Enwogion Sir Aberteifi/Dafydd ab Gwilym

Oddi ar Wicidestun
Dafydd ab Gerald Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Dafydd ab Ieuan

DAFYDD AB GWILYM, yr Ovid Cymreig, a anwyd yn Mro Gynin, plwyf Llanbadarn Fawr, Ceredigion, tua'r flwyddyn 1340. Hanai o deulu hynafol ac urddasol. Ei ewythr, Llywelyn ab Gwilym, ydoedd Arglwydd Ceredigion y pryd hyny, a phreswyliai yn y Ddolgoch, ar lan Ceri, o fewn tair milldir i Emlyn. Yr oedd hwnw yn fardd medrus, yn wladgarwr gwresog, ac yn noddwr mawr i'r eisteddfod. Gydag ef y treuliodd Dafydd ei ddyddiau boreuol, ac ni fu ei ewythr yn hir heb ganfod ei fod yn feddiannol ar alluoedd meddyliol tuhwnt i'r cyffredin, a dawn prydyddol cryf. Ond pan tua phymtheg oed, dychwelodd at ei rieni i Bro Gynin. Tra yno ymddangosai rhyw duedd barhaus ynddo i wneuthur pobpeth o'i amgylch yn destunau gwawd a chwerthin. Mae rhai o'i duchangerddi a gyfansoddodd y pryd hyn ar gael etto; ac maent yn bobpeth ond yr hyn a ddysgwylid eu gweled oddiwrth fab at ei rieni. Wedi byw ychydig fel hyn yn dra anghydfodus gartref, symudodd i Lys Ifor Hael, yn Masaleg, sir Fynwy, oblegid yr oedd y tywysog enwog hwnw yn berthynas agos iddo o ochr ei dad. Penodwyd ef ganddo yn arolygwr ar ei dŷ, ac yn athraw i'w ferch. Y canlyniad o'r berthynas olaf yma y safai ynddi, fu i serchogrwydd o natur fwy tyner na chyfeillgarwch, i gael ei ennyn yn mynwes y naill at y llall, yr hyn pan ddeallodd Ifor, efe a orchymynodd ei symud hi oddiar ffordd ei hedmygwr, ac a'i gosododd hi mewn lleiandy (nunnery) yn Ynys Mon. Ond nid un i gymeryd ei ddigaloni mewn achos o'r fath ydoedd y bardd—dilynodd hi i'r ynys, ac i'r dyben o gael rhyw gyfleusdra i ymddyddan yn achlysurol â gwrthddrych ei serch, cyflogodd ei hunan yn was i Abad mynachlog gymydogaethol, ond ni chyrhaeddodd ei amcan er cymaint fu ei ymdrech. Yn ddigalon dychwelodd yn ol tua llys ei noddwr, lle y parhadd i dderbyn yr un ymgeledd a'r caredigrwydd ag a brofasai o'r blaen; a rhwng yno a Bro Gynin y treuliodd y gweddill o'i oes. Yn fuan ar ol hyn, gwnaed ef yn Brif fardd Cadair Morganwg, a dyna yr achos o'i alw yn fynych Dafydd Morganwg. Yr oedd yr anrhydedd yma ar unwaith yn ddigon o drwydded i'r bardd i dalu ymweliadau â phrif lysoedd tywysogion y wlad, ac i rydd-gymdeithasa â hwy yn eu gwleddoedd a'u llawenydd; oblegid yr oedd y tywysogion Cymreig y pryd hyny yn nodedig am eu haelioni i'r beirdd, a'u nawddogaeth i feibion yr awen. O ran ymddangosiad personol, yr oedd Dafydd ab Gwilym yn lluniaidd neillduol o gorff a glandeg yr olwg. Yr oedd yn dal a hirfain, a'i wallt yn nodedig brydferth, o liw melyn, crych, ac yn hongian i lawr yn llaes fodrwyau dros ei ysgwyddau. Yr oedd y fath gydgyfarfyddiad o brydferthwch a hawddgarwch, yn nghyda'i alluoedd i swyno a'i gerddi, yn peri ei fod yn sefyll yn uchel yn ffafr y rhyw deg. A dywedir fod ganddo ar un adeg, ddim llai na phedair ar hugain o gariadon. Tra ar ymweliad & Mon, cyfarfyddodd a Morfydd, merch Madawg Lawgam, yr hon o herwydd ei glendid anghymharol a lwyr swynodd ei serchiadau. O hyny allan yr oedd holl rym ei awen yn gysegredig i'r swydd o ganu ei chlodydd, a chyfansoddodd saith ugain a saith o riangerddi iddi hi, y rhai sydd yn llawn o'r tynerwch a'r meddyliau mwyaf lednais. Wedi derbyn ei chydsyniad hi i'r weithred, unwyd hwy a'u gilydd gan un Madog Benfras, bardd enwog, yn nghanol encilion coedwig, yn ngwydd cor-geiniaid asgellog y coed yn unig, yr hyn nid oedd yn ddefod anarferedig yn yr oes hono. Ond gan na thybiai ei rhieni y cyfryw briodas yn gyfreithlawn, llwyddasant o'r diwedd i ddwyn Morfydd yn ol, a gorfodasant hi i briodi un Cynfrig Cynin - hen wr methedig, a'r hwn na feddai ddim ond ei gyfoeth i'w gymeradwyo. Wedi llawer o ymchwil a gwyliadwriaeth ddyfal, llwyddodd y bardd i'w chael yn ol ato drachefn; ond ni fu ei ddedwyddwch ond o fyr barhad, oblegid gwahanwyd hwy yr ail waith gan y priod digiedig ; ac nid yn unig hyny, ond dirwywyd y bardd i swm mawr; a chan ei fod yn analluog i dalu, gosodwyd ef yn ngharchar. Ac oni b'ai i garedigrwydd ei hen gyfeillion yn Morganwg yn talu y dirwy drosto, mae yn debyg mai yn y carchar y cawsai ddihoeni hyd ddiwedd ei oes. Wedi marw o'i noddwr, Ifor Hael, symudodd y bardd i'w blwyf genedigol, lle y treuliodd lawer o flynyddau. Testunau caniadau olaf ei fywyd yn y neillduedigrwydd hwn, oedd marwolaeth ei noddwyr, a'i Forfydd anwylgu, yr hon a orfucheddodd; ac amlygai edifeirwch mawr am afradlonrwydd ei fywyd boreuol, yn nghyda thaer erfyniadau am faddeuant o ffoleddau ei ieuenctyd. Desgrifia deimladau ei fynwes yn y geiriau toddedig—

