn weinidog. Yn ychwanegol at ei ddyledswyddau eglwysig, bu am dymmor yn cadw ysgol yn yr ardal. Wedi rhoddi heibio yr ysgol, agorodd fasnachdy yn Glandwr, tua hanner milldir oddiwrth ei annedd-dy, yr hyn a ychwanegodd gryn lawer at ei lafur a'i bryder. Ond nid oedd hyny yn peri iddo laesu dim yn ei sel a'i ymroddiad gyda'r gwaith o gyfranu bara'r bywyd; a theithiodd lawer ar hyd a lled y wlad i'r dyben hyny. Tueddai ei bregethau i agor deall ei wrandawyr, yn hytrach nag i gyffroi eu serchiadau. Pregethai yn ddidderbyn wyneb yn erbyn llygredigaethau yr oes; ac ni adawai neb heb ei geryddu o unrhyw bechod ag oedd yn adnabyddus iddo ef. Yr oedd yn dra deallus yn yr ysgrythyrau, yn gystal ag yn ysgrifeniadau y gwahanol esbonwyr, megys Gill, Henry, Burkitt, Pool, &c. Gadawodd yn ei ewyllys i'r eglwys oedd dan ei ofal Gorff o Dduwinyddiaeth Ridgely, ac Esboniad Mathew Henry ar y Testament Newydd; yn nghyda thyddyn bychan, gwerth tua phedair punt y flwyddyn, at gynnal Ysgol Sabbathol yn Aberduar, dros byth. O ran corff, nid oedd ond bychan ac egwan iawn; er hyny, bu ei fywyd yn un o lafur parhaus, ac o fawr ddefnyddioldeb i achos Duw yn y byd. Bu fyw i'r oedran teg o 88 ml., 60 o ba rai a dreuliodd yn y weinidogaeth. Gorphenodd ei yrfa Hydref 11, 1826.