"Mae Ifor a'm cynghorawdd?
Mae Nest oedd unwaith i'm nawdd?
Mae dan wydd Morfydd fy myd?
Gorwedd ynt oll mewn gweryd!
A minnau'n drwm i'm einioes
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes!"

Claddwyd Dafydd ab Gwilym yn Mynachlog Ystrad Flur, tua'r flwyddyn 1400. Fel bardd yr ydym yn rhwym o'i ystyried yn mysg y dosbarth cyntaf; ac mae y swyn, y tynerwch, a'r perseinedd sydd bob amser yn nodweddu ei gyfansoddiadau, yn ei ddyrchafu yn mhell uwchlaw ei holl ragflaenwyr a'i gydoeswyr barddonol. Nid oedd chwaith yn llai enwog, fel yr awgrymwyd, am ei allu i wawdio a sènu; ac yr oedd ei duchan- gerddi yn llawn o'r edliwiadau mwyaf pigog ac awchlym. Fel prawf o hyn, nid oes ond eisieu cyfeirio at yr ymdrech farddol a gymerodd le rhyngddo â Rhys Meigan, yn yr Eisteddfod fythgofiadwy a gynnaliwyd yn Emlyn, yn mhalas Gwilym Fychan. Dywedir i'r saethau llymion o wawd a gyfeiriodd efe at ei wrthwynebydd, Rhys, suddo mor ddwfn i'w galon, ac iddo deimlo mor ddwys o'r achos, fel y syrthiodd i lawr yn farw yn y fan! Cyhoeddwyd argraffiad o ganiadau Dafydd ab Gwilym- dau gant a thriugain a dwy mewn rhifedi, gan Owain Myfyr, a Dr. William Owen Pughe, yn y flwyddyn 1789. Mae llawer, modd bynag, o'i gyfansoddiadau wedi eu cael wedi hyny yn llyfrgell Mostyn. Cyhoeddwyd hefyd gyfieithiad rhagorol i'r Saesonaeg, o rai o'i ddewis ganeuon, gan Arthur J. Johnes, Ysw., yn 1834.